CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg


DEFNYDD TIR AC ANHEDDU

Defnydd tir ac anheddu cynhanesyddol a Rhufeinig

Teclynnau carreg a ddarganfuwyd ar hap yn y mawn dan grannog Llan-gors yw arwyddion cynharaf gweithgaredd dynol yn ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Wysg. Mae’r rhain yn perthyn i’r cyfnod Mesolithig ac, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli un o nifer o wersylloedd dros dro oedd yn cael eu defnyddio gan grwpiau helwyr-gasglwyr yn symud ar hyd dyffryn Wysg ac i fyny i’r bryniau oddi amgylch yn dymhorol. Yn ôl pob tebyg mae’r darganfyddiadau hyn o Lyn Syfaddan yn arwydd o’i bwysigrwydd fel adnodd adara a physgota ers dyddiau cynnar.

Mae astudiaethau o ddyddodion yn Llyn Syfaddan yn rhoi darlun cyffredinol o’r defnydd tir cynnar gan ddangos y bu gostyngiad mewn paill coed a chynnydd mewn gwaddodiad yn ystod y cyfnod rhwng rhyw 3800 a 950 CC, gan awgrymu cyfnod o glirio coedwigoedd ac amaethu âr yn ystod y cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Hyd yma ni ddarganfuwyd safleoedd anheddu o’r cyfnodau hyn yn yr ardal ond mae dyrnaid o gofebion claddu a defodol nodweddiadol yn dangos bodolaeth cymunedau cynnar o amaethwyr sefydlog o’r cyfnodau hyn. Yn ôl pob tebyg, gall y ffaith bod yr ardal wedi cael ei ffermio’n drylwyr ers y cyfnod cynhanesyddol diweddarach egluro pam y diflannodd holl olion safleoedd anheddu cysylltiedig o’r golwg erbyn hyn. Mae crug hir Tŷ Illtud, rhwng Llanhamlach a Phennorth, yn un o gasgliad o garneddau hir cellog Neolithig cynnar sy’n hysbys ym Mynydd Du Sir Frycheiniog a’r cyffiniau. Mae nifer o grugiau crwn yn dyddio o Oes yr Efydd gynnar yn hysbys yn yr ardal ac yn cynnwys carnedd ar gopa Allt yr Esgair ac efallai bod y gyfres amlwg o feini hirion ar lawr y dyffryn ynn Nghradoc, Y Batel, Llanhamlach (Peterstone) a Gileston hefyd yn dyddio o Oes yr Efydd.

Mae presenoldeb y clwstwr bryngeyrydd cymharol fawr o Oes yr Haearn, a nodwyd uchod, yng Nghoed Fenni-fach, Pen-y-crug, Twmp Slwch ac Allt yr Esgair yn awgrymu bod yr ardal yn ôl pob tebyg yn cynnal poblogaeth sylweddol erbyn y cyfnod cynhanesyddol diweddarach. Yn ddiamau, roedd llawer o’r coetir llydanddail brodorol yn dal yno bryd hynny, er bod llawer iawn, yn ôl pob tebyg, eisoes wedi cael ei gwympo a’i glirio i greu tir pori a thir âr yn ôl patrwm ffermydd gwasgaredig na ddarganfuwyd hyd yma yn yr ardaloedd gwaelodol o gwmpas y bryngeyrydd. Yn wir, mae’n debygol bod rhai o’r patrymau caeau afreolaidd sydd i’w cael yn rhannau o ardal y dirwedd hanesyddol yn awgrymu bod gwaith tameidiog clirio coetiroedd a’u hamgáu yn tarddu o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn.

Mae’n debygol bod anheddu wedi parhau yn yr ardal ac y bu ffermio eithaf dwys drwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid er mai cymharol ychydig safleoedd preswylio o’r cyfnod hwn a nodwyd eto. Mae cynnydd sylweddol pellach yng nghyflymder gwaddodiad yn Llyn Syfaddan yn awgrymu dwysáu amaethu âr a mwy o erydu pridd oddeutu’r 3edd ganrif OC, o leiaf o fewn gwahanfa ddŵr afon Llynfi sydd, yn ôl pob tebyg, yn adlewyrchu patrwm defnydd tir mewn mannau eraill. Datblygodd anheddiad sifil cnewyllol yng nghysgod Caer Rufeinig Aberhonddu, lle trigai masnachwyr a chrefftwyr yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r fyddin yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, mae’n debygol mai anheddiad cymharol fyrhoedlog o ddiwedd y ganrif 1af a’r 2il ganrif oedd hwn ac mae’n ymddangos na chafodd lawer o effaith barhaol ar batrwm anheddu a defnydd tir yr ardal. Efallai bod y cyfadail Rhufeinig statws uchel ym Maesderwen, ger Llanfrynach ar ymyl ddeheuol ardal y dirwedd hanesyddol, yn arwydd bod pendefigaeth yn meddu ar ystadau tiriog mawr wedi dod i’r amlwg yn yr ardal erbyn y 3edd ganrif a’r 4edd ganrif OC. Efallai mai o’r amgylchfyd hwn yr ymddangosodd y brenin chwedlonol Teuderic yn y 5ed ganrif, fel un oedd yn honni ei fod o dras uchelwr Rhufeinig.

