CPAT logo
Cymraeg/ English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Ardal Dreftadaeth Llanymynech


Mae CPAT newydd gwblhau arolwg mesuredig manwl o Ardal Dreftadaeth Llanymynech ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig. Mae olion strwythurol y diwydiant calch yn Llanymynech yn golygu bod y safle hwn yn un o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn ogystal â hyn, mae bryngaer gynhanesyddol o bwys ar ben Bryn Llanymynech a hynt Clawdd Offa ar ei hymylon gorllewinol.

Llanymynech Hill

Dde: Awyrlun o Fryn Llanymynech . CPAT 92-C-1051

Gorwedd yr Ardal Dreftadaeth ar ochr ogleddol y pentref, ac mae’n ymestyn o’r gamlas i’r briffordd o Groesoswallt i’r Trallwng. Roedd ardal yr arolwg hefyd yn cynnwys ardal Gwarchodfa Natur Creigiau Llanymynech ar waelod Bryn Llanymynech, ynghyd â llinell dau inclein tramffordd yn cysylltu’r chwarel â’r gamlas a’r rheilffordd. Gwnaed y gwaith ar ran Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt mewn cysylltiad â chynnig i wella mynediad ymwelwyr, a’r dehongliad ar eu cyfer.

Mae’r ardal gyffredinol o amgylch Llanymynech yn un o bwysigrwydd hanesyddol sylweddol, ac yn cynnwys nifer o henebion o arwyddocâd cenedlaethol sy’n amrywio o ran dyddiad o rai cynhanesyddol i rai o ddechrau’r 20fed ganrif.

Cynhanes

Mae bryngaer drawiadol o’r Oes Haearn, neu o bosibl diwedd yr Oes Efydd ar Fryn Llanymynech, ac mae’r rhagfuriau’n amgáu ardal 57ha ei maint, sef un o’r mwyaf ym Mhrydain. Bu’r archwilio archeolegol ar safle’r fryngaer braidd yn gyfyngedig hyd yma. Ym 1981, cofnodwyd croestoriad trwy’r rhagfuriau yn ystod gwaith adeiladu, a datgelwyd y rhagfur o gerrig a ffos yr amddiffynfeydd mewnol, ynghyd â gweddillion gweithio metel y tu mewn i’r rhagfur yn dyddio o’r cyfnod rhwng y 4edd ganrif CC i’r ganrif 1af OC. Mae nifer o werthusiadau archeolegol graddfa fechan yn y fryngaer yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu tystiolaeth bellach o feddiant a gweithio metel, gan gynnwys rhan o dŷ crwn o’r Oes Haearn dan 13eg grîn y Clwb Golff sy’n cwmpasu rhan helaeth o’r fryngaer.

Mae’r ardal i’r gorllewin o Lanymynech hefyd yn cynnwys nifer o safleoedd cynhanesyddol eraill, gan gynnwys olion sawl tomen gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o raniadau tir cynhanesyddol, a adwaenir fel aliniadau pyllau.

Y Rhufeiniaid

Mae gan yr ardal hanes hir o fwyngloddio copr a phlwm, sy’n dyddio yn ôl i’r cyfnod Rhufeinig o leiaf, a darganfuwyd celc o 33 o ddarnau o arian bath o’r cyfnod rhwng 30 CC ac 161 OC yn yr Ogof, ar ben Bryn Llanymynech. Awgrymwyd hefyd y gallai’r fryngaer fod wedi bod yn lleoliad safiad olaf Caradog yn erbyn y Rhufeiniaid yn 49 OC.

Mae’r ardal gyffredinol hefyd yn cynnwys nifer o lociau neu ffermydd ag amddiffynfeydd o’r Oes Haearn neu’r cyfnod Brythonig-Rufeinig, gan gynnwys lloc â sawl ffos ychydig i’r de o’r gamlas.

Y Canol Oesoedd

Awgrymwyd bod amddiffynfeydd gorllewinol y fryngaer wedi’u mabwysiadu fel rhan o Glawdd Offa, yr arglawdd llinellol o’r 9fed-10fed ganrif a oedd yn diffinio terfyn teyrnas Mersia. Ni wyddys beth oedd hynt fanwl y clawdd trwy Lanymynech, er iddo oroesi fel arglawdd trawiadol ymhellach i’r de ger Four Crosses.

