CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg


CYSYLLTIADAU DIWYLLIANNOL

Mae gweithiau nifer o ysgrifenwyr a beirdd nodedig o’r canol oesoedd a’r canol oesoedd cynnar ymlaen yn gysylltiedig â Chanol Dyffryn Wysg rhwng Aberhonddu a Llan-gors. Bu dadlau, er enghraifft, y cyfansoddwyd y cylch enwog cynnar o gerddi Cymraeg yn dwyn yr enw Canu Llywarch Hen yn dyddio o’r 9fed ganrif neu’r 10fed ganrif, yn ôl pob tebyg, yng nghrannog Llan-gors.

Cysylltwyd Llan-ddew, pentref i’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu, â Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis), clerigwr lliwgar o dras Eingl-Gymreig a benodwyd yn archddiacon Aberhonddu ym 1175 yn wyth ar hugain oed ac yn enwog yn arbennig am ddau draethawd sy’n ffynonellau cyfoethog o wybodaeth gymdeithasol ac economaidd am Gymru yn y canol oesoedd, sef Hanes y daith trwy Gymru (Itinerarium Kambriae) a Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae). Esgobion Tyddewi oedd perchenogion maenor ganoloesol Llan-ddew ac roedd ganddynt balas caerog yno. Neilltuwyd degymau’r plwyf i archddiaconiaeth Brycheiniog a disgrifia Gerallt ei breswylfa yno yn amlwg gyda pheth hoffter: ‘lle urddasol, ond heb argoel fawr o rwysg neu gyfoeth y dyfodol; ac yn meddu ar breswylfa fach . . . tra addas i weithgareddau llenyddol, ac i fyfyrio ar dragwyddoldeb’.

Mae Hanes Gerallt yn rhoi cofnod o’r daith a wnaeth ar hyd a lled Cymru ym 1188 yng nghwmni'r archesgob Baldwin yn pregethu dros y Drydedd Groesgad yn Hanes ei daith trwy Gymru. Mae un o’r penodau'n ymwneud â'u taith trwy Frycheiniog, gan bregethu yn y Gelli Gandryll, Llan-ddew ac Aberhonddu, ac yn crybwyll gwythïen gyfoethog o fyth a chwedl ynghylch Canol Dyffryn Wysg, y collwyd llawer ohonynt yn ddiamau, rhai'n berthnasol i ddigwyddiadau yn amser Gerallt ac eraill yn llawer hŷn. Er enghraifft, mae’n cofnodi'r digwyddiadau gwyrthiol yn ymwneud â bachgen yn ceisio cymryd colomennod o nyth mewn eglwys a gysegrwyd i Dewi Sant yn Llan-faes. Mae’n disgrifio hefyd yr ŵyl flynyddol yng Nghapel Santes Elyned, ychydig i’r dwyrain o Aberhonddu, oedd yn cynnwys dawns orffwyll o amgylch mynwent yr eglwys lle byddai’r cyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd yn mudchwarae galwedigaethau amrywiol, gan gynnwys aradrwr, crydd, barcer, nyddwr a gwehydd.

Ysgrifenna Gerallt am fywyd Illtud, y sant canoloesol cynnar, y cysylltwyd ei enw â nifer o nodweddion topograffig ym mhlwyf Llanhamlach, gan gynnwys y beddrod cellog Neolithig yn dwyn yr enw Tŷ Illtud, carreg unionsyth Maen Illtud a safai gynt gerllaw, a ffynnon sanctaidd o’r enw Ffynnon Illtud. Dywed Gerallt yr hanes bod y gaseg oedd yn arfer cludo bwydydd y meudwy wedi cyplu â charw, uniad a berodd ‘anifail o gyflymder rhyfeddol yn debyg i flaen ceffyl a chefn carw’.

Mae llawer o symbolau ar hyd y cerrig o’r beddrod cellog, gan gynnwys croesau, sêr a losennau, a gofnodwyd gyntaf gan Edward Lhwyd, yr hynafiaethydd o'r 17eg ganrif. Mae dyddiad y symbolau hyn yn ansicr ond mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â ddefnyddio’r safle fel canolfan addoli Illtud Sant rhwng y canol oesoedd cynnar a’r Diwygiad Protestannaidd yng nghanol yr 16eg canrif efallai, er y gall llun o delyn fach bum tant nodi cysylltiad Rhufeinig.