Anheddu a defnydd tir canoloesol cynnar a chanoloesol

Yn ôl pob tebyg, fe barhaodd ffermydd ac ystadau oedd wedi ymddangos yn ystod cyfnod diweddarach y Rhufeiniaid i gynhyrchu ymlaen i’r canol oesoedd cynnar, gan gynnwys daliadau ac ystadau brenhinoedd Brycheiniog a’u dilynwyr yn y cyfnod cyn y Goresgyniad. Mae’r palas brenhinol o ddiwedd y 9fed ganrif i ddechrau’r 10fed ganrif ar y crannog yn Llyn Syfaddan yn unigryw yng Nghymru ac yn annodweddiadol o aneddiadau cyfoes eraill yn yr ardal yn y canol oesoedd cynnar: yn yr un modd roedd y rhain wedi’u hadeiladu o goed yn ôl pob tebyg, ond byddai caeau yn hytrach na dŵr o’u cwmpas.

Ychydig yw’r wybodaeth gyffredinol eto am batrwm defnydd tir, trefnu’r dirwedd ac anheddu yn y cyfnod cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Fel y nodwyd uchod, roedd patrwm o eglwysi wedi datblygu cyn cyfnod y Goresgyniad ar ddiwedd yr 11eg ganrif, gan gynnwys yr eglwys yn Llan-ddew a’r rhai yn Llan-gors a Llansbyddyd sy’n gysylltiedig â cherrig arysgrifedig neu addurnedig o’r 7fed ganrif i’r 9fed ganrif. Mae eglwysi eraill, fel Llanfrynach a Llanhamlach, yn gysylltiedig â cherrig arysgrifedig neu addurnedig cyn y Goresgyniad o’r 10fed ganrif i’r 11eg ganrif. Mae tarddiad rhai eglwysi canoloesol, fel Llanfihangel Tal-y-llyn a Llan-faes, yn llai sicr. Mae aneddiadau cnewyllol yn gysylltiedig â nifer o’r eglwysi hyn, yn arbennig y rhai yn Llanfrynach, Llan-gors, Llanfihangel, Llansbyddyd a Llan-ddew oedd, yn ôl pob tebyg, wedi ymddangos fel aneddiadau rhydd neu daeog cyn y goresgyniad Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Crebachodd nifer o’r aneddiadau cnewyllol hyn, fel Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-ddew ac efallai Llanhamlach, o ganlyniad i ddiboblogi gwledig yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, gan beri patrymau o lwyfannau tai gadawedig mewn rhai achosion. Nid yw statws rhai eglwysi eraill mor amlwg, fel y rhai a grybwyllwyd eisoes yn Llanhamlach, yn ogystal â’r rhai all fod wedi tarddu naill ai yn y cyfnod cyn neu wedi’r Goresgyniad yn Aberysgyr, Llanfihangel Cathedin, Y Batel a Llansanffraid. Heddiw, mae’r eglwysi hyn yn gysylltiedig â fawr ddim mwy na fferm unigol neu ddyrnaid o dai, sy’n awgrymu ei bod yn bosibl iddynt ddechrau fel eglwysi perchnogol a waddolwyd gan dirfeddianwyr amlwg yn dilyn y goresgyniad, wedi’u sefydlu ar bwys eu prif anheddau - rhagflaenwyr ffermydd neu dai bonedd heddiw sydd nesaf at yr eglwysi.

Yn dilyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd dan Bernard de Neufmarché ar ddiwedd yr 11eg ganrif mae’n ymddangos y rhoddwyd tirddaliadaethau gwledig sylweddol i farchogion ac unigolion uchel eraill oedd wedi cymryd rhan yn ei gyrch. Roedd y rhain yn ôl pob tebyg yn cynnwys ystadau tywysogion a thirfeddianwyr brodorol yn nheyrnas frodorol Brycheiniog, sef ystadau a atafaelwyd, yn ogystal â’r rhai all fod newydd eu sefydlu ar y pryd, yn aml yn y tir amaethyddol gwaelodol cyfoethocach yn nyffrynnoedd Wysg a Llynfi. Fel y nodwyd uchod, mae maenorau Normanaidd a gofnodwyd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys y canlynol: Sgethrog, rhodd i Syr Miles Picard, de Picardé neu Pitcher; Llanhamlach a Llanfihangel Tal-y-llyn rhodd i Syr John Walbeffe neu Walbeoff; Aberysgyr, rhodd i Syr Hugh Surdwal; Gileston (Gilestone), rhodd i Syr Giles Pierrepoint; Llansanffraid, rhodd i Walter de Cropus; a Llansbyddyd, rhodd i Syr Richard de Boulogne, neu Bullen. Fe sefydlodd llawer o’r rhain ystadau oedd i oroesi i’r cyfnod modern.

