CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Llansbyddyd
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 05-C-151 Llain-gaeau diweddar yn edrych tua’r gogledd i gyfeiriad Fferm Aber-Brân-fach, gyda ffordd fodern yr A40 yn y tu blaen, a Phont Aber-brân yn croesi afon Wysg tuag at y cefndir. Llun: CPAT 05-C-151.

CPAT PHOTO 05-C-156 Golygfa o’r gogledd-orllewin o ben bryn coediog Coed Fenni-fach gyda Chaer Rufeinig Aberhonddu a fferm Y Gaer i’w gweld tuag at y gwaelod ar y dde, a llinell syth y ffordd Rufeinig yn rhedeg tua’r dwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni gan dorri ar letraws tuag at y top ar y dde. Llun: CPAT 05-C156.

CPAT PHOTO 05-C-163 Tirweddau o gaeau ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu. I’r dde eithaf mae’r ffordd i Gradoc. I’r chwith o hyn mae cwrs hen Reilffordd Aberhonddu a Chastell Nedd, gyda ffiniau caeau creiriol yn dangos ad-drefnu tirwedd helaeth yn yr ardal hon ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn dilyn adeiladu’r rheilffordd. Yn rhedeg fwy neu lai’n gyfochrog â hyn mae’r sarn yn arwain at Fferm Pennant sy’n sefyll ar gwrs tybiedig y ffordd Rufeinig o’r Fenni i Gaer Aberhonddu. Ymhellach i’r chwith eto mae’r ffordd fach sy’n arwain at Fferm Fenni-fach, sy’n sefyll ar lan afon Wysg tuag at y top ar y chwith. Mae Newton House, a adeiladwyd oddeutu 1582 gan John Games, Uchel Siryf Sir Frycheiniog, yn y gwaelod ar y chwith. Llun: CPAT 05-C-163 Llun: CPAT 05-C-163.

CPAT PHOTO 05-C-149 Tirwedd o gaeau rheolaidd yn edrych tua’r dwyrain o Aberbrân, gyda fferm Llwyn-y-merched yn y tu blaen. Roedd esgob Tyddewi yn y canol oesoedd yn dal tiroedd âr yn Aberbrân, a gofnodwyd yn Llyfr Du Tyddewi. Mae’n bosibl bod y patrwm llain-gaeau yn yr ardal tuag at y canol yn cynrychioli hyn. Efallai bod y patrymau caeau mwy sgwâr ar y tir sy’n codi i’r chwith yn cynrychioli amgáu canoloesol diweddar. Mae llinell hen Reilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu’n torri ar draws ffiniau caeau cynharach yn y pellter canol. Mae aneddiadau’r Batel a Chradoc i’w gweld yn y cefndir ar y dde. Llun: CPAT 05-C-163 Llun: CPAT 05-C-149.