CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TIRWEDDAU ANGLADDOL, EGLWYSIG A CHEWDLONOL

Tirweddau Chwedlonol
Nid ywn fawr o syndod i dirwedd ddramatig Dyffryn Tanat ysbrydoli llawer o chwedlau yn ymwneud â dreigiau, cewri, seirff, ysbeilwyr, yn perthyn ir tylwyth teg, tywysogion a seintiau. Cofnodwyd llawer or chwedlau am y tro cyntaf ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau yr 20fed ganrif ond ymddengys eu bod yn adlewyrchu llên gwerin a thraddodiadau llawer cynharach, megis Craig Rhiwarth, Cwm Blowty a Chwm Pennant. Maer cysylltiad â gwrthrychau a lleoedd o fewn y dirwedd y credid eu bod o ddiddordeb hynafiaethol, darluniadwy neu ramantaidd mewn oes ddiweddarach yn arwyddocaol.

Yn chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi ceir esboniad dychmygol o darddiad yr enw Mochnant, (h.y. nant neu ddyffryn y moch), sef enwr cwmwd, sydd wedi goroesi mewn nifer o enwau lleoedd modern, megis Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Maes Mochnant, a Chastellmoch. Yn y chwedl, Mochnant yw un or lleoedd lle y treuliodd Gwydion noson tra oedd yn dod â moch i Math oddi wrth Pryderi, brenin Ceredigion.

Yn ôl traddodiad codwyd Maenhir y Maes Mochnant er mwyn rhoi terfyn ar y llanastr oedd yn cael ei greu yn y wlad oddi amgylch gan ddraig neu sarff. Lladdwyd y bwystfil pan daflodd ei hun yn erbyn y garreg a elwid hefyd yn Bost Coch, Post y wiber (Hancock 1871, 236; Sayce 1930, 750). Credid bod Pengarnedd yn fyw o ddreigiau, ar enw a roddid ar un or lleoedd lle y llechent oedd Nant y Wiber ger Penygarnedd. Dywedid bod aelodau direidus or tylwyth teg yn cerdded Craig Rhiwarth, llecyn y dywedid y dylid ei osgoi ar bob cyfrif.

Cysylltir y cawr a adwaenir fel Cawr Berwyn â Chwm Blowty ac â Chwm Pennant. Dywedir ir tair carreg enfawr sydd ar waelod Pistyll Rhaeadr, ym mlaen Cwm Blowty, gael eu taflu gan y cawr, ei wraig ai forwyn wrth iddynt groesir rhaeadr ar eu ffordd i Bennant Melangell a gelwid y cerrig hynny yn Baich y Cawr, Baich y Gawres a Ffedogaid y Forwyn. Ar achlysur arall dywedir i Cawr Berwyn roi naid enfawr o gopa Moel Dimoel, y mynydd mwyaf syn ymddyrchafu uwchben Cwm Pennant, gan lanio mewn cae y dywedir ei fod yn dwyn yr enw Wern Blaen y Cwm (yr un cae efallai âr cae a gelwid yn Weirglodd Blaen y Cwm ac a restrir yn nosraniad y degwm) ar ochr arall y cwm gyferbyn â fferm Tyddyn yr Helig. Dywedid bod ffynnon o ddðr croyw, a lifodd allan cyn gynted ag y cyffyrddodd sawdl y cawr âr tir, yn arfer dynodir fan lle y glaniodd, a gelwid y llethr y tu ôl i'r fferm yn Baich y Cawr. Mewn fersiwn arall neidiodd y cawr i mewn i fuarth Rhyd y Felin, un or ffermydd wrth droed Moel Dimoel.

Mae gan yr asgwrn morfil mawr sydd wedii osod ar wal corff eglwys Pennant Melangell ddau enw gwahanol, sef Asen y Gawres ac Asen Melangell (nawddsant yr eglwys). Mewn un adroddiad dywedir iddo gael ei ddarganfod mewn bedd lle y dywedid bod Melangell wedii chladdu ond dywed adroddiad cynharach y maen debyg ei fod yn fwy dibynadwy iddo gael ei ddarganfod ar y mynydd rhwng y Bala a Phennant Melangell, er nad esbonnir beth roedd yn ei wneud yma.

