CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Llan-ddew
Cymunedau Aberhonddu a Llan-ddew, Powys
(HLCA 1173)


CPAT PHOTO 05-C-121

Tirwedd o gaeau tonnog isel i’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu, yn cynnwys caeau rheolaidd mawr i ganolig, yn ôl pob tebyg o darddiad canoloesol a diweddarach, ynghyd â phentref canoloesol crebachog Llan-ddew a nifer o ffermydd mwy a gwasgaredig iawn o’r cyfnod ar ôl y canol oesoedd a bryngaer a chlostir efallai o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach.

Cefndir hanesyddol

Yn ôl pob tebyg mae Twmp Slwch, bryngaer fawr a safle clostir cyfagos a leolwyd yn strategol ychydig i’r dwyrain o Aberhonddu, yn dangos anheddu cynhanesyddol diweddarach, y fryngaer yn ôl pob tebyg yn cynrychioli canolfan llwyth yn Oes yr Haearn. Y dyb yw bod y ffordd Rufeinig o Gaer Aberhonddu i Kenchester (Swydd Henffordd) yn croesi ochr ogleddol yr ardal ac yn mynd trwy Lan-ddew ond, hyd yma, ni chafwyd tystiolaeth ddiriaethol o’i bodolaeth yn yr ardal nodwedd, nac ychwaith unrhyw dystiolaeth arall o weithgaredd Rhufeinig. Y gred yw y sefydlwyd eglwys yn Llan-ddew erbyn oddeutu dechrau’r 6ed ganrif oedd, erbyn y canol oesoedd cynnar cyn y goresgyniad, wedi dod yn eglwys glas — sef canolfan eglwysig o amlygrwydd rhanbarthol.

Yn y canol oesoedd cynnar roedd yr ardal yn rhan o Gantref Selyf o fewn teyrnas Brycheiniog oedd, yn dilyn y goresgyniad Normanaidd dan Bernard de Neufmarché, yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Aberhonddu. Sefydlwyd castell carreg a phalas yn perthyn i esgob Tyddewi yn Llan-ddew yn y 12fed ganrif, yn gysylltiedig â rheoli maenor esgobol yn yr ardal a barhaodd tan y Diwygiad Protestannaidd yng nghanol yr 16eg ganrif. Sefydlwyd castell pridd hefyd yn Alexanderstone ar ymyl dwyreiniol yr ardal nodwedd, efallai yn ystod yr 11eg ganrif i’r 12fed ganrif, a all fod wedi ffurfio un o nifer o ystadau llai a sefydlwyd yn yr ardal yn dilyn y goresgyniad. Cofnodwyd yr enw Alexanderstone gyntaf yn ddiweddar yn y 14eg ganrif. Mae’n deillio o enw personol gyda’r ôl-ddodiad Saesneg -ton yn dynodi fferm neu anheddiad.

Yn dilyn y Ddeddf Uno, ffurfiodd yr ardal ran o Gantref Pencelli. Wedyn ffurfiodd rannau o blwyfi degwm Llan-ddew, Aberhonddu Sant Ioan, Aberhonddu Santes Fair a Llanhamlach yn y 19eg ganrif.

Mae’r hanesydd Theophilus Jones o Sir Frycheiniog yn cofnodi y bu nifer o’r tirfeddianwyr mwy yn gwella’u tiroedd yn helaeth yng nghyffiniau Llan-ddew yn ystod y 18fed ganrif ddiweddar.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd wledig yn bennaf o gaeau rheolaidd mawr a chanolig gyda gwrychoedd rhyngddynt, yn gyffredinol rhwng 150 a 260 metr uwchlaw’r môr. Mae rheoleidd-dra cyffredinol patrwm y caeau drwy’r ardal gyfan, ynghyd â rhai llain-gaeau a chaeau gyda ffiniau trocam a phresenoldeb rhai gweddillion cefnen a rhych o gwmpas Llan-ddew a ger Alexanderstone yn awgrymu y gall cyfran helaeth o batrwm y caeau yn yr ardal ddeillio o amgáu a chyfuno ystadenni maes agored canoloesol cysylltiedig â thref Aberhonddu, y faenor esgobol yn Llan-ddew a maenorau seciwlar eraill llai yn y canol oesoedd diweddarach neu’n gynnar wedi’r canol oesoedd.

Mae’n ymddangos y canolbwyntiodd anheddu yn y canol oesoedd a’r canol oesoedd cynnar ar y ganolfan faenoraidd eglwysig fwy yn Llan-ddew a’r ganolfan lai yn Alexanderstone. Efallai bod pentref bach Llan-ddew wedi cadw’i gynllun canoloesol. Mae’r eglwys groesffurf fawr gyda thŵr canolog yn dyddio o’r 13eg ganrif ond y gred yw iddi ddechrau fel canolfan grefyddol o’r 6ed ganrif. Mae’n sefyll mewn mynwent fawr gromliniol gyda chlawdd sych yn ffurfio rhan o’i therfyn. Rhoddwyd siarter marchnad i’r anheddiad oddeutu 1290 ac roedd yn helaethach yn y canol oesoedd na heddiw yn ôl pob tebyg, gyda llwyfannau adeiladau sydd bellach yn segur.