Roedd Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf ond un yng Nghymru sy'n llawn adnoddau naturiol, yn ganolbwynt yn nheyrnas Brycheiniog cyn y Normaniaid ac roedd ymhellach yn ffynhonnell gyfoethog myth a chwedl ers dyddiau cynnar. Un dehongliad o enw Cymreig y llyn yw ei fod yn deillio o enw duwdod cyn-Gristnogol, sy’n awgrymu mai canolbwynt cwlt paganaidd cynnar ydoedd. Yn ddiweddarach yn y 12fed ganrif nododd Gerallt Gymro yn ei Ddisgrifiad o Gymru fod y llyn yn enwog yn lleol am ei wyrthiau. Ers dyddiau cynnar bu’r llyn yn fan bwydo pwysig i adar dŵr ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad yn ôl pob tebyg bod un o’r chwedlau gwerin cynnar yn ymwneud ag adar ar y llyn. Mae Gerallt yn sôn am ‘ddywediad hynafol yng Nghymru sef os bydd i dywysog naturiol y wlad, gan ddod at y llyn hwn, orchymyn i’r adar ganu, y byddant yn ufuddhau iddo ar unwaith’ ac mae’n cofnodi enghraifft o hyn yn ystod teyrnasiad Harri’r Cyntaf pan lwyddodd Gruffudd, mab Rhys ap Tewdwr, ar yr her hon lle methodd dau o Normaniaid oedd gydag ef - Milo, iarll Henffordd ac arglwydd Brycheiniog, a Payne FitzJohn. Nododd Gerallt hefyd fod y trigolion yn gweld y llyn weithiau wedi’i ‘orchuddio a’i addurno ag adeiladau, dolydd, gerddi a pherllannau’. Mae Walter Map yn adrodd chwedl gysylltiedig mewn llawysgrif o hanesion a chwedlau sydd yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen yn dwyn yr enw De Nugis Curialium (Manion Gwŷr y Llys). Yn ôl Map, oedd yn gyfaill i Gerallt ac yn frodor o Swydd Henffordd yn ôl pob tebyg, ac a ddaeth yn archddiacon Rhydychen ym 1197, roedd chwedl werin y boddwyd y palas neu dref yn y llyn oherwydd ysgelerder y tywysog a’i ddeiliaid. Mae’n perthyn i draddodiad o chwedlau llifogydd o fath sy’n gysylltiedig â llynnoedd eraill yng Nghymru a mannau eraill, gan gynnwys Llyn Tegid ger y Bala ond, efallai yn yr achos hwn, ar sail cof gwlad o’r crannog canoloesol cynnar. Gyda’r adfywiad yn y diddordeb mewn llên gwerin yn y cyfnod diweddar, roedd hon a chwedlau eraill am Lyn Syfaddan i gael eu hailadrodd mewn cyhoeddiadau fel Celtic Folklore Syr John Rhys a gyhoeddwyd ym 1901 a The Welsh Fairy Book W. Jenkyn Thomas o 1907.

Roedd Llyn Syfaddan yn enwog hefyd ers dyddiau cynnar am nifer o ffenomenau oedd, fel y gwelsom uchod, yn ôl pob tebyg o darddiad dynol ond a ymddangosai wedyn yn hudol. Nododd Gerallt Gymro fod y llyn weithiau ag arlliw coch ‘fel pe bai gwaed yn llifo’n rhannol trwy wythiennau arbennig a sianelau bach’, er ei bod yn argoelus ar adegau eraill os oedd ‘arlliw gwyrdd dwfn ar y llyn mawr ac afon Leveni [Llynfi]’. Nododd Gerallt hefyd pan rewai’r llyn drosto yn y gaeaf y dywedwyd bod y gorchudd o rew’n gollwng ‘sŵn ofnadwy yn debyg i ocheneidiau llawer o anifeiliaid wedi casglu at ei gilydd’ sy’n darddiad Clamosus, yr enw Lladin arall a roddodd Gerallt ar y llyn. Mae sylw William Howells yn ei Cambrian Superstitions a gyhoeddwyd ym 1831 na fydd dŵr afon Llynfi’n cymysgu â dŵr y llyn, ymysg ffenomenau eraill a gofnodwyd yn ddiweddarach.

