CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Tal-y-llyn
Cymunedau Llanfrynach, Llan-gors a Thalybont ar Wysg, Powys
(HLCA 1174)


CPAT PHOTO 05-C-93

Tir isel tonnog yn ymylu ochr ogleddol dyffryn Wysg ac yn cynnwys rhan o wahanfa ddŵr afon Llynfi. Tirwedd o gaeau afreolaidd canolig i fawr yn bennaf, ffermydd gwasgaredig ac aneddiadau eglwysig bach o darddiad canoloesol a chanoloesol cynnar. Cofebion claddu a defod cynhanesyddol yn dangos anheddiad a defnydd tir cynnar. Aneddiadau bach wedi’r canol oesoedd cysylltiedig â thramffordd a rheilffyrdd segur bellach o’r 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Darganfyddiadau carreg ar hap sy’n dangos tystiolaeth sylweddol o anheddu a defnydd tir cynhanesyddol cynnar a diweddar yn yr ardal, fel Tŷ Illtud, carnedd hir gellog Neolithig ger Llanhamlach, amryw feddrodau crwn posibl yn dyddio o Oes yr Efydd a maen hir Llanhamlach efallai o Oes yr Efydd

Y dyb yw bod llinell y ffordd Rufeinig rhwng Y Fenni a Chaer Aberhonddu’n rhedeg ar draws rhannau deheuol a gorllewinol yr ardal, er nad yw ei hunion gwrs yn hysbys. Yn ôl pob tebyg, mae carreg filltir Rufeinig gyda dau arysgrif o’r 4edd ganrif gynnar a ddarganfuwyd wedi’i hadeiladu i mewn i adeiladau fferm yn Millbrook, yn gysylltiedig â chwrs y ffordd hon. Mae celc o arian a ddarganfuwyd ger Cefn Brynich yn rhoi rhagor o dystiolaeth o weithgaredd Rhufeinig. Mae carreg goffa o’r 6ed ganrif, sy’n dwyn yr enw Carreg Victorinus, yn awgrymu anheddu a defnydd tir canoloesol cynnar. Darganfuwyd hon i’r de-ddwyrain o Sgethrog ar linell debygol y ffordd Rufeinig rhwng y Fenni a Chaer Aberhonddu. Hefyd ceir cerrig arysgrifedig o’r 7fed ganrif i’r 9fed ganrif a’r 10fed ganrif i’r 11eg ganrif yn eglwys Llan-gors, y garreg addurnog o’r 10fed ganrif i’r 11eg ganrif yn eglwys Llanhamlach, a’r garreg nadd o’r 10fed ganrif i’r 11eg ganrif yn eglwys Llanfrynach.

Mae tystiolaeth hanesyddol yn awgrymu cysylltiadau brenhinol ac esgobol gydag ardal Llan-gors o gyfnodau cynnar. Mae siarter sy’n dyddio o tua’r 8fed ganrif yn Llyfr Llandaf (Liber Landavensis) yn cofnodi rhodd y brenin Awst (Augustus) o Frycheiniog a’i feibion Eliud a Rhiwallon o ystâd frenhinol (territorium) i esgob Euddogwy (Oudoceus) a’i olynwyr. Mae’n ymddangos bod ei ffiniau’n cyfateb i blwyf eglwysig Llan-gors sy’n gorwedd i’r gogledd ac i’r dwyrain o Lyn Syfaddan. Roedd y rhodd yn cynnwys ei physgod a’i physgodfa am lysywod ac, felly, roedd yn cynnwys y llyn. Mae’r siarter hefyd yn cofnodi bod Awst yn cyflwyno’i gorff ei hun a chyrff ei feibion i’r eglwys i’w claddu, gan awgrymu ei bod yn bosibl fod mynwent yr eglwys yn fynwent frenhinol. Mae siarter arall yn disgrifio cyfarfod yn y clas (‘mynachlog, mam-eglwys’) yn Llan-gors oddeutu 925 rhwng y brenin Tewdwr ab Elise (neu Elisedd) o Frycheiniog ac esgob Libiau.

