CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Llyn Syfaddan
Cymuned Llan-gors, Powys
(HLCA 1176)


CPAT PHOTO 05-C-96

Llyn mawr, rhewlifol naturiol diweddar a ffurfiodd nodwedd ganolog ym Mrycheiniog cyn y Normaniaid ac, erbyn hyn, mae’n ganolbwynt gwarchod natur a chwaraeon dŵr. Mae’r llyn yn gysylltiedig â llawer o lên gwerin cynnar ac ynys neu grannog gwneud unigryw i Gymru oedd yn ffurfio preswylfa frenhinol o’r canol oesoedd cynnar. Tystiolaeth o weithgaredd Mesolithig llawer cynharach a gwaddodion o bwysigrwydd palaeoamgylcheddol rhanbarthol sylweddol.

Cefndir hanesyddol

Fel y nodwyd uchod yn y cefndir hanesyddol i ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Tal-y-llyn, mae tystiolaeth hanesyddol yn cysylltu ardal Llan-gors gyda’r ystadau brenhinol ac esgobol o tua’r 8fed ganrif. Mae tystiolaeth hanesyddol ac archeolegol yn awgrymu bod y crannog tuag ochr ogleddol y llyn yn breswylfa brenhinoedd Brycheiniog yn y 9fed ganrif i’r 10fed ganrif. Yn ôl Croniclau’r Eingl-Sacsoniaid anfonwyd Aethelflaed fyddin i Gymru yn 916, dri diwrnod ar ôl llofruddiaeth yr abad Ecgberht a’i gymdeithion. Ymosododd y fyddin ar Brecenanmere (‘llyn Aberhonddu’) a chipio gwraig y brenin a thros ddeg ar hugain o aelodau eraill y llys. Mae’r ymosodiad ar y llyn bron yn bendant yn cyfeirio at y crannog, a chipio gwraig y brenin Tewdwr ab Elise. Yn ôl Llyfr Llandaf, rhoddodd brenin Brycheiniog yn y 7fed ganrif Lan-gors i eglwys Llandaf. Yn ei Daith a ysgrifennwyd yn ddiweddarach yn y 12fed ganrif, mae Gerallt Gymro’n nodi bod y llyn yn cyflenwi penhwyaid, draenogod dŵr, brithyll, ysgretennod a llysywod. Rhoddwyd yr hawliau pysgota i fynachod priordy Aberhonddu ac mae cyfeiriad yng nghanol y 13eg ganrif at ddefnyddio cwch. Cyfeiria John Leland at y stociau pysgod yn y llyn yn gynnar yn yr 16eg ganrif. Mae map o 1584 yn dangos dau gwch ar lan y llyn, melin ddŵr lle mae afon Llynfi’n llifo i ben deheuol y llyn ac mae tri o drapiau llysywod i’w gweld lle mae’r afon yn llifo allan o’i ochr gogleddol. Mae arolwg o ganol yr 17eg ganrif yn dwyn yr enw ‘A Survey of a certain Poole or fishing Poole commonly called Llinsavathen’ yn cyfeirio at bresenoldeb coredau lle’r oedd ‘good store of Eles taken in potts’. Yn argraffiad 1722 Gibson o Britannia Camden soniwyd am gwryglau ar gyfer pysgota.

Daw’r enw Llan-gors (Langorse, ar ei ffurf Seisnigaidd) o’r pentref cyfagos sy’n deillio o llan a cors. Galwyd y llyn hefyd yn ôl yr enw Lladin Clamosus, yr enw Cymreig Llyn Syfaddan (neu Syfaddon), a hefyd yn Llan-gors Mere, Brecknock Mere neu Mara de Brechonia ac amrywiol ffurfiau eraill.

Paentiwyd golygfa o’r llyn yn dangos grwpiau o bysgotwyr mewn cychod gan Thomas Jones, y tirluniwr Cymreig, yn ôl pob tebyg oddeutu degawdau olaf y 18fed ganrif. Bu’r llyn yn gyrchfan pleser ers y 19eg canrif gynnar, wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer hwylio, pysgota ac adara a dangoswyd cytiau cychod preifat a glanfeydd ar argraffiad 1af yr Arolwg Ordnans ar lannau’r gogledd a’r de yn y 1880au. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd ar ddiwedd y 19eg ganrif daeth ymwelwyr i Orsaf Tal-y-llyn sydd o fewn milltir i’r llyn. Heddiw mae’r llyn yn ganolbwynt i ofynion twristiaeth, gwarchod natur a chwaraeon dŵr sy’n cystadlu â’i gilydd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Llyn naturiol o darddiad rhewlifol, tua 133 hectar o faint ac yn ail yn unig o ran maint yng Nghymru i Lyn Tegid, y Bala. Mae dyfnder y llyn hyd at ryw 8.5 metr, ar uchder oddeutu 155 metr uwchlaw’r môr ac, yn ôl pob tebyg, wedi torri i graig soled yn ei fannau dyfnaf. Afon Llynfi sy’n bwydo a gwagio’r llyn, sydd â 10 hectar o gorsleoedd o’i amgylch, ac mae’n llifo iddo yn y de-ddwyrain ac yn ei adael i’r gogledd-orllewin. Caiff lefel y dŵr ei gynnal yn y llyn gan rwystr o ro rhewlifol a gyfnerthwyd gan ddyddodion bwa diweddarach, a ddygwyd i lawr gan nentydd yn codi ar Fynydd Troed i’r gogledd-ddwyrain a Mynydd Llan-gors i’r dwyrain. Mae wyneb y llyn a’r comin cyfagos yn Dir Comin cofrestredig.

