CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Y Clogydd, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1017)


CPAT PHOTO 805.10

Ardal helaeth o dir comin a gaewyd yn y 19eg ganrif gyda chorlannau ac olion cloddio am fetelau ar ymyl deheuol y Berwyn.

Cefndir Hanesyddol

Dangosir gweithgarwch cynnar gan safleoedd angladdol a defodol. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi Pennant Melangell, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochant ac yn weinyddol roedd yn rhan o gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir bryniog ar ymyl deheuol y Berwyn, rhwng uchter o tua 300-600m uwchben lefel y mr, gyda llethrau llai serth i'r dwyrain a llethrau mwy serth yn arwain i ddyffryn yr Afon Tanat gyda chreigiau a marian yng Ngharnedd Wen, Glan-hafon a'r Garn i'r de, a llethrau mwy serth i ddyffryn yr Afon Rhiwarth yn y gogledd-ddwyrain gyda chreigiau Craig Garwallt a Chraig-y-mwyn. Darnau corsiog helaeth.

Mae'r llethrau llai serth yn cynnwys yn bennaf dir pori sydd wedi ei wella a'i hanner gwella, a phorfeydd garw gyda rhedyn, eithin, coed isel a phrysgwydd ar y llethrau caregog uwch. Caeadleoedd mawr ag ochrau syth, ar ffurf trionglau a bolygonau afreolaidd yn aml, a ddiffinnir yn bennaf gan ffensiau pyst a gwifren gyda rhai caeau gadawedig gwrychoedd sydd wedi tyfu allan ar y llethrau isaf. Ceir ambell wal sych, rhai wedi syrthio. Carneddau clirio modern hwnt ac yma. Mae rhai o'r terfynau ar dir uchel yn cynnwys linsiedi sy'n dangos lle buwyd yn aredig gynt. Ceir corlannau waliau sychion o gwmpas ymylon yr ardal ac mae rhagor wedi eu gwasgaru yn uwch i fyny. Planhigfa gonifferaidd fechan.

Mae'r bryn wedi ei groesi gan lwybrau troed a llwybrau llydan sy'n cysylltu cymunedau diarffordd ym mlaenau Cwm Rhiwarth a Chwm Blowty ac yn cynnig mynediad i'r tir pori uchel ar gyfer y ffermydd sydd ar ochrau ymylon isaf y bryn.

Mae olion eang a phwysig o gloddio am blwm, yn bennaf, yng Nghraig-y-mwyn ym mhen uchaf Cwm Blowty, Mwnglawdd Cwm-orog, ac ar raddfa lai yng Nghwm Glan-hafon, i'r dwyrain o Graig Rhiwarth. Mae'r olion gweladwy yn perthyn yn bennaf i'r 18fed-19eg ganrif, ond mae olion posibl cloddio yn y canoloesoedd, neu'n gynt hyd yn oed mewn rhai achosion. Mae'r debyg bod gwaith wedi cychwyn yng Nghwm-orog a Chraig-y-mwyn yn ystod yr 17eg ganrif hwyr gan barhau'n achlysurol gyda llwyddiant amrywiol yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Cefnogwyd y gwaith i ddechrau gan deulu Herbert Castell Powys a theulu Middleton Castell y Waun ac yna gan gyfalaf o'r tu allan. Daeth Craig-y-mwyn yn rhan o sgandal rhwng yr 1850au a'r 1880au pan honnwyd bod prydlesau'r pyllau wedi eu gwerthu am elw mawr ar sail gwybodaeth hollol gamarweiniol. Roedd cynhyrchu wedi dod i ben bron, erbyn diwedd y 19eg ganrif, ond roedd dyfodiad Rheilffordd Dyffryn Tanat yn rhannol gyfrifol am adfywiad ar raddfa fechan yn llwyddiant y diwydiant cloddio tan tua 1911, a chyflogid 42 o bobl yng Nghwm-orog ym 1908 er enghraifft. Yng Nghraig-y-mwyn mae olion eang o gloddio gan gynnwys dyfrffosydd, argaeau a chloddiadau taw uwchben y prif bwll agored, ffosydd treialu unionlin, lefelau a siafftydd, tramffyrdd, incleiniau a thystilaeth o loriau trin, olion ty weindio inclein a thy malu, olion bythynnod mwynwyr, storfa bowdr, a swyddfa bwll fechan a gweithdy neu efail, llwybrau llydan a cherrig terfyn. Gwelir olion tebyg yng Nghwm-orog, gan gynnwys hefyd lithrfeydd mwyn a biniau. Mae'r gloddfa hon yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr ei bod yn dangos cyfres o dri system gwahanol o gludo'r mwyn i droed y bryn - tramffyrdd cyfuchliniol yn cysylltu llithrfeydd mwyn, ac yna yn eu lle daeth tramffordd inclein yn gyntaf ac wedyn rhaffordd yn yr awyr. Ceir olion o gloddio ar raddfa fechan yng Nghwm Glan-hafon, y dyffryn crog i'r dwyrain o Graig Rhiwarth, a dywedir ei fod hefyd yn cynnwys olion o smeltio rhwng yr 16eg-18th-ganrif.

Ffynonellau

Jones & Frost 1995
Walters 1993
Williams 1985
Wren 1968

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.