CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


Y DIRWEDD WEINYDDOL

Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd yn cwmpasur cymunedau canlynol yn gyfan gwbl neun rhannol: Aberchwiler, Bodfari, Dinbych, Efenechtyd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanynys, Rhuthun (pob un yn Sir Dinbych), a rhannau llai o Ysceifiog, Nannerch, Cilcain a Llanarmon-yn-Iâl yn Sir y Fflint.

Yn y cyfnod hanesyddol cynharach roedd Dyffryn Clwyd ar y ffin rhwng teyrnas bwerus Gwynedd yn y gorllewin ar teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd yn y dwyrain ac o ganlyniad i hyn efallai ni lwyddodd i ddatblygu ei hunaniaeth wleidyddol gref ei hunan. Pwysleisir hyn gan y ffaith bod y tiroedd Cymreig ir dwyrain o Afon Conwy, y lleolid y dyffryn ou mewn, yn cael eu hadnabod erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif fel Perferddwlad, y wlad ganol a oedd efallain dynodir tir rhwng Gwynedd a theyrnas Powys ir de ar de-ddwyrain. Daeth yr ardal ir dwyrain o Afon Clwyd o dan ddylanwad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg hwyr, ac roedd Bodfari, o fewn y dyffryn, yn un or aneddiadau brodorol a restrwyd yn Llyfr Domesday 1086.

Yn dilyn ehangu teyrnas Gwynedd yn ystod y ddeuddegfed ganrif, aeth y dyffryn i feddiant teyrnas Gwynedd Is-Conwy, a orchfygwyd gan frenin Lloegr, Harri III yn y 1240au, yn dilyn marwolaeth Llywelyn Fawr. Ailfeddiannwyd y tir gan ŵyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd, yn y 1260au, ar ôl ir tir, erbyn hynny, fod dan reolaeth mab Harri, Edward, a oedd wedii wneud yn arglwydd ar diroedd y goron yng Nghymru. Yn dilyn esgyniad Edward ir orsedd ym 1272, ailfeddiannwyd pedwar cantref Perfeddwlad Rhos a Thegeingl yn y gogledd a Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn y de gan goron Lloegr, ac yn y cyfnod rhwng 1277 a 1282 rheolwyd y ddau gantref gogleddol gan goron Lloegr ar ddau gantref deheuol gan Ddafydd, brawd Llywelyn, a oedd wedi ochri gydag Edward.

Yn dilyn gwrthryfel Dafydd a Llywelyn ym 1282-3, gorchfygwyd Cymru, Rhos a Rhufoniog or diwedd yn gyfan gwbl gan Edward, a ffurfiwyd Arglwyddiaeth newydd y Gororau yn Ninbych a gyflwynwyd i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a daeth cantref Dyffryn Clwyd yn arglwyddiaeth Rhuthun a ddyfarnwyd i Reginald de Grey, yr Arglwydd Grey a gynorthwyodd Edward i orchfygu Cymru. At ddibenion gweinyddol isrannwyd cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn dri chwmwd - arglwyddiaeth Rhuthun, er enghraifft, rhwng y 13eg ganrif ar 17eg ganrif a weinyddwyd fel bwrdeistref Rhuthun a thri chwmwd Coelion, Dogfeilyn a Llannerch. Yn Neddf Uno 1536, unwyd y ddwy arglwyddiaeth, ynghyd ag arglwyddiaeth Maelor, Iâl ar Waun i greu Sir Ddinbych. Trosglwyddwyd Sir Ddinbych i Sir newydd Clwyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac yn dilyn newidiadau ir ffiniau fei trosglwyddwyd yn ôl i Sir Ddinbych yn ad-drefniant 1996.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, am resymau sydd bellach yn niwlog, aeth y plwyfi eglwysig yn arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, tra aeth y rhai hynny yn Nyffryn Clwyd, er bod Esgobaeth Llanelwy yn eu hamgylchynun gyfan gwbl, yn rhan o Esgobaeth Bangor. Or diwedd, trosglwyddwyd deoniaeth Llanfair Dyffryn Clwyd, yn cynnwys plwyfi Efenechtyd, Llanbedr, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanrhudd (yn cynnwys Rhuthun), Llanychan a Llanynys i Lanelwy ym 1859.