CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg


AMGYLCHEDDAU A FFINIAU

Y Dirwedd Naturiol

Terfynau ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Wysg yw Mynydd Epynt i’r gogledd, Mynydd Troed a Mynydd Llan-gors ar ymyl orllewinol y Mynydd Du i’r dwyrain, ac ochr ddwyreiniol Bannau Brycheiniog i’r de.

Y ddaeareg soled waelodol drwy’r ardal gyfan yw Hen Dywodfaen Coch Silwraidd a Defonaidd. Rhannwyd y prif lif iâ i lawr dyffryn Wysg yn ystod y rhewlifiant diwethaf gan ben gorllewinol y Mynydd Du ger Llan-gors yn rhan ddwyreiniol yr ardal, un gangen yn troi tua’r de-ddwyrain i lawr afon Wysg tuag at Grucywel a’r llall yn dal ymlaen i’r gogledd-ddwyrain ar draws gwastadedd Llynfi i ddyffryn Gwy rhwng y Clas ar Wy a’r Gelli Gandryll. Mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn Sir Frycheiniog, o darddiad rhewlifol. Mae hyd at 8.5 metr o ddyfnder ac wedi’i dorri i graig soled yn ei fan isaf yn ôl pob tebyg. Caiff y dŵr ei gadw yn y llyn gan rwystr o ro rhewlifol ynghyd â llifwaddodion diweddarach, a ddygwyd i lawr gan nentydd yn codi ar y bryniau i’r dwyrain. Mae dyddodion rhewlifol eraill, gan gynnwys malurion marianol, yn bresennol yn nyffryn Wysg yn ardaloedd Gilestone/Llansanffraid a Brynich/Groesffordd. Ffurfiwyd y cwm bychan ym Mhennorth fel sianel dŵr tawdd rhewlifol yn rhedeg tua’r de o gyfeiriad Llyn Syfaddan i gyfeiriad dyffryn Wysg.

Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn rhannu’n nifer o wahanol ardaloedd topograffig, gyda’r ardaloedd sy’n ffinio ag afon Wysg yn gyffredinol wastad ac isel a rhwng tua 120 a 60 metr uwchlaw lefel y môr. Yn y dwyrain mae’r basn bas ychydig yn uwch o gwmpas Llyn Syfaddan gyda thir tonnog o’i gwmpas yn codi i uchder o ryw 270 metr ond gyda chrib unig Allt yr Esgair, rhwng dyffryn Wysg a’r llyn, yn codi i uchder o 390 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r ardal i’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu eto’n donnog braf ac yn gyffredinol rhwng tua 140 a 270 metr uwchlaw lefel y môr. Mae ffurf tir yr ardal i’r gogledd o afon Wysg ac i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu yn fwy amrywiol, wedi’i rannu’n nifer o ddyffrynnoedd nentydd ar wahân a bryniau bach unig fel Coed Fenni-fach a Phen-y-crug sy’n cyrraedd uchderau o ryw 300 metr. Saif Aberhonddu ei hun mewn ardal gymharol wastad yn ffinio â gorlifdir yr afon, rhwng tua 130 ac 80 metr uwchlaw lefel y môr.

At ei gilydd, mae’r priddoedd drwy’r ardal gyfan yn briddoedd lomog cochlyd bras sy'n draenio’n dda, ar ben y creigwely tywodfaen, gyda llifwaddod lleidiog cochlyd mân ar hyd gorlifdir gwastad afon Wysg, a phriddoedd cleiog, lleidiog a lomog yn mynd yn llawn dŵr yn ôl y tymor ar ymyl gogledd-orllewinol Llyn Syfaddan. Tir glas parhaol yw’r defnydd tir cyfoes pennaf drwy’r ardal gyfan, ond gyda rhywfaint o dir âr a chnydau porthiant a phlanhigfeydd conwydd ar dir mwy serth a llai hygyrch fel Allt yr Esgair a Choed Fenni-fach.

Mae nifer o wahanol nentydd ac afonydd yn draenio ardal y dirwedd hanesyddol. Yn y gogledd-orllewin mae Nant Brân sy’n ymuno ag afon Wysg yn Aberbrân, Afon Ysgir sy’n ymuno â hi yn Aberysgyr ac Afon Honddu sy’n ymuno â hi yn Aberhonddu, gan ddod â dŵr i lawr o ochrau deheuol Mynydd Epynt. I’r gogledd mae Afon Brynich yn draenio tir i’r de a’r gorllewin o Lan-ddew, gan ymuno ag afon Wysg yn union i’r dwyrain o Aberhonddu. I’r de mae Afon Tarell, sy’n llifo i afon Wysg yn Llan-faes, ac Afon Cynrig sy’n ymuno â hi yn Abercynrig. Mae Afon Wysg ei hun yn llifo drwy orlifdir llifwaddodol eang rhwng Aberhonddu a Thalybont ar Wysg, gyda chyfundrefn gymhleth ac egnïol o ddoleniadau a thoriadau. Fodd bynnag, mae rhan ddwyreiniol yr ardal yn cael ei draenio yn bennaf gan Afon Llynfi a’i llednentydd fel Nant Tawel yn Llanfihangel Tal-y-llyn a Nant Cwy yn Llan-gors sy’n llifo i Lyn Syfaddan ac yn draenio tua’r gogledd i ymuno â gwahanfa ddŵr afon Gwy ger Talgarth.

Ers dyddiau cynnar bu Canol Dyffryn Wysg yn ganolbwynt pwysig i linellau cyfathrebu’n cysylltu de-ddwyrain Cymru ar hyd dyffryn Wysg, a chanoldir Lloegr trwy ddyffryn Gwy, â de-orllewin Cymru. Llwybr oedd hwn a ddefnyddiwyd yn olynol ar gyfer y ffyrdd Rhufeinig o’r ganrif 1af i’r 4edd ganrif, y ffyrdd tyrpeg o’r 18fed i’r 19eg ganrif, y rheilffyrdd yn ddiweddarach yn y 19eg a’r 20fed ganrif, a’r cefnffyrdd modern.

(yn ôl i’r brig)