Llanymynech Heritage Area

Chwith: Awyrlun o Ardal Dreftadaeth Llanymynech gyda’r gamlas i’r dde, yr Odyn Hoffman yn y canol, a llinell y rheilffordd rhyngddynt. CPAT 03-C-791

Camlas Ellesmere

Adeiladwyd y ddyfrffordd, o’r enw Camlas Maldwyn bellach, fesul cam rhwng 1794 a 1821, ac mae’n ymestyn o Gamlas Undeb Sir Amwythig yn Lociau Frankton i’r Drenewydd. Yn wreiddiol, roedd y gamlas, a oedd wedi cyrraedd Llanymynech erbyn 1786 o leiaf, yn cynnwys pedwar cynllun ar wahân ac mae’n bosibl mai dim ond yn ddiweddar, dan berchnogaeth fodern, y cysylltwyd y rhain a’i gilydd o ran enw. Adeiladwyd tri o’r cynlluniau yn benodol i gludo a dosbarthu calch at ddibenion amaethyddol o Chwareli Llanymynech. Erbyn 1840-41, roedd 92 odyn galch ar hyd darn 26 milltir o’r gamlas ac, ar ei anterth, byddai 56,501 o dunelli o galchfaen y flwyddyn yn cael eu cludo.

Yn ogystal â chalchfaen, byddai’r gamlas hefyd yn cludo plwm o fwyngloddiau Dyffryn Tanat yng Nghwm Orog, Craig-y-Mwyn a De Llangynog, yn ogystal â llechi o ardal Llangynog, a oedd cyn hynny wedi defnyddio porth ar afon Efyrnwy yng Ngharreghofa.

Datblygwyd glanfa’r gamlas yn Llanymynech mewn perthynas â’r system dramffyrdd. Yn wreiddiol, ceffyl a chert fyddai’n cludo’r calchfaen o’r chwareli i’r gamlas, cyn iddo gael ei lwytho ar y cychod a oedd wedi’u hangori ar hyd ochr ogleddol y gamlas yn agos at y ffordd dyrpeg, neu ar ffordd fach i’r dwyrain, mae’n debyg. Erbyn 1806, roedd y dramffordd gyntaf wedi’i hadeiladu, ac roedd yn gysylltiedig â glanfa camlas drionglog fechan, a glanfa fwy ar ochr ddwyreiniol y ffordd. Ychwanegwyd trydedd lanfa, oedd yn hwy, ymhellach i’r gorllewin rhywdro rhwng 1813 a 1858.

Agorwyd Cangen Llanfyllin Rheilffyrdd y Cambrian ym 1863, gan ddwyn llawer o’r fasnach galch oddi ar y gamlas. Mae’n debyg y daeth diwedd i ddefnyddio’r lanfa erbyn tua 1900, er bod cloddio’r chwareli a llosgi calch wedi parhau hyd 1914.

Stables

Dde: Adeiladwyd y bloc stablau oddeutu 1870 i ddisodli adeilad cynharach a oedd wedi llosgi i lawr. CPAT 1603-123

Rheilffyrdd

Ym 1845, ffurfiwyd Rheilffordd Cyffordd Croesoswallt a Chaer gyda’r bwriad o adeiladu llinell o reilffordd Amwythig i Gaer yng Ngobowen trwy Groesoswallt i Lanymynech. Ni chwblhawyd y llinell ond cyn belled â Chroesoswallt yn Rhagfyr 1848. Erbyn hyn, roedd y cwmni wedi’i uno â Rheilffordd Mwynau Gogledd Cymru i ffurfio Rheilffordd Amwythig a Chaer, a gafodd ei llyncu wedi hynny i mewn i Reilffordd y Great Western ym 1854. Yn y cyfamser, roedd Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin wedi prynu Cwmni Camlas Maldwyn a’i dramffyrdd, ac wedi cynnig cefnogaeth i gynllun yr oedd Cwmni Rheilffordd a Chamlas Undeb Sir Amwythig wedi’i gynnig er mwyn trosi’r gamlas yn rheilffordd. Ym 1855, ymgorfforwyd Rheilffordd Croesoswallt a’r Drenewydd, a gorffennwyd y lein i Gei’r Trallwng erbyn 1860 ac i’r Drenewydd erbyn y flwyddyn ddilynol.

