CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Pencelli-Talybont
Cymunedau Aberhonddu, Llanfrynach a Thalybont ar Wysg, Powys
(HLCA 1175)


CPAT PHOTO 05-C-101

Tirwedd isel o gaeau mawr afreolaidd, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli amgáu cymharol ddiweddar o ddolydd comin blaenorol ar orlifdir llifwaddodol eang afon Wysg rhwng Aberhonddu a Thalybont ar Wysg, gyda chyfundrefn gymhleth ac egnïol o ddoleniadau a thoriadau’r afon, gyda Chamlas Mynwy a Brycheiniog yn ei chroesi, ac yn cynnwys aneddiadau cnewyllol bach o’r canol oesoedd yn Llanfrynach, Pencelli, a Thalybont ar Wysg. Cyfadail fila Rufeinig arwyddocaol ym Maesderwen ger Llanfrynach.

Cefndir hanesyddol

Mae maen hir Gileston o Oes yr Efydd efallai, rhyw 300 metr o lan ddeheuol afon Wysg, a beddrod Cae Gwin gyda chist garreg Oes yr Efydd mae’n debyg, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfrynach, yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynhanesyddol cynnar. Mae bryngaer Derwen Groes, i’r gogledd o Dalybont ar Wysg yn dangos anheddu a defnydd tir cynhanesyddol diweddar.

Y dyb yw bod llinell y ffordd Rufeinig rhwng y Fenni a Chaer Aberhonddu yn dilyn naill ai ffordd yr A40, sy’n ffurfio terfyn gogleddol yr ardal, neu ffordd y B4558, sy’n ffurfio terfyn deheuol yr ardal. Mae cyfadail sylweddol sifil Rhufeinig statws uchel o ddechrau’r 3edd ganrif i ddiwedd y 4edd ganrif, gyda lloriau brithwaith addurnog, yn hysbys ym Maesderwen, ychydig i’r gorllewin o Lanfrynach. Gall hwn fod wedi ffurfio canolbwynt ystâd fawr mewn dwylo preifat. Mae’n ymddangos hefyd bod y Rhufeiniaid wedi gweithio haearn yn yr ardal.

Ffurfiodd yr ardal ran o ymyl dwyreiniol cantrefi Cantref Selyf i’r gogledd o afon Wysg a’r Cantref Mawr i’r de ac, ar ôl hynny, rhan o Gantref Pencelli, a rhannau o blwyfi degwm Llansanffraid, Llanfeugan, Llanfrynach ac Aberhonddu Dewi Sant yn y 19eg ganrif.

Mae’r Tŵr, Sgethrog, sydd yn ôl pob tebyg yn rhan o dŷ tŵr caerog o’r 16eg ganrif, a adeiladwyd gan gangen o deulu Pichard, yn dangos anheddu canoloesol diweddarach ac ôl-ganoloesol cynnar.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau isel mawr afreolaidd yn bennaf, gyda gwrychoedd rhyngddynt, yn gyffredinol ar lawr gwastad y dyffryn sydd ar bwys afon ddolennog Wysg, efallai’n cynrychioli amgáu dolydd comin blaenorol canoloesol diweddar neu ôl-ganoloesol, rhwng 120 a 160 metr uwchlaw’r môr. Tir pori yw’r defnydd tir cyfoes yn bennaf.