Mae cyfeiriad eto at yr eglwys a gysegrwyd i Dewi Sant yn Llan-faes, a grybwyllodd Gerallt, mewn cerdd ganmol i Dewi Sant o’r enw Canu y Dewi o waith y bardd anadnabyddus, Gwynfardd Brycheiniog oedd yn ysgrifennu yn y 1180au ac oedd, fel yr awgryma ei enw, efallai’n frodor o Sir Frycheiniog. Mae’r gerdd yn rhestru ugain o eglwysi ym meddiant Tyddewi, gyda’r canlynol ymhlith y rhai yn Sir Frycheiniog:

Nys arueit ryuel Llanuaes, lle uchel,
Nys arueit ryuel Llanuaes, lle uchel,
Garthbryngi, brynn Dewi digewilyt,
A Thrallwng Kynuyn ker y dolyt.
Mae Llyn Syfaddan yn ffurfio cyd-destun cerdd yn dwyn yr enw ‘Yr Alarch’ a briodolwyd i Dafydd ap Gwilym, y bardd o’r 14eg ganrif a’r mwyaf enwog o feirdd Cymreig y canol oesoedd.

Yr alarch ar ei wiwlyn,
Abid galch fel abad gwyn,
Llewyrch, edn, y lluwch ydwyd,
Lliw gŵr o nef, llawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth.
Duw roes yt yn yr oes hon
Feddiant ar Lyn Yfaddon.

Dau feddiant rhag dy foddi
O radau teg roed i ti:
Cael bod yn ben-pysgodwr –
Llyna ddawn uwch llyn o ddŵr, -
Hedeg ymhell a elly
Uwchlaw y fron uchel fry,
Ac edrych, edn gwyn gwych gwâr,
I ddeall clawr y ddaear,
A gwylio rhod a’r gwaelod,
A rhwyfo’r aig, rhif yr ôd.
Gwaith teg yw marchogaeth ton
I ragod pysg o’r eigion.
Dy enwair, ŵr dianardd,
Yn wir yw’r mwnwgl hir hardd,
Ceidwad goruwch llygan llyn,
Cyfliwiaidd cofl o ewyn.
Gorwyn wyd uwch geirw nant
Mewn crys o liw maen crisiant.
Dwbled fal mil o’r lili,
Wasgod teg, a wisgud di.
Sieced o ros gwynt yt sydd,
A gown o flodau’r gwinwydd.
Cannaid ar adar ydwyd,
Ceiliog o nef, clogwyn wyd.
Mae Lewis Glyn Cothi, bardd Cymreig adnabyddus o’r 15fed ganrif, hefyd yn sôn am y llyn mewn cerdd sy’n cyfeirio at ei gysylltiadau â’r afanc, bwystfil dŵr mytholegol yn y cyd-destun hwn. Yn y gerdd, i’w gyfaill Llywelyn ap Gwilym ap Thomas Vaughan o Fryn Hafod yng nghwm Tywi, mae Lewis yn awgrymu y byddai mor anodd gwneud iddo adael cartref croesawus ei gyfaill ag y byddai i ddenu’r afanc allan o Lyn Syfaddan.