Cyn y goresgyniad Normanaidd roedd yr ardal yn ffurfio rhan o ymyl dwyreiniol Cantref Selyf i’r gogledd o afon Wysg. Yn fuan ar ôl y goresgyniad neilltuodd Bernard de Neufmarché Lanfihangel Cathedin, ynghyd â phlwyf Llanfihangel Tal-y-llyn a rhan o Lan-gors i’r tywysog Cymreig gorchfygedig Gwrgan ap Bleddyn ap Maenarch. Ond meddiannodd Bernard yr ardal ei hun yn ddiweddarach, gyda rhan ddwyreiniol yr ardal yn ffurfio rhan o’r Arglwyddiaeth mers ganoloesol Blaenllynfi, a chantref Talgarth wedi hynny. Yn ôl y sôn roedd Cwrt y Prior yng nghymuned Llan-gors yn breswylfa achlysurol prioriaid Aberhonddu; roedd Abaty Llanddewi Nant Hodni hefyd yn dal tir yn y plwyf a roddwyd iddo’n gynnar yn y 14eg ganrif. Yn ôl pob tebyg mae Twmpan Motte, ger Treberfydd, yn gysylltiedig ag ystâd faenorol a sefydlwyd ar ôl y goresgyniad Normanaidd. Yn ddiweddarach ffurfiodd yr ardal ran o Gantref Pencelli, a rhannau o blwyfi degwm Llanfihangel Cathedin, Llanfrynach, Llansanffraid, Llangasty Tal-y-llyn, Llanhamlach, Llanfihangel Tal-y-llyn, a Llan-gors yn y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd o gaeau tonnog yn ymylu ochr ogleddol dyffryn Wysg, i’r dwyrain o Aberhonddu ac i’r gorllewin o Fynydd Llan-gors ac yn cwmpasu ochr orllewinol Llyn Syfaddan, yn gyffredinol rhwng 120 a 250 metr uwchlaw’r môr. Caeau afreolaidd canolig a mawr yw’r dirwedd yn bennaf gyda gwrychoedd rhyngddynt yn ôl pob tebyg yn cynrychioli tir a amgaewyd ers talwm ac a grëwyd bob yn damaid o gyfnodau cynhanesyddol a Rhufeinig ymlaen. Fodd bynnag, mae rhai patrymau caeau neilltuol ar ffurf llain-gaeau gyda ffiniau ar dro cam ger Llanfihangel Tal-y-llyn a Llan-gors sy’n cynrychioli cyfuno ac amgáu ystadenni maes agored canoloesol. At ei gilydd, mae draeniad da i’r tir ond mae yno laswelltir isel heb ei wella a rhywfaint o dir corslyd lle nad yw’r draeniad cystal o gwmpas ymylon gorllewinol Llyn Syfaddan. Glaswelltir yn bennaf yw defnydd tir cyfoes ond gyda rhywfaint o dir âr, sy’n ymddangos iddo fod yn helaethach yn y gorffennol.

Patrwm neilltuol o aneddiadau eglwysig cnewyllol bach o’r canol oesoedd neu’r canol oesoedd cynnar sy’n nodweddu anheddu (rhai ohonynt yn ymddangos yn aneddiadau crebachog), ffermydd gwasgaredig o’r canol oesoedd, y canol oesoedd diweddar a’r ôl-ganol oesoedd cynnar a nifer o blastai llai o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif oedd yn ganolbwynt ystadau tirog bach, yn ogystal ag amryw o aneddiadau cnewyllol bach a ddatblygodd yn rhinwedd eu sefyllfa ar hyd ffyrdd tyrpeg neu’r rheilffordd yn ystod y 19eg ganrif.

