CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Aberhonddu
Cymuned Aberhonddu, Powys
(HLCA 1172)


CPAT PHOTO 05-C-174

Anheddiad cnewyllol mawr o’r canol oesoedd ar lan afon Wysg, a sefydlwyd gyntaf ar ddiwedd yr 11eg ganrif ochr yn ochr â’r castell a adeiladwyd gan Bernard de Neufmarché yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, yn ddiweddarach yn dod yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru yn yr 17eg ganrif a phrif dref Sir Frycheiniog. Daliodd i ehangu a datblygu fel canolfan fasnachol a gweinyddol ranbarthol bwysig drwy gydol y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o’i sefyllfa fel canolbwynt rhwydweithiau ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd pwysig yn rhanbarthol. Yn ddiweddarach, bwriwyd pwysigrwydd y dref i’r cysgod yn ddiwydiannol ac yn economaidd gan gynnydd chwim diwydiannol trefi a dinasoedd de Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Early prehistoric settlement and land use is suggested by the find of a Neolithic stone axe near Pennant farm.

Strategic military Roman roads running southwards in the direction of Ystradgynlais (Powys) and south-westwards to Llandovery (Carmarthenshire) from the Roman fort at Brecon Gaer are thought to run through the character area although their courses are speculative since no certain surviving structural evidence has yet been found. Inscribed Roman milestones indicate that the road between Brecon Gaer and Llandovery was maintained into at least the later 3rd century. Roman finds are known from the village of Llanspyddid which may also indicate an early settlement focus.

Nifer o ddarganfyddiadau ar hap o Oes yr Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid sy’n awgrymu anheddiad a defnydd tir cynnar yng nghyffiniau’r dref. Y dyb yw bod y ffordd Rufeinig o Gaer Aberhonddu i’r Fenni’n rhedeg ar hyd glan ogleddol afon Wysg, trwy’r ardal lle mae’r dref erbyn hyn, ond ni chafwyd tystiolaeth ffisegol o’i phresenoldeb hyd yma. Mae yna dystiolaeth ddogfennol i awgrymu bod eglwys adfeiliedig neu anghyfannedd o gyfnod cyn y Normaniaid wedi sefyll ar safle priordy Benedictaidd diweddarach. Er bod statws yr eglwys gynnar hon ac unrhyw anheddiad seciwlar cysylltiedig yn ansicr, awgrymwyd y gall fod wedi bod o darddiad mynachaidd gyda llan (‘clostir’) crwn o’i hamgylch.

Yn ôl pob tebyg sefydlwyd castell pridd a phren ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu’n gynnar yn y 12fed ganrif gan yr arglwydd Normanaidd, Bernard de Neufmarché, yn fuan ar ôl goresgyniad teyrnas Brycheiniog ym 1093, a ddaeth yn ganolfan weinyddol arglwyddiaeth mers newydd Brycheiniog. Roedd sefydliadau crefyddol cysylltiedig â’r anheddiad cynnar yn cynnwys capel o fewn y castell a gysegrwyd i Sant Nicolas a’r priordy Benedictaidd a sefydlwyd i’r gogledd o’r castell cyn 1106. Roedd yn cynnwys eglwys y priordy a gysegrwyd wedyn i Ioan Efengylydd. Yn fuan ar ôl ei sefydlu rhoddwyd tiroedd iddi yn arglwyddiaeth Abaty Battle (Sussex). Fel eglwysi mynachaidd mewn mannau eraill, defnyddiwyd eglwys y priordy hefyd fel eglwys y plwyf ac, o’r 15fed ganrif gynnar, daeth i ddwyn yr enw Eglwys y Grog ar ôl y groglen addurnol a ddenai bererinion i’r eglwys.