Cyfyngwyd anheddu cyfoes yn bennaf i’r tri anheddiad cnewyllol bach yn Llanfrynach, Pencelli a Thalybont ar Wysg. Mae Llanfrynach yn cynnwys amryw o ffermydd sylweddol, rhesi o fythynnod teras, tŷ tafarn a chapel y Bedyddwyr. Cysegrwyd eglwys y plwyf o’r canol oesoedd, a ailadeiladwyd i raddau helaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif, i Frynach, y sant canoloesol cynnar lleol. Mae’n sefyll oddi mewn i fynwent gromliniol fawr iawn ac mae’n gysylltiedig â llechen groes sy’n dyddio o’r 10fed/11eg ganrif, sef cyn y goresgyniad. Gellir priodoli bodolaeth yr anheddiad cyfoes bach ym Mhencelli i raddau helaeth i’r ffordd a’r gamlas sy’n mynd drwyddo, er iddo darddu’n ôl pob tebyg fel anheddiad dibynnol cysylltiedig â Chastell Pencelli. Roedd y castell, oedd yn ôl pob tebyg yn ffurfio canolbwynt canoloesol ystâd faenorol, mewn bodolaeth erbyn y 13eg ganrif gynnar ac ymddengys iddo aros mewn cyflwr da hyd y 15fed ganrif ddiweddar. Gellir priodoli tarddiad Talybont ar Wysg yn ôl pob tebyg i’r bont ganoloesol dros afon Caerfanell oedd mewn bodolaeth erbyn y 14eg ganrif. Ehangodd fel canolfan ddiwydiannol a masnachol fach ar hyd Camlas Mynwy a Brycheiniog, yn gweithredu fel man trosglwyddo glo a charreg galch a ddygwyd o’r de ar Dramffordd Bryn-oer, a adeiladwyd ym 1814-15 a Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr yn ystod y 19eg ganrif ddiweddarach. Mae’r anheddiad yn cynnwys nifer o dai sylweddol o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, Tafarn y White Hart, sef tafarn yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif, a chapel y Methodistiaid. Mae adeileddau cysylltiedig â hanes diwydiant a chludiant yr anheddiad yn cynnwys casgliad o hen odynau calch o garreg ochr yn ochr â’r gamlas ac islaw tramffordd Bryn-oer, olion adeiladau a swyddfeydd gorsaf oedd yn gysylltiedig â’r dramffordd efallai, dyfrbont yn cludo’r gamlas dros afon Caerfanell a phont reilffordd yn croesi ffordd y B4558. Mae’n bosibl bod yr anheddiad mwy gwasgaredig yn Llanhamlach yn cynrychioli anheddiad crebachog fyddai wedi canolbwyntio ar ganolfan faenoraidd ganoloesol a ddisodlwyd gan Peterstone Court, ac a oedd yn gysylltiedig ag eglwys berchnogol, ond ffordd dyrpeg rhwng y Fenni ac Aberhonddu o’r 18fed ganrif ddiweddar i’r 19eg ganrif gynnar ar gwrs ffordd bresennol yr A40 sy’n dylanwadu ar batrwm yr anheddiad cyfoes.

Mae nodweddion arwyddocaol cysylltiedig â Chamlas Mynwy a Brycheiniog yn cynnwys y ddyfrbont garreg o ddechrau’r 19eg ganrif gyda’i phedwar bwa a dau dorddwr yng Nghefn Brynich, sy’n cludo’r gamlas dros afon Wysg gerllaw pont ffordd garreg y Loc gyda’i phedwar bwa enfawr a thorddyfroedd, yn ôl pob tebyg o’r 18fed ganrif. Erys nifer o’r pontydd camlas cefngrwm gwreiddiol o garreg ar y darn ffordd rhwng Talybont ar Wysg a Phencelli er y dymchwelwyd rhai eraill a’u cyfnewid am bontydd concrid yn y 1950au a’r 1960au. Mae nifer o bontydd codi o ddur hefyd y cafodd rhai ohonynt o leiaf eu trwsio neu eu disodli yn ystod yr 20fed ganrif. Saif grwpiau bach o fythynnod camlas o’r 19eg ganrif i’r gogledd-orllewin o Dalybont. Mae olion diwydiannol eraill yn cynnwys y felin ŷd a drowyd gan ddŵr a breuandy cyfan pwysig yn Gileston. Yn adeiledd y felin sydd, yn ôl pob tebyg yn dyddio o’r 17eg canrif, mae peirianwaith o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gynnar, gan ei gwneud yn un o’r enghreifftiau gorau o felin ddŵr gadwedig ym Mrycheiniog.

Mae elfennau nodedig tirweddau wedi’u cynllunio’n cynnwys y parcdir blaenorol cysylltiedig â Peterstone Court a’r gyfres o amgaeadau gerddi muriog, pyllau a sianelau dŵr ffurfiol ôl-ganoloesol o gwmpas y maenordy braf, diarffordd o’r ail ganrif ar bymtheg ddiweddar yn gyfagos i orlifdir yr afon yn Abercynrig, ger cymer afon Cynrig ac afon Wysg. Yn gysylltiedig â’r tŷ mae casgliad o adeiladau fferm mewn cyflwr da wedi’u trefnu o gwmpas buarth, gan gynnwys stablau, hen felin afalau a cholomendy.

Ffynonellau

Disgrifiad SoDdGA CCGC; Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; Rhestrau Adeiladau Rhestredig Cadw; Charles 1938; Davies 1992; Emery 2000; Hay 1785; Hogg a King 1967; Hughes 1990; Jones ac Owen 2000; Jones a Smith 1965; King 1961; Morgan a Powell 1999; Nash-Williams 1948-50; CBHC 1988; Silvester a Dorling 1993

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.