Adeiladwyd Cangen Llanfyllin Rheilffyrdd y Cambrian gan Mr Savin a’i frawd-yng-nghyfraith, Mr Ward, ac agorwyd hi ar 10 Ebrill 1863. Un o reolau’r Ddeddf Seneddol a ganiataodd adeiladu’r llinell oedd na fyddai hi’n ymyrryd â’r tramffyrdd a oedd yn bodoli eisoes trwy eu croesi ar y lefel, felly roedd angen dwy bont i gludo’r rheilffordd drostynt. Yn Llanymynech, roedd platfform bae yn y pen gogleddol yn darparu ar gyfer trenau Llanfyllin a fyddai, er mwyn mynd dros y gamlas, yn defnyddio’r ‘Rock Siding’ hir i siyntlein i fynd ar y gangen neu oddi arni. Ar ôl sawl cynnig ofer ac ar ôl i sawl cwmni gwahanol gymryd yr awenau, adeiladwyd y rheilffordd o’r diwedd o Amwythig i Lanymynech, ac ymlaen trwy Lanyblodwel i’r chwareli calchfaen yn Nantmawr. Rheilffordd Ardal y Crochendai, Amwythig a Gogledd Cymru oedd yr enw ar y lein un-trac, a oedd yn osgoi lein y Cambrian, ac agorwyd hi fis Awst 1866. Daeth y traffig trwodd ar Rock Siding i ben fis Ionawr 1896, er iddo barhau i wasanaethu’r odynnau calch nes iddynt gau ym 1914. Wedi hyn, defnyddid y seidin i storio wagenni segur nes i’r trac gael ei godi ym 1939, ac fe gaewyd lein Cangen Llanfyllin am y tro olaf ym 1965.

Datblygiad y diwydiant calch yn Llanymynech

Mae’n bosibl i galch gael ei ddefnyddio fel gwrtaith o’r cyfnod canoloesol, a byddai’r Rhufeiniaid yn defnyddio pwti priddgalch. Defnyddid y rhain yn helaethach o gyfnod y Goresgyniad Normanaidd ymlaen. Ni wyddys pryd dechreuwyd llosgi calchfaen yn Llanymynech, er bod y cyfeiriad cynharaf at hyn ar fap o Stad Castell y Waun ym 1753 sy’n dangos yr hyn sy’n ymddangos fel tri chlawdd o odynnau triphlyg yn ardal gwaith y chwareli. Ni wyddys ymhle roedd safle’r odynnau, er ei bod yn debygol eu bod o dan y tomenni gwastraff mawr o ddiwedd y 19eg ganrif. Ym 1754, nododd y Parch Richard Pococke fod nifer fawr o odynnau calch yn Llanymynech, tra roedd yn teithio o Groesoswallt i’r Trallwng.

Er bod digonedd o’r calchfaen crai i’w gael yn Llanymynech, yr hyn a oedd yn gwneud yr ardal yn un arbennig o arwyddocaol oedd y ffaith fod glo ar gael yn weddol rwydd o faes glo Croesoswallt, Y Waun a Rhiwabon. Nid yw pen deheuol y maes glo, rhwng Trefonen a Morda, ond 6km o Lanymynech. Mae’r odynnau yn Llanymynech yn dyddio o’r prif gyfnod o weithgarwch tua diwedd y 19eg ganrif. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y defnydd o galch yn y diwydiant adeiladu wedi crebachu yn sgîl cystadleuaeth gynyddol â sment Portland, a oedd yn gryfach ac yn gwrthsefyll dŵr yn well, ac roedd hyn yn bendant yn ffactor o bwys wrth i’r gwaith calch gau ym 1914.

development of the tramways

Chwith: Datblygiad y system dramffyrdd yn ystod y 19eg ganrif

Gwelir datblygiad y diwydiant calch fwyaf eglur yn yr amrywiol ffynonellau cartograffig, a defnyddid y rhain i gynhyrchu darlun o’r gwahanol gyfnodau, ar sail tystiolaeth o fapiau ym 1807, 1863, 1874 a 1900.

