CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Bryn Llanymynech


© CPAT

Golygfa o’r awyr o Fryn Llanymynech o’r de yn dangos wynebau amlwg y chwarel gyda’r Clwb Golff yn y cefn. Llun 92-c-1048, © CPAT

Mae Bryn Llanymynech yn dirnod trawiadol, gyda’i glogwyni calchfaen sydd i’w gweld o gryn bellter. Mae’r bryn ar ymyl orllewinol Gwastatir Sir Amwythig yn tremio dros gymer afon Efyrnwy ac afon Hafren, ac mae rhagfuriau’r bryngaer sydd ar gopa’r bryn, am lawer o’r gylchlin sy’n goroesi, yn llunio ffin ffisegol a gwleidyddol rhwng Cymru a Lloegr.

Roedd amlygrwydd y bryn, ynghyd â’i amddiffynfeydd naturiol, yn golygu ei fod yn safle delfrydol i sefydlu bryngaer mawr tuag at ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, ac mae rhai o’r farn mai dyma oedd safle safiad olaf Caradog yn erbyn y Rhufeiniaid yn 51 OC. Defnyddiwyd amddiffynfeydd y bryngaer segur wedi hynny ar gyfer llinell Clawdd Offa yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Mae adnoddau naturiol y bryn, sef copr, plwm, sinc a chalchfaen yn bennaf, wedi’u hechdynnu ers Oes yr Haearn, er i brif ganolbwynt gweithgarwch diwydiannol symud o frig y llwyfandir i’w waelod o gwmpas amser y chwyldro diwydiannol tuag at ddiwedd y 18fed ganrif. Mae Clwb Golff Llanymynech wedi bod ar ben y bryn ers y 1930au.

Cwblhawyd astudiaeth yn ddiweddar â chyllid oddi wrth Cadw i ddod â’r adnoddau niferus ac amrywiol sy’n gysylltiedig â Bryn Llanymynech at ei gilydd, ac i wneud rhywfaint o waith maes er mwyn asesu faint sy’n hysbys amdano ar hyn o bryd, asesu potensial archaeolegol y bryn ac asesu problemau posibl â’i reoli.

Y Bryngaer

© CPAT

Mae rhagfuriau gogledd-ddwyreiniol y bryngaer wedi goroesi fel cloddweithiau amlwg ar hyd y 4ydd Ffordd Deg. Llun 3510-0009, © CPAT

Cydnabyddir bellach bod Bryn Llanymynech yn un o’r bryngaerau mwyaf ym Mhrydain, ag ardal o ryw 57ha. Mae amddiffynfeydd y bryngaer wedi goroesi orau ar ei ochrau gogleddol a gogledd-ddwyreiniol, lle gellir olrhain o leiaf tri o’r rhagfuriau â’u ffosydd cysylltiedig. Mae’r fynedfa fwyaf sydd wedi goroesi ar yr ochr ogleddol, lle mae cloddweithiau’r rhagfur mewnol wedi troi ar i mewn, ond mae’n debyg i gloddiau a ffosydd diweddarach groesi’r fynedfa hon, o bosibl yn yr un cyfnod â mynedfa lai ar ochr ogledd-ddwyreiniol y gaer, lle mae’n ymddangos bod y rhagfur allanol hefyd wedi troi ar i mewn. Mae’n debyg bod tarren galchfaen wedi diffinio ochr ddeheuol y bryn, ond mae cynllun posibl y rhagfuriau wedi’i golli, i raddau helaeth oherwydd effeithiau gweithgarwch chwarelu

Y tu mewn i’r bryngaer ceir tirwedd donnog gyda rhai llethrau serth, creigiog weithiau, lle mae’r creigwely calchfaen yn dod yn agos at yr wyneb. Er gwaethaf y ffaith bod y bryn yn uchel, mae yna rai ardaloedd cysgodol, â phriddoedd dyfnach mae’n debyg, a fyddai wedi bod yn addas ar gyfer anheddu. Mae’n bosibl bod yr ardaloedd hyn wedi gweld nifer eithaf dwys o drigolion yn Oes yr Haearn, gyda strwythurau pedwar-postyn bychain a thai crwn mwy yn ei nodweddu.

Claddiadau
Pan archwiliwyd yr ogof naturiol, o’r enw yr Ogof, a’i chyffiniau yn y 18fed ganrif, datgelwyd nifer o gladdiadau yn y fan a’r lle, rhai ohonyn nhw wedi’u darganfod ar yr un pryd â deunydd a ystyriwyd ar y pryd i fod yn dyddio o oes y Rhufeiniaid, er bod llawer o hwn wedi mynd ar goll erbyn hyn felly mae’n amhosibl cadarnhau’r cyd-destun diwylliannol. Yng nghanol y 19eg ganrif, darganfuwyd dau ysgerbwd arall wedi’u claddu, mae’n debyg, mewn rhychau ger mynedfa’r Ogof, yn gysylltiedig â’r hyn a ddisgrifir fel bwyell ryfel o fetelau cymysg.

Ym 1996, wrth arsylwi ar waith adeiladu sied newydd i Ofalwr Grîn y clwb golff, nodwyd bedd fach yn cynnwys esgyrn y coesau mewn claddiad estynedig rhywun ifanc, sydd wedi’u dyddio i 770–370 cal. CC.

