CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Mynydd Mawr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1017)


CPAT PHOTO 803.23

Cau ucheldir anghysbell ar ymyl deheuol y Berwyn bob yn dipyn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol a hyd at yr 18fed/19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn perthyn i blwyf Llanarmon-Mynydd-Mawr, a oedd yn gapelyddiaeth o fewn plawyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn ystod y canol oesoedd, ac roedd yn rhan o gwmwd Mochnant Is Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Ardal ucheldirol ar ymyl deheuol y Berwyn gyda llechweddau sy'n wynebu'r de yn bennaf, gan amrywio o tua 330-530m mewn uchter uwch lefel y môr, gyda brigiadau bach a marian.

Mae'r llethrau mwy cysgodol sy'n wynebu'r de yn ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad yn dir pori a wellwyd yn bennaf, ac mae'r llethrau mwy serth ac agored yn y gorllewin yn dir pori garw gyda rhedyn ac eithin. Ceir caeau mawr afreolaidd sydd, mae'n debyg, yn dangos lle caewyd ucheldir comin bob yn dipyn o'r cyfnod ôl-ganoloesol tan yr 18fed/19eg ganrif. Ceir amryw fathau o derfynau gan gynnwys gwrychoedd sydd wedi tyfu allan gyda choed a phrysgwydd â gofod rhyngddynt, ponciau clirio caregog, waliau sychion sydd wedi syrthio, a ffensiau pyst a gwifren.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.