Er bod cloddio a llosgi calchfaen yn ddiwydiant pwysig, cyn agor Camlas Ellesmere ym 1796, dim ond ar raddfa gymharol fechan yr aed ati i wneud hyn. Gallai’r gamlas gyflenwi marchnadoedd newydd, ac fe arweiniodd hyn at ehangiad cyflym y diwydiant calch yn Llanymynech. Cludo calchfaen o’r chwarel i’r gamlas 80m islaw a 0.7km i ffwrdd oedd y prif broblem a wynebai’r cwmnïau chwareli. Ar y dechrau, ceffyl a chert fyddai’n darparu’r cludiant, er na allai hyn wrth reswm ymdopi â’r cynnydd yn y galw am galchfaen. O ganlyniad, adeiladwyd tramffordd ac inclein ym 1806 i gludo calchfaen o’r chwarel orllewinol i lanfa newydd ar y gamlas. Roedd gan yr inclein drac dwbl a chwt weindio ar y pen a chroesfan ar y gwaelod lle ymunodd leiniau â thramffordd sengl i lanfa’r gamlas, lle rhannodd yn ddwy gangen, un y naill ochr i’r lanfa.

Mae’n ymddangos bod odynnau calch wedi bod yn y chwarel ers o leiaf 1753 ac er bod odynnau i’w gweld yma ym 1806, mae’n annhebygol mai ar y gamlas y byddai calch wedi’i gludo oherwydd ei fod yn sylwedd mor ansefydlog. Yn lle hynny, mae’n debyg mai ceffyl a chert fyddai’n cludo’r calch brwd o hyd, a chalchfaen yn unig fyddai’n cael ei gludo ar y gamlas.

Stonebreaker

Dde: Mr Roberts, fforman yn y chwarel, yn torri creigiau ar lanfa'r gamlas

Adeiladwyd ail dramffordd ymhellach i’r dwyrain rhwng 1807 a 1837. Hon ddatblygodd yn brif lwybr trafnidiaeth, a chydag addasiadau diweddarach, roedd ar agor nes i’r chwarel gau ym 1914.

Byddai calchfaen o’r chwareli yn cael ei gludo ar hyd y tramffyrdd i lanfeydd y gamlas, lle byddai’n cael ei storio cyn cael ei dorri â llaw yn ddarnau llai er mwyn ei lwytho a’i gludo ar gwch camlas.

Roedd gan bob un o’r incleins gwt weindio ar y pen uchaf a oedd yn rheoli disgyniad y wagenni llawn. Datblygwyd system o dramffyrdd yn y chwarel i gludo cerrig o’r chwarel i ben yr incleins a hefyd i symud y gwastraff i’r safle tipio. Fe fyddai’r tramffyrdd mewnol hyn yn cael eu haddasu’n aml wrth i wyneb y chwarel gilio, ac wrth i'r gwaith symud i ran newydd o'r chwarel. Byddai’r darnau o drac yn hawdd eu codi a'u hailosod mewn gwahanol fannau yn ôl y galw.

Byddai’r tramffyrdd yn cludo wagenni i ben yr incleins ac o'r gwaelod i'r gamlas. Incleins hunanfantoli neu incleins disgyrchiant yw’r enw ar y math o incleins a geir yn Llanymynech, lle byddai wagen wag yn codi i’r brig wrth i wagen lawn ddisgyn i’r gwaelod. Roedd cwt weindio ar y brig yn cynnwys drwm mawr a oedd yn cylchdroi ar echel â waliau cerrig sylweddol y strwythur yn ei chynnal. Byddai un cebl cludo yn rhedeg ar hyd yr inclein, wedi'i weindio o amgylch y drwm ar y brig. Byddai wagen lawn yn cael ei chysylltu i’r cebl ar y brig a byddai wagen wag ar y gwaelod. Fe fyddai disgyniad y wagen lawn trwy ddisgyrchiant, felly, yn codi’r wagen wag i’r brig. Byddai mecanwaith brecio yn rheoli cyflymder y disgyniad. Roedd y mecanwaith hwn yn cynnwys band metel llydan o amgylch y drwm. Trwy ddefnyddio liferi, byddai hwn yn cael ei dynhau i greu effaith brecio. Mae’n ymddangos i’r cwt weindio mwyaf dwyreiniol gael ei reoli o bell, fel bod modd i’r sawl oedd yn ei reoli sefyll ar ben yr inclein lle byddai tremio i lawr yn waith rhwydd, ac roedd y mecanwaith brecio wedi’i gysylltu â lifer trwy gyfres o rodenni yn rhedeg mewn ceuffos gerllaw’r traciau.

