CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Ffosydd Cylch Mawr


Cyflwyniad

stonehenge

Er 2009, mae CPAT wedi bod yn cynnal astudiaeth o rai or ffosydd cylch mwy yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, wedii hariannu gan Cadw. Ledled Prydain, mae dosbarth o ffosydd cylch hynod fawr wediu nodi sydd, i bob golwg, yn dod o fewn categori hengorau ffurfiannol fel yu gelwir, yn dyddio o ganol yr oes Neolithig. Mae gan ardal Clwyd-Powys 14 o safleoedd sydd diamedr o ryw 40m neu fwy, gan gynnwys yr enghraifft eithriadol o fawr yn Walton Court. Mae pob un ohonynt yn hysbys o dystiolaeth olion cnydau yn unig, ac ystyrir bod aredig yn golygu eu bod dan fygythiad parhaus. Mae yna glwstwr amlwg or safleoedd hyn o amgylch cymer afon Hafren ac afon Efyrnwy.

Ar y dde: Roedd cyfnod cynharaf Cr y Cewrin cynnwys lloc cylchol diamedr o ryw 100m.

Fferm Walton Court

Walton  CPAT

Saif y ffos gylch fawr, sydd ger Fferm Walton Court, ymysg cymhlyg o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol ym mhen dwyreiniol Basn Walton yn Sir Faesyfed. Yn yr un modd henebion eraill yn y cymhlyg, olion cnydau a ddygodd sylw at y ffos gylch gyntaf, yn ystod gwaith rhagchwilio or awyr. Mewn lluniau a gymerwyd ym mis Gorffennaf 1967 gan J K St Joseph, nodwyd ffos gylch anarferol o fawr, diamedr o ryw 100m, gyda ffos gul iawn yn ei diffinio, i chanol yn SO 25235995. Datgelodd yr olion cnydau hefyd ddau wersyll cyrch Rhufeinig yn croestorrir ffos gylch, gan arwain at un awgrym mai gyrus Rhufeinig, sef arena ar gyfer hyfforddi ceffylau, oedd y safle o bosibl. Mae ffotograffau diweddarach gan CPAT ym 1996 wedi awgrymu mynedfa bosibl lled o ryw 14m yn y de-ddwyrain, er nad ywr olion cnydaun bendant.

Mae maint ffos gylch Fferm Walton Court yn debyg i faint y clawdd pridd ai ffos yng Nghr y Cewri, a dymar safle mwyaf oi fath yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, er bod yna 18 pellach o ffosydd cylch sydd diamedr o fwy na 30m, gydag 11 ohonynt yn mesur mwy na 40m. Ymgymerwyd rhaglen werthuso ar raddfa fach yn ystod 2009 i archwilior ffos gylch fawr, r gobaith o bennu ei ffurf ai dyddiad, gan gyfeirion benodol at ei lle yn nilyniant cyffredinol yr henebion cynhanesyddol ym Masn Walton.

Ar y chwith: Golygfa or ffos gylch anarferol o fawr yn Fferm Walton Court or awyr. CPAT

 CPAT 96-c-0021

Ar y dde: Cynllun or ffos gylch fawr yn Fferm Walton Court. CPAT 96-c-0021

Mae'r gwaith cloddio diweddar wedi dangos bod y ffos yn Fferm Walton Court yn rhyw 2m o led ac yn 1.4m o ddyfnder. Mae diffyg unrhyw dystiolaeth olion cnydau ar gyfer adran or ffos ar ochr de-ddwyrain y saflen awgrymu bod iddi fynedfa bosibl, er na allai arolwg geoffisegol daflu mwy o oleuni ar hyn ac, o'r herwydd, nid yw wedi'i gadarnhau hyd yma. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth yn sgil y gwaith cloddio o leoliad clawdd cysylltiedig, felly efallai ei fod wedi bod ar y tu mewn, fel hengorau ffurfiannol neu ar y tu allan, fel hengorau clasurol. Mae darnau o siarcol cyll or llenwad eilaidd wedi cynhyrchu dyddiad o 2570-2300 cal. CC sydd, er nad ywn dangos y dyddiad yr adeiladwyd yr henebyn, yn awgrymu na chafodd ei adeiladu lawer yn gynharach na hyn oherwydd hindreuliad cyflym tybiedig ochraur ffos i ffurfior mewnlenwi cychwynnol.