Heddiw, nid yw Llansanffraid a Llangasty Tal-y-llyn fawr mwy nag eglwysi plwyf o’r canol oesoedd, ar bwys tai neu ffermydd sylweddol ac, efallai o ran eu tarddiad, yn eglwysi perchnogol a sefydlwyd gan dirfeddianwyr amlwg. Cofnodwyd Llansanffraid gyntaf tua dechrau’r 12fed ganrif a Llangasty Tal-y-llyn yn gynnar yn y 14eg ganrif. Mae’r ddau anheddiad cnewyllol mwy yn Llan-gors a Llanfihangel Tal-y-llyn yn cynnwys amryw o ffermydd pentref sy’n mynegi eu tarddiad amaethyddol. Mae tarddiad Llan-gors yn y canol oesoedd cynnar, ac mae’r eglwys bresennol, a ailadeiladwyd i raddau helaeth yn ddiweddar yn y 19eg ganrif, yn gysylltiedig â cherrig arysgrifedig o’r canol oesoedd cynnar, sy’n awgrymu ei sefydlu rhwng y 7fed ganrif a’r 9fed ganrif. Mae’r pentref cyfoes yn cynnwys tafarn, ysgol, a chapeli a gefail a melin ŷd gynt. Mae’r pentref yn cynnwys nifer o dai carreg sylweddol yn dyddio o’r 17eg ganrif ac yn ddiweddarach gan gynnwys Tŷ Pendre Uchaf a ffermdy Tŷ Mawr, gydag adeiladau fferm cysylltiedig o’r 18fed ganrif. Yn yr un modd mae eglwys ac anheddiad Llanfihangel yn tarddu o’r canol oesoedd cynnar cyn y goresgyniad yn ôl pob tebyg. Eto ailadeiladwyd yr eglwys yn sylweddol ar ddiwedd y 19eg ganrif ond mae’n debyg y safai’n wreiddiol o fewn mynwent eglwys gromliniol lawer cynharach y mae adeiladau diweddarach wedi’u codi ar rannau ohoni bellach. Mae’r anheddiad cyfoes yn cynnwys capel anghydffurfiol a hen efail. Mae ardal o weddillion llwyfannau adeiladau a cheuffyrdd i’r gogledd-ddwyrain o ganol y pentref yn awgrymu y gall y pentref fod wedi crebachu ers y canol oesoedd. Daw ei statws amaethyddol blaenorol yn amlwg o’r ardaloedd o amaethu cefnen a rhych sydd wedi goroesi, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli amaethu maes agored canoloesol i’r gogledd ac i’r de-orllewin o ganol y pentref.

Datblygodd aneddiadau cnewyllol amhlwyfol yn Sgethrog, Tal-y-llyn a Phennorth. Mae Sgethrog yn gorwedd i’r gogledd o ganolbwynt cynharach yn Y Tŵr, gyda’r Hen Bersondy cynharach o’r 16eg ganrif a nifer o dai ac ysguboriau o’r 18fed ganrif yn Neuadd a Fferm Sgethrog. Datblygodd Tal-y-llyn a Phennorth o’u sefyllfa ar gyffordd ffyrdd a rheilffyrdd blaenorol.

Mae ffermdai a thai allan brodorol o’r 17eg ganrif i’r 19eg ganrif yn ffurfio elfen neilltuol o amgylchedd adeiledig yr ardal nodwedd, gan gynnwys nifer o adeiladau cynharach o fath tai hirion, wedi’u codi yma ac acw ar y llethr, gydag ysgubor neu feudy ar ben isaf y tŷ, yn ogystal â nifer o gyfadeilau fferm o gwmpas buarth. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys Tŷ Gwyn (Pennorth), Powis Terrace House a Phendre Isaf (Llan-gors), a Thŷ Llan (Llangasty Tal-y-llyn). Goroesodd ysguboriau carreg nodweddiadol, cytiau certi a granarau, weithiau gyda holltau awyru cul, yn Nhŷ Newydd (Sgethrog), Brynderwen (Tal-y-llyn) ac Ysgubor Newydd (i’r dwyrain o Bennorth), yr olaf wedi’i adeiladu gan ystâd yn ôl pob tebyg. Mae Hemley Hall Cottage, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o’r 16eg ganrif ac yn oroesiad anghyffredin o fwthyn bach cynharach.

Mae’r ardal nodwedd hefyd yn cynnwys nifer o blasau bach, tai bonedd, a ffermdai bonheddig ffasiynol gydag adeiladau fferm cysylltiedig neilltuol o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, rhai ohonynt yn tarddu o’r 16eg neu’r 17eg ganrif. Mae’r tai hyn, weithiau mewn lle amlwg, i’w gweld ar amryw o arddulliau: brodorol, clasurol neu Adfywiad Gothig ac maent yn ffurfio elfen neilltuol o’r amgylchedd adeiledig gwledig. Maent yn gyffredinol o garreg a rhai’n gysylltiedig ag ystadau tiriog bach. Mae enghreifftiau’n cynnwys Tŷ Sgethrog, Llys Manest, Tŷ Newton, Trebinshwn, Tŷ Llansanffraid, Tŷ Mawr (Llangasty Tal-y-llyn), a Threberfydd, rhai ohonynt yn tarddu o’r 16eg ganrif neu’r 17eg ganrif. Mae tai pentref statws uwch o’r math hwn yn cynnwys Neuadd a Bryn-llici (Llan-gors), Hen Ysgoldy (Llangasty Tal-y-llyn), Yr Hen Bersondy (Sgethrog). Mae’r plasty canolig ei faint yng Nglynderi, Tal-y-llyn, a godwyd ym 1816, yn anghyffredin gan ei fod wedi’i adeiladu o frics ac, yn ôl pob tebyg, mae’n gysylltiedig â Thramffordd y Gelli gerllaw.

