CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Glanhafon, Llangynog, Powys
(HLCA 1021)


CPAT PHOTO 804.16A

Dl gul a chors isel ar waelod y dyffryn at ben dwyreiniol Dyffryn Tanat

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canoloesol Pennant Melangell, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac mae hefyd yn rhan o hen gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Dl gul sy'n gyffredinol wastad ac isel ar waelod y dyffryn tua 0.3-0.5km ar draws, rhwng tua 120-50m uwch lefel y mr, gyda stribed cul o dir llethrog ar lethrau deheuol Cyrniau sy'n cyrraedd uchder o tua 250m uwch lefel y mr. Mae'r ardal yn cynnwys cwrs yr Afon Tanat a dolenni torri, gyda chyflifiadau nifer o nentydd gan gynnwys yr Hirnant ym Mhenybontfawr a'r Afon Rhaeadr yn Aber Rhaeadr. Mae nifer o'r nentydd sy'n ymuno 'r afon, fel Nant Sebon i'r dwyrain o Langynog, ychydig yn uwch ac mae ponciau o gerrig lle maent yn croesi llawr y dyffryn. Mae Glanhafon-fawr ar ymyl llechwedd afon dwfn sy'n erydu drwy ddyddodion rhewlifol ar lawr y dyffryn.

Ymhlith yr aneddiadau yn yr ardal cymeriad ceir ffermydd ar lan yr afon a nifer o ffermydd llai ar lethrau isaf Cyrniau. Ceir ffermdai ac adeiladau allanol cerrig o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yng Nglanhafon-fawr, Glanhafon-ucha a Nant-y-wern.

Mae rhwydweithiau eang o ffosydd traenio yn y mannau gwlyb at ben gorllewinol yr ardal, ac mae rhai yn cynnwys rhesi o goed helyg a gwern, sef terfynau caeau sydd wedi gordyfu. ac mae'n bosibl bod y ffosydd a'r terfynau'n cynrychioli gwelliannau yn y 18fed ganrif neu welliannau blaenorol pan gaewyd tir comin. Mewn mannau eraill ceir gwrychoedd un rhywogaeth yn gyffredinol (draenen wen) er bod nifer o derfynau gyda cherrig sychion ychydog i'r dwyrain o Langynog lle roedd mwy o gerrig ar gael ar yr wyneb. Mewn mannau unwyd nifer o gaeau a arferai fod ar wahn, mae'r gwrychoedd wedi gordyfu neu nid oes dim ar l ohonynt ond rhesi bylchog o goed a phrusgwydd. Gwelir olion achlysurol o rychu i wella traeniad. Ceir caeau llai ar lethrau uwch i'r de, ac mae gan rai ohonynt wrychoedd amlrywogaeth a dorrwyd yn isel ac eraill wrychoedd amlrywogaeth sydd wedi gordyfu, gan gynnwys masarn, derw, ynn a chyll, a cheir ponciau isel a linsiedi ar y tir serthach. Mae olion coetir hanner naturiol ar y llethrau serthaf.

Mae llwybr hen reilffordd Dyffryn Tanat gynt yn dilyn cwrs amlwg ar hyd llawr y dyffryn, ar ochr ogleddol yr afon, ac mae'n rhedeg mewn cloddiad yn rhannol ond ar arglawdd isel yn bennaf.

Mae'r coed conifferaidd ger Glanhafon-fawr yn creu effaith parcdir.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.