CPAT logo
Cymraeg/ English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Pen-y-crug
Cymunedau Aberhonddu, Honddu Isaf ac Ysgyr, Powys
(HLCA 1171)


CPAT PHOTO 05-C-149

Tirwedd amrywiol, donnog i’r gogledd ac i’r gorllewin o Aberhonddu gyda chaeau afreolaidd yn bennaf, ac ardaloedd o goetir conwydd a chomin agored ar ben bryniau, a dyffrynnoedd nentydd bach rhyngddynt. Adeileddau amddiffynnol cynhanesyddol a Rhufeinig, gan gynnwys bryngeyrydd mawr Pen-y-crug a Choed Fenni-fach o Oes yr Haearn a Chaer Aberhonddu o adeg y Rhufeiniaid. Elfennau sylweddol o hanes cludiant gan gynnwys y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig yn canolbwyntio ar Gaer Aberhonddu a Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu o ddiwedd y 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae dyddiad y meini hirion amlwg yn Y Batel a Cradoc yn ansicr, er ei bod yn bosib eu bod yn dyddio o Oes yr Efydd. Mae bryngeyrydd Pen-y-crug a Choed Fenni-fach o Oes yr Haearn yn dangos anheddiad a defnydd tir cynnar, yn ogystal â’r gaer Rufeinig a’r anheddiad sifil Rhufeinig cysylltiedig yng Nghaer Aberhonddu, yn dyddio o adeg y gorchfygiad oddeutu 75 OC.

Yn y canol oesoedd cynnar ffurfiai’r ardal ran o Gantref Selyf o fewn teyrnas Brycheiniog oedd, yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Aberhonddu. Nododd y frwydr rhwng Bleddyn ap Maenarch a Rhys ap Tewdwr a Bernard de Neufmarché ym 1093 gwymp y deyrnas frodorol. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr hon yn y caeau i’r de o bentref Y Batel, ond enwyd y fan mewn gwirionedd ar ôl Abaty Battle yn Sussex, oedd yn tynnu incwm o’r plwyf hwn. Roedd eglwys Y Batel, a gysegrwyd i Gynog Sant a’i dogfennu gyntaf yn y 1220au, yn un o gapeli dibynnol Priordy Aberhonddu.

Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr ardal yn ddiweddarach yn rhan o Gantref Merthyr o fewn Sir Frycheiniog. Ar ôl hynny ffurfiodd rannau o blwyfi degwm Aberhonddu Sant Ioan a’r Batel yn y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau afreolaidd canolig i fawr yn bennaf gyda gwrychoedd rhyngddynt, rhwng 140 a 310 metr uwchlaw’r môr, yn cynrychioli amgáu tameidiog ers y canol oesoedd o leiaf. Ardaloedd llai, ar wahân, o gaeau gydag ochrau syth yn awgrymu amgáu neu ad-drefnu’r dirwedd yn y cyfnod ar ôl y canol oesoedd, gydag ardal o borfa comin arw, heb ei gwella, ar Ben-y-crug. Coetir yng Nghoed Fenni-fach ac ar hyd glan ogleddol afon Wysg, gan gynnwys rhywfaint o goetir collddail lled-naturiol ac ailblanedig a phlanhigfeydd conwydd yn dyddio o’r 18fed ganrif ddiweddar i’r 20fed ganrif yn ôl pob tebyg.

Mae’r ddwy fryngaer fawr yn eu lleoliad strategol ym Mhen-y-crug a Choed Fenni-fach yn dangos anheddiad a defnydd tir cynhanesyddol diweddarach yn yr ardal, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli canolfannau llwythi yn Oes yr Haearn cysylltiedig â llwyth brodorol y Silwriaid.