Yr avanc er ei ovyn
Wyr yn llerch ar vin y llyn;
O dòn Llyn Syfaddan vo
Ni thynwyd ban aeth yno.
Ni’m ty’n mèn nag ychain gwaith,
Oddiyma heddyw ymaith.
Mae cysylltiadau llenyddol canoloesol diweddarach yng Nghanol Dyffryn Wysg yn cynnwys y bardd Huw Cae Llwyd (1431-1504) a’i fab Ieuan sy’n clodfori Aberhonddu ar adeg pan oedd eisoes yn ôl pob tebyg wedi dod yn un o drefi blaenllaw Cymru yn y canol oesoedd: Aber sy benna seren, Hyd nef, Aberhodni wen. Roedd eglwys y priordy yn Aberhonddu, ‘Eglwys y Grog’, wedi dod yn fan pererindod nodedig ers y 15fed ganrif gynnar o leiaf, gyda phererinion yn cael eu denu at y groglen dra addurnol a goffawyd gan feirdd Cymru ond a ddinistriwyd ar adeg y Diwygiad Protestannaidd. Roedd offrymau pererinion wrth y groglen wedi dod yn ffynhonnell incwm bwysig i’r priordy. Caiff ei disgrifio fel ‘Y grog Aur droediog drwydoll’ yn y gerdd ‘Crog Aberhonddu’ o waith Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys, bardd o Raglan yn ail hanner y 15fed ganrif a oedd yn gysylltiedig â nifer o deuluoedd amlwg yn ne Cymru, gan gynnwys Phylip ap Tomos o Lansbyddyd. Pwysleisia William Egwad, bardd arall o ddiwedd y 15fed ganrif, swyddogaeth y groglen mewn defodau crefyddol cyfoes: ‘at Aberhonddu let every man pray: there, is an image gracious for its restfulness’.

Efallai mai’r cysylltiadau llenyddol mwyaf adnabyddus â’r ardal, fodd bynnag, yw gyda Henry Vaughan (1621-95), bardd a chyfieithydd metaffisegol y 17eg ganrif, a oedd yn aelod o un o deuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. Roedd teulu Henry’n byw yn Newton, ar lannau afon Wysg rhwng Sgethrog a Llansanffraid, lle tybiwyd iddo gael ei eni. Gwasanaethodd ei efell, Thomas, athronydd, cyfrinydd ac alcemydd, fel rheithor eglwys Llansanffraid (lle claddwyd Henry) oddeutu canol y 1640au, gan gael ei droi allan o’r fywoliaeth gan y comisiynwyr seneddol Piwritanaidd yn ôl telerau Ddeddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru ym 1650. Roedd eu chwaer yn byw yn Nhrebinshwn tu draw i’r mynydd ger Llyn Syfaddan. Roedd Henry’n falch o’i achau Cymreig gan dorri ei enw’n aml fel ‘y Silwriad’. Er ei fod yn siarad Cymraeg, ni ystyriai ei hun yn olynydd i’r traddodiad barddol Cymraeg ond fel y bardd Cymreig cyntaf i ysgrifennu trwy gyfrwng ‘gwareiddiol’ y Saesneg. Cyhoeddwyd y casgliad cerddi Olor Iscanus (‘Alarch afon Wysg’), gyda chyflwyniad a ysgrifennwyd yn Newton ar Wysg ym mis Rhagfyr 1647, yn Llundain ym 1651, ei deitl efallai’n adlewyrchu enw cerdd ‘Yr Alarch’ a briodolwyd i Ddafydd ap Gwilym. Fel llawer o’r beirdd metaffisegol, ychydig o’i weithiau sy’n ymwneud â disgrifiadau o’r dirwedd naturiol, er ei bod yn amlwg o’i gerdd agoriadol Olor Iscanus, (Alarch afon Wysg), bod dyffryn ei febyd yn annwyl iddo:

Thus Poets (like the Nymphs, their pleasing themes),
Haunted the bubling Springs and gliding streams,
And happy banks! whence such fair flowres have sprung,
But happier those where they have sate and sung!
Afon Wysg yw testun cerdd Ladin arall yn yr un casgliad, yn dwyn yr enw Ad fluvium Iscam (‘I afon Wysg’) sy’n cynnwys y cwpled canlynol:
Isca parens florum, placido qui spumeus ore
Lambis lapillos aureos
(Wysg annwyl, ymysg dy flodau, â’th don
Yn dal i olchi cerigos euraid’).
Caiff Priory Grove, y rhodfa goediog enwog ar hyd Afon Honddu yn Aberhonddu ei ddathlu yn ei gerdd o’r enw ‘The Priory Grove, His Usual Retirement’ o Poems, with the Tenth Satyre of Juvenal Englished, a gyhoeddwyd ym 1646, sy’n ymddangos yn gysylltiedig â chanlyn ei wraig gyntaf, Catherine Wise.

