CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Priffyrdd a mân ffyrdd hynafol
Yn ôl pob tebyg sefydlwyd y llwybrau ar troedffyrdd cyntaf yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Maer prif lwybrau, a bennir gan dopograffeg naturiol a chan groesfannau afonydd, yn mynd ir Bala tuar gogledd-orllewin trwy Langynog, i Lansilin a Chroesoswallt tuar gogledd-ddwyrain trwy Lanraeadr-ym-Mochnant, ir Amwythig tuar de-ddwyrain trwy Langedwyn, i Lanfyllin ar Trallwng tuar de trwy Benygarnedd, ac i Hirnant a Llanwddyn trwy Ben-y-bont Fawr ir de-orllewin. Ymddengys fod pen gorllewinol y dyffryn yn gwbl gaeedig tan ail hanner y 18fed ganrif, gan na ddangosir unrhyw ffyrdd yn croesir ardal, er enghraifft, ar fap Robert Morden o Ogledd Cymru dyddiedig 1695, er y rhedai llwybr arall, y dywedir iddo gael ei ddefnyddio gan borthmyn, tuar gogledd o Lanraeadr-ym-Mochnant, i fyny dyffryn Afon Iwrch ac ar draws y wahanfa ddðr i ddyffryn Dyfrdwy yn Llandrillo yn Edeyrnion.

Maer mwyafrif or isffyrdd ar lonydd yn cael eu mapio am y tro cyntaf ar fapiau degwm yr 1830au ar 1840au, ac maent yn ffurfio rhwydwaith syn cysylltu ffermydd unigol, daliadau a bythynnod. Mae nifer or llwybrau hyn wedi goroesi fel lonydd gwyrddion sydd weithiau, yn ffurfio ceuffyrdd amlwg, hyd at 4-5m o ddyfnder mewn mannau, a ymffurfiodd yn y canrifoedd cyn i ddraeniau ffyrdd gael eu gosod. Yn ôl pob tebyg mae rhai or ffyrdd ar lonydd hyn yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol cynnar, yr Oesoedd Canol a'r Oesoedd Canol diweddar ac maent yn bwysig in dealltwriaeth o hanes economaidd a chymdeithasol y cymunedau unigol ar ffordd y rhyngweithient â chymunedau cyfagos ac â marchnadoedd ymhellach i ffwrdd. Byddai wedi bod yn amhosibl i gerbydau ag olwynion ysgafn fynd ar hyd y mwyafrif or ffyrdd hyn os nad y cyfan ohonynt a byddent wedi bod yn fwy addas ar gyfer cerdded, marchogaeth, symud nwyddau ar wagen, neu symud da byw ar droed. Yn wir, dywedir bod cerbydau ag olwynion ar gyfer cario pobl yn dra anghyfarwydd tan ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y broses o roi ceffylau yn lle ychen fel anifeiliaid gwedd i aredig a thynnu yn digwydd mor hwyr âr 18fed ganrif ar ffermydd cyffredin yng Nghymru ac or cyfnodau cynharaf dim ond y rhai cyfoethog a allai fforddio teithio hyd yn oed ar gefn ceffyl. Nid oes amheuaeth nad ychwanegwyd at statws y tywysog Brochwel ac yntau allan yn hela, fel yi potreadir ar y groglen o ddiwedd y 15fed ganrif yn eglwys Pennant Melangell, yng ngolwg pobl y cyfnod trwy ei bortreadu ar gefn ceffyl. Roedd cryn fri yn dal i gael ei roi ar fod yn berchen ar geffylau tan ddechraur 20fed ganrif. Ystyrid bod mabwysiadu ceffyl gan ffermwyr cyffredin yn rhan hanfodol or broses o fabwysiadu Saesneg ac agweddau diwylliannol Cymreig wedi'u seisnigeiddio.