Ar ôl y Goresgyniad daeth Aberhonddu yn ganolbwynt gweinyddol, crefyddol a masnachol y rhanbarth. Mae’n ymddangos y sefydlwyd y dref yma, ar lan orllewinol Afon Honddu, efallai’n bell o ganolfannau brenhinol brodorol cynharach. Safai ar bwys y castell pridd a phren a sefydlwyd, yn ôl pob tebyg, ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif gan yr arglwydd Normanaidd, Bernard de Newmarché, yn fuan ar ôl goresgyniad teyrnas Brycheiniog ym 1093, ac fe sefydlwyd y priordy Benedictaidd cyn 1106. Ymestynnodd yr anheddiad wedyn ar hyd glannau afon Wysg i’r dwyrain o afon Honddu, a chafodd amddiffynfeydd yn hanner cyntaf y 13eg canrif efallai a chyfres o siarteri o ddiwedd y 13eg ganrif ymlaen. Fel y nodwyd uchod, cafodd ei ddynodi yn un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru dan y Ddeddf Uno ym 1536.

Roedd nifer o’r canolfannau maenoraidd seciwlar cynnar, fel Pencelli, Aberysgyr, Llangasty Tal-y-llyn (Tomen Twmpan) ac Alexanderstone yn gysylltiedig â thomenni neu gestyll tomen a beili yn yr 11eg ganrif ddiweddar neu’r 12fed ganrif yn ôl pob tebyg, ac mae’n bosibl yr ychwanegwyd gorthwyr neu amddiffynfeydd maen atynt yn ddiweddarach mewn rhai achosion. Gall y tŷ tŵr amddiffynnol o’r 16eg ganrif yn Sgethrog, cysylltiedig â’r teulu Picard, fod wedi disodli adeiledd amddiffynnol cynharach. Sefydlwyd ystadau eglwysig yn perthyn i Dyddewi yn Llan-ddew erbyn y 12fed ganrif, gyda phalas yr esgob yma’n ganolbwynt y ganolfan faenoraidd a gafodd amddiffynfeydd maen hefyd, yn ôl pob tebyg yn y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif. Parhaodd y daliadau esgobol hyn i fod ym meddiant Tyddewi tan y Diwygiad Protestannaidd yn y 1530au. Roedd gan Briordy Aberhonddu hefyd ddaliadau sylweddol yn yr ardal, oedd yn cynnwys plwyf Y Batel a enwyd, fel y nodwyd uchod, ar ôl mam-eglwys y priordy yn Battle swydd Sussex. Ychydig cyn y diwygiad, rheolwyd daliadau Tyddewi yn archddiaconiaeth Aberhonddu a rhai Priordy Aberhonddu gan stiward unigol, Thomas Harvard, a gyhuddwyd ym 1531 o gymryd cyllid ar gam oedd yn ddyledus i faenor Llan-ddew.

Mae’n ymddangos bod cyfundrefnau ffermio tir âr cysylltiedig â nifer o’r canolfannau maenoraidd seciwlar ac eglwysig hyn wedi peri patrymau caeau neilltuol sy’n dal yn amlwg mewn rhai ardaloedd heddiw. Mae patrymau nodweddiadol llain-gaeau gyda gwrychoedd rhyngddynt, yn cynrychioli amgáu a chyfuno ystadenni caeau agored canoloesol yn weladwy, er enghraifft, ger Llansbyddyd, Aberysgyr, Aberbrân, Llan-ddew, Alexanderstone a Llanfihangel Tal-y-llyn, pob un ohonynt yn gysylltiedig ag amaethu cefnen a rhych creiriol. Nodwyd amaethu cefnen a rhych creiriol, efallai o darddiad caeau agored canoloesol, hefyd yn y canolfannau ym Mhencelli, Llan-gors a’r Batel, neu ger y canolfannau hyn. Nodwyd llain-gaeau a chefnen a rhych a ad-drefnwyd hefyd efallai ar ymylon dwyreiniol, gogleddol a deheuol tref Aberhonddu, gan gynnwys maestref ddeheuol Llan-faes sydd, efallai, yn cynrychioli caeau agored canoloesol blaenorol cysylltiedig â maenor a thref Aberhonddu ei hun. Mewn rhai achosion y farn yw bod yr elfen maes, sy’n digwydd yn enw Llan-faes, yn dynodi hen gaeau agored.

Mae syniad o effaith ffermio dwys ar ddiwedd y 12fed ganrif yn yr ardal yn ymddangos o sylw Gerallt Gymro yn ei Ddisgrifiad o Gymru bod arlliw coch weithiau ar Lyn Syfaddan. Mae hyn yn awgrymu bod erydu pridd yn digwydd o fewn gwahanfa ddŵr afon Llynfi o leiaf, yn ôl pob tebyg yn dilyn aredig neu ar ôl clirio coetir. Mae nentydd yn dal i gludo gwaddodion mewn daliant fel hyn i’r llyn yn y gaeaf a’r gwanwyn. Mae sylw Gerallt, bod arlliw gwyrdd ar y llyn weithiau, yn awgrymu ffurfio chwyddiant algaidd o’r math a welwyd yn y blynyddoedd diweddar a ystyriwyd yn effaith andwyol arferion amaethyddol modern yn deillio o drwytholchi nitradau a ffosffadau. Mewn cyd-destun modern mae cynhyrchu da byw yn ddwys yn aml yn achosi llawer o gyfansoddion nitrad ac amonia ac efallai mai hyn oedd achos ffenomen debyg ar ddiwedd y 12fed ganrif.

