CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wsyg: Aberhonddu a Llan-gors


CPAT PHOTO CS91-01-11

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Maer rhan o ddyffryn Wysg a nodir yma yn gorwedd ir dwyrain ar gorllewin o Aberhonddu yn ne Powys;ardal a ffinnir ir de gan lethrau dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac ir gogledd gan odrau deheuol Mynydd Epynt.Ir dwyrain,mae ochr orllewinol llethraur Mynyddoedd Du yn edrych dros y basn bas syn cynnwys Llyn Syfaddan sydd wedii gynnwys yn yr ardal.Mae dyffryn Wysg yn ffurfio tramwyfa nodedig syn hawdd ei chyrraedd ar draws yr ardal, gydai lawr llydan, gwastad yn codin raddol o 120m uwchben SO yn Llansantffraid yn y dwyrain i 150m uwchben SO yn Aberbrn yn y gorllewin.Ar bob ochr ir dyffryn,maer llethraun codi i dirwedd dyranedig,tonnog o fryniau isel,esgeiriau a dyffrynnoedd bas rhwng 150m a 300m uwchben SO.

Maer argraff weladwy or ardal wedii goruchafu gan y caeau bychain chloddiau syn amgur tir amaethyddol cyfoethog ar waelod y dyffryn,ac mae mewn sawl ffordd yn olygfa nodweddiadol yng Nghanolbarth Cymru.Deilliar patrwm cyfoethog hwn o ddefnydd tir oi hanes ffermio ac aneddiad cymhleth o ffermwyr Neolithig cynnar drwy oresgynwyr Rhufeinig a Normanaidd,y Saint Celtaidd,i olion amaeth a masnach ganoloesol a diweddarach.Mae pob cyfnod o ddefnydd tir wedi ffurfior tirwedd a chafodd pob un yn ei dro ei orgyffwrdd gan ai guddion rhannol gan y cyfnod ai olynodd.Mewn cyferbyniad bron r parhad hwn,mae Canol Dyffryn Wysg hefyd yn enghraifft glasurol o dirwedd Cymreig o oruchafu, goresgyniad a newid gwleidyddol,ac mae llawer or elfennau archaeolegol a hanesyddol syn weladwy heddiw wedi deillio or ffordd y mynnodd dyn reolir tirwedd,nid yn unig yn y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol a chyfnodau diweddarach, ond hefyd yn y cyfnod cynhanesyddol.

Mae beddrod hir siambrau claddu Neolithig Ty Illtud yn nodweddiadol o olion cynhanesyddol cynharach, ac maen go rwe dd yn nwyrain yr ardal rhwng A b e r h o n ddu a Llyn Syfadd a n . Maer beddrod megalithig 5000 mlwydd oed hwn yn cynnwys cyfres o siambrau adeiledig o gerrig sych a orchuddiwyd unwaith gan domen hir o bridd.Maer gofadail yn un o grw p o feddrodau tebyg ym Mannau Brycheiniog ar Mynyddoedd Du. Er mai cymharol brin ywr olion or cyfnod pellennig hwn sydd wedi go roesi yn y tirwe dd hwn, neu unrhyw dirwe dd arall yng N g hy m r u , maer tomenni claddu cymunedol hyn yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd a marwolaeth y ffermwyr Neolithig a oedd yn byw yng Nghanol Dyffryn Wysg.Yn l traddodiad lleol defnyddiwyd siambrau gwag Ty Illtud yn ddiweddarach fel cell meudwy gan Sant Illtud yn y 6ed ganrif,ac ar yr adeg honno cerfiwyd nifer o groesau a symbolau Cristnogol eraill ar eu muriau.

Cynrychiolir cynhanes diweddarach Oes yr Efydd gan nifer o feddrodau crwn a charneddau claddu ar y tir uwch syn edrych dros lawr cyfoethog dyffryn Wysg,sydd yn ei dro yn cynnwys nifer o feini hirion enigmatig.

Ir gorllewin o Aberhonddu mae olion trawiadol Caer Aberhonddu,yr enghraifft wychaf o gaer Rufeinig sydd wedi goroesi ym Mhowys.Wedii hadeiladu o fewn golwg i crug,maen gwarchod y ffordd Rufeinig syn arwain i Orllewin Cymru o Gaerllion wrth ei chyffordd Sarn Helen wrth iddi ddod i lawr o Fforest Fawr i groesirWysg a theithio tuar gogledd i Ganolbarth Cymru.Ir dwyrain o Aberhonddu mae olion yr unig fila Rufeinig ym Mhowys lle y datgelodd gwaith cloddio yn y 18fed ganrif faddondy gwych llawr mosig. Nid yw maint yr aneddiad Rhufeinig yn yr ardal yn hysbys, ond does dim amheuaeth bod y Rhufeiniaid wedi efelychu a manteisio ar y patrwm aneddiad eisioes mewn bodolaeth ar defnydd or tir y buasent wedi ei ddarganfod o amgylch y bryngaerau mawr Oes yr Haearn yn Allt yr Esgair, Slwch Tump, Pen-y-crug a Choed fenni-fach.

