CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos i ba raddau y defnyddiwyd dyfroedd canol ac uchaf afon Wysg ar gyfer trafnidiaeth yn yr hen ddyddiau er bod hanes defnyddio cychod i bysgota, gan gynnwys defnyddio ceufadau a chyryglau, ar Lyn Syfaddan o tua’r 9fed ganrif ymlaen.

Topograffeg sydd wedi penderfynu prif linellau cyfathrebu ar y tir o fewn ardal y dirwedd hanesyddol, yn arbennig echelin cymoedd Wysg a Llynfi a’r darnau sylweddol o ucheldir. O ganlyniad, tueddodd ffyrdd y Rhufeiniaid, llwybrau canoloesol, ffyrdd tyrpeg, camlesi, rheilffyrdd a chefnffyrdd diweddar i gyd yn eu tro i ddilyn fwy neu lai yr un llwybrau.

Ffyrdd

Fel y nodwyd uchod, y gyfundrefn trafnidiaeth a chyfathrebu gynharaf sydd â thystiolaeth hysbys ohoni yw’r rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig strategol sy’n canolbwyntio ar y Gaer i’r gorllewin o Aberhonddu, a sefydlwyd ar ddiwedd y ganrif gyntaf. Roedd ffyrdd yn rheiddio allan o’r gaer i gysylltu â cheyrydd a phrif aneddiadau eraill. Mae hynt y ffyrdd yn hysbys tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys), tua’r gogledd i gyfeiriad Llandrindod, tua’r de-ddwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni (Sir Fynwy), tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Kenchester (Swydd Henffordd) a thua’r de-orllewin i gyfeiriad Llanymddyfri (Sir Gaerfyrddin). Mae rhannau o gwrs pob un o’r ffyrdd hyn yn hysbys o waith maes neu gloddio er bod darnau eraill yn fwy damcaniaethol. Mae cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig yn dangos y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri tan yn ddiweddar yn y 3edd ganrif o leiaf, a’r ffordd rhwng Caer Aberhonddu a’r Fenni hyd at ganol y 4edd ganrif o leiaf.

Mae’n ymddangos na chynhaliwyd y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig ac, yn raddol, peidiwyd â’u defnyddio yn y canol oesoedd cynnar, yn y 5ed a’r 6ed ganrifoedd OC ac, yn ôl pob tebyg, cawsant eu disodli gan rwydwaith llai rheolaidd o lwybrau heb wyneb a mwy o lwybrau mân yn cysylltu aneddiadau cnewyllol mawr a bach a ffermydd gwasgaredig. Ers diwedd yr 11eg ganrif o leiaf canolbwyntiodd y rhan fwyaf o’r llwybrau pwysicaf ar dref Aberhonddu a ddaeth yn brif dref farchnad a chanolfan fasnachol ar gyfer y rhanbarth yn ogystal â man aros i’r rhai’n teithio i orllewin Cymru ac oddi yno trwy ddyffryn Wysg.

Yn ôl pob tebyg, sefydlwyd cyfundrefn ffyrdd porthmyn ar hyd a lled Cymru o’r canol oesoedd diweddar ymlaen ac, yn enwedig, o’u hanterth yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Gyrrwyd gwartheg ar eu hyd yn fuchesau i farchnadoedd yn siroedd canoldir a de Lloegr, mor bell â Llundain. Roedd un o’r llwybrau traddodiadol hyn yn croesi ardal y dirwedd hanesyddol o’r gorllewin i’r dwyrain, yn rhedeg o flaenau Cwm Tawe ar hyd ymylon gogleddol Bannau Brycheiniog o Heol Senni i Lanfrynach ac oddi yno ar hyd dyffryn Wysg i Drefynwy trwy Grucywel a’r Fenni, fwy neu lai ar hyd llwybr yr A40 heddiw.

Gwnaed gwelliannau i lawer o’r prif ffyrdd yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif o ganlyniad i greu ffyrdd tyrpeg, yn bennaf trwy ymdrechion Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog gyda’i haelodau’n awyddus i hybu ehangu gweithgaredd masnachol. Cafwyd Deddf Seneddol ym 1767 ar gyfer lledu a thrwsio’r ffyrdd pennaf yn Sir Frycheiniog a sefydlu cyfundrefn o dollau a chlwydi a tholldai, a gyfunwyd yn un ymddiriedolaeth trwy ail Ddeddf ym 1830. Erbyn y 1830au, er enghraifft, sefydlwyd tolldai ar bob un o’r ffyrdd pennaf allan o Aberhonddu – ar y ffordd i’r gogledd i gyfeiriad Llandyfaelog, y ffyrdd i’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Llanddew a Felin-fach, i’r de-ddwyrain i gyfeiriad Crucywel, i’r de-orllewin i gyfeiriad Merthyr, ac i’r gorllewin i gyfeiriad Pont Senni a Llandeilo.