Daw Aberhonddu, enw Cymraeg y dref, o Afon Honddu sy’n ymuno ag afon Wysg ger canol y dref ac yn rhannu rhan ddwyreiniol y dref o’r gorllewin. Talfyriad o’r enw Brycheiniog neu ei ddeilliadau Saesneg neu Ladin yw Brecon, yr enw Saesneg. Aeth yr anheddiad dan warchae Llywelyn ab Iorwerth ym 1217 a’i diffeithio ganddo ym 1231 a 1233. Ailgodwyd ef wedyn a chafodd amddiffynfeydd o ddechrau i ganol y 13eg ganrif efallai, a derbyniodd gyfres o siarteri yn y cyfnod rhwng 1276 a 1517. Daeth yn ganolfan grefyddol bwysig yn rhanbarthol, gan ffurfio canolbwynt archddiaconiaeth Aberhonddu. Cipiodd Llywelyn ap Gruffudd y castell dros dro yn rhyfel annibyniaeth Cymru ym 1263. Ymosodwyd arno eto ym 1404 yn ystod gwrthryfel Glyndŵr.

Dynodwyd y dref yn un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru yn Neddf Uno 1536 ac, yn ystod y 1540au, atodwyd Coleg Crist, coleg seciwlar ac ysgol ramadeg at y mynachdy Dominicaidd, a sefydlwyd erbyn canol y 13eg ganrif, ei heglwys wedi’i chysegru i Sant Nicolas. Diddymwyd y mynachdy Dominicaidd a’r priordy Benedictaidd ym 1537-38, ond parhaodd eglwys y priordy wedyn fel eglwys y plwyf a dod yn eglwys gadeiriol ym 1923 pan grëwyd esgobaeth newydd Abertawe ac Aberhonddu. Parhaodd y dref i ffynnu o’r 16eg ganrif i’r 18fed ganrif, i ddechrau dan ddylanwad y fasnach wlân, ac yn ôl disgrifiad George Owen ym mlynyddoedd cynnar yr 17eg ganrif roedd yn ‘a bigge towne faire built’. Ehangodd ymhellach fel canolfan fasnachol, ddiwydiannol, gyfreithiol, weinyddol a barnwrol ac fel tref garsiwn milwrol yn ddiweddarach yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Ehangodd y dref mewn ymateb i ddatblygiad y rhwydwaith ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif, dyfodiad y gamlas ar ddechrau’r 19eg ganrif, a thramffyrdd a rheilffyrdd yn ystod y 19eg ganrif. Parhaodd i fod yn brif dref amlwg y sir o’i lleoliad daearyddol yng nghanol dyffryn Wysg, ond dirywiodd ei phwysigrwydd cenedlaethol o ddiwedd y 19eg ganrif yn dilyn twf maes glo de Cymru ac ehangu porthladdoedd y de. Parhaodd Aberhonddu i fod yn brif dref Sir Frycheiniog hyd nes crëwyd sir newydd Powys ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac mae’n dal yn ganolfan weinyddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ddynodwyd ym 1957.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Saif tref Aberhonddu ar fwa llifwaddod wedi’i ddyddodi gan afon Honddu yn y fan lle roedd yn cyrraedd gwastadedd afon Wysg. Yn ddiweddarach torrodd afon Honddu drwy’r bwa llifwaddod ac mae bellach yn ffurfio rhan o rodfa goediog yn dwyn yr enw Priory Groves. Mae Aberhonddu mewn sefyllfa bwysig ar gymerau afonydd Wysg, Honddu a Tharell. Mae amryw fannau ffrydio hanesyddol pwysig ar draws afon Wysg yma y mae’n dal i fod yn bosib eu defnyddio pan fydd yr afon yn isel. Canolwyd yr anheddiad gwreiddiol ar y castell tomen a beili pridd cynnar a’r priordy Benedictaidd (eglwys gadeiriol Sant Ioan yn ddiweddarach) ar lan ogleddol afon Wysg, i’r gorllewin o Afon Honddu. Ailadeiladwyd y tŵr pren gwreiddiol mewn carreg i ffurfio’r gorthwr sy’n dal yno’n rhannol (Tŵr Ely) oddeutu diwedd y 12fed ganrif. Mae’r cysylltfur, tyrau a phyrth yn rhannau eraill o’r amddiffynfeydd a ailadeiladwyd mewn carreg hefyd yn y cyfnod hwn neu yn y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif. Roedd rhannau o’r rhain yn dal yn weladwy yng nghanol y 18fed ganrif ond nid ydynt mwyach i’w gweld uwchlaw’r tir. Defnyddiodd adeiladau carreg cynnar ddeunyddiau adeiladu Rhufeinig a gymerwyd o Gaer Aberhonddu, fymryn dan 4 cilometr i’r gorllewin.