Yn ôl pob tebyg dechreuodd patrymau canoloesol arferol daliadaeth a defnydd tir ar sail y gyfundrefn faenoraidd ac amaethu caeau agored, chwalu a darnio yn ystod y 14eg ganrif ddiweddarach a’r 15fed ganrif, a chafodd ei waethygu gan y plâu a thrychinebau eraill a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn. Cofnodwyd marwolaeth cyfran sylweddol o denantiaid mewn ardaloedd fel y Watton ym 1372, er enghraifft. Byddai cyfnewid gwasanaethau am renti, a gwerthu a gwasgaru daliadau demen, wedi hybu sefydlu ffermydd rhydd-ddaliadol unigol gyda mwy o bwyslais ar bori efallai. Yn ogystal â’r ymosodiad ar dref Aberhonddu yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ym mlynyddoedd cynnar y 15fed canrif, distrywiwyd llawer o’r maenorau gwledig oddi amgylch hefyd, gyda chofnod bod ‘The rebels purpose to burn and destroy . . . all pertaining to the English in these parts’.

Mae’n ymddangos bod patrymau caeau mwy afreolaidd mewn mannau eraill, yn aml yn bell o’r canolfannau maenoraidd cynnar hyn, yn cynrychioli proses o glirio ac amgáu tameidiog o dir amaeth o’r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol cynnar ymlaen, gan nodweddu patrwm anheddu mwy gwasgaredig cysylltiedig â ffermydd rhydd-ddaliadol neu ffermydd â thenantiaid.

TMae’n amlwg bod afon Wysg a Llyn Syfaddan yn ffynhonnell faeth bwysig ers dyddiau cynnar. Nododd Gerallt Gymro yn y 12fed ganrif fod y llyn yn ffynhonnell penhwyaid, draenogod dŵr, ysgretennod a llysywod a’i fod, fel afon Wysg, hefyd yn ffynhonnell brithyll. Mae disgrifiadau gweinidogion canoloesol yn cyfeirio at garfanau o ferched Llan-faes yn pysgota gyda rhwydi yn y llyn. Ychwanegwyd at y ffynonellau pysgod ffres hyn hefyd yn y canol oesoedd gyda phyllau pysgod gwneud, fel y rhai sy’n hysbys o dystiolaeth gwaith cloddio i’r gorllewin o eglwys Llan-ddew oedd, yn ddiamau, yn cyflenwi cegin palas yr esgobion yn Llan-ddew.

Anheddu a defnydd tir ôl-ganoloesol a modern

Parhaodd y trefi, pentrefi a ffermydd oedd wedi ymddangos yn yr ardal erbyn diwedd y canol oesoedd i ehangu a datblygu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Er bod twf trefi a dinasoedd diwydiannol de Cymru wedi’i bwrw i’r cysgod wedi hynny, erbyn yr 16eg ganrif roedd Aberhonddu wedi dod i’r amlwg fel un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru. Mae’n amlwg bod y dref, erbyn yr 17eg ganrif gynnar, yn dechrau ehangu y tu hwnt i furiau’r dref ganoloesol, yn arbennig yn y gogledd, yn ardal y Struet a Mount Street. Oherwydd gwelliannau yn y ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif, gwelwyd cynnydd mewn gweithgaredd masnachol a datblygiad tafarnau’r goets. Meithriniwyd diwydiant cynnar yn y dref ac o’i chwmpas, yn bennaf ar sail defnyddio pŵer dŵr yn cael ei ddarparu gan afon Wysg ac afon Honddu, gyda dyfodiad Camlas Mynwy a Brycheiniog ar union ddechrau’r 19eg ganrif ac agor Tramffordd y Gelli erbyn diwedd ail ddegawd y ganrif, gan beri diwydiannau seiliedig ar ddefnyddio glo a charreg galch. Hybodd hyn dwf pellach y dref o ran tai gweithwyr a chrefftwyr a thai tref y bonedd a’r masnachwyr ac, erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd maestref y Watton wedi ehangu i’r dwyrain a maestref Llan-faes wedi ehangu i’r de-orllewin, gan ddyblu’r boblogaeth yn y cyfnod rhwng 1801 ac 1851 i bron i 6,000. Datblygodd y dref ymhellach gyda dyfodiad y rheilffyrdd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif. Bu cryn gynnydd mewn tai yn y dref yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yn ardal Pendre i’r gogledd-orllewin ac mewn datblygiadau tai a masnach yn ardal Camden Road i’r dwyrain.