HAIL, sacred shades ! cool, leafy house !
Chaste treasurer of all my vows
And wealth ! on whose soft bosom laid
My love’s fair steps I first betray’d :
Roedd Henry a’i frawd Thomas yn wyrion William Vaughan o Dretower, teulu Cymreig wedi hen sefydlu oedd â chysylltiadau â’r teulu Herbert oedd yn falch o olrhain ei achau yn ôl i aelod o’r teulu oedd wedi ymladd ym mrwydr Agincourt. Cafodd ei addysg yn Llangatwg gan berthynas arall, Matthew Herbert, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac wedyn astudiodd y gyfraith yn Llundain oddeutu 1640, er bod y Rhyfel Cartref wedi tarfu ar hyn. Bu’n ymwneud â chylch llenyddol Ben Jonson, ac mae’n amlwg o nifer o weithiau cynnar ac o ysgrifau diweddarach yng nghynnwrf gwleidyddol yr oes ei fod yn gefnogol iawn i’r Brenhinwyr a’r Eglwys Wladol. Wedi’i alw’n ôl o Lundain, ymddengys iddo gael ei benodi’n glerc Prif Ustus Sesiwn Fawr Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Forgannwg ym 1642. Mae’n edrych yn debygol bod Henry a Thomas wedi listio yng ngwasanaeth y brenin a chymryd rhan weithredol yng ngorchfygiadau’r brenhinwyr ger Caer a ddaeth â’u cyfranogiad yn y Rhyfel Cartref i ben yn ôl pob tebyg. Roedd Vaughan wedi dychwelyd i Newton erbyn 1647, yn ôl tystiolaeth y cyflwyniad yn Olor Iscanus, lle bu’n byw am weddill ei oes. Mewn llythyr at John Aubrey gyda’r dyddiad 1673, dywed Vaughan ‘My profession . . . is physic [medicine], wch I have practised now for many years with good successe (I thank god!) & a repute big enough for a person of greater parts than my selfe’, er ei bod yn ansicr pryd y dechreuodd ymarfer gyntaf fel meddyg. Yn ôl pob tebyg roedd hyn erbyn 1655, y flwyddyn pryd y cyhoeddodd ei Hermetical Physick: Or, The right way to preserve, and to restore Health, a gyfieithwyd o destun Lladin gan Heinrich Nolle.

Enwogrwydd pennaf John Aubrey, un o hynafiad pell y teulu Aubrey (Awbrey) o Sir Frycheiniog a oedd yn cynnwys canghennau yn y Cantref, Abercynrig a Thredomen, yw ei Brief Lives sy’n cynnwys portreadau o bobl flaenllaw Sir Frycheiniog, yn ogystal â’i ysgrifau hynafiaethol ar Gôr y Cewri ac Avebury. Yn ôl pob tebyg, y teulu Aubrey adeiladodd y tŷ cynharaf yn Abercynrig yn y 13eg ganrif. Roedd y teulu wedi dod i amlygrwydd lleol erbyn y 14eg ganrif ac, erbyn yr 16eg ganrif, daeth Dr William Aubrey yn ffigur cenedlaethol, yn adnabyddus fel deallusyn, cyfreithiwr ac AS, ac fe alluogodd ei gyfoeth iddo ymestyn ei ystadau’n fawr, fel y nodwyd uchod. O fewn y tŷ presennol mae olion un cynharach, o’r 16eg ganrif, a adeiladodd Dr Aubrey yn ôl pob tebyg. Yn Brief Lives mae John Aubrey yn datgan bod ei hen daid wedi prynu Abercynrig oddi wrth ei gefnder ac iddo adeiladu’r ‘great house at Brecknock: his study looks on the river Usk. He could ride nine miles together on his own land in Breconshire’.

