CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Llanfihangel Cathedin
Cymuned Llan-gors, Powys
(HLCA 1177)


CPAT PHOTO 05-C-76

Tirwedd o gaeau a rannwyd yn rheolaidd ar lethrau gorllewinol Mynydd Troed a Mynydd Llan-gors yn edrych dros Lyn Syfaddan, gyda ffermydd gwasgaredig, a amgaewyd yn ôl pob tebyg yn y cyfnod canoloesol diweddarach ac ôl-ganoloesol cynnar. Darganfyddiadau carreg yn dangos gweithgaredd cynhanesyddol cynnar. Safleoedd tai gadawedig ac anghyfannedd.

Cefndir hanesyddol

Carnedd gladdu pen cefnen o Oes yr Efydd ar Allt yr Esgair a’r fryngaer ddilynol o Oes yr Haearn sy’n dangos anheddiad a defnydd tir cyn hanes diweddarach. Ffurfiodd yr ardal ran o ymyl dwyreiniol Cantref Selyf i’r gogledd o afon Wysg. Yn dilyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd yn yr 11eg ganrif ddiweddar neilltuodd Bernard de Neufmarché Lanfihangel Cathedin i gyd ar y dechrau i’w garcharor Gwrgan ap Bleddyn ap Maenarch ond ailfeddiannwyd gan Bernard yn ddiweddarach ac, o’r 12fed ganrif ddiweddar, ffurfiodd ran o Arglwyddiaeth mers ganoloesol Blaenllynfi. Yn dilyn y Ddeddf Uno yn 1536 ffurfiodd ran o gantref Talgarth ac, yn ddiweddarach, ffurfiodd ran o blwyf degwm Llanfihangel Cathedin yn y 19eg ganrif. Ailadeiladwyd yr eglwys a gysegrwyd i Sant Mihangel yn Llanfihangel Cathedin, a gofnodwyd gyntaf tua dechrau’r 12fed ganrif, i raddau helaeth yn y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd o gaeau rheolaidd yn bennaf gyda gwrychoedd rhyngddynt i’r de ac i’r dwyrain o Lyn Syfaddan, ar fryndir llethrog Allt yr Esgair ac ymylon gorllewinol Mynydd Llan-gors, rhwng tua 150 a 390 metr uwchlaw’r môr. Mae’n ymddangos bod y patrymau caeau neilltuol yn yr ardal yn cynrychioli clirio ac amgáu trefnus neu amgáu porfa gomin flaenorol yn y cyfnod canoloesol diweddarach neu ôl-ganoloesol cynnar. Pori yw’r defnydd tir cyfoes yn bennaf, gyda rhywfaint o blannu conwydd ar Allt yr Esgair. Mae anheddiad cyfoes yn cynnwys nifer o ffermydd gwasgaredig iawn gan gynnwys fferm a thŷ Trebinshwn a Chathedin Isaf, gyda’r ddau ohonynt efallai’n tarddu o’r canol oesoedd diweddar neu’r ôl-ganol oesoedd cynnar. Efallai bod safleoedd tai gadawedig ar ymylon dwyreiniol Allt yr Esgair yn cynrychioli diboblogi gwledig ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae chwareli cerrig blaenorol o’r 19eg ganrif gynnar neu gynharach ar grib Allt yr Esgair, rhai ohonynt wedi difrodi amddiffynfeydd y fryngaer o Oes yr Haearn. Yn gysylltiedig â’r rhain mae sarn sy’n arwain i gyfeiriad Talybont ar Wysg. Y ffordd dyrpeg o ddiwedd y 19eg ganrif rhwng Talgarth a Bwlch sy’n ffurfio llawer o derfyn dwyreiniol yr ardal. Yn ôl pob tebyg, roedd Tŵr Paragon crwn, ffoledd o’r 19eg ganrif gynnar, yn uchel ar ochr orllewinol Allt yr Esgair, i’r dwyrain o Newton, yn ganolbwynt marchogaeth, hela neu hirdeithiau cysylltiedig ag un o’r ystadau tirog lleol.

Ffynonellau

Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT; CBHC 1997; Rhestri Adeiladau Rhestredig Cadw; Glynne 1886; Haslam 1979; Jones, T, 1911; Jones a Smith 1963; Morgan a Powell 1999; Silvester 1998; Silvester a Dorling 1993

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.