drumhouse

Chwith: Adfeilion y cwt weindio ar ben yr inclein dwyreiniol, ag eiddew yn eu gorchuddio. CPAT 1603-40

Cafodd agor Cangen Llanfyllin Rheilffyrdd y Cambrian ym 1863 effaith ddramatig ar y diwydiant calch yn Llanymynech. Er i'r gamlas barhau i gael ei defnyddio i gludo calch, roedd y rheilffordd yn gallu cludo pethau llawer yn gynt, ac roedd ganddi gysylltiadau â rhwydwaith llawer ehangach, ac felly cyflwynwyd marchnadoedd newydd posibl. Cedwid i raddau helaeth y system dramffyrdd a oedd wedi datblygu i wasanaethu’r gamlas, ac addaswyd hi i ddefnyddio’r drafnidiaeth newydd. Erbyn 1863, cefnwyd ar y dramffordd gynharaf islaw'r inclein, a chysylltwyd trac newydd i uno'r ddwy dramffordd yn union ger ochr orllewinol y ffordd, a lein ddwbl yn rhedeg islaw’r ffordd i drawsgrosiad. I’r de, rhedai’r lein orllewinol ar gromlin cyn mynd at lanfa orllewinol y gamlas, a rhedai’r lein ddwyreiniol yn fwy uniongyrchol at y lanfa ddwyreiniol. Dangosir adeilad ar safle’r stablau tybiedig, ac mae’r siâp fel y mae i’w weld yma yn awgrymu bod yr hen strwythur yn wahanol i'r hyn sydd wedi goroesi.

1874 map of Llanymynech

Dde: Argraffiad 1af map 1874 yr Arolwg Ordnans

Erbyn 1874, er yn gynt yn ôl pob tebyg, roedd y dramffordd orllewinol wedi’i hestyn trwy ychwanegu seidin ar hyd ochr ddeheuol y brif reilffordd, ac roedd tramffyrdd ychwanegol wedi'u hadeiladu i wasanaethu glanfeydd y gamlas. Yn y chwarel ei hun, roedd system y dramffordd orllewinol yn dal i gael ei defnyddio, er ei bod yn ymddangos bod yr inclein wedi'i israddio i drac sengl gyda dolen basio. Mae gan system y dramffordd ddwyreiniol nodwedd y mae’n debyg iddi fod yn inclein, er heb gwt brecio, yn arwain i’r de o wyneb y chwarel, gyda seidin yn ymuno ag ef o'r odynnau calch gerllaw. Mae cyfres o leiniau yn arwain i’r de-orllewin o’r gwaith dwyreiniol a’r odynnau calch i ymuno â’r inclein uwchlaw’r hanner ffordd. Fel ym 1863, mae’r ddwy system yn ymuno ger croesfan y ffordd, gyda gorsaf bwyso y tu hwnt i hynny.

Odynnau tynnu i lawr, sydd wedi’u cynllunio i redeg trwy’r amser, yw’r ddwy odyn fawr i’r gorllewin o'r odyn Hoffman. Mae tystiolaeth gartograffig yn awgrymu iddynt gael eu hadeiladu mewn cysylltiad â’r rheilffordd ar ôl 1874, ac yna’u gadael yn segur erbyn 1900. Nid oedd yn bosibl cynnal arolwg manwl o ran uchaf yr odynnau oherwydd y ffensys diogelwch o’u hamgylch. Mae’r ddwy odyn fel ei gilydd wedi’u hadeiladu o flociau calchfaen wedi’u lled-naddu. Mae'n ymddangos mai'r odyn ddwyreiniol lai yw'r cynharaf o'r ddwy. Mae'n mesur oddeutu 11.5m o’r dwyrain i’r gorllewin wrth 15.5m o’r gogledd i’r de a hyd at 6m o uchder, gyda llestr unigol yn y canol. Un llestr yn y canol sydd gan yr odyn orllewinol hefyd, oddeutu 2.7m o led, ac oddeutu 14.6m wrth 16.8m ar lefel y tir, gydag uchder o 8.5m uwchlaw gwrthglawdd cerrig gan ddilyn ochr ogleddol y Rock Siding. Roedd teclyn codi glo ar blatfform ar ochr orllewinol yr odyn, ac mae modd adnabod darnau ohono o hyd. Mae modd gweld ategion hen gaban ar ben yr odyn o hyd, yn ymwthio o’r wal flaen. Roedd canopi’n amddiffyn tu blaen yr odyn, a chorbelau’n ymwthio islaw’r twll tynnu i lawr, gan awgrymu bod yno gyforlawr i lwytho’r calch yn syth i mewn i wagenni’r rheilffordd.