Hefyd ir dwyrain o Aberhonddu,ger Llan-gors,mae Llyn Syfaddan,syn bwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru. Crwyd yr ynys fechan,neur grannog,a wnaed gan ddyn, fel palas caerog gan Brychan,brenin Brycheiniog,ar ddiwedd y 9fed ganrif ac fei dinistriwyd,yn l Croniclaur Eingl- Sacsoniaid,yn AD 916.Mae chwedl leol yn sn am sut maer llyn yn cuddio olion dinas a reolwyd gan dywysoges greulon a barus a gytunodd i briodi gw r tlawd dim ond os byddain dod chyfoeth mawr iddi.Llofruddiodd y dyn fasnachwr cyfoethog er mwyn ennill llaw y dywysoges,ond er mwyn dial,creodd ysbryd y masnachwr storm ofnadwy a foddodd y deyrnas.Nid ywn hysbys pryd y dechreuodd y chwedl,ond maen gynharach nar gwaith cloddio archaeolegol cyntaf yn y grannog ym 1850 ac maen atgof gwerinol difyr a sylwgar.Yn fwy credadwy, fel canolfan frenhinol ac eglwysig bwysig ym Mrycheiniog,gallair grannog fod wedi bod yn fan cyfansoddir penillion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen,a ysgrifennwyd fwy na thebyg rhwng yr 8fed a chanol y 10fed ganrifoedd,yn ystod oes aur brenhinlin Llan-gors a Brycheiniog.Datgelwyd olion yr ynys yn llawn drwy waith cloddio ar ddechraur 1990au.Llyn Syfaddan ywr unig grannog hysbys yng Nghymru, er ei bod yn ffurf gyffredin yn yr Iwerddon; awgrymir y cysylltiad Gwyddelig posibl hwn gan y nifer fawr o arysgrifau Ogam mewn eglwysi lleol.Mae gan bentrefi glan llyn Llan-gors a Llangasty sylfeini mynachaidd Celtaidd cynnar fwy na thebyg.

Cynrychiolir gorchfygiad ac aneddiad or cyfnod canoloesol yma hefyd ac mae hanes a thraddodiad yn awgrymu ir frwydr derfynol rhwng byddinoedd Cymreig Bleddin ap Maenarch a byddin oresgynol Normanaidd Bernard de Neufmarch gael ei hymladd ger Y Batel ym 1092.Arweiniodd y fuddugoliaeth Normanaidd at orchfygur boblogaeth frodorol a thwf tref Aberhonddu.Roedd y castell cynharaf yn Aberhonddu yn un tomen a beili,ac fei disodlwyd yn ddiweddarach gan gastell o gerrig.Mae gan y dref hefyd olion priordy Benedictaidd, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1100,sydd,er gwaethaf iddo gael ei adnewyddun sylweddol gan y pensaer Fictoraidd mawr Syr Gilbert Scott,yn parhau i feddu ar nifer o nodweddion diddorol,megis ffenestri pigfain Cynnar Seisnig prin ar adeiladau cwfeiniol or 16eg ganrif.Ym 1923,dewiswyd y priordy, a oedd erbyn hynny wedi dod yn Eglwys Blwyf Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu,a oedd newydd gael ei ffurfio, un o ddwy esgobaeth newydd a sefydlwyd gan yr Eglwys yng Nghymru newydd, yn dilyn ei gwahanu o Eglwys Loegr. Maer dref hefyd yn cynnwys mynachlog Ddominicaidd,a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 13eg ganrif,ac er ei bod bellach yn ysgol ac wedi cael ei newid llawer, dyma yn l y sn ywr grw p unigol mwyaf o adeiladau Dominicaidd sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Ffurfiodd presenoldeb y castell a'r ddau adeilad eglwysig pwysig hyn y sail ar gyfer tref ganoloesol lewyrchus ac erbyn y 13eg ganrif, roedd yr aneddiad wedi lledaenu ir tir is ar ymyl Afon Wysg,sydd bellach phont gerrig wych drosti syn dyddio o 1563, a rhoddwyd amddiffynfeydd o gerrig arni. Er bod peth or ffabrig canoloesol hwn wedi goroesi mewn mannau,heddiw prif nodwedd pensaernaeth Aberhonddu yw tai trefol o frics a cherrig cain or 18fed ar 19eg ganrifoedd.Yn wir, roedd poblogaeth o 5026 yn ei gosod fel nawfed tref fwyaf Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn.Mae llawer or bensaernaeth ddiweddarach hon yn parhau heb ei newid nai difwyno gan ddatblygiad modern,ac mae hyn,ynghyd i gwreiddiau canoloesol yn ased bleserus a gwerthfawr, ac un syn gynyddol brin ymysg trefi eraill Cymru.Heddiw, mae Aberhonddu yn fyd-enwog am ei Gw yl Jas flynyddol.