O ganlyniad i’r gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg estynnwyd gwasanaethau coets o Lundain trwy Gaerloyw, Trefynwy a’r Fenni o Aberhonddu i Gaerfyrddin ac Aberdaugleddau yng ngorllewin Cymru. Sefydlwyd tafarnau’r goets yn Aberhonddu ar gyfer teithwyr a chodwyd warysau mawr ger Eglwys y Santes Fair yn y dref ar gyfer y nwyddau oedd yn cael eu cludo mewn wagenni trwm.

Goroesodd rhai pontydd ffyrdd nodedig o’r canol oesoedd ac yn ddiweddarach dros afonydd a nentydd yr ardal. Mae pontydd carreg yn nhref Aberhonddu’n cynnwys Pont y Castell o’r canol oesoedd a Phont y Priordy o ddechrau’r 19eg ganrif dros afon Honddu, Pont ar Wysg yn dyddio o 1563, a Phont ar Darell yn Llanfaes yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Ym 1873 disodlodd y bont haearn bresennol dros afon Honddu yn Aberhonddu Bont Watergate o’r canol oesoedd. Mae cyfres o bontydd carreg dros Nant Brân ar ymyl orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys dwy bont garreg, sef Pont Aber Brân o ddiwedd y 18fed ganrif a Phont ar Frân o ddechrau’r 19eg ganrif. Ymysg pontydd ffyrdd carreg eraill sy’n werth sylw yn yr ardal mae Pont y Loc dros afon Wysg ger Brynich, yn ôl pob tebyg o’r 18fed ganrif, y bont dros nant Caerfanell yn Nhalybont ar Wysg o ddiwedd y 18fed ganrif a Phont Felindre dros Afon Cynrig wrth ymyl hen Felin Abercynrig.

Camlas Mynwy a Brycheiniog

Ffurfiwyd Cwmni Camlas Brycheiniog a’r Fenni o ganlyniad i Ddeddf Seneddol ym 1793. Agorwyd y darn rhwng Gilwern a Llangynidr ym 1797, a’i ymestyn tua’r gorllewin i Dalybont ar Wysg ym 1799 ac yn olaf i Aberhonddu ym 1800, wedi’i gynllunio gan Thomas Dadford yr ieuaf, y peiriannydd camlesi. Ym 1812 cysylltwyd y gamlas yn y diwedd â’r arfordir ar hyd Camlas Sir Fynwy i Gasnewydd, pan ddaeth yn 42 filltir o hyd a’i hailenwi yn Gamlas Mynwy a Brycheiniog. Roedd gwaith sylweddol yn cynnwys loc y gamlas ym Mrynich, y ddyfrbont garreg yn cludo’r gamlas dros afon Wysg ym Mrynich, a thwnnel ychydig y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol, i’r de-ddwyrain o Dalybont ar Wysg. I’r gogledd-orllewin o Bencelli mae ail dyfrbont, a ailadeiladwyd dros Nant Menasgin, a marina modern yn Nhŷ-newydd. Rhwng Talybont ar Wysg a Phencelli mae cyfres o bontydd codi, y rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu disodli neu eu trwsio’n sylweddol. Disodlwyd llawer o’r pontydd ffyrdd gwreiddiol gan adeileddau concrid mwy diweddar er bod nifer o bontydd crwm gwreiddiol o garreg a brics wedi goroesi. Ymysg y prif nwyddau a gludwyd tua’r gogledd i Aberhonddu oedd glo, haearn a charreg galch o faes glo de Cymru. Cludwyd pren i’w ddefnyddio yn y pyllau glo i’r cyfeiriad arall. Cwmni Cychod Aberhonddu oedd yn gyfrifol am lawer o’r fasnach gludo, yn wreiddiol gyda badau ceffyl, gyda glo’n cael ei werthu wrth lanfeydd ar hyd y gamlas ac yn Aberhonddu.

Roedd y gamlas yn gysylltiedig â dwy gyfundrefn tramffordd geffyl. Ni wireddwyd cynllun gwreiddiol i adeiladu cangen o Gamlas Mynwy a Brycheiniog i’r Gelli Gandryll a Whitney ac yno i ymuno ag afon Gwy. Yn lle hynny, adeiladwyd tramffordd o’r gamlas yn Aberhonddu i’r Gelli, a agorodd ym 1818, ac oddi yno i Geintyn ac Eardisley, Swydd Henffordd. Man cychwyn Tramffordd Bryn-oer (Brinore), a adeiladwyd ym 1814-15, oedd glanfa’r gamlas yn Nhalybont ar Wysg gan redeg 12 milltir tua’r de y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol i chwarel carreg galch Trefil a phwll glo Bryn-oer ger Tredegar.