draw kilns & Hoffman chimney

Chwith: Y ddwy odyn tynnu i lawr fawr gyda simnai’r odyn Hoffman yn y cefndir. CPAT 1603-164

Mae’n ymddangos bod y ddwy odyn fel ei gilydd yn odynnau tynnu i lawr sengl arferol a fyddai’n cael eu llwytho â haenau o lo a chalchfaen bob yn ail o'r brig. Nid yw’r ramp llwytho ar gyfer yr odyn gynharaf i’w weld bellach, gan fod clawdd y ramp llawer mwy a ddefnyddiwyd ar gyfer yr odyn ddiweddarach wedi ei lyncu.

Mae gan yr adeilad â llawr o frics i'r gorllewin o'r odynnau gyfres o seiliau peiriannau concrid o’i fewn, ac mae’n bosibl felly mai safle mathrwr cerrig oedd hwn. Os felly, mae’n bosibl iddo gael ei adeiladu mewn cysylltiad â’r odyn fwyaf, gan ddefnyddio’r teclyn codi i godi’r calchfaen i’r platfform llwytho.

1900 map

Dde: 2il argraffiad map 1900 yr Arolwg Ordnans

Y datblygiad mawr olaf a welwyd yn Llanymynech oedd adeiladu'r odyn Hoffman rhywdro tua 1900. Gwelir yr odyn ar ail argraffiad map yr Arolwg Ordnans a ddiwygiwyd ym 1900, ynghyd â newidiadau arwyddocaol i'r system gludiant, gan gynnwys tramffyrdd ychwanegol a seidins prif lein y rheilffordd a oedd yn gwasanaethu'r odyn. Yn y chwarel ei hun, roedd y rhan orllewinol a’r system dramffyrdd gysylltiedig bellach yn segur, ac roedd y system ddwyreiniol wedi'i newid i gynnwys inclein trac-dwbl, gyda chyfres newydd o dramffyrdd cyswllt ar hyd wyneb y chwarel.

Yr Odyn Hoffman

Mae’r odyn Hoffman mewn cyflwr eithriadol o dda, ac mae'n arbennig o bwysig, gan fod ei simnai yn dal ganddi. Mae’r odyn wedi ei hadeiladu o frics gyda waliau wedi’u hestyllu, yn mesur 44.8m x 17.5m ar y tu allan, ac oddeutu 3.4m o uchder. Mae’r simnai frics sgwâr yn sefyll ar blinth 3.7m o led ac mae’n codi at uchder o hyd at 42.5m. Ceir peth anghytuno ynghylch dyddiad yr adeilad, er yn gyffredinol derbynnir mai oddeutu 1899 yw’r dyddiad, yn ôl pob tebyg. Yn sicr, ni chofnododd yr Arolwg Ordnans yr odyn ym 1874, ond roedd yno erbyn 1900, a pharhaodd i gael ei defnyddio hyd 1914.

Hoffman kiln

Chwith: Argraff o'r odyn Hoffman yn ei hanterth

Datblygwyd y math yma o odyn yn yr Almaen gan Friedrich Hoffman, a roddodd freinlen ar y cynllun am y tro cyntaf ym 1857, i danio brics. Roedd yr odynnau Hoffman cyntaf yn grwn, ond yn ddiweddarach fe wnaethant ddatblygu yn strwythurau mwy, a oedd yn eliptaidd neu’n betryalog eu siâp. Rhoddodd Humphrey Chamberlain freinlen arnynt yn Lloegr ym 1868, ac adeiladwyd yr odyn gyntaf yn Nottingham yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Addaswyd y cynllun yn ddiweddarach ar gyfer llosgi calch, ac adeiladwyd nifer o odynnau o’r fath ar ddiwedd y 19eg ganrif, gan gynnwys yr enghraifft mewn cyflwr da yn Langcliffe ger Settle yng Ngogledd Swydd Efrog, yn ogystal â dwy odyn yn Y Mwynglawdd ger Wrecsam.