Mae gwaddodion a ddyddodwyd ar waelod y llyn yn darparu cofnod pwysig o newid palaeoamgylcheddol yn yr ardal ers diwedd oes yr iâ ddiwethaf. Dengys astudiaeth o’r gwaddodion hyn yn y llyn y bu gostyngiad mewn paill coed a chynnydd mewn gwaddodiad yn ystod y cyfnod rhwng rhyw 3800 a 950 CC, gan awgrymu cyfnod o glirio coedwigoedd ac amaethu âr yn ystod y cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Awgrymodd cynnydd sylweddol pellach yng nghyflymder gwaddodiad y bu dwysâd mewn amaethu âr a mwy o erydu pridd yng nghyfnod y Rhufeiniaid, tua 250 OC. Bu cynnydd eto yng nghyflymder gwaddodiad tua dechrau’r 19eg canrif, yn ôl pob tebyg mewn ymateb i amaethu bryndiroedd ymylol o fewn dalgylch afon Llynfi. Nid ffenomen ddiweddar yw nentydd yn cludo gwaddodion mewn daliant i’r llyn yn y gaeaf a’r gwanwyn: nododd Gerallt Gymro ar ddiwedd y 12fed ganrif fod arlliw coch ar y llyn ar adegau, fel pe bai gwaed yn llifo trwy wythiennau a sianelau bach.

Mae’r crannog gwneud, sy’n dwyn yr enw Ynys Bwlc, yn ffurfio ynys fach gyda llwyni ar ei phen, tua 40 metr wrth 30 metr ar draws, sy’n ymddangos hyd at fetr uwchlaw wyneb y llyn ond sydd weithiau dan y wyneb yn y gaeaf. Roedd y crannog yn cynnal yr anheddiad tua 40 metr o lan ogleddol y llyn. Adeiladwyd ef fel dau gylch cydganol o byst sylfaen derw’n cynnal llwyfan o ddarnau bach o dywodfaen wedi’u gosod ar blethwaith o goed ar ben matin prysgwydd. Gyrrwyd y pyst sylfaen trwy haen o fawn sy’n cynnwys darganfyddiadau Mesolithig llawer cynharach. Mae dyddio dendrocronolegol yn dangos yr adeiladwyd y crannog yn y 890au er bod y twmpath hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd Rhufeinig yn ei wneuthuriad. Dangosodd cloddiadau yn y 1860au a rhwng 1987 a 1993 bod palis yn amddiffyn y crannog ac, yn ôl pob tebyg, ei fod yn cynnwys neuadd ganoloesol gynnar tebyg i’r cranogau brenhinol o’r un cyfnod yn Iwerddon. Roedd wedi’i gysylltu â’r glan gyda sarn bren hyd at 3 metr o led. Mae safon uchel rhai o’r arteffactau cysylltiedig, sy’n cynnwys crib corn carw, tecstil brodiog, rhannau o allor gludadwy, dau gwch boncyff (gan gynnwys darganfyddiad cynharach), grawn ac esgyrn anifail carboneiddiedig, yn ategu ei ddisgrifio fel un o safleoedd brenhinol cynnar Brycheiniog. Awgrymwyd y gall fod wedi bod yn ganolfan gweinyddu brenhinol, yn ogystal â man lletygarwch, lle derbyniodd y teyrn ei deyrnged yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon fel adara a physgota. Mae’n ymddangos bod technegau adeiladu Gwyddelig wedi dylanwadu ar y safle ac, efallai, y cafodd ei adeiladu gyda chymorth crefftwyr o Iwerddon. Hawliai chwedl sylfaen llinach frenhinol Brycheiniog eu bod o dras Gwyddelig. Efallai mai bwriad brenhinoedd diweddarach, trwy ddefnyddio’r dull adeiladu anghyffredin hwn yng Nghymru, oedd cadarnhau’r hawliadau hyn a gwella’u statws cymdeithasol a gwleidyddol trwy hynny. Gall gorwel golosgedig a nodwyd yn ystod y cloddiadau gynrychioli ymosodiad byddin Aethelflaed yn 916.

Yn 2005 adeiladwyd bwnd carreg o gwmpas rhan o’r crannog i’w warchod rhag effaith bellach y tonnau.

Ffynonellau

Disgrifiad SoDdGA CCGC; Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; Arnold a Davies 2000; Burnham 1995; Camden 1586; Caseldine 1990; Chambers 1985; Davies 1999; Davies 2000; CBHC 1997; Figgis 1995; Fox 1926; Granger-Taylor a Pritchard 2001; Jones et al. 1985; McGrail 1975; 1978; 1979; Manning 1895; Mumford a Redknap 1999; North 1957; Raikes et al. 1986-87; Redknap 1993; Redknap 2000; Redknap 2002; Redknap a Lane 1994; Redknap a Lane 1999; Sims-Williams 1993; Smith 1906; Thomas 1994; Waite et al. 2005.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.