CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Hafod Hir, Llangynog, Powys
(HLCA 1015)


CPAT PHOTO 807.10

Llethrau serth a chreigiau a phennau'r bryniau creigiog uwchben a rhwng Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth, gyda chaeau gadawedig ar y llethrau isaf a'r tir gwastatach yn uwch i fyny, lle rhannwyd tir comin yn y 19eg ganrif a chorlannau.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o dir comin uchel plwyfi eglwysig canoloesol Llangynog a rhan uchaf Pennant Melangell, a gyfunwyd yn ystod y 19eg ganrif. Roedd yn rhan o gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn. Ni chofnodwyd yr union ffin rhwng y ddau blwyf ond mae'n debyg ei fod yn dilyn y wal ar ben y mynydd sy'n rhedeg ar hyd copa'r gefnen rhwng Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth, ar hyd Waen Bwlchymynydd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Darnau pigfain a dramatig o dir uchel rhwng cymoedd rhewlifol dwfn, gydag ochrau serth y cymoedd chreigiau a marian mewn mannau, rhwng uchder o tua 250-580m uwch lefel y mr.

Heddiw defnyddir y tir yn bennaf fel ucheldir pori garw, gyda llawer o redyn. Corlannau defaid at y copa ac ar y llwybrau llydan sy'n arwain o'r ffermydd ar yr iseldir, yn enwedig yng Nghwm Nantewyn ger blaen Cwm Pennant a'r dyffrynnoed nentydd ym mhen Cwm Rhiwarth. Mae'n debyg bod rhai o'r corlannau'n hen, a chrybwyllir yr un sydd ar ben y llethr sy'n edrych dros Gwm Pennant ym Merddyn Ficer gyntaf mewn cofrestr eglwysig o 1772 pan ddywedir bod adeiledd cerrig ar y safle eisoes yn adfail. Mae'r sefyll ar ben ardal eang a thrawiadol o redyn, caeau gadawedig a chytiau hirion gwasgaredig ar lethrau deheuol Cwm Pennant, uwchben Llechwedd-y-garth, a gynrychiolir gan bonciau caeau a linsiedi, sy'n dyddio o bosibl o'r canol oesoedd hwyr neu'n gynnar yn y cyfnod l-ganoloesol.

Ymhlith y cysylltiadau crefyddol ceir ffynnon sanctaidd Ffynnon Cwm-ewyn ar y llethrau ychydig dros 0.5km i'r gogledd o'r eglwys.

Ffynonellau

Britnell 1994a
Evans 1994

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.