Cysylltir nifer o leoedd yng Nghwm Pennant ar ardal oi amgylch âr Gwylliaid Cochion, sef criw o ysbeilwyr chwedlonol o Ddinas Mawddwy yn y 15fed ganrif ar 16eg ganrif. Dywedid iddynt ysbeilio Dyffryn Tanat yn aml ac feu cysylltir ag ardaloedd cyfagos eraill. Yn yr un modd dywedir i nifer o fodrwyon a darnau arian gael eu darganfod o dan garreg wastad fawr a gelwir yn Bwrdd y Gwylliaid Cochion sydd rywle ger blaen Cwm Llech. Yn ôl y traddodiad lleol, dangosair rhychau ar gerrig mawr naturiol ger pen Cwm Llech ac ar gopar Gribin, ar ochr arall Cwm Pennant, y fan lle'r oedd y Gwylliaid Cochion wedi hogi eu clefyddau.

Tirweddau angladdol a defodol cynhanesyddol diweddarach
Mae cofebau angladdol a defodol cynhanesyddol syn dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach wediu dosbarthun eang ar hyd a lled Dyffryn Tanat. Mae llawer ohonynt yn nodweddion tirwedd pwysig yn y dirwedd heddiw, yn enwedig ar y tir uwch yng ngorllewin yr ardal. Nid astudiwyd yr un or cofebau o fewn ei thirwedd hanesyddol gan ddefnyddio technegau modern, ond mae cymhariaeth âr cofebau hynny a astudiwyd mewn mannau eraill yn awgrymu mair tebycaf yw eu bod yn cynrychioli beddrodau o ddiwedd Oes y Cerrig hyd at ganol yr Oes Efydd, yn ystod y cyfnod 3,000-1,2000 CC. Dim ond cyfran or nifer wreiddiol o safleoedd sydd wedi goroesi hyd heddiw. Ni chynhwyswyd yn yr astudiaeth bresennol rai safleoedd cofnodedig a ddinistriwyd neu na ellir dod o hyd iddynt bellach ar y ddaear, nac ychwaith nifer o safleoedd a allant fod wediu dynodi gan dystiolaeth enwau lleoedd.

Gellir dosbarthur mwyafrif or safleoedd ar y tir uwch yn feddrodau crynion, yn garneddau cylchog, ac yn feini hirion. At ei gilydd cofebau angladdol ywr beddrodau crynion, a adeiladwyd naill ai o bridd neun fwy aml o gerrig. Feu cysylltir naill ai â chladdu mewn pridd neu â chorfflosgi. Dangosodd cloddfeydd a gynhaliwyd mewn mannau eraill ym Mhrydain fod beddrodau neu garneddau mewn rhai achosion yn gorwedd dros fedd un unigolyn uchel ei statws o fewn y llwyth. Er hynny, mewn achosion eraill, dangoswyd y gallair garnedd fod wedii defnyddio ar gyfer claddu mwy nag un unigolyn, a hynny dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd. Mewn rhai achosion dangoswyd bod gan garneddau adeiladwaith mewnol cymhleth yn cynnwys beddrodau â chylchoedd o gerrig, cyrbau, a chistiau wediu leinio â cherrig. Ni wyddys yn iawn pa ganran o boblogaeth Oes Newydd y Cerrig ar Oes Efydd a gladdwyd fel hyn, ond mae yna dystiolaeth dda syn dangos ir math hwn o ymarfer claddu beidio yn ystod y cyfnod rhwng canol a diwedd yr Oes Efydd, ac iddo gael ei ddisodli gan y math o fynwent amlosgi a ddarganfuwyd ym Mhennant Melangell (gweler isod).