Adeiladwyd Caer Aberhonddu, sy’n gaer Rufeinig nodweddiadol, yng nghyfnod y goresgyniad yn dilyn darostwng llwyth brodorol y Silwriaid oddeutu 75 OC. Ychwanegwyd amddiffynfeydd carreg yn gynnar yn yr ail ganrif a datblygodd anheddiad sifil ynghlwm wrth y gaer. Mae’n ymddangos y gostyngwyd maint garsiwn y gaer erbyn canol yr ail ganrif er bod tystiolaeth o weithgaredd o ryw fath, efallai o natur sifil, yn parhau i’r 4edd ganrif ddiweddar o leiaf. Efallai bod safle clostir ôl cnwd tua 300 metr i’r gorllewin o Gaer Aberhonddu’n cynrychioli gwersyll ymarfer milwrol Rhufeinig.

Safai Caer Aberhonddu ar ganolbwynt cyfundrefn o ffyrdd Rhufeinig milwrol strategol, yn rhedeg tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys), tua’r gogledd i gyfeiriad Llandrindod, tua’r de-ddwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni (Sir Fynwy), tua’r gogledd-ddwyrain i Kenchester (Swydd Henffordd) a thua’r de-orllewin i Lanymddyfri (Sir Gaerfyrddin). Mae cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig yn dangos y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri tan yn ddiweddar yn y 3edd ganrif o leiaf a’r ffordd rhwng Caer Aberhonddu a’r Fenni hyd at ganol y 4edd ganrif o leiaf. Mae rhannau o gwrs pob un o’r ffyrdd hyn yn hysbys o waith maes neu gloddio er mai damcaniaethol yw darnau eraill.

Cynrychiolwyr anheddu diweddar yw’r anheddiad eglwysig cnewyllol bach o’r canol oesoedd yn Y Batel, yr aneddiadau cnewyllol bach sydd wedi tyfu ar gyffyrdd neu ger pontydd fel yn Cradoc a Phont-yr-Ysgyr ar ôl y canol oesoedd, a ffermydd gwasgaredig cymharol fawr gyda thai a bythynnod gwasgaredig eraill yma ac acw, rhai ohonynt efallai’n deillio o’r canol oesoedd. Enghreifftiau o gyfnod blaenorol o dai bonedd yw ffermdy Gaer House, adeilad ffrâm bren o’r 16eg-canrif yn ôl pob tebyg, yr ychwanegwyd adain garreg ato’n ddiweddarach. Ym Mhen-y-crug mae casgliad o adeiladau carreg nodweddiadol o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif gan gynnwys ffermdy, ysgubor, beudy a storfa goed. Fila carreg wedi’i rendro yw Lake House o’r 19eg ganrif ddiweddar ar lan orllewinol Llyn Gludy, a adeiladwyd fel bwthyn arddull y Swistir neu’r Alpau.

Mae hen chwareli carreg bach gwasgaredig ar gyfer carreg adeiladu, a’r hen waith brics a theils ar lethrau deheuol bryngaer Pen-y-crug, yn cynrychioli gweithgaredd diwydiannol yn yr ardal. Roedd y bryngaer, yn ôl pob tebyg, yn cyflenwi deunyddiau adeiladu i dref Aberhonddu oedd yn ehangu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, gan ddod i ddiwedd ei oes unwaith yr oedd modd cyflenwi deunyddiau adeiladu i Aberhonddu ar y trên, o’r 1860au ymlaen.

Mae hen gwrs Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, a orffennwyd erbyn 1872 a’i chau ym 1963, yn croesi ochr ogleddol yr ardal.

Ffynonellau

HER Rhanbarthol CPAT; Cronfa ddata Adeiladau Rhestredig Cadw; Charles 1938; Burnham 1995; Casey 1970; Craster 1954; Davies 1981; Davies 1999; Fenton 1917; Glynne 1886; Haslam 1979; Hogg 1965; Jarrett 1969; Jones 1909; King 1959; Jones a Smith 1965; Lewis 1833; Martin a Walters 1993; Maxwell a Wilson 1987; Morgan a Powell 1999; Parry 1985; CBHC 1997; Rivet a Smith 1979; Silvester a Dorling 1993; Wheeler 1926; Waller 2000

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.