Mae maint enghraifft Walton yn gymharol i faint y clawdd ar ffos o amgylch y darn syn ffurfio cyfnod cyntaf Cr y Cewri, a oedd diamedr o 107m. Yn wreiddiol, roedd y ffos yn rhyw 4.2m o led a rhwng 1.2m ac 1.6m o ddyfnder, ac maen ymddangos iddi gael ei chloddio fel cyfres o adrannau byr, eithaf syth. Defnyddiwyd y deunydd a wthiwyd or ffos i ffurfio clawdd mewnol dros 5m o led, a hefyd gwrthglawdd bach. Maen bosibl y gallai proffiliau gwahanol y ddwy adran a gloddiwyd ar draws ffos gylch Fferm Walton Court awgrymu ir nodwedd gael ei chloddio hefyd fel cyfres o adrannau cydgysylltiedig, yn hytrach nag un ffos barhaus unffurf. Dyddiwyd Cyfnod 1 Cr y Cewri i rhwng 3020 a 2910 CC o gyrn carw a adferwyd o waelod y ffos; cymerir y defnyddiwyd y rhain i'w hadeiladu.

Yng Nghymru, maer henebion yn y cymhlyg yn Llandegai, ger Bangor, yn debyg i safle Walton. Roedd hwn yn cynnwys cwrsws a hengor clasurol, yn ogystal ffos gylch fawr or enw Llandegai A. Yn ystod gwaith cloddio ym 1966-7, archwiliwyd y ffos gylch sydd diamedr o 80m. Y gred oedd bod hon yn 8.5m o led ac yn 3.3m o ddyfnder yn wreiddiol, gyda chlawdd mewnol a mynedfa gul ar ochr y de-orllewin. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ddyddio o lenwadau sylfaenol y ffos, er yr adferwyd teilchion crochenwaith Fengate o haen sefydlogi a gynhyrchodd ddyddiad radiocarbon o tua 3000 CC hefyd. Mae dyddiadau o gyfres o dyllau y tu mewn yn awgrymu ei bod yn debygol bod yr henebion yn dyddio o tua 3200-3100 CC. Nodwyd henebyn meingylchol hefyd gerllaw Llandegai D a oedd diamedr o ryw 38m, gyda ffos fas rhwng 1.5m ac 1.8m o led. Cynhyrchodd twll mewnol ddyddiad o 2630-2460 cal. CC, syn awgrymu y dylair safle berthyn i ddiwedd yr oes Neolithig.

Causeway Lane, Llanymynech

 CPAT 84-c-0192

Ar y dde: Golygfa o ffos gylch Causeway Lane or awyr, yn dangos fel olion cnydau yn haf sych 1984. CPAT 84-c-0192

Dangosodd tystiolaeth olion cnydau ffos gylch fawr yn Causeway Lane, ger Llanymynech (SJ 2534 2065), yn ogystal phedair ffos gylch arall a dau aliniad tyllau yn y cyffiniau agos

Cadarnhaodd gwaith cloddio arbrofol ac arolwg geoffisegol yn 2010 bresenoldeb ffos gylch anarferol o fawr, diamedr o rwy 55m gydag un ffos 1.8m o led a rhyw 0.7m o ddyfnder yn ei diffinio. Er nad oedd unrhyw dystiolaeth yn goroesi o leoliad clawdd cysylltiedig, mae dilyniant y mewnlenwi y sylwyd arno yn y ddwy adran o'r ffos yn awgrymu'n gryf mai ar y tu mewn oedd hwn.

Ni fur tu mewn ir ffos gylch yn destun unrhyw brawf hyd yma, gan na estynnwyd y naill rych nar llall fwy na 7m o ymylon mewnol y ffos. Er mair gobaith oedd y byddair arolwg geoffisegol o bosibl yn datgelu tystiolaeth o nodweddion mewnol, nid oedd yr isbridd yn yr ardal hon yn rhyw ffafriol iawn ar gyfer magnetometreg ac roedd y canlyniadaun amhendant.