Datblygodd amryw o’r pentrefi a phentrefannau cnewyllol yn yr ardal o amgylch aneddiadau cnewyllol canoloesol cynharach neu ganolfannau maenoraidd, weithiau’n gysylltiedig ag eglwys neu gastell, tra bo’n ymddangos bod eraill wedi tyfu o amgylch fferm. Gall rhai o’r aneddiadau olaf hyn fod wedi dod yn ganolfannau ystadau bach er ei bod yn ymddangos bod eu dylanwad ar y patrwm anheddu ehangach wedi bod yn glytiog, er gwaethaf bodolaeth amryw o blastai yn y cylch.

Parhaodd y pentrefi cnewyllol bach oedd wedi ymddangos yn ystod y canol oesoedd, fel Llan-gors, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-ddew a Llanfrynach i ddatblygu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol ac, yn wir, mae’r dystiolaeth bensaernïol o’u datblygiad sydd wedi goroesi’n perthyn i raddau helaeth iawn i ganrifoedd diweddarach. Mae Llanfrynach yn enghraifft arbennig o dda o bentref cnewyllol gyda’r eglwys yn ei ganol, a nodwyd bod Tŷ Mawr sydd ochr yn ochr â’r eglwys yn faenordy caerog canoloesol diweddarach. Mae presenoldeb rhai adeiladau fferm da yn awgrymu gwreiddiau amaethyddol yr anheddiad, ond mae’r rhesi tai unol gyferbyn â’r eglwys ar y briffordd trwy’r anheddiad yn rhoi iddo gymeriad pentref cryf. Y tu hwnt i’r cnewyllyn hwn mae cymysgedd diddorol o dai a ddatblygodd yn fwy anffurfiol (cymysgedd o dai diymhongar iawn), yn rhoi cryn ddyfnder economaidd-gymdeithasol i’r anheddiad hanesyddol hwn, lle cydweddwyd datblygiad modern gyda gofal. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng anffurfioldeb yr anheddu yn llawer o’r pentrefi lle ceir mwyafrif y tai llai a bythynnod (gwelwch er enghraifft Llanfrynach a’r Batel), ac ôl rheolaeth y tirfeddianwyr mwy yng nghefn gwlad. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi goroesi o sgwatio neu lechfeddiannu, er enghraifft, hyd yn oed yn gysylltiedig â’r tir comin bach yn Llan-gors, er efallai y cymerwyd rhywfaint ar y ffordd i’r gorllewin o’r pentref.

Mae’n amlwg y tyfodd rhai o’r pentrefi yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol fel anheddau fferm, lle ffurfiodd un neu fwy o ffermydd y cnewyllyn ar gyfer twf diweddarach. Enghraifft dda o hyn yw Llanfihangel Tal-y-llyn, lle mae cyfadail fferm da yng nghanol y pentref, ond sydd fel arall yn anheddiad o ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif yn bennaf o ran cymeriad, gydag ychwanegiad stad dai fodern. Mae’n bosibl bod Sgethrog yn enghraifft arall o hyn. Mae’r cnewyllyn yma’n cynnwys tŷ’r Hen Bersondy o ddechrau’r 16eg ganrif a nifer o dai ac ysguboriau o’r 18fed ganrif yn Neuadd a Fferm Sgethrog, a saif i’r gogledd o ganolbwynt cynharach yn y Tŵr oedd, yn ôl pob tebyg, yn rhan o dŷ tŵr caerog o’r 16eg ganrif wedi’i adeiladu gan gangen o’r teulu Pichard. Yn yr un modd, mae’n ymddangos nad oedd Llansbyddyd fawr mwy na phâr o ffermydd gyda’r eglwys ar hyd y briffordd nes iddo ehangu pan godwyd stad dai ymhellach i fyny’r llethr i’r de yn yr 20fed ganrif. Cadwodd Troedyrharn ac Alexanderstone i’r dwyrain o Aberhonddu gymeriad anheddau fferm, lle mae ffermdai a’u hadeiladau’n cyd-fynd â’r hyn oedd yn ôl pob tebyg yn fythynnod gweithwyr yr ystâd.

Mae datblygiad hanesyddol y gwahanol bentrefi a phentrefannau yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cael ei adlewyrchu yn natur amrywiol y patrwm adeiladu: felly, mae datblygiad anffurfiol tai unigol yn Llanfrynach yn cyferbynnu â’r broses fwy trefnus o adeiladu mewn rhes yn yr un pentref, neu yn Nhalybont ar Wysg. Mae cydgasglu adeiladau unigol yn nodweddu patrwm anheddu Llan-gors a Llanfihangel Tal-y-llyn hefyd, gan awgrymu datblygu dros gyfnod a hynny o waith llawer o wahanol asiantau. Mewn cyferbyniad, mae dyluniad ffurfiol y rhesi tai yng Nghradoc a Thal-y-llyn yn dangos dylanwad un llaw yn rheoli.