Mae carneddau cylchog yn fath arall o heneb syn perthyn ir cyfnod hwn. Dangoswyd bod yna gysylltiad rhwng y carneddau hyn a beddrodau, celciau angladdol symbolaidd, a hefyd gweithgarwch yr ymddengys ei fod yn ddefodol ei natur. Yn yr un modd cysylltwyd meini hirion â gweithgarwch defodol yr Oes Efydd, er ei bod yn bosibl bod rhai ohonynt yn cynrychioli arwyddion terfyn llawer mwy diweddar. At ei gilydd maer meini hirion iw canfod ar dir uwch, ac eithrio wrth gwrs faen hir ardderchog Maes Mochnant syn 3.65m o uchder ac syn gorwedd ar lawr y dyffryn ir de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Cynrychiolir gweithgarwch defodol yr Oes Efydd gan gylch cerrig a rhes gerrig Rhos-y-Beddau a chylch cerrig Cwm Rhiwiau ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben Pistyll Rhaeadr.

Ymhlith mathau pwysig eraill o henebion y mae ffosydd cylchog, heneb syn debygol o fod yn feingylch a dau gylch pwll, ac y mae pob un ohonynt wedii leoli ar lawr y dyffryn. Mae pob un or mathau hyn o henebion yn safleoedd a ddynodir gan gnydau ac a ddarganfuwyd o ganlyniad i ragarchwilio a wnaed or awyr, ac fel rheol nid ydynt wedi goroesi fel cloddweithiau y gellir eu gweld ar lefel y ddaear. Maen debyg bod y ffosydd cylchog at ei gilydd yn cynrychioli carneddau syn debyg i feddrodau crynion a charneddaur ucheldiroedd a nodwyd uchod. Maen debyg bod gan y mwyafrif ohonynt dwmpathau pridd a lefelwyd ers yr adeg hynny o ganlyniad i aredig, er bod yr hyn a all fod yn feddrod crwn mawr wedi goroesi hyd heddiw fel twmpath ger maen hir Maesmochnant, rhywbeth syn anarferol. Maer heneb syn debygol o fod yn feingylch ar ddau gylch pwll i gyd wediu lleoli yn agos at ei gilydd ir de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ac maen debyg eu bod yn cynrychioli cyfadeilad defodol yn yr iseldir syn debyg ir cyfadeilad yn yr ucheldir a nodwyd yng nghyffiniau Rhos-y-beddau. Math o heneb a amgaeir gan glawdd crwn ywr heneb syn debygol o fod yn feingylch, ac maen bosibl bod y ddau gylch pwll yn gylchoedd pren yn wreiddiol.

Fel y nodwyd uchod, mae ein gwybodaeth am ddosbarthiad y safleoedd hyn yn Nyffryn Tanat yn rhannol ac yn ddamweiniol. Y tebyg yw ir safleoedd yn yr ucheldiroedd, sydd wediu lleoli mewn ardaloedd o amaethu ymylol, oroesi oherwydd y defnydd llai dwys a wneid or tir yn yr ardaloedd hyn, tra bod yr amaethu grawn dwys ar y tir amaethyddol ysgafnach a gwell ei safon ar lawr y dyffryn wedi helpu olion cnydau i ffurfio a ddefnyddiwyd i nodir safleoedd. Hefyd i ryw raddau mae dosbarthiad y safleoedd yn yr ucheldiroedd yn ddibynnol ar ardaloedd lle y cyflawnwyd gwaith maes mwy dwys gan fod y gwaith maes a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio ar gornel dde-orllewinol yr ardal. Enghraifft o safleoedd sydd wedi goroesi a hynny mewn dull detholiadol ywr math anarferol o safle angladdol neu ddefodol cynhanesyddol a ddarganfuwyd wrth gloddio yn eglwys Pennant Melangell. Roedd yn rhan o fynwent amlosgi o ganol yr Oes Efydd, yn dyddio or cyfnod tua 1,200 CC.