Aeth y gamlas i feddiant y Great Western Railway ym 1880, gyda’r cwmnïau rheilffyrdd erbyn hynny wedi cymryd llawer o’r fasnach haearn a glo. Parhaodd masnachu i’r 20fed ganrif, gan ddod i ben o’r diwedd oddeutu 1933. Wedi hynny rhoddwyd y gorau i ddarn helaeth o gangen Sir Fynwy’r gamlas ond arhosodd y darn rhwng Aberhonddu a’r Fenni ar agor i raddau helaeth. Arweiniodd gwaith adfer rhwng 1968 a 1970 at ailagor y gamlas i gychod pleser o Bont-y-pŵl i Aberhonddu, sef pellter o 33 milltir. Heddiw, Camlas Aberhonddu a’r Fenni yw enw’r gamlas yn gyffredinol.

Tramffyrdd a Rheilffyrdd

Fel y nodwyd uchod, trwy agor Camlas Mynwy a Brycheiniog rhoddwyd hwb i adeiladu amryw o dramffyrdd ceffyl yn nau ddegawd cyntaf y 19eg ganrif a oedd yn cludo deunyddiau i lanfeydd ar y gamlas ac oddi yno. Darparodd Tramffordd Bryn-oer gysylltiad pwysig gyda chwareli carreg galch a phyllau glo maes glo de Cymru. Cwblhawyd Tramffordd y Gelli ym 1818, gan alluogi cludo glo, golosg a chalch ymlaen o ben y gamlas yn Aberhonddu i’r Gelli Gandryll, Ceintyn ac yn y pen draw i Eardisley yn Swydd Henffordd.

Parhaodd Tramffordd y Gelli mewn bodolaeth am 40 mlynedd, gan gystadlu gyda’r ffyrdd tyrpeg ar ôl eu gwella ar gyfer traffig. Ym 1862 disodlodd Cwmni Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu’r dramffordd gan ailddefnyddio llawer o gwrs blaenorol y dramffordd. Serch hynny, mae olion ei hen argloddiau a chylfatiau wedi goroesi mewn mannau, fel yn achos y darn ychydig i’r de-ddwyrain o Lanfihangel Tal-y-llyn lle mae dolen flaenorol o’r dramffordd yn dal yn weladwy. Golygodd adeiladu’r rheilffordd gloddio’r twnnel 500 metr o hyd, sydd wedi’i selio bellach, i’r gorllewin o Dal-y-llyn. Cysylltwyd y rheilffordd â Rheilffordd Canolbarth Cymru tua’r gogledd i Lanidloes ym 1865 ar gyffordd Three Cocks. Unwyd Cwmni Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu gyda Chwmni’r Midland Railway ym 1874 a ddaeth wedyn yn Rheilffordd Canolbarth Cymru, a gaeodd maes o law ym 1962.

Roedd Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr, a agorwyd ym 1865, yn gadael Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu ar gyffordd Tal-y-llyn, i’r dwyrain o Aberhonddu. Roedd hon yn rhoi cysylltiadau tua’r de i Ferthyr a chymoedd diwydiannol de Cymru trwy Dalybont ar Wysg, gan ddisodli Tramffordd Bryn-oer. Cwblhawyd Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, yn rhedeg tua’r gorllewin i Gastell Nedd trwy Aberbrân, erbyn 1872. Caewyd llinell Aberhonddu a Merthyr a llinellau Aberhonddu a Chastell Nedd ym 1963. Ystyriwyd cysylltu dyffryn Wysg yn ardal Crucywel gyda rheilffordd o gyffordd yn Nhal-y-llyn ond rhoddwyd y gorau i’r syniad cyn gwneud unrhyw waith adeiladu.

Mae llawer o gwrs yr hen reilffyrdd o fewn ardal y dirwedd hanesyddol wedi goroesi fel nodwedd arbennig o’r dirwedd i’w weld trwy argloddiau, cloddiadau, cledrau, terfynau caeau, a phentanau pontydd. Mewn llawer o ardaloedd, torrodd y rheilffyrdd ar draws cyfundrefnau caeau cynharach o’r canol oesoedd neu’n ddiweddarach, er ei bod yn amlwg y newidiwyd ffiniau’n sylweddol mewn rhai ardaloedd yn dilyn adeiladu’r rheilffyrdd, yn fwyaf nodedig yn yr ardal ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu. Y tu allan i dref Aberhonddu ei hun, o fewn ardal y dirwedd hanesyddol, roedd gorsafoedd gynt yng Nghradoc, i’r gorllewin o Aberhonddu, ar Reilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, yn Nhal-y-llyn ar y gyffordd rhwng Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr a Rheilffordd Canolbarth Cymru ac yn Nhalybont ar Wysg ar Reilffordd Aberhonddu a Merthyr, heb fawr ddim ôl ohonynt erbyn hyn. Goroesodd pontydd rheilffordd cyfan ym Mhennorth a Thalybont ar Wysg.

(yn ôl i’r brig)