Cyn yr 20fed ganrif gwneid y mwyafrif o deithiau ar droed ir gwaith, ir farchnad, ir ysgol, i siopa ac i ymweld â phobl gan adael y lonydd gwyrddion, y ceuffyrdd ar troedffyrdd syn mynd yn groesymgroes ar draws y tir caeëdig rhwng ffermydd a thyddynnod Dyffryn Tanat yn etifeddion i ddigynyddion. Er ei fod yn eithriad efallai, cerddai Robert Thomas bob dydd Sul ir capel yn Hirnant, taith gron o 17 o filltiroedd oi gartref ym Mlaen-y-cwm yng Nghwm Maengwynedd. Maen debyg y byddai taith Thomas wedi mynd ag ef fel yr hed y frân, ar y droedffordd ar draws ucheldiroedd Godor, rhwng Cwm Maengwynedd a Chwm Blowty, wedyn ar hyd troedffordd ar draws ucheldiroedd Y Garn i Ddyffryn Tanat, ac oddi yno i Gwm Hirnant. Maen rhaid bod y troedffyrdd hyn yn bwysig ers y cyfnodau cynharaf er mwyn helpu cymunedau yn y dyffrynnoedd anghysbell dwfn yng ngorllewin Dyffryn Tanat i aros mewn cysylltiad âi gilydd. Mae ffermydd syn llai na milltir oddi wrth ei gilydd ar draws y bryniau rhwng blaen Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth dros bum milltir oddi wrth ei gilydd ar hyd y ffordd.

Roedd troedffyrdd a llwybrau a âi i fyny i'r bryniau o waelod y dyffryn hefyd o gryn bwysigrwydd economaidd ar gyfer dod â mawn i lawr or mawnogydd ar yr ucheldiroedd (gweler isod) ac ar gyfer darparu mynediad i ffriddoedd. Fel heddiw maen debyg y câir ffriddoedd hyn eu defnyddio yn ôl y tymor. Byddain golygu symud y stoc i fyny i'r ucheldiroedd yn y gwanwyn a dod â hwy i lawr unwaith eto yn yr Hydref ac, yn ôl pob tebyg, or cyfnod cynhanesyddol tan y 18fed ganrif, roedd yn golygu trawstrefa rhwng hendref yr iseldir a hafod yr ucheldir. Fel y nodwyd uchod yn yr adran ar aneddiadau ceir tystiolaeth dda yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat ei bod yn hysbys bod rhai o brif lwybraur ucheldiroedd yn cysylltu ffermydd penodol au hafod yn yr ucheldiroedd.

Mae llethraur dyffrynnoedd yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat mor serth fel bod y mwyafrif or llwybrau syn mynd i fyny ar gopaon agored y mynyddoedd yn y fan hon wediu cyfyngu o reidrwydd ir llechweddau mwy esmwyth a dorrir gan nentydd y mynydd ar hyd ochrau neu ym mlaenaur dyffrynnoedd. Mae dosbarthiad y corlannau yn nodi llawer or llwybrau haws eu cerdded i fyny ar y bryniau, ac maen debyg bod llawer or llwybrau hyn yn cael eu defnyddio ers y cyfnodau cynharaf. Fel y nodwyd mewn adran gynharach roedd patrwm anheddu yn seiliedig ar dyddynnod wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Patrwm ydoedd o ffermydd gwasgaredig wediu lleolin nodweddiadol ar ymyl y dyffryn, ychydig islaw ymylon isaf y môr o ucheldiroedd agored. Maer mapiau degwm o ddechraur 19eg ganrif yn dangos yn aml dafodau o dir comin agored yn ymestyn i lawr y nentydd trwyr tir caeëdig, or ucheldiroedd i lawr tuag at lawr y dyffryn, gan alluogir ffermydd mwy tirgaeëdig sydd ymhellach i ffwrdd o ymyl y mynydd i gyrraedd yr ucheldiroedd.

Maer llwybrau hyn ar ffurf twmffat syn arwain i fyny at y tir uwch yn dal i fod yn un o nodweddion pwysig ymyl yr ucheldiroedd ac yn aml maent yn ymddangos fel ceuffyrdd wediu treulio o'u troedio gan anifeiliaid a dynion yn ogystal â chan fathau eraill o drafnidiaeth heb olwynion. Deuid â mawn, prif ffynhonnell tanwydd tan hanner cyntaf y 19eg ganrif o leiaf, i lawr o fawnogydd ar y mynyddoedd ar geir llusg, a elwid yn lleol yn drages yn y 18fed ganrif. Deuid â cherrig adeiladu a llechi i lawr y mynydd hefyd yn y ffordd hon, a nododd Lewis y byddid yn dod â llechi o chwareli Llangynog gyda dirfawr berygl ir sawl a fyddai wrthin cyflawnir dasg lafurus hon. Nid oes amheuaeth nad oedd y ceir llusg o fath a oedd yn gyfarwydd mewn mannau eraill, ac weithiau defnyddid nerth dynol yn hytrach na nerth anifeiliaid iw ffrwyno au llywio.

