CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Rhos-y-beddau, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1016)


CPAT PHOTO 807.19

Rhostir heb ei gau ar fynydd y Berwyn, tir comin, gyda chorlannau gwasgaredig a chofadeiliau angladdol a defodol.

Cefndir Hanesyddol

Tir comin heb ei gau o fewn plwyfi eglwysig canoloesol Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

I bob pwrpas, yr unig dystiolaeth weladwy o weithgarwch dynol yw'r corlannau achlysurol a'r treialon mwyngloddio ar ymyl y mynydd, a'r safleoedd angladdol a defodol o'r Oes Efydd, gan gynnwys yn enwedig y cyfadail sy'n cynnwys cylchoedd cerrig Rhos-y-beddau a Chwm-rhiwiau, rhodfa gerrig a charneddau claddu ar y rhostir uwchben Pistyll Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Rhostir heb ei wella a gyrhaeddir ar hyd ffyrdd, llwybrau llydan a llwybrau troed o flaen Cwm Rhiwarth a Chwm Blowty gyda mannau gwlyb, corsiog a llawer o rug, rhwng tua 350-800m uwch lefel y môr. Yn dopograffegol, olion y lledwastadedd yw pennau'r mynyddoedd gydag awyrlin gwastad, a dorrir gan ddyffrynnoedd rhewlifol dwfn i'r de, y mae eu rhannau serth uchaf yn rhan o'r ardal cymeriad. Mae'r golygfeydd llwm a dramatig wedi creu argraff fawr ar deithwyr: dyma a ddywedodd George Borrow wrth gymryd llwybr byr o Bistyll Rhaeadr ar draws y Berwyn i'r Bala:

Here I turned and looked at the hills I had come across. There they stood, darkly blue, a rain cloud like ink, hanging over their summits. Oh, the wild hills of Wales, the land of old renown and of wonder, the land of Arthur and Merlin. Wild Wales 1862

Ffynonellau

Grimes 1963

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.