Cymraeg / English
|
Nodweddu'r Dirwedd HanesyddolCanol Dyffryn Wysg: Pen-y-Crug
|
Golygfa o’r gorllewin o anheddiad eglwys y Batel a ddogfennwyd gyntaf ar gychwyn y 13eg ganrif, gyda The Pool i’r dde. Y gred draddodiadol yw bod y frwydr â arweiniodd at orchfygu teyrnas Brycheiniog ym 1093 wedi digwydd yn y caeau yn y pellter canol, i’r de o’r pentref, efallai ar sail yr enw lle, er bod yr anheddiad wedi’i enwi ar ôl Abaty Battle yn Sussex, oedd yn tynnu incwm o’r plwyf. Mae’n bosibl bod y patrwm cefnen a rhych sydd i’w weld yn y caeau hyn o darddiad canoloesol. Llun: CPAT 05-C-146. |
Golygfa o’r de-orllewin o gloddiau a ffosydd lluosog bryngaer Pen-y-crug o Oes yr Haearn, ar dir comin i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu. Mae olion yr hen byllau clai a gwaith brics a theils yn gorwedd yn ardal y rhedyn a phrysgwydd ychydig i’r dde o’r fryngaer. Llun: CPAT 05-C-141. |