Cymraeg / English
|
Nodweddu'r Dirwedd HanesyddolCanol Dyffryn Wysg: Tal-y-llyn
|
Golygfa o’r de o anheddiad eglwysig Llan-gors. Cysegrwyd yr eglwys bresennol i Beulin Sant ac mae’n sefyll mewn mynwent eglwys gromliniol neilltuol ger canol yr anheddiad ac, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli safle eglwysig o’r canol oesoedd cynnar yn dyddio o’r 7fed canrif o leiaf. Llun: CPAT 05-C-44. |
Tirwedd o gaeau’n rhannol dan ddŵr ar ben deheuol Llyn Syfaddan. Mae eglwys Llangasty Tal-y-llyn i’w gweld ar ymyl y llyn i’r dde o’r canol a fferm y faenor a phlasty Treberfydd o’r 19eg ganrif tuag at y cefndir chwith. Llun: CPAT 05-C-78. |
Tirweddau o gaeau afreolaidd ger Fferm Neuadd, Llangasty Tal-y-llyn, ger pen deheuol Llyn Syfaddan. LLun: CPAT 05-C-62. |
Tirwedd o gaeau ychydig i’r de o Lanfihangel Tal-y-llyn, ger Lake View. Fel y patrwm caeau tebyg ger pentref Llan-ddew, deilliodd y llain-gaeau ynghyd â ffiniau ar dro cam ac olion amaethu cefnen a rhych o’r amgáu caeau agored canoloesol cysylltiedig â’r anheddiad eglwysig canoloesol. Llun: CPAT 05-C-93. |