Y Ffyrdd Tyrpeg
Rhedair ffordd dyrpeg gynharaf yn Nyffryn Tanat rhwng Llangedwyn a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Fei crëwyd o ganlyniad i basio deddf Seneddol ym 1756 i atgyweirior ffordd o Knockin i Lanrhaeadr. Yn sgîl pasio deddf ym 1769 daethpwyd â phob cwmni tyrpeg yn Sir Drefaldwyn o dan un system, gyda system o briffyrdd â thollbyrth yn dod o fewn yr ardal hon yn Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Parhaodd yr ymddiriedolaethau tan 1879, pan ddilëwyd y tollau ar y ffyrdd, a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb ir siroedd unigol. Cyn canol y 18fed ganrif plwyfi unigol oedd yn gyfrifol am y ffyrdd. Nid oes amheuaeth na chafodd y ffyrdd tyrpeg gryn effaith ar y modd y defnyddiwyd y dyffryn at ddibenion amaethyddol a diwydiannol. Un a chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith ou creu yn lleol oedd Dr William Worthington, ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant rhwng 1748-78. Un o effeithiau eraill y ffyrdd tyrpeg oedd agor y dirwedd i ymwelwyr o rannau eraill or wlad.

O dan delerau deddfau'r ffyrdd tyrpeg, rhoddwyd yr hawl ir Ymddiriedolwyr gymryd deunyddiau i atgyweirio ffyrdd o unrhyw Dir Comin Diffaith neu Afon heb dalu unrhyw beth amdanynt, ac maen debyg fod llawer or chwareli gro a cherrig llai o faint, anghysbell, a leolid ar dir comin yn agos at ffyrdd tyrpeg ac nad oes llawer o dystiolaeth ysgrifenedig amdanynt yn dyddio o'r adeg hon. Cynrychiola llawer or ffyrdd tyrpeg cynharaf welliant i ffordd a fodolai eisoes yn hytrach na ffordd hollol newydd, ond mewn mannau maen bosibl gweld y llinell a gymerai'r hen ffordd lle y cymerodd y ffordd dyrpeg lwybr ychydig yn wahanol, fel llinell yr hen ffordd i Ben-y-bont Fawr, er enghraifft, sydd ychydig ir gogledd o Benygarnedd. Hefyd cafodd cysylltiadau eu gwellan sylweddol bryd hynny o ganlyniad i adeiladu pontydd cerrig ar hyd y ffyrdd tyrpeg ar draws afon Tanat ai hisafonydd, a gymerodd le pontydd pren cynharach neu rydiau.

Cysylltiadau âr rhwydweithiau afonydd, camlesi a rheilffyrdd
Buasai cost trafnidiaeth bob amser yn hanfodol i ddichonoldeb ariannol gweithrediadau mwyngloddio, ac roedd diffyg cysylltiadau da yn faich parhaus ar y diwydiant mwyngloddio yn Nyffryn Tanat cyn ac ar ôl cyflwynor ffyrdd tyrpeg. Y prif anhawster oedd natur anghysbell y dyffryn, a achosai anawsterau o ran cludor mwyn a broseswyd or mwyngloddiau yn Llangynog, Cwm Orog (ar ochr ogleddol Craig Rhiwarth), a Chraig-y-mwyn (ym mlaen Cwm Rhaeadr) i fwyndoddfeydd a oedd wediu lleoli yn fwy cyfleus yn rhywle arall. Câi peth wmbredd o gyfoeth mwynol Dyffryn Tanat ei gymryd tuar dwyrain, ac eithrior ffosffadau y cloddid amdanynt o bryd iw gilydd rhwng yr 1860au ar 1880au ar safleoedd yn ardal Llangynog ac a gâi eu cludo ar geirt ar draws mynyddoedd y Berwyn i Landrillo lle câir nodylau eu trawsnewid yn wrtaith.

Herbertiaid Castell Powys oedd wedi dechrau mwyngloddio o ddifrif am blwm yn Nyffryn Tanat a hynny tua 1705. Cyrhaeddodd cynhyrchiad ei anterth ym 1737 pan ddaeth yn un o'r mwyngloddiau cyfoethocaf yn y wlad yn ei ddydd, pan gynhyrchwyd cyfanswm o bron 3,000 o dunelli o fwyn. Ymgymerid âr gwaith o doddi mwyn or rhan hon o fwynglawdd Llangynog yn ffwrnais gron yr Ardalydd ar lan afon Hafren yng Ngheir Trallwng, a ddechreuodd gynhyrchu ym 1706, ac a oedd yn lle cyfleus ar gyfer dod â thanwydd i mewn a chludo plwm crai allan ar y dðr. Gorfodid i denantiaid yr Ardalydd ddarparur drafnidiaeth angenrheidiol 15 milltir i ffwrdd ar draws y bryniau trwy Lanfyllin ir de-ddwyrain, gydar bygythiad y caent eu troi allan pe gwrthodent. Yn wreiddiol câir mwyn ei gario ar geirt mewn sachau ond yn ddiweddarach câi ei gario yn rhydd ac roedd y dasg yn arbennig o amhoblogaidd gan y byddair tymor gorau ar gyfer symud y mwyn yn cyd-daro hefyd ag adeg y cynhaeaf.

