CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg


ADEILADAU YN Y DIRWEDD

Yn ôl pob golwg mae yna amryw o ffermdai cynnar yma ac acw ar draws yr ardal, a tybir eu bod yn tarddu o’r 16eg ganrif. Mae darnau hefyd o adeiladau domestig cynharach fyth fel Tŷ Mawr, Llanfrynach a phalas yr esgobion yn Llan-ddew. Wedi hynny, ymddengys y cynrychiolir y rhan fwyaf o gyfnodau pensaernïol, ac nid oes unrhyw ymdeimlad bod un cyfnod yn fwy amlwg nag eraill o ran datblygiad adeiladau. Mae’r rhychwant cronolegol gymharol hir hwn, ac efallai’r patrwm perchnogaeth tir yn yr ardal hefyd, wedi milwrio yn erbyn ymddangosiad arddull brodorol cryf, er mai’r cynllun cryfaf oedd yr un lle’r oedd y simnai â’i chefn at y fynedfa (cynllun math B Peter Smith). Fodd bynnag, mae cydlyniad cryf o ran defnyddio deunyddiau adeiladu – y tywodfaen coch a gafwyd yn lleol sydd flaenaf, gyda brics ond yn cael eu cyflwynol ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd yn ail hanner y 19eg ganrif. Yn bendant, mae traddodiad cynharach o weithio gyda choed i’w weld yn yr ardal fel, er enghraifft, yn y Gilfach, Llan-gors, ond ychydig ohono sydd ar ôl yng nghymeriad allanol y stoc adeiladau.

Mae hierarchaeth gymdeithasol amlwg yn yr adeiladau hefyd, gyda chyfres o blasau bach yn y wlad ar y pen; mae’r rhan fwyaf o ffermydd hefyd yn bur fawr, gyda chymeriad ffermydd bonedd. Mae gan rai o’r rhain fythynnod cysylltiedig, er yr ymddengys bod yr anheddau llai o’r math hwn wedi casglu yn y pentrefi’n gyffredinol, y rhan fwyaf ohonynt yn annhebygol o fod yn gynharach nag oddeutu 1800. Gall hyn fod o ganlyniad i resymoli anheddu yn y 19eg ganrif ond, beth bynnag ei tharddiad, mae'n nodwedd gref o'r ardal hon. Adlewyrchir yr hierarchaeth hon mewn amrediad o ieithoedd pensaernïol, gan fod rhai o’r plastai bach gwledig yn perthyn i draddodiadau pensaernïol ‘gwâr’, yn hytrach na’r brodorol. Penseiri blaenllaw eu cyfnod ddyluniodd rai ohonynt. Enghreifftiau o’r tai gwâr hyn yw Tŷ Sgethrog (diwedd yr 17eg ganrif), Peterstone Court, Maesderwen (fila Ddorig o ddechrau’r 19eg ganrif y tu allan i Lanfrynach), Aberyscir Court (1837), Penoyre (1848, o waith y pensaer Anthony Salvin), a’r cyfadail hynod o waith y pensaer J. L. Pearson yn Nhreberfydd. Mae tŷ Trebinshwn yn dangos y trawsnewid o draddodiadau brodorol i rai gwâr yn daclus, lle’r ailwynebwyd y tŷ gwreiddiol o tua 1630 yn gynhwysfawr ym 1805.

Tywodfaen coch sydd flaenaf, ond mae amrywiadau yn ei liwiad a’i driniaeth. Mewn rhai achosion cafodd ei orffennu bron fel maen nadd, fan arall mae’n rwbel. Mae gwyngalchu a rendro hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at gymeriad aneddiadau, ond mae’n ymddangos bod ei ddefnydd traddodiadol yn yr ardal ar drai. Mae dylanwad y rheilffyrdd yn amlwg, pan gyflwynwyd deunyddiau gwneuthuredig wedi’u mewnforio. Er enghraifft, gwnaed defnydd helaeth o frics yn aneddiadau rheilffordd Tal-y-llyn a Phennorth ac, yn enwedig, y brics melyn o darddiad amhendant, a ddefnyddiwyd yn nodweddiadol ar gyfer llin-gyrsiau ac agoriadau ffenestri a drysau. O ran toi, erys ychydig enghreifftiau o doeau cerrig hollt a ddefnyddiwyd yn draddodiadol yn yr ardal, ond llech wedi’i fewnforio o ogledd Cymru sydd flaenaf bellach.

