CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Cwm Rhiwarth, Llangynog, Powys
(HLCA 1013)


CPAT PHOTO 807.14

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog, gyda chaeau amgaeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn.

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llangynog ac arferai for yn rhan o hen gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir llechweddau graddol a thir gwastatach ar ochrau isaf y dyffryn ac ar hyd glannau'r Afon Eirth, rhwng tua 205-350m uwch lefel y mr, wedi ei amgu gan greigiau a marianau serth a dramatig ar ochrau uchaf y dyffryn, yn enwedig ar ei ochr orllewinol. Mae'r dyffryn i'r gorllewin o Langynog, ac mae'r tir isel yn llai na 0.5km ar draws yn y fan hon, ac mae'r llethrau'n cynnwys coetir cymysg lle ceir coed bedw, helyg a masarn. Ymhellach i'r gogledd-orllewin mae'r dyffryn yn lledu i tua 0.8-1km ar draws cyn culhau i tua 0.3-0.4km ar ei draws yn y pen uchaf. Ceir llethrau erydiad coediog ar hyd glan yr afon. Cwrs plethog yr afon a mannau yma a thraw sydd dan ddwr gyda chyrs, ac mae gwely'r afon wedi ei godi a'i argloddio gan bonciau cerrig mewn mannau. Gwelyau nentydd tymhorol sych ym mhen uchaf y dyffryn. Nifer o nentydd cyflym a cheunentydd, yn torri ar draws y gyfuchlin.

Ffermydd a bythynnod wedi eu gwasgaru hwnt ac yma ac yn ffurfio gwahanol glystyrau mewn gwahanol fannau ar hyd y dyffryn, yn ymyl nentydd yn aml. Ceir ffermdai ac adeiladau allanol cymharol fychan o'r 18fed/19eg ganrif wedi eu gwneud o gerrig lleol ac mae ambell fuarth wal gerrig ym Mhencraig (gydag ysgubor gysylltiedig), Nant, Glan-yr-afon, Eithin, Llwyn-onn, Ty'n-y-ffynonydd a Thre-rhiwarth, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn ffermydd gweithredol. Mae ffermdai Buarth-glas a Thy'n-y-pant wedi eu rendro. Mae ffermdy a ailgodwyd ?diwedd y 19eg ganrif yn Nhy-mawr. Ffermdai ac adeiladau allanol gadawedig o'r 18fed ganrif yn Nant-yr-henglawdd, Tyn-y-celyn (gydag adfail ysgubor gysylltiedig). Carafanau gwyliau yma a thraw.

Caeau bychain, gwastad a rhywfaint o oleddf, tir pori'n bennaf, a'r terfynau un ai'n dilyn y gyfuchlin gan mwyaf neu'n mynd i fyny ac i lawr y llethrau. Ceir linsiedi ar hyd terfynau'r caeau ar dir uwch sy'n dangos lle bu mwy o aredig yn y gorffennol. Mewn ambell gae ceir ponciau clirio isel a gwrychoedd sydd wedi gordyfu'n aml, gyda choed a phrysgwydd a gofod rhyngddynt, ac sydd bellach yn cynnwys ffensiau pyst a gwifren rhag y da byw. Terfynau waliau sychion, fel yng nghyffiniau Pencraig a Thre-rhiwarth lle mae digoned o gerrig ar gael trwy glirio wyneb y tir ac o fariandiroedd. Ceir llechi unionsyth yn y terfynau weithiau yn ardal Tre-rhiwarth, ym mhen uchaf y dyffryn.

Ambell glwstwr o leiniau bychain, yn enwedig rhwng Buarth-glas a Glan-yr-afon (lle lefelwyd terfynau'r caeau'n ddiweddar) sy'n oroeswyr prin o gaeau r agored canoloesol. I bob golwg mae caeau r mwy eraill yn cynrychioli tir pori o'r canoloesoedd ac l-ganoloesol, gan gynnwys parseli a ddiffinnir gan waliau cerrig a phonciau clirio, ac a rannwyd wedyn gan wrychoedd draenen wen un-rhywogaeth, sedd bellach wedi gordyfu. Gwrychoedd rhywogaethau cymysg ar ymyl y ffordd, gan gynnwys sycamorwydden, onnen, collen, draenen ddu a draenen wen, a cheir gwrychoedd a hen wrychoedd a osodwyd gyda chymorth grantiau ar ymyl y ffyrdd, a gwrychoedd eraill hefyd. Pyst giatiau i'r caeau ar ymyl y ffordd wedi eu gwneud o gerrig brasnaddedig. Gweddillion coetir derw hanner naturiol ar y llethrau serthaf a phrysgwydd draenen ddu ar beth o'r tir diffaith, a phlanigfeydd conifferaidd ar y llethrau serthaf. Clystyrau o ysgaw a helyg ar hyd glannau'r afon a'r nentydd a'r dyfrffosydd.

Y ffyrdd hynaf yn y dyffryn yw'r ln gul, droellog sy'n cysylltu'r ffermydd ar hyd ochr orllewinol y dyffryn a'r rhwydwaith o lwybrau troed a lonydd gwyrddion sy'n cysylltu'r ffermydd ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, a'r ffordd dyrpeg rhwng Llangynog a'r Bala yw'r brif ffordd ar yr ochr ddwyreiniol, a godwyd at ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'r hen lonydd hyn yn rhedeg mewn ceuffyrdd neu derasau a dorrwyd i ochr y bryniau, a gosodwyd haen o gerrig ar eu hochrau, ac mae rhai o'r lonydd nas triniwyd hefyd yn gweithredu fel nentydd tymhorol. Cyrhaeddwyd ffermydd ar yr ochr arall i'r dyffryn dros rydau'n wreiddiol, ond erbyn hyn mae nifer o bontydd fferm modern a phontydd troed pren. Mae pont isel o gerrig gwastad i'w gweld o hyd ar draws un o'r dyfrffosydd i'r de-ddwyrain o Dre-rhiwarth. Yn gyffredinol mae ochrau'r dyffryn mor serth fel mai dim ond ychydig o lwybrau, yn y dyffrynnoedd nant mwyaf ar hyd ochrau'r dyffryn ac yn ei ben pellaf, sydd ar gyfer cyrraedd y tir mynyddig cyfagos. Cynlluniwyd y ffordd dyrpeg o'r 18fed ganrif rhwng Llangynog a'r Bala yn ofalus, gyda therasau yn y llethrau a haenau o gerrig sychion.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.