Meithriniodd teuluoedd bonheddig amlwg Sir Frycheiniog ddiddordeb yn gynnar yn hynafiaethau Canol Dyffryn Wysg, gyda nifer o’u safleoedd yn ardal y dirwedd hanesyddol ymhlith y cynharaf i’w harchwilio neu ddyfalu yn eu cylch yng Nghymru yn yr Oes Oleuedig. Fel y gwelsom, roedd cysylltiadau John Aubrey â Sir Frycheiniog yn gryf ac mae’n rhoi’r cyfeiriad cynharaf hysbys at un o feddrodau cellog Neolithig Sir Frycheiniog wrth grybwyll Tŷ Illtud fel a ganlyn: ‘The Carn at Cravannesh [?Manest] in the parish of Llansandfred [Llansanffraid]in the Countie of Brecknock’. Cofnododd wedyn ‘under this Carn is hid great treasure. The Doctor caused it to be digged; and there rose such a horrid tempest of thunder & lightening, that the workmen would work no longer; and they sayd they sawe strange apparitions; but they found a Cake of Gold, which was of a considerable value. This was about 1612. From Sr Tho: Williams Baronet, Chymist to K. Charles II’. Ym 1690 ymwelodd William Jones, cynorthwy-ydd i’r hynafiaethydd Edward Lhwyd, â Thŷ Illtud hefyd, a soniwyd amdano gyntaf mewn print yn argraffiad 1695 o Britannia William Camden.

Fodd bynnag, efallai nad oedd gwybodaeth am hwn neu safleoedd lleol eraill yn gyffredinol yn y cylch ar y pryd. Pan ysgrifennodd at John Aubrey ym 1694 o’i dŷ yn Newton, dim ond 2.5 cilomedr i ffwrdd, cyfaddefodd Henry Vaughan fod ei wybodaeth yn brin am hynafiaethau yn yr ardal.

Honoured Cousin.
I received yours & should gladly have served you, had it bene in my power, butt all my search & consultations with those few that I could suspect to have any knowledge of Antiquitie, came to nothing; for the antient Bards (though by the testimonie of their Enemies, the Romans;) a very learned societie; yet (like the Druids) they communicated nothing of their knowledge, butt by way of tradition wch I suppose to be the reason that we have no account left us: nor any sort of remains, or other monuments of their learning, or way of living.

Gwnaed y darganfyddiadau cynharaf yn fila Rufeinig Maesderwen ger Llanfrynach ym 1698, pan soniodd Hugh Thomas am ddarganfyddiadau o frics ac adfeilion muriau mewn cae o’r enw ‘Kearney Bach’ (Carnau Bach), ar ystâd a brynodd William Thomas yn ddiweddar. Mae adroddiad Hugh Thomas yn nodi y datgelwyd palmant o gerrig bach o liwiau amrywiol tuag 20 mlynedd cyn hynny, ynghyd â chrochenwaith, darnau arian Rhufeinig a darganfyddiadau eraill, gyda’r cae cyffiniol o’r enw ‘Clos y Gavelin’ wedi’i orchuddio â chols haearn a dybiwyd oedd o darddiad Rhufeinig. Ailddarganfuwyd y safle ym 1783 wrth i weithwyr glirio coed a phrysgwydd o gornel cae ar y stad, a bu’n destun gwaith cloddio helaeth gan Charles Hay o Aberhonddu. Cyhoeddwyd copïau o’r darganfyddiadau yn y cyfnodolyn Archaeologia ym 1785.

Roedd y crannog neu ynys wneud ar Lyn Syfaddan o’r enw Ynys Bwlc yn safle ychwanegol yn ardal y dirwedd hanesyddol i ennyn diddordeb hynafiaethol cynnar. Dau hynafiaethydd lleol, Edgar a Henry Dumbleton oedd y cyntaf i sylweddoli bod yr ynys yn un ddynol a chawsant, o waith cloddio rhannol ym 1868, esgyrn anifeiliaid, crochenwaith, lledr, efydd a charreg rwbio. Adroddwyd am y rhain yn y cyfnodolyn Archaeologia Cambrensis a gyhoeddwyd ym 1870. Roedd copïau o waith Ferdinand Keller The Lake Dwellings of Switzerland, a gyhoeddwyd ym 1866, wedi dod yn ddylanwadol iawn ym Mhrydain ac Iwerddon, gan ysbrydoli llawer o hynafiaethwyr i edrych yn fwy manwl ar safleoedd allai fod yn debyg yn nes adref. Fel y nodwyd uchod, dangosodd gwaith cloddio diweddar yn yr 1980au a’r 1990au fod palis yn amddiffyn y crannog a’i fod, yn ôl pob tebyg, yn cynnwys neuadd ganoloesol gynnar tebyg i’r cranogau brenhinol o’r un cyfnod yn Iwerddon, gyda chysylltiad â’r lan ar hyd sarn bren.

