CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TIRWEDDAU DIWYDIANNOL

Diwydiannau Cloddio
Bu hanes hir ac arwyddocaol ir diwydiannau cloddio a chwarela yn Nyffryn Tanat cloddiwyd mwynau plwm, barytes, ffosffadau, graean, llechi a charreg ffordd ar ryw adeg neui gilydd, ac mewn rhai achosion, buwyd yn cloddio am fwynau metal ac yn chwarela am garreg yn llwyddiannus ar yr un safle. Ceir rhywfaint o dystiolaeth fod y gwaith cloddio am fwynau metal wedi cychwyn yn ystod y cyfnodau Rhufeinig-Prydeinig cyn hanesyddol, ond prif gyfnod y gwaith datblygu mwyn haearn oedd yn ystod y 18fed ar 19eg ganrif, ar prif gyfnodau y chwarelwyd llechi a cherrig ffyrdd oedd yn ystod y 19eg ganrif ar 20eg ganrif cynharach; nid oes yr un ohonynt yn goroesi heddiw.

Lleolwyd y prif byllau a chwareli yn ardal Llangynog gerllaw. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gymharol adnabyddus, ond ceir dosbarthiad ehangach o weithfeydd neu dreialon bach am fwynau metel a llechfaen yn gyffredinol ledled rhan orllewinol Dyffryn Tanat, nad oes gwybodaeth ddogfennol fanwl am lawer ohonynt. Gellir diffinio nifer o dirweddau cloddio a chwarela pwysig a nodweddiadol o fewn Dyffryn Tanat, gan ystyried yr ardaloedd cloddio a phrosesu gweladwy a nodweddion cysylltiedig y tirweddau yn cynnwys adeiladau cynorthwyol, llwybrau ffyrdd, ffiniau, cronfeydd dŵr a ffrydiau yn arbennig yn Llangynog, Craig-y-mwyn a Chwm Orog.

Cloddio plwm
Mae gan y gwaith cloddio plwm yn Llangynog hanes cynnar ac arbennig. Cynrychiolir tystiolaeth debygol o weithgaredd cloddio cynnar o gyfnod cynhanesyddol, Rhufeinig neu ganoloesol gan weithfeydd cynnar (opencuts a phonciau) ar ochr ddeheuol Craig Rhiwarth uwch Llangynog, yng Nghwm Orog ar ochr ogleddol Craig Rhiwarth a Chraig-y-mwyn. Fodd bynnag, ceir y dystiolaeth ddogfennol gynharaf o weithio, o brydles dyddiedig 1656 yn cwmpasur gwaith o gloddio mwynau plwm ar yr holl diroedd comin a thiroedd diffaith...o fewn trefgorddau niferus Cefn-coch a Rhiwrath ym Maenor Mochnant a oedd yn cwmpasur ardaloedd a ddaeth yn byllau pwysig yng Nghraig-y-mwyn, Cwm Orog.

Bu cynnydd cyflym yn y gwaith cloddio ôl-ganoloesol yn nosbarth Llangynog yn gynnar yn y 18ed ganrif, a dilynwyd hynny gan ddirywiad hir tuag at ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif y cyrhaeddodd y gwaith cynhyrchu ei uchafbwynt, yn wahanol i byllau enwog eraill yng nghanolbarth Cymru megis Fan a Dylife a fun llewyrchus yn ystod y 19eg ganrif, ac a ystyriwyd ar un adeg fel y pyllau plwm mwyaf cynhyrchiol yng nghanolbarth Cymru. Mae ir hanesion am ddarganfod un or prif wythiennau cyfoethocaf o fwyn plwm yn Llangynog naws ramantus, gan ir plwm gael ei ddarganfod, yn ôl y sôn, ym 1692 gan fugail yn rhedeg ar ôl ei braidd, ac yn troedio ar arwynebedd llithrig fflochen neu fwyn, ar mwsogl yn symud o dan ei esgid bren, ar mwyn gloyw yn ymddangos. Mae hanesion eraill yn honni mai bugeiles a wnaeth y darganfyddiad.

