CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Waen Llestri, Llangynog, Powys
(HLCA 1014)


CPAT PHOTO 806.22A

Coedwigaeth ar ymyl uchaf y dyffryn ac ar y tir uchel i'r de ac i'r gorllewin o Gwm Pennant, gyda chronfa ddwr a dyfrffosydd ar gyfer cloddio.

Cefndir Hanesyddol

Arferai'r ardal fod yn rhan o'r comin uchel a berthynai i blwyf canoloesol Pennant Melangell, ac roedd o fewn cwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tirwedd ucheldirol toredig ac ochrau serth y dyffryn, gyda chreigiau a brigiadau, rhwng tua 250-560m uwchben lefel y môr. Llethrau sy'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain yn bennaf. Mannau corslyd.

Planigfeydd conifferaidd modern eang sydd dros y rhan fwyaf o'r ardal, yn gorwedd dros ucheldir comin gynt a thir pori bras ffermydd ym mhlwyf Pennant Melangell. Mae nifer o lwybrau troed a llwybrau llydan yn dilyn hen ffyrdd, yn enwedig ym mhen uchaf Cwm Llech a dyffryn Nant Trefechan, a'r rheini'n gorwedd dros ffyrdd hynach rhwng y ffermydd ar y tir isel a'r tir pori uchel a ddefnyddid yn yr haf, gyda chorlannau, rhai ohonynt â choed drostynt erbyn hyn.

Mae ymylon isaf y coed uwchben Cwm Llech a Chwm Pennant yn gorwedd dros nifer o gaeau gadawedig, ac mae gan rai ohonynt bonciau cae a linsiedi sy'n dyddio o'r canoloesoedd hwyr i'r 18fed ganrif. Mae'r terfynau ar y tir uchel uwchben ymyl y dyffryn, a oedd yno cyn gosod y planigfeydd, yn dangos lle rhannwyd yr ucheldir comin yn y 19eg ganrif - terfynau pyst a gwifren a geir yn bennaf.

Ceir treialon a lefelau gadawedig yma a thraw yn y coed. Mae'r darn nas plannwyd ar ochr orllewinol yr ardal cymeriad yn amgáu Llyn y Mynydd, cronfa ddwr gydag argae sylweddol o gerrig a phridd a godwyd ar gost fawr yn yr 1860au, yn ogystal â system eang o ddyfrffosydd i gludo dwr i fwynglawdd De Llangynog, ryw 4km i'r dwyrain.

Mae gan Foel Dimoel a blaen Cwm Llech gysylltiadau chwedlonol â champau Cawr Berwyn a'r Gwylliaid Cochion, criw o herwyr chwedlonol o'r 15eg- a'r 16eg-ganrif.

Ffynonellau

Walters 1993
Williams 1985
Wren 1968

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.