Mae paentiad Thomas Jones, yr arlunydd adnabyddus o Sir Faesyfed, sy’n dangos cychwyr wrthi’n pysgota ar Lyn Syfaddan yn yr 1780au neu’r 1790au efallai, i’w weld ym meddiant Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Roedd mynd mewn cwch er pleser wedi dod yn ddifyrrwch poblogaidd ar y llyn erbyn y 1890au ac, erbyn hynny, codwyd glanfeydd a chytiau cychod ar ochrau gogleddol a deheuol y llyn. Roedd nifer gynyddol o dwristiaid wedi dechrau ymweld ag ardal y dirwedd hanesyddol a mynd drwyddi ers canol y 18fed ganrif, a hybwyd trwy wella’r rhwydwaith ffyrdd tyrpeg a thrwy gyhoeddi mapiau ffyrdd, adroddiadau topograffig a hanesyddol a phrintiau o olygfeydd hyfryd megis golygfeydd Samuel a Nathaniel Buck o Lan-ddew, Castell Pencelli ac Aberhonddu, a gyhoeddwyd ym 1774.

Gwelwyd cyhoeddi argraffiad cyntaf History of the County of Brecknock Theophilus Jones, mewn dwy gyfrol, yn negawd cyntaf y 19eg canrif. Dechreuwyd hwn ar droad y ganrif, ac mae’n un o’r goreuon o blith cenhedlaeth gynharach o hanesion siroedd Cymru. Bu Jones (1759-1812), a addysgwyd yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a’i hyfforddi fel cyfreithiwr, yn byw am lawer blwyddyn yn Lion Street, Aberhonddu. Yn ôl yr arfer, canolbwyntiodd cynnwys y ddwy gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1805 a 1809, ar hanes cynnar y sir ac achau ei bonedd, ond ystyriodd hefyd arferion a thraddodiadau ei thrigolion a hynafiaethau’r sir. Roedd y cyfrolau’n ddyledus iawn i ymchwiliadau ei gyfaill o’r un oed bron, yr hanesydd eglwysig y Parchedig Henry Thomas Payne (1759-1832), ynghyd â Thomas Price, hanesydd a hynafiaethydd Brycheiniog, oedd wrthi’n ymchwilio ac yn ysgrifennu ar hanes cynnar a hynafiaethau’r sir.

Roedd Richard Fenton a Syr Richard Colt Hoare ymhlith yr ymwelwyr cynnar o bellach draw a ddaeth i weld hynafiaethau’r sir drostynt eu hunain, gyda Syr Richard yn paentio golygfa ddyfrlliw o eglwys y priordy yn Aberhonddu ym 1793. Daethant i adnabod Theophilus Jones a Thomas Payne ymhlith eraill. Aethant i ymweld â Chaer Rufeinig Aberhonddu ar 22 Mai 1804:

charmingly situated near the Usk; nor can a finer situation be imagined, whether we consider the Aspect, the River, the Woods, and the sublime back Ground of Mountains seen through a Skreen of Trees. . . . At the farm house of Aber Eskyr [Aberyscir] saw a Brick, about 9 inches square and 2 thick, stamped with LEG. II AVG [the Roman legion called the Second Augustan].

Roedd dyffryn Wysg fel cyfanwaith i’w edmygu am ei olygfeydd hyfryd:

the beautiful vale of Usk, which, whether we consider its form, its cheerfulness, or its boundaries, is without comparison the prettiest Vale in the Kingdom. A very peculiar feature of it is the endless openings into Smaller Vallies on each side.