Ar ôl hynny trefnwyd prif ardal y fwrdeistref ganoloesol i’r dwyrain o Afon Honddu, yn ôl pob tebyg ar dir amaeth blaenorol, gyda chraidd masnachol presennol y dref yn dal i adlewyrchu patrwm strydoedd y dref ganoloesol, gan gynnwys triongl mawr a ddefnyddiwyd fel sgwâr y farchnad. Codwyd amddiffynfeydd ar gyfer rhan ddwyreiniol hon y dref rhwng dechrau a chanol y 13eg ganrif efallai, oedd yn cynnwys muriau’r dref gyda thyrau bob hyn a hyn a phyrth ym Mhorth Struet i’r gogledd, Porth Watton i’r dwyrain, Porth y Bont neu Borth y Gorllewin yn arwain at bont ar draws afon Wysg, a Watergate yn arwain at bont ar draws afon Honddu i’r gogledd-orllewin. Yn ôl pob tebyg, mae Eglwys y Santes Fair, yng nghanol y dref, yn dyddio o’r 12fed ganrif ddiweddar, ond ni ddaeth yn eglwys y plwyf tan 1923. Mae’n ymddangos bod amddiffynfeydd y dref yn dal yn eithaf cyfan ar ddechrau’r 17eg ganrif ond, ynghyd â’r castell, dinistriwyd hwy’n rhannol yn ystod y Rhyfel Cartref yn y 1640au. Gorchmynnwyd dymchwel nifer o’r pyrth canoloesol ym 1775 i wella llif traffig. Gall maestref ddeheuol Llanfaes, i’r de o afon Wysg, fod wedi datblygu erbyn diwedd y 12fed ganrif. Cysegrwyd eglwys bresennol y plwyf a chapel blaenorol i Ddewi Sant yn Llanfaes ac maent wedi bodoli ers yr 1180au o leiaf, ar safle’r eglwys bresennol a godwyd ym 1924. Sefydlwyd ysbyty a chapel canoloesol a gysegrwyd i Santes Catrin hefyd ar gyrion dwyreiniol y dref ger y Watton, ond mae’n ymddangos eu bod wedi diflannu uwchlaw’r tir erbyn diwedd yr 17eg ganrif.

Mae olion canoloesol gwych yn y castell, yr eglwys gadeiriol a llety’r abad, eglwys y Santes Fair ac yng Ngholeg Crist ond ychydig o dystiolaeth sydd erbyn hyn uwchlaw’r tir o gartrefi’r canol oesoedd. Saif y castell yn yr ongl rhwng afon Wysg ac afon Honddu gyda phont dros afon Honddu’n ei gysylltu â’r dref. Mae olion y castell yn cynnwys twmpath, gydag adfeilion gorthwr o’r 12fed ganrif ddiweddar; ynghlwm wrth Westy’r Castell heddiw mae adfeilion y neuadd fawr o tua 1280. Mae llinell muriau’r dref yn aros, ond mae dadl ynghylch faint ohonynt sydd o’r canol oesoedd. Mae darnau y tu ôl i swyddfeydd y cyngor yn y Gwrthglawdd, a hefyd yn Rhodfa’r Capten (yn ogystal â phorth yno) yn henebion rhestredig, ond mae astudiaeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn amau a ydynt o’r canol oesoedd. I’r gogledd o’r canol hanesyddol mae libart amgaerog yr eglwys gadeiriol yn ffurfio un o’r grwpiau canoloesol pwysicaf yng Nghymru. Sefydlwyd eglwys Ioan Fedyddiwr y priordy Benedictaidd ym 1093, ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 13eg ganrif a’r 14eg ganrif. Er ei bod allan o ganol y dref, hon oedd eglwys y plwyf yn cynnwys capeli urddau’r dref ac mae ynddi gofebion angladdol pwysig. Mae adeiladau cwfeiniol yn cynnwys y Canondy, yn rhannol ar linell cloestr canoloesol gyda rhywfaint o adeiledd hynafol, a’r Deondy sy’n ymgorffori Llety’r Esgob o’r canol oesoedd ac efallai neuadd gwesteion. Mae rhywfaint o adeiledd canoloesol yn yr Elusenfa hefyd ond, er bod y porth cyfagos o’r canol oesoedd, gall muriau’r libart fod mor ddiweddar â’r 18fed ganrif. Daeth y Priordy yn eglwys gadeiriol ym 1923 pan drosglwyddwyd ei swyddogaethau plwyfol i Eglwys y Santes Fair. Yn wreiddiol roedd eglwys ganoloesol y Santes Fair yn gapel anwes i eglwys Sant Ioan, ac mae ei thŵr gwych, sy’n dyddio o 1510-20, yn tremio dros ganol y dref.