Cyflawnwyd y gwaith cloddio cynharaf ym mhyllau De Llangynog, Cwm Orog a Chraig-y-mwyn gyda chyfalaf lleol. Fei cychwynnwyd erbyn tua 1705 gan deulur Herberts o ystad Castell Powys, a pharhaodd i ryw raddau am tua 50 mlynedd, a chyrhaeddodd cynhyrchiant yn Ne Llangynog ei uchafbwynt ym 1737, pan ddaeth Llangynog, am gyfnod byr, yn un or gweithrediadau cynhyrchu plwm mwyaf yn Ewrop. Gweithiwyd ar adran gyfagos i bwll De Llangynog a phyllau eraill yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn gan y Myddletons o ystad Castell y Waun.

Deilliodd nifer o broblemau cymdeithasol o ganlyniad i fewnlifiad gweithwyr pyllau Seisnig yn ystod y 18fed ganrif, a chafodd yr eglwys yn Llangynog anhawster i ddarparu gwasanaethau nad oeddynt yn Gymraeg. Cyfrannodd yr holl gymuned at y gwaith am gyfnod: cyfrannodd gwragedd y cloddwyr at y gwaith o olchi mwynau a gorfodwyd ffermwyr-denantiaid lleol, yn aml yn groes iw dymuniadau, i gludor mwynau ar yr heol i fwyndoddfeydd yn Pool Quay ac mewn mannau eraill neu gael eu troi ou cartrefi.

Gwnaeth adran Powys o byllau Llangynog gyfanswm o 121,000 o elw dros y cyfnod 1724-44. Aeth llawer ohono i dalu eu dyledion, a chyfrifodd Marcwis Powys fod cyfanswm o dros 171,000 wedii wario ar glirio dyledion ei ferch o ganlyniad ir gwariant trychinebus ar Gyfnewidfa Stoc Paris ac mewn buddsoddiadau dielw yn y pyllau Sbaenaidd yn Rio Tinto. Ym 1740, roedd gwerth 4,500 o gyflogaun ddyledus ir gweithwyr, ac ym 1741, ysgrifennodd rheolwr y Marcwis, James Baker, bod Llangynog fel dyn ar farw. Eto cynyddodd y galwadau ar y pwll ac ar ei weithlu.

Roedd y gwaith o ddraenio pyllau a chludo mwynau i fwyndoddfeydd y tu allan i Ddyffryn Tanat bob amser yn bwysig i ddichonoldeb economaidd pyllau Llangynog. Yn dilyn dirywiad mewn cynnyrch yn ddiweddarach yn y18fed ganrif dechreuodd iarll Powys roi prydlesi i bobl or tu allan, a daeth y diwydiant, o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, yn gynyddol ddibynnol ar gyfalaf mentro a ddarparwyd gan hapfuddsoddwyr or tu allan yn hytrach na chan dirfeddianwyr lleol.

Parhaodd y cloddio ar raddfa fach yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a diwedd y 19eg ganrif, gyda phyliau byr ac ysbeidiol o weithgaredd ar safleoedd cloddio amrywiol gan amryw ddeiliaid prydles gwahanol yn aml yn dilyn amrywiadau ym mhris plwm ar y farchnad. Gwnaethpwyd rhai buddsoddiadau sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnwys, er enghraifft, adeiladu cronfa ddŵr Llyn y Mynydd ac adeiladwyd argae craig a daear sylweddol tua 1864 uwchben Cwm Llech, a gysylltwyd gan system o ffrydiau i bwll De Llangynog, tua 4km ir dwyrain. Cafwyd amryw straeon hefyd megis y rhai hynny ym Mwlch-greolan, ir de o Benygarnedd, a Chraig-y-mwyn rhwng y 1850au ar 1880au pan dybiwyd i brydlesi pylloedd gael eu gwerthu am elw enfawr ar sail gwybodaeth dra chamarweiniol. Daeth y rhan fwyaf or gwaith cloddio i ben erbyn tua 1900, ac er i adfywiad byr ddigwydd ym mhyllau Cwm Orog a Chraig-y-mwyn yn dilyn agoriad Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat ym 1904, roedd y ddwy fenter hon wedi dod i ben erbyn 1912.

Toddwyd y rhan fwyaf or mwynau a gloddiwyd yn nosbarth Llangynog naill ai yn Pool Quay lle yr adeiladwyd mwyndoddwr gan Iarll Powys ym 1706, neu Benthal, Coalbrookdale, ac yn hwyrach ym Mwynglawdd, er bod mwyndoddwr ar raddfa lai yn Llangynog yn y 1750au.