Yn y 1730au câi mwyn ei gario ar geirt or rhan o fwynglawdd Llangynog a leolid yn y Waun Ddu i Landrinio sef taith o 12 milltir. Yno fei trosglwyddid i gwch camlas ai gludo i lawr yr afon i fwyndoddfeydd yn Benthall. Byddai cludo nwyddau ar afon bob amser yn broses anrhagweladwy, fodd bynnag, ac ym 1761 cafodd llwyth o blwm crai a oedd i gael ei gludo ar yr afon o Geir Trallwng ei rwystro ar ei daith i Fryste am dros ddau fis oherwydd bod y dðr yn isel i fynyr afon. Câi gwahanol nwyddau eraill eu symud hefyd ar hyd y ffordd ac wedyn mewn cychod: yn y 1770au câi llechi Llangynog eu cludo ar geirt i Lanfa Clawdd Coch ar afon Efyrnwy ger Llanymynech ac oddi yno i lawr afon Efyrnwy ac afon Hafren ir Amwythig; cyrhaeddodd cloch newydd ar gyfer yr eglwys ym Mhennant Melangell a brynwyd gan Ffwndri Rudhall, Sir Gaerloyw, ym 1794, mewn cwch a oedd wedi teithio i fyny afon Hafren.

Roedd yn rhaid dod â llawer o nwyddau amrywiol i mewn ir dyffryn hefyd i gynnal y diwydiant mwyngloddio glo, powdwr gwn, canhwyllau, pren, haearn a dur, calch. Bu gostyngiad cyflym ym maint y mwyn plwm a gynhyrchid yn y 1740au, a chaeodd mwyndoddfa Ceir Trallwng or diwedd ym 1762. Roedd mwyndoddfa fach wedii hadeiladu yn Llangynog yn y 1750au ond yn y 1780au ar 1790au anfonid y meintiau llai o fwyn plwm a gâi eu cynhyrchu ir Mwynglawdd.

Ar ôl cwblhau Camlas Sir Drefaldwyn ym 1797 trwyr system gamlesi yr oedd y brif farchnad ar gyfer nwyddau iw chyrraedd er bod afonydd yn dal i gael eu defnyddio ar gyfer masnachu ymhell ar ôl ir gamlas agor gan na fyddain datblygun ddull cludo nwyddau o bwys i ganolbarth ac i dde Lloegr nes iddi gael ei chysylltu âr brif system gamlesi ym 1833. Erbyn y 1860au gellid dwyn llechi o chwareli Llangynog a Chwm Rhaeadr ir pen rheilffordd ym Mhorth-y-waun, gyda rhai or cerbydau ysgafnach yn defnyddior pen rheilffordd yn Llanfyllin. Roedd cael y nwyddau ir farchnad yn parhau i fod yn broblem, fodd bynnag, a gorfodwyd i chwareli llechi Cwm Maengwynedd gau yn y 1870au oherwydd y niwed a achoswyd i ffyrdd o ganlyniad i ddefnyddio peiriant tynnu i lusgor llechi i Borthywaun.

Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat
Adeiladwyd Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat or diwedd rhwng 1899-1904; cysylltai âr pen rheilffordd ym Mhorth-y-waun a ymgysylltai âr rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yng Nghroesoswallt. Yr oedd trafodaeth wedi bod ynghylch a fyddai mantais i adeiladu llinell ar gyfer Dyffryn Tanat ers y 1860au ond aeth gwahanol gynigion, gan gynnwys cynigion cystadleuol gan gorfforaethau Croesoswallt a Llanfyllin, ir gwellt yn rhannol oherwydd y costau a oedd ynghlwm wrthynt. Darparodd Deddf Rheilffyrdd Ysgafn 1896 gyfle ar gyfer project llai costus. Adeiladwyd gorsafoedd neu arosfannau fel yu gelwid yn Nyffryn Tanat yn Llangedwyn, Llanrhaeadr, Pentrefelin, Pedair-ffordd, a Phen-y-bont Fawr, gyda therfynfa yn Llangynog. Adeiladwyd corlannau anifeiliaid wrth ochr nifer or gorsafoedd ac adeiladwyd cyfleusterau arbennig ar gyfer dadlwytho pipau dyfrbont i gronfa Llyn Efyrnwy yng Ngorsaf Pen-y-bont Fawr a Gorsaf Llanrhaeadr.