Arwyddocâd yr odyn Hoffman oedd ei bod yn gallu rhedeg yn ddi-baid am fwy o amser. Roedd yr odyn yn cynnwys un twnnel di-fwlch wedi'i rannu'n gyfres o siambrau gyda damperi papur dros dro yn eu gwahanu. Roedd gan odyn Llanymynech 14 o siambrau, fel y byddai ar unrhyw adeg un yn wag, un yn cael ei llwytho, pump yn cael eu cynhesu ymlaen llaw, dwy yn tanio, pedair yn oeri ac un yn cael ei gwagu. Byddai brics yn cael eu defnyddio i selio’r prif fynedfa yn ystod y tanio, a byddai’r ochr fewnol yn dod yn wydredig trwy gael ei defnyddio’n aml. Pan fyddai’n segur, byddai’r brics yn cael eu pentyrru gerllaw, ac mae nifer o’r pentyrrau hyn ar droed yr arglawdd i’r gorllewin o’r odyn hyd heddiw. Gellir dod o hyd i frics gwydredig eraill yn y wal sy'n cynnal rhai o’r argloddiau i'r gogledd o'r odyn, sy'n awgrymu bod y rhain wedi'u codi ar ôl yr odyn Hoffman. Gerllaw’r prif fynedfeydd mae gan bob siambr bwynt tynnu aer hanner-cylchog ar lefel y tir, gyda ffliw sy’n cyfateb iddo islaw’r llawr sy’n cysylltu â ffliw ganolog ar hyd yr odyn yn arwain at y simnai. Mae gan bob pwynt tynnu aer res o frics uwchben yn ymwthio o'r wal allanol.

Hoffman kiln today

Dde: Yr odyn Hoffman heddiw. CPAT 1603-9

Byddai calchfaen yn dod i’r odyn ar dramffyrdd a oedd yn rhedeg ar lefel y tir y naill ochr i’r odyn. Byddai'r calchfaen yn cael ei bentyrru’n ofalus ymhob siambr y naill ar ôl y llall i danio’r odyn, a byddai siafftiau neu ‘bileri’ fertigol yn cael eu gadael yn union o dan cyfres o ‘dyllau bwydo’ yn nho bwaog y twnnel. Byddai cnapiau bychain o lo yn cael eu bwydo trwy'r tyllau hyn i'w llosgi yn yr aer poeth a fyddai'n pasio trwy'r twnnel. Byddai’r nwyon hylosgi’n cylchredeg o’r naill siambr i’r llall nes iddynt gael eu tynnu i’r ffliw ganolog a oedd yn arwain at y simnai. Unwaith y byddai’r calch mewn un siambr wedi’i losgi’n ddigonol, byddai’r ffliw yn cael ei gau a byddai’r glo yn cael ei fwydo i mewn i'r siambr nesaf, oedd â’i ffliw ar agor, felly byddai’r tân yn symud o amgylch yr odyn. Byddai tramffordd yn dod â’r glo i do’r odyn ar arglawdd i’r gogledd, gyda phont dros y dramffordd ar lefel y tir a fyddai’n pasio heibio i ben gogleddol yr odyn gan gludo’r calchfaen. Gorchuddiwyd y strwythur cyfan â tho haearn rhychiog, ac mae stansiwns haearn y rhain yn dal i’w gweld ar hyd gwaelod waliau’r odyn.

Y Dyfodol

Dim ond dechrau yr hyn sy'n argoeli i fod yn rhaglen adfer a dehongli gyffrous yw'r arolwg diweddar yn Llanymynech. Mae Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt yn datblygu cynlluniau ar hyn o bryd i atgyfnerthu'r prif strwythurau a darparu mynediad llawer gwell i ymwelwyr, trwy greu llwybrau troed newydd a phaneli dehongli. Yn ogystal â hyn, gallai cynlluniau British Waterways i ailagor adran Llanymynech y gamlas arwain at adfer glanfa’r gamlas, gan helpu i adfywhau rhan arall o hanes Llanymynech.