Chwarela llechfaen a charreg
Ni cheir llawer o wybodaeth ddogfennol ar hanes cynnar cynhyrchu llechfaen lleol. Er hynny, ceir awgrymiadau o gynhyrchiant yn chwareli Llangynog, ac roedd chwareli lleol yn cynhyrchu cerrig llorio iw gosod ar y llawr erbyn dechraur 18fed ganrif o leiaf, i gymryd ller lloriau pridd cynharach. Roedd chwarela llechfaen yn nosbarth Llangynog eisoes yn ffynnu erbyn diwedd y 18fed ganrif, mewn cyfnod tawel ir diwydiant cloddio metel. Yn y 1770au allforiwyd llechi ar y ffyrdd ac yna ar yr afonydd i Sir Amwythig, ond ar ôl 1797 allforiwyd deunyddiau hefyd drwy gyfrwng camlas Sir Drefaldwyn. Erbyn y 1860au cynhyrchid llechi mewn nifer o chwareli yn cynnwys Llangynog, Cwm Rhaeadr a Chwm Maengwynedd ac erbyn hynny, feu hallforid drwy gyfrwng y rheilffordd ym Mhorth-y-waen. Dirywiodd y diwydiant erbyn diwedd y 19eg ganrif, unwaith eto o ganlyniad i gost uchel trafnidiaeth a phris marchnad is llechi a gynhyrchwyd mewn mannau eraill. Adfywiodd yn dilyn agoriad Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat ym 1904, ond daethai i ben unwaith eto erbyn 1914.

Roedd y galw am garreg adeiladu yn cynyddu o ddiwedd y 16eg ganrif ac yn enwedig o ddechraur 17eg ganrif ymlaen gan fod arddulliau adeiladu brodorol ar gyfer cartrefi cyntaf o bosibl ac yna ysguboriau yn rhoi mwy o bwyslais ar garreg yn hytrach na choed fel deunydd adeiladu, ond nid oedd i barhaun ddiwydiant lleol a oedd yn darparu ar gyfer marchnad leol yn unig.

Cynyddodd y galw lleol am garreg ffordd addas gyda dyfodiad y tollbyrth yn ystod y 18fed ganrif ddiweddarach, gan y nodwyd mewn man arall bod nifer or chwareli llai ar hyd ochr y ffyrdd yn perthyn i gyfnod pan roddwyd yr hawl i ymddiriedolwyr y tollbyrth gymryd deunyddiau ar gyfer adeiladu ac atgyweirio heolydd o dir gwastraff a thir comin. Dechreuwyd gwaith chwarela ar gyfer carreg ffordd ar raddfa fwy masnachol ar nifer o safleoedd yn Llangynog gerllaw tua 1910 a dyma oedd prif gynhaliaeth Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat a oedd yn cyflogi carcharorion rhyfel Almaenig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dirywiodd y diwydiant yn ystod y 1930au a daeth i ben yn derfynol yn y 1950au.

Chwarela ffosffad a chalchfaen
Cloddiwyd nodylau duon yn cynnwys 40-60% calsiwm ffosffad am gyfnod byr yn Nant Calch ir gorllewin o Langynog ac ym Mhenygarnedd rhwng y 1870au ar 1880au, a chludwyd deunydd o Nant Calch ar draws y Berwyn i Landerfel ar gyfer eu prosesun wrtaith amaethyddol. Yn y pen draw, fodd bynnag, peidiodd y diwydiant â bod yn broffidiol, yn sgîl costau cludo uchel, gwerth isel y deunydd ac o ganlyniad i fewnforion rhad o dramor. Chwarelwyd calchfaen ym Mhenygarnedd ai brosesu mewn dwy odyn galch gerllaw ei gilydd, a weithiwyd cyn y 1870au.

Diwydiannau prosesu a chrefft
Ceir olion nifer o ddiwydiannau prosesu amlwg syn gysylltiedig â chynhyrchiant amaethyddol yn Nyffryn Tanat yn cynnwys adeiladau megis melinau ŷd, melinau llifio, melinau pannu au ffrydiau cysylltiedig, pyllau melin a chronfeydd dŵr ac odynau calch, a gefeiliau gofaint, a ffurfiant elfennau bach, ond elfennau arwyddocaol, o fewn y dirwedd hanesyddol. Mewn rhai achosion, ceir arwyddion o felinau cynharach, safleoedd pannu a gefeiliau gofaint, mewn elfennau a geir, ar wasgar, mewn enwau lleoedd megis melin/felin, pandy, deintur/deintir, efel/efail.