Yr oeddid wedi gobeithio y byddair rheilffordd yn symbylur diwydiant mwynau lleol a oedd wedi crebachu i gryn raddau erbyn ir rheilffordd agor. Fel y digwyddodd, cynnyrch amaethyddol da byw, pren, grawn a chynnyrch llaeth oedd llawer or nwyddau a gâi eu cludo allan yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac ymhlith y nwyddau a ddeuai i mewn roedd glo, calch, bwydydd anifeiliaid a gwrteithiau; roedd yna hefyd gwasanaeth i deithwyr. Er ir mwyngloddiau metel adfywio rhywfaint, gyda gwaith yn ailgychwyn ym mwynglawdd plwm Cwm Orog rhwng 1908-11, a mwynglawdd Llangynog a weithiwyd ar gyfer plwm ar raddfa fach o 1900-12, mwynglawdd plwm Craig-y-mwyn a weithiwyd ar raddfa fach o 1900-11, roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Llangynog yn rhy hwyr i gael llawer o effaith ar y diwydiant cloddio am fwynau plwm unwaith yr oedd y prif wythiennau wediu dihysbyddu. Rhoddodd y rheilffordd hwb ir diwydiant chwarelu, fodd bynnag, gan gynnwys chwarel lechi Cwm Maengwynedd tan 1910, mwynglawdd Llangynog a weithiwyd am farytes ym 1916, chwarel lechi Gorllewin Llangynog tan 1937, a chwarel lechi Craig Rhiwarth yn Llangynog.

Chwarel cerrig ffordd Llangynog oedd prif gynheiliad y rheilffordd yn y 1920au ar 1950au, a bun gymorth iddi oroesi yn llawer hwy nag y byddai wedi gwneud fel arall. Yn wreiddiol eid âr cerrig ir orsaf ar geffyl a chart, ond yn y 1920au cymerodd y lori godi eu lle. Yn y pen draw arweiniodd y defnydd cynyddol a wneid or ffordd yn hytrach nac or rheilffordd i gludo cerrig yn 1940au a da byw or 1950au at dranc y rheilffordd. Daeth y gwasanaeth i deithwyr i ben ym 1951. Gorffennodd pob gwasanaeth ir gorllewin o Orsaf Llanrhaeadr ym 1952 a chaewyd y llinell gyfan hyd at Gyffordd Blodwel or diwedd ym 1964.

Chwaraeodd y rheilffordd ran bwysig er byrhoedlog yn hanes Dyffryn Tanat. Erbyn hyn maer trac wedii godi ond maer rhan fwyaf o lwybr y rheilffordd wedii gynrychioli o hyd yn y dirwedd gan derfynau caeau, hafnau neu argloddiau a gellir adnabod o hyd safleoedd y rhan fwyaf or gorsafoedd ar arosfannau unigol. Roedd angen ffatri beirianyddol arbennig lle y croesair rheilffordd ddyfrbont Llyn Efyrnwy ir gorllewin o Ben-y-bont Fawr a chafodd rhan o gwrs afon Tanat ei sythu ychydig ir dwyrain o Langedwyn iw hatal rhag tanseilior rheilffordd.

Dyfrbont Efyrnwy
Adeiladwyd y ddyfrbont syn cario dðr yn ddyddiol o Lyn Efyrnwy i Lerpwl ar draws y dyffryn ar gyfer y gronfa ddðr rhwng 1881-92. Maen croesi llawr y dyffryn ger Pen-y-bont Fawr ac yna yn rhedeg ir gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ac Efail-rhyd ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i Ddyffryn Tanat. Maer ddyfrbont wedii chuddio or golwg i raddau helaeth er bod nifer o nodweddion gweladwy ar yr wyneb gan gynnwys falfiau aer, porthdy Cileos, cronfeydd dðr cydbwysol Parc-uchaf, a hafn ddofn ir gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. O ran hanes ffyrdd yn Nyffryn Tanat maen ddiddorol nodi i gwynion gael eu gwneud am ddifrod i ffyrdd lleol pan oedd cronfa ddðr Llyn Efyrnwy yn cael ei hadeiladu.