Mwyngloddio a Chwarelu
Mae mwyngloddio a chwarelu wedi effeithio’n drwm ar y bryn, ond y chwarelu sydd wedi gadael ei ôl mwyaf, gyda’r gwaith ar raddfa fwy yn y 19eg ganrif yn creu’r clogwyni calchfaen fertigol i’r de a’r de-ddwyrain, sydd i’w gweld o gryn bellter. Mae mwyngloddio wedi mynd rhagddo ar y bryn am fwy o amser, bron yn bendant mor bell yn ôl â’r cyfnod cynhanesyddol. Er bod y gweddillion yn llai amlwg, gellir dod o hyd iddyn nhw mewn llawer o leoedd ar y copa ac ar lethrau’r bryn ar ffurf siafftiau, ceuffyrdd a gweithfeydd brig, y rhan fwyaf ohonyn nhw bellach â llystyfiant yn eu gorchuddio.

© CPAT

Y fynedfa i Ogof Llanymynech. Llun 3510-0004, © CPAT

Mae amrywiaeth o weithfeydd mwyngloddio cynnar wedi’u nodi ar Fryn Llanymynech, er y talwyd y sylw mwyaf i’r Ogof, neu Fwynglawdd Llanymynech i roi enw arall arni. Fodd bynnag, credir bellach mai’r gyfres o byllau agored neu bantiau siâp côn yn rhan ogledd-orllewinol y bryngaer yw’r gweithfeydd cynharaf, tua 200m i’r gogledd-orllewin o fynedfa’r Ogof. Mae siâp y rhain yn awgrymu dulliau gweithio cynnar, gan ganolbwyntio i ddechrau ar echdynnu dyddodion mwynol a oedd i’w gweld ar yr wyneb. Mae coridorau diweddarach sy’n edrych yn debyg i rai’r Ogof wedi’u nodi yng ngwaelod o leiaf dau o’r pyllau hyn, gan awgrymu iddyn nhw gael eu hailweithio gan ddefnyddio technegau mwyngloddio tanddaearol

Derbynnir yn gyffredinol bod mwyngloddio wedi mynd rhagddo yn yr Ogof yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ac oes y Rhufeiniaid. Mae ceibiau haearn wedi’u hadfer o’r gweithfeydd yn y gorffennol, ac mae tystiolaeth o’r marciau a wnaed ganddyn nhw, neu gan offer tebyg, wedi’i nodi mewn mannau. Mae’n debygol mai mwynau copr oedd yr adnoddau mwynol mwyaf helaeth, a datgelodd gwaith cloddio ym 1981 dystiolaeth o fwyndoddi copr mewn tawddlestri yn union y tu mewn i ragfuriau dwyreiniol y bryngaer. Dyddiwyd hyn i 162 cal. CC – 53 cal. OC, gyda mwy o weithgarwch yn y cyfnod 363-119 cal. CC. Yr awgrym clir yw mai mwynau a oedd yn deillio o Lanymynech oedd y rhai a ddefnyddiwyd, yn hytrach na mwynau a gafodd eu dwyn i mewn o leoedd eraill.

© CPAT

Mae ardal o weithfeydd brig mawr yn gorwedd yn y coed i’r dwyrain o’r 15fed Grîn ac mae’n bosibl bod hyn yn cynrychioli gweddillion gweithgarwch mwyngloddi cynnar. Llun 3510-0010, © CPAT

Mae’n debyg i fwyngloddio dawelu ar ôl y cyfnod Rhufeinig, ac ni ddaeth mwynglawdd Carreghofa i’w anterth am gyfnod byr tan ddiwedd y 12fed ganrif. Pan roedd esgob Salisbury wrthi’n codi arian i dalu pridwerth i ryddhau Richard I ym 1193, daeth yn ymwybodol o’r ffaith bod mwyn arian wedi’i ddarganfod yn Llanymynech, ac fe berswadiodd Archesgob Caergaint i ddatblygu’r mwynglawdd ac ailagor bathdy yn Amwythig er mwyn bathu darnau arian.

Os echdynnwyd mwynau o Fryn Llanymynech yn ddiweddarach yn y Canol Oesoedd, nid oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig i brofi hynny, er bod mwyngloddio’n bendant wedi ailddechrau erbyn diwedd yr 17eg ganrif, pan ddefnyddiwyd powdwr gwn i ailagor gweithfeydd hyn. Mae’n debyg bod y mwyngloddio diweddarach wedi bod braidd yn ysbeidiol.

Er ei bod yn debygol bod yna hanes hir i chwarelu calchfaen, ni ddechreuwyd ei echdynnu ar raddfa fawr tan y 19eg ganrif, ar ôl agor Camlas Trefaldwyn ac, yn ddiweddarach, y rheilffordd. Y chwareli sy’n gyfrifol am wynebau creithiog dwyreiniol a deheuol y bryn. Mae dau inclein wedi goroesi, y naill i lawr i bentref Llanymynech a’r llall i’r odynnau calch ym Mhant. O’r ddwy stad â thirddaliadaethau ar y bryn ac o’i amgylch – sef Castell y Waun a Stad Bridgeman – y teulu Myddleton o’r Waun aeth ati i roi eu hawliau chwarelu ar brydles ac roedd hyn ar y gweill erbyn canol y 18fed ganrif; mae’n bosibl bod agor y gamlas ar ddiwedd y ganrif wedi rhoi hwb i chwarelu ar raddfa fwy.


Preifatrwydd a chwcis