Er nad oes fawr ddim tystiolaeth or aneddiadau a fodolai yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer gyffredinol yr henebion yn dangos bod pobl wedi ymsefydlu ar hyd ac ar led Dyffryn Tanat erbyn y cyfnod hwn. Dengys dosbarthiad yr henebion, ar waelod y dyffrynnoedd ac ar gopaon y mynyddoedd fod pobl yn gwneud defnydd o ystod eang o gynefinoedd gwahanol yr adeg honno. Maen bosibl bod y dosbarthiad hwn eisoes yn adlewyrchiad or patrwm trawstrefa rhwng aneddiadau sefydlog yn yr iseldir ac aneddiadau dros dro yn yr ucheldir y gwyddys ei fod yn bodoli yn yr ardal tan tuar 18fed ganrif.

Maer cyfadeiladau defodol yn Rhos-y-beddau a ger Maesmochnant yn awgrymu bod ardaloedd penodol wediu dynodin dirweddau defodol yn y cyfnod cynnar hwn. Yn yr un modd, maer beddrodau crynion yr ymddengys eu bod wediu crynhoi yn yr ucheldiroedd yng nghornel dde-orllewinol y dirwedd hanesyddol ac ar lawr y dyffryn yn y gornel dde-ddwyreiniol fel pe baent yn dynodi rhai ardaloedd yn dirweddau angladdol. Yn achos y cyfadeiladau ar lawr y dyffryn o leiaf mae yna gyffelybiaeth rhwng y cyfadeiladau defodol cynhanesyddol diweddarach ac ardaloedd mynwentydd yr awgrymwyd eu bod yn bodoli mewn rhannau eraill o wahanfa ddðr Hafren uchaf. Yn achos y ddau gyfadeilad yn Nyffryn Tanat mae yna awgrymiadau clir bod eu lleoliadau o fewn y dirwedd yn llawn arwyddocâd gyda Rhos-y-beddau wedii leoli ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben rhaeadrau enwog Pistyll Rhaeadr, a chyfadeilad Maesmochnant wedii leoli o fewn rhan letaf llawr dyffryn Tanat uchaf, rhwng ei chymer ag Afon Rhaeadr ac Afon Iwrch.

Er ei bod yn debyg bod carneddau yn yr ucheldiroedd a ffosydd cylchog yn yr iseldiroedd yn rhannu swyddogaeth debyg fel henebion angladdol mae yna arwyddion bod gan yr henebion mewn gwahanol leoliadau arwyddocâd gwahanol o ran y dirwedd. Mae llawer or beddrodau crynion yn yr ucheldiroedd yng ngogledd-orllewin yr ardal, er enghraifft, yn henebion unig sydd wediu gosod ar bennau bryniau neu mewn lleoliadau amlwg eraill. Ir fath raddau nes y credid bod rhai ohonynt yn darnodi gwahanol derfynau gwleidyddol a gweinyddol. Er enghraifft maer garnedd ym Moel Sych, sydd bron yn 830m o uchder ac sydd wedii lleoli ger blaen gogleddol Dyffryn Tanat, wedi dynodir fan lle y mae terfynau Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn a Sir Ddinbych yn cyfarfod ers iddynt gael eu creu gan y Ddeddf Uno ym 1536, ac yn ystod y canrifoedd cyn hynny maen debyg ei bod wedi dynodir fan lle y cyfarfu cymydau canoloesol Edeyrnion, Mochnant Is Rhaeadr a Mochnant Uwch Rhaeadr. Yn wir, maen bosibl bod carneddau cynhanesyddol mewn lleoliadau amlwg yn yr ucheldiroedd wediu defnyddio i ddynodi tiriogaethau gwahanol ers iddynt gael eu hadeiladu - gan y byddair weithred o gladdu olion hynafiaid y llwyth o fewn carnedd wedi helpu i nodi terfynau tiriogaeth yr oedd y llwyth hwnnw'n hawlio.

