CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


Y DIRWEDD NATURIOL

Mae topograffeg Dyffryn Tanat yn amrywiol iawn. Maen cynnwys ardaloedd rhostir uchel gwyllt, yn y gogledd ar gorllewin gan fwyaf ac yn gyffredinol rhwng tua 500-600m OD, llethrau serth ar ochraur cwm, tir bryniog rhwng tua 200-250 medr, tir gwastad isel ar lawr y cwm, rhwng tua 100-200m OD. Yn aml mae yna drawsnewid sydyn a dramatig o lawr y cwm i ben y mynydd, yn enwedig yn y gorllewin.

Mae Dyffryn Tanat yn lletach yn y gorllewin ac yn gorffen mewn tri chwm rhewlifol cul a dwfn sydd wedi eu torri ym mynyddoedd y Berwyn Cwm Pennant ai gangen Cwm Llech, Cwm Rhiwarth, a Chwm Blowty. Maer agoriad i bedwerydd cwm Cwm Maengwynedd yn dod oddi mewn ir ardal tirwedd hanesyddol o drwch blewyn, ir gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae yna hefyd sawl crognant nodweddiadol, yn cynnwys Cwm Dwygo ir de-orllewin a Chwm Glan-hafon ir gogledd-ddwyrain o Langynog.

Y prif fynyddoedd yw Mynydd Mawr, Moel Sych ar Glogydd ir gogledd, Bryn Ysbio a Cyrniau Nod ir gorllewin, Cyrniau, Das Eithin ac Allt Tair Ffynnon ir de. Ceir y golygfeydd gorau o Domen Cefn-coch ac oddi yno gellir gweld y cyfan bron o Ddyffryn Tanat, ac eithrio cilfachaur cymoedd gorllewinol.

Y prif afonydd a nentydd yw Afon Tanat ai hisafon Afon Goch, Afon Eirth (yn ymuno âr Tanat yn Llangynog), Afon Rhaeadr ac Afon Iwrch (y ddau yn ymuno âr Tanat ir de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant). Mae yna sawl rhaeadr ac yn eu plith Pistyll Rhaeadr ar un pen i Afon Rhaeadr a Phistyll Blaen-y-cwm ar un pen ir Afon Tanat.

Maer ddaeareg gadarn yn cynnwys cerrig llaid Ordofigaidd, siâl a llechi or gyfres Caradoc gyda stribedi o lafa asid a thwff a pheth dolerit a rhyolit ymwthiol â graen main. Mae dyfnderoedd o dros 150 troedfedd o raean a chlai rhewlifol ac ôl-rewlifol wedi eu cofnodi ar lawr y cwm wrth gloddio yn Llangynog.

Mae pridd ar lawr y cwm yn cynnwys pridd clai glas llifwaddodol or gyfres Conwy a daearoedd brown or gyfres Dinbych 1 a Rheidiol. Mae pridd or tir mynydd yn cynnwys pridd cambric stagnogley or gyfres Cegin. Maer pridd mynydd yn gyfuniad o bridd brown podsolaidd, yn bennaf or gyfres Manod, a stagnopodzols fferrig or gyfres Hafren.

O ran potensial defnyddio tir mae ucheldiroedd Dyffryn Tanat yn cael eu hystyried fel Graddfa 5, mae llethraur bryniau, cymoedd y gorllewin ar tir bryniog wedi eu dosbarthu fel Graddfa 4, gydag ardaloedd cyfyngedig o dir Graddfa 3 ar lawr y cwm rhwng Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llangedwyn.

Roedd Mochnant yn adnabyddus am ei goed, ond nid yw agweddau hanesyddol ar ei goetir wedi eu hastudion fanwl eto. Er nad oes tystiolaeth ddogfennol ynghylch pa mor gyflym y cliriwyd y tir coediog brodorol nid oes amheuaeth nad tir tlotach, yn enwedig yr ochrau serth ar bryniau, oedd yr olaf i gollir coed. Mae enw cantref Mochnant ynddoi hun yn awgrymu amgylchedd coediog oedd yn addas ar gyfer moch. Yn chwedl Melangell daeth tywysog Brochwel ar draws y forwyn mewn llwyn, ac mae ei beddrod wedi ei addurno â dail. Siaradodd y bardd canol oesol diweddar, Llywarch ab Llywelyn, am y coetir hyfryd oedd o gwmpas Mochnant Am Fochnant cain amgant coedawg. Yn gynnar yn y 14eg ganrif dywedir bod y rhan fwyaf o blwyf Llangedwyn yn dal yn dir coediog.

Mor hwyr â chanol y 19eg ganrif roedd rhaniadaur degwm ar gyfer plwyfi yn Nyffryn Tanat yn llawn o enwau llefydd a chaeau yn dynodi coetir sydd bellach wedi ei golli, fel yn yr enghreifftiau canlynol: celynen yn Garthgelynen-fawr; bedw yn Lletyr Fedw Ucha; helig fel sydd yn Tyddyn yr Helig; perth fel yn Gwaith Gŵr y Berth; coed a gwŷdd fel yn Coed Ffridd, Cae Gwŷdd Ucha a Tan-y-coed.