Mae’r adeiladau sy’n goroesi yn awgrymu cyfnod o ddatblygiad chwim rhwng 1570 a 1630, ac eto o chwarter olaf yr 17eg ganrif am ryw 50 mlynedd. Dilynwyd cyfnod arafach yng nghanol y 18fed ganrif gan ymchwydd rhwng tua 1790 a 1850. Mae’r patrwm hwn yn gyffredin i lawer o drefi gwledig yng Nghymru a Lloegr. Mae’r adeiladau’n rhoi argraff at ei gilydd o hanes maith o ffyniant wrth i Aberhonddu gyflawni swyddogaethau traddodiad prif dref y sir, canolfan amaethyddol a thref garsiwn (datblygwyd y Barics yn gynnar yn y 19eg ganrif). Goroesodd tai tref y bonedd yn enwedig yn Lion Street, Y Struet a Stryd Morgannwg. Yn Aberhonddu mae tu mewn rhai o'r tai yn arbennig o braf gan gynnwys paneli a grisiau eithriadol o ddechrau’r 17eg ganrif i ganol y 19eg ganrif. Cynhaliwyd dawnsiau a pherfformiadau theatraidd yn y dref (yma ganed Sarah Siddons, yr actores drasig enwog, ym 1755). Mae cragen theatr wedi goroesi yn ogystal ag ‘ystafelloedd mawr’ tafarnau lle cynhaliwyd dawnsiau a pherfformiadau. Yn bensaernïol, mae’r dref yn rhoi argraff at ei gilydd o fod yn Sioraidd ei chymeriad, gyda ffenestri dalennog â chwarelau bach, fframiau drysau â manylion clasurol, a rendrad llyfn yn aml, ond oherwydd ffyniant parhaus y dref cafwyd ailadeiladu cyson fel bod llawer o’r adeiladau yn y canol hanesyddol yn cynnwys darnau o adeiladau cynharach ar eu safleoedd.

Ar ôl y canol oesoedd ehangodd y dref tu hwnt i’w therfynau canoloesol, yn enwedig yn ardal Pendre i’r gogledd-orllewin, yn ardal Llanfaes i’r de-orllewin ac yn ardal Dering Lines i’r dwyrain, yn ôl pob tebyg ar ben ardaloedd blaenorol o amaethu caeau agored yn y canol oesoedd, a hynny’n gysylltiedig â’r dref ganoloesol. Mae’n ymddangos bod olion amaethu cefnen a rhych yn y meysydd chwarae yn union i’r de o Goleg Crist, ac awgrym o oroesiad patrwm o lain-gaeau yn ardal y meysydd chwarae i’r de o’r Watton, ar y tir gwastad i’r gogledd o afon Wysg, yn dynodi’r caeau agored hyn o fewn y ffiniau a dynnwyd o’r ardal nodwedd. Bellach mae tir isel yng nghyffiniau Llanfaes, oedd gynt yn gorlifo’n aml, wedi’u gwarchod ag amddiffynfeydd rhag llifogydd a godwyd ym 1983.