Mae’n ymddangos y bu cyfnod o grebachu ar amryw o bentrefi, fel Llan-ddew, Llanfihangel Tal-y-llyn a Llanhamlach efallai, ar ddiwedd y 19eg ganrif, efallai mewn ymateb i fecaneiddio ffermydd ac atyniadau cystadleuol cyflogaeth yn aneddiadau diwydiannol cynyddol de Cymru. Effeithiodd hyn hefyd ar nifer o anheddau gwledig mwy gwasgaredig fel, er enghraifft, ar lethrau dwyreiniol Allt yr Esgair, i’r de o Lyn Syfaddan. Canlyniad y broses hon oedd gadael llwyfannau tai blaenorol, yn dyddio yn ôl pob tebyg o’r canol oesoedd ymlaen, sy’n weladwy yn yr aneddiadau hyn ac o’u hamgylch, er y gwelwyd cyfnod o dwf o’r newydd ac adfywio yn y rhan fwyaf o bentrefi ar ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif, gan gynnwys adnewyddu llawer o’r adeiladau presennol.

Y tu allan i dref Aberhonddu, ffermydd gwasgaredig sy’n nodweddu’r patrwm anheddu, gyda graddfa’r gwasgariad a goruchafiaeth ffermdai eithaf sylweddol gydag adeiladau mawr cysylltiedig yn awgrymu bod daliadau unigol yn gymharol fawr. Dim ond ar ymylon ucheldir yr ardal y mae’r patrwm hwn yn ildio i un lle mae ffermydd llai’n nes at ei gilydd. Yn gyffredinol, mae’r patrwm cryfaf yn nodi tarddiad mewn patrwm o ddal tir lle’r oedd llawer o rydd-ddeiliaid cymharol ffyniannus.

O’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif ymlaen, gwelwyd ffurfio nifer o ystadau tiriog a fyddai’n parhau i gael effaith ddylanwadol a gweladwy ar y dirwedd o ran amgáu a gwella tir amaeth, ac ar ddatblygiad tai a ffermydd â thenantiaid. Deilliodd rhai o’r ystadau hyn o deuluoedd blaenllaw oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod y canol oesoedd. Er enghraifft, mae’n ymddangos mai’r teulu Aubrey adeiladodd y tŷ cynharaf yn Abercynrig, yn y 13eg ganrif. Teulu oedd hwn a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 16eg ganrif pan ehangwyd ystadau’r teulu’n fawr gan Dr William Aubrey, cyfreithiwr ac AS. Roedd y teulu Games, a gynhyrchodd nifer o siryfion y sir ac a oedd yn berchen ar eiddo yn Aberbrân, Newton (ger Aberhonddu) a Gwaun y Geifr, yn olrhain eu hachau i Syr Dafydd Gam, a urddwyd yn farchog gan Harri V yn Agincourt ym 1415.

Mae tystiolaeth o ffyniant cynnar yn yr ardal i’r gorllewin ac i’r de-orllewin o Lyn Syfaddan mewn cyfres o adeiladau gyda tharddiad cynnar tebygol. Mae’r rhain yn cynnwys Tŷ Mawr, y maenordy blaenorol a ddisodlwyd gan Dreberfydd, yn ogystal ag adeiladau eraill yn yr ardal gyda nodweddion yn awgrymu dyddiad cynnar fel ffermdy Llan, a Fferm Neuadd, lle cadwodd y ffermdy o’r 19eg ganrif dystiolaeth o’i ragflaenydd, gan gynnwys simnai gyda chorbelau da ar y talcen. Yn yr un modd, mae Trebinshwn yn ddigon mawr i fod â chymeriad plasty bach - troswyd ei gasgliad o adeiladau fferm mawr yn rhannol yn gartrefi; Sioraidd yw’r prif dŷ o ddechrau’r 19eg ganrif, ond plannwyd ei gymesureddau ar dŷ o’r 17eg ganrif.

Roedd y teulu Watkin o Ben-oer yn dal eiddo sylweddol yn Aberhonddu a’r plwyfi i’r gogledd o’r dref, gan ffurfio ystâd oedd â’i tharddiad yn naliadau cyfreithiwr o’r 17eg ganrif, Pennoyre Watkins. Mae’n bosibl mai canolfannau ystadau oedd ffermydd eraill mwy yn wreiddiol, fel Tŷ Mawr, Llangasty Tal-y-llyn, a grybwyllwyd uchod, neu Aber-Brân-fawr, y fferm fawr sy’n sefyll i’r gorllewin o’r ffordd i Aberbrân ar ochr ogleddol yr A40. Mae’r olaf yn arbennig o ddiddorol ac, yn ôl pob golwg, yn gyfadail fferm hynafol gyda’r hyn sy’n edrych fel ffermdy dwbl, efallai wedi tyfu o gyntedd ac adain gweision y tŷ gwreiddiol. Parhaodd rhai o’r ffermydd hyn i fod yn gnewyll ystadau, neu cyfluniwyd hwy felly’n ddiweddarach. Fel sydd i’w weld yn yr adran ganlynol, mae’n ymddangos y gwnaeth nifer o’r ystadau a rhai tirfeddianwyr unigol gryn fuddsoddiad yn ystod y 19eg ganrif i wella’u ffermydd. Mae hyn i’w weld yn dda yn Llanbrynean, ychydig i’r de o bentref Llanfrynach, lle mae fferm enghreifftiol nodweddiadol o’r 19eg ganrif wedi goroesi, gyda thŷ mawr o ddiwedd y 19eg ganrif yn wynebu allan o fuarth amgaeëdig yn y cefn.

