Cymraeg / English
|
Nodweddu'r Dirwedd HanesyddolCanol Dyffryn Wysg: Llan-ddew
|
Golygfa o’r de o’r groesffordd ar ganol pentref Llan-ddew. Mae’r eglwys groesffurf ganoloesol ar y chwith i’r groesffordd ac, yn y cae y tu hwnt i hyn, mae cloddwaith sy’n cynrychioli pyllau pysgod canoloesol yn ôl pob tebyg. Mae palas canoloesol caerog yr esgob i’w weld ychydig i’r dde o’r canol. Mae gwaith cloddio archeolegol yn ymchwilio i safle lleiniau tai canoloesol i’w gweld yn y cae yn y tu blaen. Llun: CPAT 05-C-128. |
Golygfa o dirwedd o gaeau ychydig i’r gorllewin o bentref Llan-ddew o’r canol oesoedd, sydd i’w weld yn y gwaelod ar y dde. Mae’r llain-gaeau nodweddiadol, ynghyd â ffiniau ar dro cam ac olion amaethu cefnen a rhych, yn cynrychioli amgáu caeau agored canoloesol cysylltiedig â’r anheddiad eglwysig a darddodd yn ôl pob tebyg yn y canol oesoedd cynnar. Llun: CPAT 05-C-121. |