CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Llansbyddyd
Cymunedau Aberhonddu, Glyn Tarell, Trallong Cynfyn ac Ysgyr, Powys
(HLCA 1170)


CPAT PHOTO 05-C-149

Caeau canolig a mawr ar ffurf reolaidd ar lawr a llethrau isaf dyffrynnoedd Wysg, Ysgyr isaf ac Aberbrân i’r gorllewin o Aberhonddu, gydag anheddau eglwysig canoloesol bach yn Llansbyddyd ac Aberysgyr ac elfennau hanes cludiant cysylltiedig â ffyrdd Rhufeinig, ffyrdd ôl-ganoloesol, a’r rheilffordd.

Cefndir hanesyddol

Mae darganfod bwyell garreg Neolithig ger fferm Pennant yn awgrymu y bu anheddiad a defnydd tir cyn hanes cynnar yma.

Y dyb yw bod ffyrdd Rhufeinig milwrol strategol yn rhedeg tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys) a thua’r de-orllewin i Lanymddyfri (Sir Gâr) o’r gaer Rufeinig yng Nghaer Aberhonddu yn rhedeg trwy’r ardal nodwedd er mai damcaniaethol yw eu cyrsiau gan na ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth adeileddol bendant eto. Mae cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig yn dangos y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri hyd ddiwedd y 3edd ganrif o leiaf. Mae darganfyddiadau Rhufeinig hysbys o bentref Llansbyddyd sydd hefyd yn gallu dangos canolbwynt anheddiad cynnar.

Yn y canol oesoedd cynnar roedd yr ardal yn rhan o Gantref Selyf o fewn teyrnas Brycheiniog oedd, yn dilyn y Goresgyniad Normanaidd dan Bernard de Neufmarché, yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Aberhonddu

Tarddodd yr anheddiad eglwysig plwyfol bach yn Llansbyddyd o’r cyfnod cyn y Goresgyniad, gan ffurfio rhan o faenor Aberhonddu wedyn. Ychydig o hanes cynnar cofnodedig sydd i’r castell pridd a charreg a’r eglwys yn Aberysgyr er eu bod, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o’r cyfnod wedi’r Goresgyniad, yn ddiweddar yn yr 11eg ganrif a’r 12fed ganrif, gyda’r tir yma’n ffurfio maenor a roddwyd gan Bernard de Neufmarché i Syr Hugh Surdwal yn ddiweddar yn yr 11eg ganrif. Roedd esgob Tyddewi yn y canol oesoedd yn dal tiroedd âr yn Aberbrân, sy’n cael ei restru yn Llyfr Du Tyddewi, ac sydd efallai’n amlygu’i hun yn y patrwm caeau llain yn rhan o’r ardal hon.

Ar adeg y Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr ardal yn ddiweddarach yn rhan o Gantref Merthyr o fewn Sir Frycheiniog. Ar ôl hynny ffurfiodd rannau o blwyfi degwm Llansbyddyd, Llansbyddyd Penbont ac Aberysgyr yn y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau canolig a mawr rheolaidd ar lawr a llethrau isaf dyffrynnoedd Wysg ac Ysgyr isaf i’r gorllewin o Aberhonddu, yn bennaf rhwng tua 140 a 160 metr uwchlaw’r môr gyda gwrychoedd o’u hamgylch yn bennaf. Ymddengys bod patrwm caeau yn rhan ddwyreiniol yr ardal, ger Aberbrân a rhwng Llansbyddyd ac Aberhonddu, yn deillio o amgáu ystadenni caeau agored canoloesol. Mae’r rhain yn cynnwys rhai darnau o amaethu cefnen a rhych wedi goroesi efallai o’r canol oesoedd cysylltiedig â’r anheddau hyn.

Y ddau anheddiad bach o amgylch eglwys y plwyf yn Llansbyddyd ac Aberysgyr a ffermydd gwasgaredig o’r canol oesoedd ac wedi hynny sy’n nodweddu anheddiad. Mae eglwys Llansbyddyd, a gysegrwyd i Gatwg Sant, yn dyddio o’r cyfnod cyn y Goresgyniad, gyda philer carreg ym mynwent yr eglwys yn dyddio o’r 9fed neu 10fed ganrif, y tybir iddo nodi bedd Aulach, tad Brychan. Yn ôl pob tebyg roedd mynwent yr eglwys unwaith gryn dipyn yn fwy. Mae’n ymddangos bod y cnewyllyn bach yn Aberysgyr wedi dechrau fel canolfan faenoraidd fechan gyda chastell pridd ac, yn ôl pob tebyg, sefydliad eglwysig perchnogol cysylltiedig â’r faenor a roddwyd i Syr Hugh Sudwal.

Ffermdy bonedd o’r 1830au yw Aberyscir Court, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg fel olynydd i faenordy canoloesol. Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys nifer o gyfadeilau fferm eraill nodweddiadol o garreg wedi’u gwasgaru’n eang ac yn dyddio o’r 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif gynnar sy’n debygol o fod â’u gwreiddiau yn y canol oesoedd neu’n fuan wedi hynny. Mae’r rhain yn cynnwys Pen-y-wern, Penishapentre, Fenni-fach a Phennant, sy’n ffermdai cysylltiedig ag amrywiaeth o dai allan gan gynnwys ysguboriau, stablau, beudai, cytiau certi a granarau, weithiau’n sefyll o gwmpas buarth rhannol amgaeëdig.

Mae tair o bontydd ffyrdd carreg o’r 18fed ganrif i’r 19eg ganrif gynnar yn croesi Afon Brân a’i hisafonydd, Pont-ar-Frân, Pont Aberbrân-fach a Phont Aber-brân, ar hyd ymylon gorllewinol yr ardal.

Mae hen gwrs dymchweledig Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, a orffennwyd erbyn 1872 a’i chau ym 1963, yn croesi ochr ogleddol yr ardal.

Ffynonellau

CAH Rhanbarthol CPAT; Bissell 2001; Brunskill 1999; Burnham 1995; Clough a Cummins 1988; Davies 1982; Davies, D., 1992; Haslam 1979; 2004; Jones, T, 1809; Jones a Smith 1965; Macalister 1949; Nash-Williams 1950; Silvester a Dorling 1993; Silvester a Hankinson 2002; 2003; Thomas 1994

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.