Roedd y teulu Gwynne Holford o Buckland Hall, ychydig i’r de-ddwyrain o’r ardal, yn brif dirfeddianwyr yn y 19eg ganrif, gyda’r tir yn cynnwys llawer o ffermydd yn ymestyn o Lyn Syfaddan i Lanfihangel Cathedin. Mae Treberfydd yn enghraifft dda o ystâd fach gyda pharcdir cysylltiedig. Mae’n debyg y symudwyd cnewyllyn yr ystâd yma o’r Tŷ Mawr gerllaw i’r tŷ newydd hwn yn y 19eg ganrif. Mae enghraifft dda dros ben o nawddogaeth ystâd yma trwy ailadeiladu’r eglwys yn Llangasty Tal-y-llyn yn adfywiad Gothig canol y 19eg ganrif, ynghyd â’r rheithordy cyfoes, ac ysgoldy. Robert Raikes, a ddaeth i Dreberfydd i sefydlu canolfan addoli Tractaraidd, oedd y noddwr. Ei bensaer oedd John Loughborough Pearson, y pensaer eglwysi Fictoraidd adnabyddus, oedd yn gyfrifol am yr holl adeiladau a grybwyllwyd uchod, yn ogystal â’r tŷ ei hun. Y pensaer a dylunydd W. E. Nesfield oedd yn gyfrifol am dirlunio’r parc. Mae bythynnod ystâd hefyd gerllaw’r tŷ, ac adeiladau sylweddol Fferm Treberfydd. Mae’n edrych fel petai’r ystâd wedi adlunio’r ffermdy yn y 19eg ganrif ond mae ei gynllun yn awgrymu tarddiad cynnar, efallai o’r 16eg ganrif. Mae adeiladau’r fferm yn cynnwys rhes dda o gytiau certi gyda cholofnau carreg silindraidd.

Mae enghreifftiau eraill o fythynnod ystâd a ffermydd wedi’u gwella mewn mannau eraill, ond dim y byddai modd ei ddisgrifio fel pentref ystâd. Mae ystâd fach Maesderwen, er enghraifft, yn gorwedd i’r gorllewin o bentref Llanfrynach, ond ychydig o olwg ystâd amlwg sydd i’r anheddiad. Mae arwyddion eglur o ddylanwad ystâd ar yr anheddu yn y Batel, gerllaw tŷ mawr Pen-oer (yr oedd ganddo ‘only twenty-five bedrooms’ yn ôl disgrifiad y dyddiadurwr Francis Kilvert) gyda phorthdai ac adeiladau ystâd ategol eraill (golchdy efallai?) ychydig i’r dwyrain o’r pentref, oedd yn ganolbwynt ystâd fawr yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae cymeriad ystâd cryf ar rai bythynnod yn y pentref, ond nid oes unrhyw ymdeimlad o gynllun cydlynol i’r pentref cyfan ac efallai bod tirfeddiannwr yr ystâd yn ddim ond un o nifer o dirfeddianwyr, yn gosod ei arddull bensaernïol ei hun lle gallai, ond yn dameidiog. Roedd hanes brith i’r tŷ ei hun ym Mhen-oer, gan ddod yn ysbyty milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a newid dwylo sawl gwaith ers 1939 pan werthwyd yr ystâd, gan ddod yn ei dro yn ysgol, clwb Cwrs Golff Cradoc a sefydlwyd ar diroedd y tŷ oddeutu 1960 ac, ers 1970, cartref nyrsio, gwesty, canolfan adsefydlu a chartref nyrsio eto.

Awgryma dadansoddiad gwaddodion yn Llyn Syfaddan y bu atgyfodiad cyffredinol mewn gweithgaredd amaethyddol yn yr ardal yn y cyfnod ôl-ganoloesol sy’n dangos cynnydd yng nghyflymder gwaddodiad tua dechrau’r 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg mewn ymateb i amaethu bryndiroedd ymylol o fewn dalgylch afon Llynfi. Mae’r tir, y rhan fwyaf ohono’n amgaeëdig, yn cynnwys peth o’r tir amaethyddol o’r radd uchaf yn Sir Frycheiniog ac mae’n ymddangos iddo gael ei ffermio’n eithaf dwys.