Saw the course of the new Canal to Brecknock for a great way on the North side of the Usk, and then on the South side.

O ganol y 18fed canrif daeth tref Aberhonddu yn ganolbwynt bywyd diwylliannol y rhanbarth. Cynhaliwyd dawnsiau a pherfformiadau theatraidd yn ystafelloedd mawr nifer o dafarnau. Ganed Sarah Siddons (1755-1831), yr actores drasig, yn The Shoulder of Mutton yn y Stryd Fawr (tŷ tafarn Sarah Siddons erbyn hyn), ei rhieni’n actorion crwydrol oedd wedi perfformio’n ddiweddar yn y dref. Ar ôl ei blynyddoedd cynnar, roedd ei chysylltiadau â’r dref yn brin, er iddi berfformio yn yr ystafell fawr yn y Bell Inn pan oedd ar gylchdaith o’r taleithiau.

Daeth Aberhonddu yn ganolbwynt rhanbarthol pwysig addoli ac addysgu anghydffurfiol yn y 19eg canrif, pryd yr oedd wyth capel yn y dref yn perthyn i’r Wesleaid, y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a’r Annibynwyr, pob un gyda chapeli Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae cyfrifiad crefyddol 1851 yn dangos y gogwydd at anghydffurfiaeth yn y dref yn ystod y 19eg ganrif yn eglur iawn, gyda bron i 60% o’r boblogaeth yn mynychu addoldai anghydffurfiol. Roedd cyrddau cynnar anghydffurfwyr yr ardal yn tueddu i fod mewn capeli neu mewn tai preifat yn y wlad oddi amgylch. Capel Annibynnol neu Gynulleidfaol Cymraeg y Plough oedd y capel cynharaf yn Aberhonddu. Adeiladwyd ef ar safle tŷ tafarn y Plough ym 1699 a’i ehangu wedyn rhwng 1874 a 1901. Pregethai John Wesley yn aml yn y dref yn hyrwyddo achos y Methodistiaid. Ym 1780, adeiladodd Yr Arglwyddes Huntingdon gapel Calfinaidd Cymraeg yn y Struet, a ddisodlwyd gan gapel Bethel a adeiladwyd ym 1859, oedd â lle i 800 o bobl eistedd. Adeiladwyd capel y Bedyddwyr yn y Watergate ym 1806, a ddisodlwyd gan Gapel Kensington a godwyd ym 1844. Adeiladodd cenhadon y Wesleaid Cymraeg y Tabernacl yn y Struet ym 1824, er bod hwn eisoes wedi cael ei drosi yn siop erbyn y 1870au. Adeiladwyd Capel yr Annibynwyr Saesneg yn Stryd Morgannwg ym 1836 a chodwyd Capel y Presbyteriaid Saesneg yn y Watton ym 1866, yn bennaf mewn ymateb i nifer gynyddol sylweddol y siaradwyr Saesneg yn y fwrdeistref erbyn diwedd y 19eg ganrif. Dim ond pedwar capel anghydffurfiol sy’n dal ar agor. Roedd gwreiddiau Coleg Coffa’r Annibynwyr yn Aberhonddu (a enwyd er cof am weinidogion a daflwyd allan o’r Eglwys Anglicanaidd yn yr 17eg ganrif), a sefydlwyd ym 1869, yng Ngholeg Annibynnol Aberhonddu a sefydlwyd ym 1839 mewn tŷ preifat ar y pryd yn St Mary’s Street. Erbyn 1852 cafodd ei gydnabod fel un o golegau Prifysgol Llundain ac, ym 1903, daeth yn goleg diwinyddol cysylltiedig â Phrifysgol Cymru. Daeth yn sefydliad addysgol pwysig yr honnwyd iddo ‘ffurfio datblygiad y Cymry’n bendant’.

O ran diwylliant heddiw, efallai bod yr ardal yn fwyaf adnabyddus am Ŵyl Jazz flynyddol Aberhonddu, ac am y gweithgareddau twristiaeth a hamdden sy’n gysylltiedig â Chamlas Aberhonddu a’r Fenni a Llyn Syfaddan.

(yn ôl i’r brig)