Mae adeiladau a threfweddau’r dref yn gofnod gwerthfawr o’i hanes economaidd a chymdeithasol. Mae’n amlwg bod elfen o haenu cymdeithasol eisoes wedi datblygu yn y dref erbyn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, cyfnod yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn y dref, gan arwain at bresenoldeb tai tref mawr a mwy cefnog yn Stryd Morgannwg, er enghraifft, a thai gweithwyr gyda ffryntiadau culach i’r stryd yn Ship Street a rhannau o Lanfaes. Daeth y dref yn ganolbwynt pwysig i addoli anghydffurfiol o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen, gyda chapeli o’r 19eg ganrif gynnar a diweddarach wedi goroesi yn y dref, rhai ohonynt a droswyd bellach i’w defnyddio at ddibenion eraill, gan gynnwys Capel Bethel (1852), Plough Chapel (1841) a Chapel y Presbyteriaid (1866) yn y Watton.

Cymharol ychydig sydd o olion gweladwy hanes pwysig cludiant a diwydiant Aberhonddu. Amryw bontydd neu safleoedd pontydd o’r canol oesoedd ar draws afon Wysg ac afon Honddu sydd wedi goroesi yn y dref, gan gynnwys Pont ar Wysg, Pont y Castell, Pont Watergate a Phont y Priordy. Mae Pont ar Wysg â’i 7 bwa’n dyddio o 1573, er iddi gael ei haddasu ym 1794 ac 1801. Datblygodd nifer o dafarnau fel y Castell, y Bell, Gwesty Wellington a’r Llew Aur fel tafarnau’r goets ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn dilyn datblygu’r rhwydwaith ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Roedd Camlas Mynwy a Brycheiniog (Camlas Aberhonddu a’r Fenni erbyn hyn), a agorwyd ym 1800, yn arbennig o bwysig wrth gludo a dosbarthu glo a chalch o dde Cymru. Roedd yn terfynu mewn casgliad o lanfeydd, dociau sych, cwt calch ac adeiladau eraill yn y Watton, y rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn wedi diflannu ar wyneb y tir. Yn yr un modd, ychydig o olion oes y tramffyrdd a’r rheilffyrdd sydd yn Aberhonddu bellach, lle agorwyd Tramffordd y Gelli ym 1818, Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu ym 1862, Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr ym 1865 a Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu ym 1872. Ar y dechrau agorodd Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr orsaf yn y Watton (ar safle swyddfeydd heddiw) ac agorodd Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu orsaf dros dro yn Mount Street ond, wedyn, agorwyd gorsaf ar y cyd yn Free Street ym 1871 (ar safle’r orsaf dân heddiw). Daeth traffig masnachol ar y gamlas i ben yn y 1930au ond mae’n dal yn ganolbwynt pwysig i dwristiaeth a gweithgareddau hamdden. Gorffennodd y rheilffyrdd gludo nwyddau a theithwyr yn y 1960au cynnar.

Mae safleoedd diwydiannol cysylltiedig â defnyddio pŵer dŵr yn cynnwys safleoedd amryw felinau dŵr cynnar ar afon Wysg ac afon Honddu ac yn tarddu o’r canol oesoedd, gan gynnwys y felin ŷd a melin frag yn dwyn yr enw Melin y Castell neu Felin Honddu, melin lifio flaenorol islaw Pont y Castell ar afon Honddu, a safle hen bandy, sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn, ger Pont y Priordy. Sefydlwyd odynau calch ar ymyl y gamlas mewn nifer o fannau ar hyd ymylon deheuol y dref.

Ffynonellau

Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; Alban a Thomas 1993; Bacon 1995; Beresford 1988; Burnham 1995; Carter 1965; Charles 1938; Colvin 1963; Cowley 1977; Creighton a Higham 2005; Davies 1992; Davies 2000; Gant 1972; Glynne 1887; Griffiths 1978; Gwynne-Jones 1992; Hadfield 1967; Haslam 1979; Jones, T. 1909-40; King 1961; Knowles a Hadcock 1971; Jepson 1997; Lewis 1833; Lloyd 1903; McPeake a Moore 1978; Morgan 1989; Morgan a Powell 1999; Norris 1991; Parri 2003; Parry 1981; 1985; 1991; Plowman a Smith 1992-93; Poole 1886; Powell 1993; RCAHMW 1994; Redwood 2000; Rees 1916; Silvester 1993; Silvester a Dorling 1993; Smith 1906; Soulsby 1983; Taylor 1951; Thomas 1967; Thomas 1991; 1993; Turner 1971; Walker 1993

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.