Mae amryw o’r tai mwy yn yr ardal nodwedd yn gysylltiedig â gerddi a nodweddion gerddi nodedig o’r 19eg ganrif. Mae Tŷ Treberfydd yn gysylltiedig â gardd addurnol, gardd lysiau furiog, ffos gudd ac ardal fach o barcdir planedig ac, yn Nhrebinshwm, gyda gardd betryal wedi’i chau’n rhannol gan fur cefn y cwrt tu ôl i’r tŷ sy’n ymgorffori ystafell ardd.

Mae nifer o elfennau pwysig o hanes cludiant wedi goroesi o fewn yr ardal nodwedd. Y gred yw bod ffordd yr A40 heddiw mwy neu lai’n dilyn cwrs y ffordd Rufeinig rhwng y Fenni a Chaer Aberhonddu, er na chafwyd unrhyw dystiolaeth ddiriaethol hyd yma ac mae’n ansicr faint ohoni sydd wedi goroesi yma. Gwellwyd nifer o’r ffyrdd mwyaf amlwg fel ffyrdd tyrpeg yn ystod y 18fed ganrif ddiweddar a’r 19eg ganrif, yn fwyaf nodedig yr A40 bresennol sy’n diffinio llawer o derfyn deheuol yr ardal, gydag amryw o gerrig milltir o’r cyfnod hwn wedi goroesi ar ei hyd. Adeiladwyd hen Dramffordd y Gelli, a orffennwyd ym 1818, i gludo glo, golosg a chalch o lanfeydd ar ymyl y gamlas yn Aberhonddu i Sir Frycheiniog a Swydd Henffordd. Torrodd trwy gyfundrefnau caeau cynharach ar hyd ei chwrs a golygodd ei hadeiladu gloddio twnnel Tal-y-llyn 500 metr o hyd, sydd wedi’i selio bellach. Daliodd i redeg am 40 mlynedd, cyn i Reilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu ei disodli ym 1862 pan ailddefnyddiwyd llawer o gwrs blaenorol y dramffordd, er bod olion o’i chloddiadau, argloddiau a chylfatiau blaenorol wedi goroesi mewn mannau, fel yn achos y darn ychydig i’r de-ddwyrain o Lanfihangel Tal-y-llyn. Caewyd y rheilffordd, a ddaeth yn Rheilffordd Canolbarth Cymru, maes o law ym 1962. Mae ei chwrs blaenorol a nifer o adeileddau cysylltiedig, yn arbennig y bont reilffordd gyfan ym Mhennorth, yn nodweddion neilltuol o’r dirwedd.

Mae nifer o olion gwan ond nodweddiadol o ddiwydiannau cefn gwlad o fewn yr ardal nodwedd gan gynnwys chwareli carreg gwasgaredig yn dyddio o’r canol oesoedd neu’n ddiweddarach ar gyfer carreg adeiladu, ynghyd â gefeiliau pentref blaenorol yn Llanfihangel Tal-y-llyn a Llan-gors, a hen felin ŷd ddŵr yn Llan-gors.

Ffynonellau

Disgrifiad SoDdGA CCGC; Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; Rhestrau Adeiladau Rhestredig Cadw; Cadw 1999; Barrie 1994; Burnham 1995; Collingwood a Wright 1965; Crawford 1925; Daniel 1950; Darvill 2004; Emery 2000; Glynne 1886; Grinsell 1981; Haslam 1979; James 1979; Jones, T, 1911; Jones, N W, 1993; Jones a Smith 1964; 1965; Knight 1966; Lewis 1964; Macalister 1949; Martin a Walters 1993; Morgan a Powell 1999; Quiney 1989; Nash 1997; Nash-Williams 1950; Pitman 2000; Powell et al. 1969; CBHC 1986; Silvester a Dorling 1993; Rathenbury a Cook 1996; Redknap 1993; Redknap a Lane 1994; Redwood 2001; Stephens 1998; Thomas 1994; Walker a Linnard 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.