Cymraeg / English
|
Nodweddu'r Dirwedd HanesyddolCanol Dyffryn Wysg: Pencelli-Talybont
|
Golygfa o’r gogledd o dirwedd o gaeau ger Brynich. Mae’n ymddangos bod y patrymau caeau rheolaidd yn y rhan hon o ddyffryn Wysg yn cynrychioli amgáu trefnus ac ad-drefnu tirwedd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Llun: CPAT 05-C-188. |
Mae cefnffordd fodern yr A40 tuag at y tu blaen ger Brynich yn rhedeg yn gyfochrog i bob diben ag afon Wysg a Chamlas Mynwy a Brycheiniog. Mae Locs Brynich ger y bont ffordd dros afon Wysg tuag at yr ochr dde ac mae’r ddyfrbont sy’n cludo’r gamlas dros yr afon yn gorwedd ychydig i’r chwith. Llun: CPAT 05-C-191. |
Golygfa o’r de-ddwyrain o dirwedd o gaeau ger Llanhamlach. Saif eglwys unig Llanhamlach ar lan afon Wysg tuag at ganol y tu blaen gyda Gwesty Peterstone Court fymryn y tu hwnt. Mae Camlas Mynwy a Brycheiniog yn troelli tuag at y chwith, lle mae’n mynd heibio i farina Tŷ-newydd. Llun: CPAT 05-C-195. |
Doleniadau egnïol afon Wysg lle mae’n llifo trwy orlifdir llifwaddodol eang ger Sgethrog. Llun: CPAT 05-C-101. |