Yn achos rhai or beddrodau a leolir yn yr iseldir maen glir bod patrwm gwahanol yn cael ei gynrychioli. Yn Banadla, ir dwyrain o Langedwyn gellir gweld yn glir i fyny at bump neu chwech o ffosydd cylchog wediu gosod mewn sawl llinell. Efallai bod pob un or grwpiaun cynrychioli claddfeydd gwahanol grwpiau llwythol, ac mewn rhai achosion maer ffaith iddynt gael eu gosod mewn llinellau yn dangos o bosibl iddynt gael eu gosod ar hyd terfyn neu ar hyd ymylon caeau, fel yr awgrymir gan dystiolaeth o ardaloedd eraill ym Mhowys.

Ar wahân ir ffaith eu bod yn bwysig ynddynt eu hunain, mae nifer or henebion angladdol a defodol hyn or cyfnod cynhanesyddol yn bwysig hefyd am eu bod yn cadw dyddodion megis arwynebau daear claddedig o dan feddrodau crynion a phriddoedd claddedig mewn ffosydd cylchog syn cynnwys tystiolaeth bwysig y gellir ei dyddion fanwl gywir yn ymwneud ag amgylchedd cynnar Dyffryn Tanat a hanes y defnydd a wneid oi dir.

Gweithgarwch angladdol a defodol ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac yn ystod y cyfnod Brython-Rufeinig
Ychydig o dystiolaeth sydd wedi goroesi o weithgarwch angladdol neu ddefodol ar ddiwedd yr Oes Efydd neu drwyr Oes Haearn ar cyfnod Brython-Rufeinig (700CC OC 400). Yn wir yr unig dystiolaeth o weithgarwch crefyddol a all ddod o fewn y cyfnod hwn ywr tri phen Celtaidd nad oes sicrwydd ynghylch eu dyddiad nau swyddogaeth a adeiladwyd yn ffasâd y tþ yng Nglantanat-isaf yng nghornel dde-ddwyreiniol Dyffryn Tanat, tþ syn dyddio o ganol yr 17eg ganrif.

Nid ywr ffaith nad oes tystiolaeth o weithgarwch angladdol yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod hwn yn anarferol o bell ffordd, gan nad oes fawr ddim tystiolaeth iw chael unrhyw le arall o fewn yr ardal, ac o ganlyniad ymddengys bod beddrodau'r cyfnodau hyn ac yn wir feddrodau yr Oes Efydd ddiweddarach ar ffurf nas cynrychiolir yn y cofnod archeolegol.

Tirweddau eglwysig
Gwyddys ei bod yn bosibl bod yna fynwent gladdu Gristnogol gynnar o ryw ddeugain neu fwy o feddau wediu trefnu mewn rhesi a allai fod yn bwysig, a hynny ar sail olion cnydau ym Meysydd, ryw 1.5km ir de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Ychydig sy'n hysbys am y safle hwn, fodd bynnag, ac er nad yw wedii ddyddion fanwl gywir maen bosibl ei fod yn perthyn ir cyfnod Cristnogol cynnar ai fod yn rhagflaenu sefydlu eglwys y clas ar fynwent yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Maen bosibl felly ei bod yn dyddio or cyfnod rhwng y 5ed ganrif ar 9fed ganrif neur 10fed ganrif. Oherwydd y ffaith bod y fynwent yn agos at y cyfadeilad angladdol a defodol cynhanesyddol ym Maesmochnant (gweler uchod) mae yna bosibilrwydd, fel yn eglwys Pennant Melangell, a nodir isod, fod y fynwent baganaidd gynharach wedi parhau mewn rhyw ffordd neu ei bod wedi cael ei hailddefnyddio.

Gwyddys am bum eglwys ganoloesol yn Nyffryn Tanat Dogfan Sant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Cynog Sant, Llangynog a Santes Melangell, Pennant Melangell, Sant Garmon, Llanarmon Mynydd Mawr a Chedwyn Sant, Llangedwyn. Maer eglwysi yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog a Phennant i gyd wediu lleoli o fewn trefgorddau syn dwyn yr enw Trer-llan sef, maen debyg, y prif drefgordd o fewn pob un or plwyfi canoloesol, ond fel y nodwyd mewn man arall dim ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir tystiolaeth glir fod yr eglwys yn rhan o anheddiad cnewyllol canoloesol.