Mae tystiolaeth o’r maes yn awgrymu ymgyrch egnïol o wella ffermydd o tua 1800 ymlaen. Tra bo dyddiadau ffermdai’n amrywio o’r 16eg ganrif ymlaen, a’u ffurfiau pensaernïol yr un mor amrywiol, mae llawer mwy o gydlyniad ymhlith stoc adeiladau fferm, oherwydd eu cyfnod llawer mwy cyfyngedig, Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r enghreifftiau a welir yn dyddio o’r 19eg ganrif gynnar ymlaen. Mae nifer fawr o fuarthau da eu cynllun sy’n edrych fel canlyniad gwell arferion amaethyddol a chryn fuddsoddiad. Mae enghreifftiau’n cynnwys y fferm fodel y tu allan i Lanfrynach a grybwyllwyd uchod, a Fferm Aber-Brân-fach a Pool Farm, y ddwy ger Aberbrân, lle adeiladwyd y tŷ fel rhan o adeiladau’r fferm, er yr addaswyd yr olaf. Mae adeiladau mawr braf mewn cwrt hefyd yn Nhroedyrharn, Alexandersone, Wern a Manest Court. Yr ysguboriau sy’n tueddu i fod yr adeiladau cryfaf, er ei bod yn amlwg eu bod yn ffermydd cymysg, gydag adeiladau da i gadw’r anifeiliaid ynddynt hefyd. Mathau nodweddiadol eraill o adeiladau yw cytiau cysgodi neu gytiau certi agored (weithiau gyda phileri carreg silindraidd yn dal y to) ac mae enghreifftiau o ysguboriau gwair agored hefyd, tra bo granarau yn Nhŷ Mawr, Llangasty Tal-y-llyn. Mae enghraifft anghyffredin o ysgubor wair efallai yn Aberysgyr yn defnyddio haearn gyr yn y cyplau to; gyda’i chysylltiad â’r tŷ mawr yn awgrymu cryn fuddsoddiad.

Mae adeiladau tref Aberhonddu yn gofnod gwerthfawr o’i hanes maith o ffyniant, yn cyflawni ei swyddogaethau fel prif dref y sir, canolfan amaethyddol a thref garsiwn. Cadwodd canol Aberhonddu ei gymeriad yn hynod dda, gyda chynllun canoloesol ei phrif strydoedd, yn adnabyddadwy ar fap Speed o 1610, yn dal yn amlwg heddiw. Ymhlith adeiladau domestig ychydig iawn sy’n amlwg o’r canol oesoedd er bod nifer o oroesiadau ôl-ganoloesol cynnar pwysig. Yn wreiddiol roedd Buckingham Place yn dŷ o’r 16eg ganrif gyda chegin neu heulfa ar wahân; cysylltwyd y ddwy ran yn y 18fed ganrif gynnar. Mae Tŷ’r Eglwys yn Lion Street yn dŷ cynllun L o ddiwedd y 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif, a gafodd dalcen newydd yn y 18fed ganrif. Ychydig y tu allan i derfynau gorllewinol y dref saif Newton House a adeiladwyd o gwmpas 1582 gan John Games, Uchel Siryf Sir Frycheiniog. Efallai mai hwn yw’r tŷ cynllun ar byst dwbl cynharaf yng Nghymru, ac ar bedwar llawr. Mae gwaith mewnol y tŷ’n cynnwys neuadd fawr gyda sgrin a lle tân gyda cherfwedd herodrol. Yn yr ystafelloedd uchaf mae cerfwedd o waith plastr gan gynnwys rhosynnau’r Tuduriaid a fflŵr-dy-lis. Y math o adeiladu is-ganoloesol nodweddiadol yn Aberhonddu oedd y ‘tŷ tri chwarter’ bondigrybwyll yn cynnwys muriau ochr a chefn o garreg gyda blaen ffrâm goed. Y mwyaf amlwg ohonynt yw 20 Ship Street, yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif, sydd wedi cadw ei flaen coed. Fodd bynnag, ailwynebwyd mwyafrif y tai o’r math hwn yn y 18fed ganrif ddiweddar neu’n gynnar yn y 19eg ganrif, gyda thŷ tafarn Sarah Siddons yn y Stryd Fawr Isaf yn un o lawer enghraifft ohonynt.

Goroesodd nifer ryfeddol o dai tref o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gynnar yn perthyn i fonedd neu fasnachwyr ffyniannus, yn enwedig yn Lion Street, Y Struet a Stryd Morgannwg. Mae rhif 4 Lion Street yn anghyffredin trwy ddefnyddio brics yn y golwg ac mae’n dilyn cynlluniau ffasiynol o Ganoldir Lloegr. Yng Nghantre Selyf sy’n tarddu o’r 17eg ganrif, hefyd yn Lion Street, mae nenfydau plastr coeth a gris braf. Yn Stryd Morgannwg, mae gwaith mewnol nodedig yn Havard House, eto’n tarddu o’r 17eg ganrif, gan gynnwys paneli a grisiau. Mae gwaith mewnol braf o gyfnod y Rhaglywiaeth yn Hamilton House yn y Struet.