Roedd amrywiol newidiadau’n cael eu gwneud i ddulliau amaethu traddodiadol i gynyddu cynhyrchiad amaethyddol o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, llawer ohonynt yn cael eu hyrwyddo o ddifrif gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd ym 1755, y sefydliad sirol cynharaf o’r math hwn yng Nghymru. Yn ogystal â gwelliannau i hwsmonaeth cnydau ac anifeiliaid, roedd nifer o newidiadau’n cael eu gwneud oedd i gael effaith barhaol ar yr amgylchedd hanesyddol. Gwnaed gwelliannau ar raddfa helaeth i ddraenio tir mewn nifer o ardaloedd. Roedd gwella ffrwythlondeb pridd trwy ddefnyddio calch yn gofyn adeiladu odynau calch. Cafodd y buddsoddi mewn adeiladau fferm newydd a darparu’n well ar gyfer tai a lles gweithwyr amaethyddol effeithiau ar yr amgylchedd adeiledig sy’n cael eu trafod isod. Gwnaed llawer o newidiadau i ffiniau caeau mewn rhai ardaloedd. Yn ôl pob tebyg, roedd caeau agored canoloesol blaenorol yn cael eu hamgáu o ddiwedd y canol oesoedd ymlaen, gan beri patrymau caeau neilltuol sydd i’w gweld ger Llan-ddew a Llanfihangel Tal-y-llyn, er enghraifft, gyda llain-gaeau a ffiniau ar dro cam. Amgaewyd nifer o ardaloedd helaethach o ucheldir comin gynt yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, fel i’r gogledd o Aberhonddu ac i’r gogledd-orllewin o Lyn Syfaddan er enghraifft. Canlyniad hyn oedd creu patrymau caeau neilltuol, syth yn yr ardaloedd hyn a’r patrwm tameidiog o gomins agored sydd wedi goroesi yn yr ardal heddiw. Mae’r ddau ddarn o wastadedd comin rhwng Llan-gors a Llanfihangel Tal-y-llyn, sydd ag arwynebedd dros 20 hectar rhyngddynt, a’r clwt bach o dir comin oddeutu hectar ychydig i’r gorllewin o’r Batel wedi goroesi’r broses hon. Goroesodd gweddill llain gul o dir comin ar hyd crib Allt yr Esgair ar gwrs sarn hynafol rhwng Pennorth a’r Bwlch. Mae’n cael ei nodi fel ‘Ffordd Rufeinig’ ar rai o fapiau’r Arolwg Ordnans ond mae’n ymddangos bellach yn annhebygol o fod o’r dyddiad hwnnw.

Roedd yr isadeiledd cludiant oedd yn datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn elfen sylweddol o ran llunio patrymau anheddu yn yr ardal hon. Ymddangosodd nifer o aneddiadau llai ger amryw o’r cyffyrdd mwyaf arwyddocaol yn ogystal ag wrth ymyl y gamlas a ger gorsafoedd ac arosfeydd ar y tramffyrdd a rheilffyrdd y disgrifir eu hanes yn llawnach isod. Tyfodd Tal-y-llyn wrth gyffordd rheilffyrdd, er enghraifft, a’r rheilffordd hefyd sy’n cyfrif am dwf Pennorth yn y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Dyddiad y tai yma yw 1868 ac ailadeiladwyd y capel ym 1893. Mae’n amlwg hefyd y dylanwadodd y rheilffordd ar Gradoc lle’r oedd gorsaf drenau gynt. Mae dylanwad ffyrdd yn amlwg, er enghraifft, yn yr anheddiad hir o dai o ddechrau i ganol y 19eg ganrif ar hyd yr A40, yn Llanhamlach.

Roedd Camlas Mynwy a Brycheiniog yn arbennig o ddylanwadol ar leoliad anheddiad ar ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif. Yn Nhalybont ar Wysg, fferm sylweddol Maes Mawr i’r de-ddwyrain sy’n cynrychioli anheddu cynnar, ond mae datblygiad y pentref cyfoes i’w briodoli’n bennaf i’r gamlas, fel yr awgryma’r rhesi bythynnod sy’n nodweddiadol o’r math hwn o anheddiad. Mae rhai manylion pensaernïol hefyd ar fythynnod i’r gogledd all arwyddo gwaith ystâd diriog. Mae Talybont ar Wysg yn cyferbynnu â Phencelli, lle mae’r tai yn y pentref yn clystyru gyda’i gilydd ar hyd y ffordd ond heb olwg o ymgyrch adeiladu unol. Mae eu maint a’u huchder yn amrywio. Mae’n amlwg bod tarddiad anheddu cynnar yma, yn gysylltiedig â’r castell, ac mae rhai adeiladau fferm braf yn awgrymu mai pentref fferm oedd cnewyllyn yr anheddiad yn y 18fed ganrif a ehangodd gyda dyfodiad y gamlas. Bu ehangu preswylfeydd yn sylweddol yn yr aneddiadau diweddarach yng Nghradoc a’r Groesffordd yn arbennig yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, yr olaf oherwydd cynllun tai’r awdurdod lleol.

SAd-drefnwyd ffiniau rhai caeau ar y cyd â datblygu’r rhwydwaith cysylltiadau, yn gyntaf gyda’r gyfundrefn ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif ac, yn ddiweddarach, mewn ymateb i adeiladu’r rhwydweithiau camlesi, tramffyrdd a rheilffordd yn ystod y 19eg ganrif. Fodd bynnag, ar wahân i ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fwy ger Pennant, ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu, roedd y newidiadau hyn yn gymharol gymedrol yn gyffredinol, a’r patrwm cyffredinol yw un o’r llinellau cyfathrebu hyn ar ben cyfundrefnau caeau llawer cynharach.

(yn ôl i’r brig)