Ar sail tystiolaeth y gwaith maen cerfluniedig sefydlwyd safle eglwysig yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant erbyn o leiaf y 9fed ganrif ar lan ogleddol Afon Rhaeadr. Maen amlwg ei bod yn eglwys bwysig yn gynnar yn ei hanes ac er mai ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y safle mae wedii leoli o fewn mynwent gromliniol fawr ac mae ganddi gysylltiadau â brenhinoedd ac maen cadw darnau o feddrod Romanésg sydd o bosibl wedii chysegru ir nawddsant, sef Dogfan Sant. Yn yr un modd ceir olion beddrod Romanésg ym Mhennant Melangell. Fei sefydlwyd yn gynt nag eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, tuar 8fed ganrif o bosibl, ac fei cysylltir â chwedl Melangell. Er na ellir pennu dyddiad pendant ir chwedl ac er ei bod yn hanesyddol annibynadwy, maer chwedl yn bwysig oherwydd y cwestiynau y maen eu codi am strwythur cynnar yr eglwys Gristnogol yn Nyffryn Tanat. Maer fersiwn ysgrifenedig cynharaf sydd wedi goroesi yn destun Lladin o ddechraur 16eg ganrif ond maen debyg ei fod yn seiliedig ar ffynonellau ysgrifenedig neu lafar syn dyddio yn ôl ir 13eg ganrif o leiaf. Darlunnir y stori hefyd ar y groglen gerfiedig gywrain yn eglwys Santes Melangell syn dyddio or 15fed ganrif.

Maer chwedl yn adrodd hanes Brochwel, tywysog Powys, a oedd yn hela mewn lle or enw Pennant pan ddaeth ar draws gwyryf hardd or enw Melangell (Monacella) mewn llwyn, ac yn cael lloches ym mhlygiadau ei sgerti roedd ysgyfarnog a oedd yn cael ei ddilyn gan gŵn y tywysog. Gofynnodd Brochwel iddi ym mha le yr oedd yn byw ac atebodd hithau ei bod wedi byw ar ei phen ei hun yn y diffeithwch hwn ers blynyddoedd lawer, ar ôl iddi ffoi o Iwerddon, ei gwlad enedigol, i ddianc rhag priodi uchelwr yr oedd ei thad, y brenin, am ei gorfodi iw briodi. Rhoddodd Brochwel y tiroedd iddi yn noddfa am byth, a sefydlwyd lleiandy yno gan Melangell.

Maer chwedl yn rhoi i ni nifer o ddelweddau symbolaidd cynnar a phwysig or dirwedd yr ymddengys eu bod yn rhan hanfodol or chwedl wreiddiol ac sydd wediu gwreiddion ddwfn yng Nghwm Pennant sef tiroedd helar brenin, y diffeithwch ar goedwig (rubum guendam et spinosum). Maen bosibl mair goedwig a bortreadir gan y dail toreithiog mewn dull Celtaidd diweddar syn addurnor beddrod Romanésg.Themâu eraill syn rhedeg drwyr chwedl ywr rhai syn ymwneud â noddfa a pharhad, h.y. lle sydd wedii osod ar wahân ir byd fel lloches dragwyddol (perpetuum sit asylum). Saif yr eglwys ym Mhennant, fel eglwys Dogfan Sant yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, o fewn mynwent gromliniol gymharol fawr. Y gred yn draddodiadol yw bod y fynwent hon yn dynodir noddfa, ac mae hefyd yn cael ei hamgylchynu gan gylch o goed yw mawr a hen iawn. Maer rhannau cynharaf or eglwys sydd wedi goroesi yn dyddio or 12fed ganrif ac feu hadeiladwyd fel pererinfa ac i orchuddio beddrod Melangell, a hynny efallai o dan nawdd yr uchelwr Rhirid Flaidd a ddisgrifir yn un o englynion Cynddelw, bardd mwyaf Cymru yn ail hanner y 12fed ganrif, fel Perchennog Pennant (Priodawr pennant pennaf). Mae Cynddelw hefyd yn cysylltu Rhirid â Dinmawr neu Foel Dimoel, y bryn amlwg ar ochr ddeheuol Cwm Pennant, bryn a gysylltir â chwedl Cawr Berwyn. Mae chwedl Melangell hefyd wedii gosod yn y dirwedd oddi amgylch a gelwir sil carreg rai cannoedd o fedrau ir de or eglwys a nodwyd yn gyntaf gan Thomas Pennant yn y 18fed ganrif ac yr arysgrifennwyd y geiriau St Monacellas Bed arni rywbryd tua diwedd y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg yn Gwely Melangell. Maen debyg mai tarddiad gwerin syn gyfrifol am y cysylltiad hwn ar tebyg yw bod yr enwn tarddu o gae cyfagos or enw Cae Gwelu, syn cyfeirio at system Gymreig ganoloesol o ddal tir gan grðp teuluol.