Adeiladwyd Aberhonddu, fel ei rhagflaenydd Rhufeinig, i gynnal dyffryn Wysg fel llwybr strategol i Orllewin Cymru,ac, fel y Gaer, fei gwarchodir gan aneddiadau brodorol cyfnod cynharach,megis Llanspyddid a Llanfrynach,sydd wediu lleoli o amgylch ymylon y dyffryn.Enillodd un or aneddiadau Cymreig cynnar hyn,Llanddew, fri yn y cyfnod canoloesol fel safle palas Esgobion Aberhonddu.Meddiannwyd y castell diymhongar hwn rhwng 11751203 gan Gerallt Gymro, sef Archesgob Aberhonddu,a ddisgrifiodd y castell fel un a oedd yn well adapted to literary pursuits and the contemplation of eternity a dechreuodd ei daith enwog o gwmpas Cymru ar ddiwedd y 12fed ganrif.Mae gan y pentref gasgliad trawiadol o weithgareddau cloddiog canoloesol syn awgrymu ei faint ai bwysigrwydd yn y gorffennol.

Mae Canol Dyffryn Wysg yn enwog am ei chestyll canoloesol,gan ei bod yn cynnwys enghreifftiau gwych o gestyll tomen a beili cynnar arglwyddi Normanaidd y gororau, megis y rheini yn Aberyscir, Alexanderstone a Threberfydd,cestyll cerrig megis Pencelli,a thy tw r canoloesol gwych diweddarach yn Scethrog.Mae llawer or dyffryn yn dal i gadwr cymeriad canoloesol a gysylltir r cadarnleoedd hyn, gyda phentrefi bychain wediu cywasgu ac wediu hamgylchynu gan dir pori gwrychoedd oi hamgylch.Enghraifft drawiadol iawn o gyfoeth a phwysigrwydd blaenorol yr ardal hon yn ystod y cyfnod canoloesol yw Llanfihangel Talyllyn.Gellir gweld cyn-ffiniaur pentref canoloesol yn glir yma, gyda gweithgareddau cloddiog yn nodi hen strydoedd a llwyfannau adeiladau a oedd unwaith yn llenwi bron i chwarter y pentref.Maer ardal hefyd yn enwog am ei thai gwledig mawr, or 18fed ar 19eg ganrifoedd, megis Penpont a Peterstone Court,au stadau cysylltiedig sydd wedi trosargraffu ar dirwedd eu rhagflaenwyr canoloesol ac l-ganoloesol cynnar megis Ty Mawr yn Llangasty Talyllyn.

Cysylltodd datblygiad Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy (a ddechreuwyd ym 1799,a agorwyd gyntaf ym 1801 ac ymunodd Chamlas Mynwy ym 1812),syn troelli ar hyd ymylon deheuol yr ardal,y dyffryn ag economau diwydiannol ffyniannus De Cymru.Daeth y glanfeydd ar stordai a ddatblygwyd yn sgl hyn yn nherfynfar gamlas yn Aberhonddu yn ardal bwysig ar gyfer masnach amaethyddol ar diwydiant brethyn.Yn yr 1860au,disodlwyd y gamlas gan Reilffordd Aberhonddu a Merthyr oedd yn cysylltu Aberhonddu r Rheilffordd Great Western yng Nghastell-nedd,trwy Ystradgynlais,yn y de ac yn ddiweddarach i Henffordd,trwyr Gelli Gandryll,yn y dwyrain. Yn eironig maer cysylltiad gwythiennol hwn wedi hen ddiflannu tra bod y gamlas,sydd wedii chroesi gan bontydd syn codi a phontydd cefn crwm nodweddiadol, bellach yn darparu llwybr prydferth a phoblogaidd i dwrstiad ar hyd y dyffryn.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.