Fel prif dref y sir roedd Aberhonddu’n darparu lle ar gyfer dawnsiau a pherfformiadau theatraidd. Uwchben rhifau 29 a 30 Stryd Fawr Uchaf mae ystafell fawr flaenorol y Bell Inn wedi goroesi lle perfformiodd yr actores Sarah Siddons. Y tu cefn i siop ddodrefn yn y Watton, mae theatr a adeiladwyd i’r diben wedi goroesi, ond yn anffodus mae wedi’i wagio. Mae pwysigrwydd y dref fel canolfan adwerthu’n cael ei ddangos mewn blaen siopau braf o’r 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif yn 20 Stryd Fawr Isaf, er enghraifft, ac yn arbennig yn 46 Stryd Fawr Isaf gyda manylion clasurol fyddai’n deilwng o Gaerfaddon. Ymhlith adeiladau cyhoeddus, mae Amgueddfa Brycheiniog bresennol, a adeiladwyd fel Neuadd y Sir o gwmpas 1840, o waith y penseiri T. H. Wyatt a David Brandon. Mae hwn yn un o adeiladau gorau’r Adfywiad Groegaidd yng Nghymru, ac yn dal llysoedd sydd wedi goroesi’n rhannol. Mae Neuadd y Dref bresennol yn ailwampiad yn y 19eg ganrif ddiweddar o adeilad o 1770, gynt gydag arcedau agored ar y llawr isaf i’w defnyddio fel marchnad.

Mae tu mewn Capel y Plough yn Lion Street yn enghraifft dda o’r 19eg ganrif ddiweddar. Mae eglwys Sant Mihangel (o waith Joseph Aloysius Hansom y pensaer a dyfeisydd Fictoraidd) o 1851 yn gynnar ei dyddiad o ystyried mai eglwys Babyddol ydyw yng nghefn gwlad Cymru. Priodwyd Adelina Patti, y soprano enwog o Sbaen, yma ym 1899. Y tu allan i’r canol hanesyddol, datblygwyd y briffordd allan o Aberhonddu tua’r dwyrain, y Watton, i raddau helaeth rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, gyda rhesi rheolaidd o dai o arddull Sioraidd diweddar. Mae mur blaen y barics, gyda’i orthwr o’r 1870au, yn cuddio adeiladau rhagorol o’r 1840au a drefnwyd o gwmpas maes ymarfer. Mae barics blaenorol y marchoglu gyda llusern yn drawiadol dros ben. Fodd bynnag, mae’r adeiladau brics coch ar yr ochr orllewinol yn dyddio o tua 1805.

Ffurfiwyd plwyf ar wahân o ran y dref bresennol dros yr afon Wysg a’i alw yn Llan-faes. Ymledodd Aberhonddu dros y bont ac mae tai da o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif ger y bont. Ailadeiladwyd eglwys Dewi Sant ym 1859, ac eto ym 1923-35. Yma hefyd mae Coleg Crist yn ymgorffori olion brodordy canoloesol Sant Nicolas. Erys cangell y capel canoloesol, fel y gwna’r clafdy a’r neuadd westeion o’r 13eg ganrif. Adferodd y penseiri Pritchard a Seddon y cyfan yng nghanol y 19eg ganrif, ac mae eu Hysgoldy (1861) yn adeilad Adfywiad Gothig gwych yn ei rinwedd ei hun. Y pensaer Thomas Thomas ddyluniodd Goleg Coffa’r Annibynwyr yn Aberhonddu, bellach wedi’i drosi yn fflatiau, mewn arddull y Dadeni Elisabethaidd ac fe’i adeiladwyd fel coleg diwinyddol rhwng 1867 a 1869 ar lechwedd amlwg ar ochr ddwyreiniol y dref. Disgrifiwyd yr adeilad newydd, gydag addurnau carreg Caerfaddon, fel a ganlyn: ‘a pleasing structure of native stone, harmonizing well with the unpretentiously beautiful Brecknockshire landscape and exhibiting in its simplified, angular and sober version of the Gothic idiom some of the virtues and idiosyncrasies of Welsh Puritanism’.

Daeth Camlas Mynwy a Brycheiniog i fodolaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond ychydig iawn sydd wedi goroesi ar wahân i swyddfa bwyso a phontydd. Mae bwa ychwanegol ar un o bontydd y gamlas ar gyrion dwyreiniol y dref lle rhedai Tramffordd y Gelli. Daeth y rheilffordd ager yn y 1860au a diflannodd ganrif yn ddiweddarach ond ychydig o olion a adawodd ar wahân i bentan traphont a oedd yn croesi afon Honddu (yn y Postern), a’r enw Viaduct House ar adeilad yn y Struet.

Mae diffyg cymharol tai Fictoraidd ac Edwardaidd yn awgrymu cyfnod o arafwch yn economi’r dref, er bod rhai filâu Edwardaidd deniadol i’r gogledd o’r hen reilffordd. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae cymeriad ‘Sioraidd’ y dref at ei gilydd yn cuddio tarddiad cynharach llawer o’r adeiladau, ac mae rhai trigolion wedi gwrthwynebu ychwanegiadau’r awdurdod lleol at ei chymeriad Sioraidd. Triniwyd datblygiadau mawr fel canolfan siopa Sgwâr Bethel yn gyffredinol dda. Golygodd y ffordd liniaru fewnol a adeiladwyd ym mlynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif golli adeiladau rhestredig. Efallai mai’r siom fwyaf yw colli cymeriad y tai bach llai pwysig, ond nodweddiadol, ar hyd y ffyrdd sy’n arwain at Aberhonddu trwy newid ffenestri a thoeau.

(yn ôl i’r brig)