Daeth beddrod Melangell ym Mhennant yn ganolfan bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Maen amlwg o gerddi Gutor Glyn ei bod yn denu, erbyn y 15fed ganrif, bererinion o hirbell a geisiai feddyginiaeth at eu salwch; ystyrid hefyd ei bod yn orffwysfan derfynol ar gyfer cyn bererinion. Yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ddechraur cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr eglwys, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ganolbwynt pwysig ar gyfer y gymuned wledig wasgaredig a wasanaethid ganddi. Mewn cyfarfodydd a gynhelid yn festrir eglwys trafodid gwahanol faterion yn ymwneud âr plwyf, megis cynnal a chadwr ffyrdd, prentisiaethau a gweinyddur cymorth a roddid ir tlodion.

Daeth y llan gydag ystyr llan yma yn golygur ardal o amgylch yr eglwys yn ogystal â chlos yr eglwys yn ganolfan ar gyfer amryw weithgareddau masnachol gan gynnwys gemau pêl, ffeiriau a gðyl flynyddol y mabsant. Mae gan y lawnt fach sydd ychydig y tu hwnt i borth y fynwent ym Mhennant Melangell syn perthyn ir cyfnod megalithig dalwrn ceiliogod a buwyd yn defnyddior lawnt hyd at ddiwedd y 18fed ganrif o bosibl ar gyfer perfformiadau theatrig. Gyda thwf Piwritaniaeth yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechraur 19eg ganrif rhoddwyd terfyn ar lawer or gweithgareddau hyn, a lleihaodd pwysigrwydd eglwys y plwyf fel canolbwynt o ganlyniad i symudiad o ran y boblogaeth ar cynnydd yn nifer y capeli anghydffurfiol ledled y wlad.

Mae llawer iw ddysgu o hyd am dirwedd blwyfol gynnar Dyffryn Tanat. Roedd eglwysi'r plwyf eisoes yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif ym Mhennant Melangell, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Eglwys y clas neu fameglwys oedd Llanrhaeadr o dan reolaeth abad lleyg, a hyd efallai ryw adeg rhwng y 9fed ganrif ar 11eg ganrif maen bosibl mai hi oedd y brif eglwys neur unig eglwys ym Mochnant, a hithau yn ganolbwynt plwyf eglwysig mawr oedd yn cyd-fynd â thiriogaeth y cantref. Erbyn diwedd y 13eg ganrif ac ar ôl i Fochnant gael ei isrannu yn ddau gwmwd cyfansoddol, eithriad prin oedd Llanrhaeadr o un plwyf yn cyd-fynd â chwmwd cyfan sef Mochnant Is Rhaeadr. Yr adeg honno roedd yr eglwysi yn Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn yn gapeli (capellae) oedd yn ddibynnol ar Lanrhaeadr a dim ond yn ddiweddarach y daethant yn eglwysi plwyf annibynnol ohonynt eu hunain.