Esgobion Tyddewi adeiladodd y castell carreg i’r gogledd-ddwyrain o ganol y pentref yn ystod y 12fed ganrif fel preswylfa archddiacon Aberhonddu. Bu Gerallt Gymro, archddiacon Aberhonddu, yn byw yno ar ddiwedd y 12fed ganrif ond roedd yn adfail erbyn 1550. Mae’n gysylltiedig â ffynnon a briodolwyd yn draddodiadol i’r 14eg ganrif, mewn cilfach fwaog yng nghysylltfur y de-orllewin, bellach gyda phwmp llaw haearn bwrw o’r 19eg ganrif. Mae olion cloddwaith pyllau pysgod oedd, yn ôl pob tebyg, yn gysylltiedig â phreswylfa’r esgobion i’w gweld i’r de-ddwyrain o’r eglwys. Mae cloddwaith cyfundrefn gaeau helaeth, gan gynnwys rhai safleoedd tai a cheuffordd sylweddol, yn y cae rhwng canol y pentref a Llan-ddew Court sydd, yn ôl pob tebyg, yn olion cyfundrefn llain-gaeau canoloesol ac o beth arwyddocâd rhanbarthol. Mae rhagor o gloddweithiau’n dangos cyfundrefnau caeau canoloesol i’w gweld i’r gogledd-orllewin, i’r gogledd ac i’r de o ganol y pentref, yn ymestyn y tu hwnt i fferm Standel. Mae lleiniau tai o fewn yr anheddiad a adawyd ers canol y 19eg ganrif yn awgrymu proses o ddiboblogi gwledig cymharol ddiweddar.

Mae nifer cymharol fach o ffermydd gwasgaredig, mwy, o fewn yr ardal nodwedd. Mae’r ffermdy bonedd mawr yn Alexanderstone yn dyddio o’r 17eg ganrif ond, yn ôl pob tebyg, mae ar safle maenordy cynharach, sy’n gysylltiedig â chloddwaith castell a oedd yn wreiddiol yn gysylltiedig â chanolfan faenoraidd ganoloesol a sefydlwyd ar ôl y goresgyniad Normanaidd yn ôl pob tebyg. Mae gweddillion llwyfannau adeiladau ac amaethu cefnen a rhych yn yr ardal yn union o amgylch yn perthyn i’r ganolfan hon yn ôl pob tebyg. Ffermdy bonedd yw Fferm Slwch a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif gynnar sydd, ynghyd â thair rhes o dai allan carreg nodweddiadol o ddiwedd y 18fed ganrif i ganol y 19eg ganrif o amgylch buarth, gan gynnwys cilfachau certi ac anifeiliaid a thaflod. Tŷ o ddiwedd yr 17eg ganrif i’r 18fed ganrif yw Fferm Ffynnonau, gyda muriau rwbel carreg trwchus nodweddiadol.

Cofnodwyd Capel y Santes Elyned, capel canoloesol, amhlwyfol i’r gorllewin o Fferm Slwch, gyntaf yn gynnar yn y 12fed ganrif. Mae’n gysylltiedig â ffynnon a safle clostir efallai, y cofnodwyd rhywfaint o’i adeiledd carreg yn gynnar yn y 19eg ganrif.

Mae nifer o olion ansylweddol ond nodweddiadol diwydiannau cefn gwlad o fewn yr ardal nodwedd gan gynnwys chwareli cerrig gwasgaredig yn dyddio o’r canol oesoedd neu’n ddiweddarach ar gyfer carreg adeiladu, fel y chwareli cerrig gadawedig oddi mewn i fryngaer Twmp Slwch, olion melin ŷd ddŵr Felin Cwm Anod o’r 19eg ganrif a chynharach, yn ôl pob tebyg, ar afon Honddu ar ffin orllewinol yr ardal.

Ffynonellau

Rhestrau Adeiladau Rhestredig Cadw; Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; Burnham 1995; Charles 1938; Dorling 1999; Emery 2000; Haslam 1979; Jones, T, 1909; Jones N W 1991; 1993; Jones a Bailey 1909; King 1959; Martin a Walters 1993; Morgan a Powell 1999; Owens 1993; Rees 1993; CBHC 1986; Silvester 1993; Silvester 1997; Smith, L T, 1906; Smith, P, 1988; Smith a Jones 1965; Westwood 1885; Williams 1976

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.