Ymddengys fod y stori ym Mochnant Uwch Rhaeadr yn fwy cymhleth. Roedd rhan sylweddol or cwmwd yn rhan o blwyf Llanrhaeadr, ac roedd y gweddill ohono wedii rannu rhwng plwyfi Pennant Melangell a Llangynog, yn ogystal â Hirnant a Llanwddyn. Maen bosibl bod hyn yn adlewyrchur ffaith i ardal eglwysig fwy o faint oedd wedii seilio ar eglwys y clas yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant gael ei rhannu. Yn wir, mae yna awgrymiadau i eglwysi fel Santes Melangell ym Mhennant Melangell ddechrau o bosibl fel mynwentydd amgaeëdig yn unig, ac mai dim ond mor ddiweddar âr 11eg ganrif neur 12fed ganrif y sefydlwyd eglwysi yno. Mae yna dystiolaeth bellach i awgrymu y gall hanes Pennant Melangell fod wedi bod yn fwy cymhleth byth, gan fod y fynwent Gristnogol gynnar fel pe bai wedii sefydlu uwchben mynwent baganaidd syn perthyn i ganol yr Oes Efydd. Ymddengys fod hyn yn brawf hynod o barhad o fewn y dirwedd.

Safleoedd eraill â chysylltiadau eglwysig
Ymhlith safleoedd eraill â chysylltiadau eglwysig pwysig yn Nyffryn Tanat y mae dwy ffynnon sanctaidd ffynnon Dogfan Sant ar y bryniau uwchben Cwm Rhaeadr a Ffynnon Cwmewyn ar y bryn uwchben Pennant Melangell a phlasty canoloesol yng Ngwernfeifod syn perthyn i Abaty Glyn y Groes. Efallai fod yna arwyddocâd ir ffaith mai o fewn yr abaty y ceir safle ffynnon Dogfan Sant. Mewn rhai achosion mae tystiolaeth o ddefodau crefyddol nad oes fawr ddim tystiolaeth arall ohonynt wedi goroesi mewn enwau lleoedd. Mae fferm Tyn-y-cablyd ger tarddiad Afon Tanat, ym mlaen Cwm Pennant, yn cymryd ei enw o Ddydd Iau Cablyd, sef y dydd, yn ôl traddodiad, y golchai pobl o dras uchel draed y tlodion a rhoi anrhegion iddynt. Nid oes amheuaeth na chollwyd y traddodiad hwn a llawer o draddodiadau eraill a gysylltid â rhannau eraill or dirwedd gyda thwf Protestaniaeth, or 16eg ganrif ymlaen.

Yn Nyffryn Tanat roedd gweithgarwch gan yr anghydffurfwyr cynnar yn gymharol fach a thystiolaeth sy'n dilyn y diwygiad Methodistaidd a welwyd ar ddechrau y 19eg ganrif yw'r dystiolaeth archeolegol o anghydffurfiaeth sydd wedi goroesi. Maen cynnwys llawer o gapeli syn perthyn yn bennaf ir Methodistiaid Wesleaidd, y Methodistiaid Calfinaidd, ar Annibynwyr. Fel mewn mannau eraill yng Nghymru mae dwy duedd yn amlwg o ran dosbarthiad y capeli anghydffurfiol o fewn y dirwedd. Yn gyntaf, codwyd capeli yn y nifer gymharol fach o aneddiadau cnewyllol sef Llangynog, Pen-y-bont Fawr a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn ail, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr addoldai yng nghefn gwlad ar y tir uwch i ffwrdd o lawr y dyffrynnoedd, fel arfer heb fod yn fwy na 2-3km oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn cynrychioli proses a arweiniodd at wneud sylw cyffredin mewn perthynas âr gororau bod poblogaeth yr ucheldiroedd yn gynulliedfa o Anghydffurfwyr yn hytrach nag o Eglwyswyr.