Pentrehobin, Yr Wyddgrug

 CPAT 3148-0056

Ar y chwith: Pen gorllewinol Clostir Palis Hindwell iw weld fel olion cnydau ym 1994 CPAT 3148-0056

Roedd y ffos gylch fawr ym Mhentrehobin, ir de-ddwyrain or Wyddgrug yn Sir y Fflint (SJ 24616240), yn hysbys o dystiolaeth olion cnydau or blaen

Dangosodd gwaith cloddio arbrofol yn 2010 fod y ffos gylch yn cynrychioli gweddillion yr hyn a oedd yn domen gladdu drawiadol yn wreiddiol. Roedd y ffos o amgylch yn rhyw 4m o led ac yn 2m o ddyfnder, diamedr allanol o ryw 44m. Byddair deunydd a wthiwyd or ffos wedi llunio tomen sylweddol, gan selio o leiaf tair nodwedd fewnol, un ohonynt yn cynnwys yr hyn a allai fod yn arch wedii llunio o bren derw golosgedig sydd wedii ddyddio i 2400 2130 cal. CC. Cafwyd mwy o dystiolaeth ddyddio o nifer o deilchion crochenwaith o ganol i ddiwedd yr Oes Efydd, yn ogystal ag un telchyn a allai berthyn i ddechrau'r Oes Haearn.

Ni ddylid ystyried y safle heb hefyd ystyried safleoedd eraill, fodd bynnag, gan fod gweddillion ar eu sefyll o feddrod crwn mawr arall ryw 190m ir gogledd-ddwyrain, ac maer beddrod crwn lle darganfuwyd mantell drawiadol yr Wyddgrug 1.5km ir gogledd-gogledd-ddwyrain. Maen bosibl bod ysblander anarferol y gwrthrych hwn, ynghyd maint y ddau feddrod crwn, yn awgrymu bod ir ardal hon arwyddocd arbennig yn ystod yr Oes Efydd.

Maer gwaith cloddio wedi datgelu nad ywr henebyn yn dod o fewn y grwp hengorau ffurfiannol, er bod y ffos gylch yn fawr, ond yn hytrach mai un o nifer o domenni claddu anarferol o fawr sydd wediu gwasgaru dros lwyfandir Sir y Fflint ydyw.

Fferm Dyers Hall, Ceir Trallwng

 CPAT 3292-0016

Ar y dde: Yr adran or ffos gylch a gloddiwyd yn Fferm Dyers Hall. CPAT 3292-0016

Archwiliwyd y safle yn Fferm Dyers Hall, Ceir Trallwng, ym Mhowys (SJ 25334 11475), yn 2011, a chadarnhawyd ffos gylch anarferol o fawr diamedr o ryw 55m gydag un ffos 3.7m o led a rhyw 1.3m o ddyfnder yn ei ddiffinio. Er nad oedd unrhyw dystiolaeth yn goroesi o leoliad y clawdd cysylltiedig, mae dilyniant y mewnlenwi y sylwyd arno yn yr adran o'r ffos yn awgrymu mai ar y tu mewn oedd hwn o bosibl. Ni fur tu mewn ir ffos gylch yn destun unrhyw brawf hyd yma, gan na estynnwyd y naill rych nar llall fwy na 11m o ymylon mewnol y ffos. Felly nid yw wedii gadarnhau hyd yma pun ai henebyn claddu oedd y ffos gylch, neu a oedd iddi swyddogaeth fwy defodol efallai.

Collfryn, Cegidfa

 CPAT 87-007-0013

Ar y chwith: Awyrlun 1987 gyda ffos gylch Collfryn iw gweld fel olion cnydau yng nghanol y llun CPAT 87-007-0013

Gwnaed gwaith cloddio ar raddfa fach ar safle ffos gylch fawr yng Nghollfryn, ym Mhowys (SJ 2186 1650), ym mis Hydref 2011. Saif y safle rhyw 5km ir gogledd o Gegidfa, yn y bryniau isel ir de-ddwyrain o afon Efyrnwy.

Cadarnhaodd y gwaith cloddio ac arolwg geoffisegol cynharach bresenoldeb ffos gylch diamedr o ryw 36m, gydag un ffos gul 1.8m o led a rhyw 0.8m o ddyfnder yn ei diffinio. Byddair ffos wedi cynhyrchu swm cymharol fath o ddeunydd iw ddefnyddio i adeiladu tomen ganolog neu glawdd o amgylch. Er nad oedd unrhyw ddeunydd clawdd yn goroesi, mae dilyniant y mewnlenwi ar ochr ogleddol y ffos gylch yn awgrymu y bu clawdd o amgylch perimedr allanol yr henebyn o bosibl.

Ni nodwyd unrhyw nodweddion cyfoesol posibl y tu mewn ir ffos gylch ac, oherwydd lleoliad y rhych, ni archwiliwyd y pwynt canolog. O ystyried y diffyg tystiolaeth o ddeunydd tomen wedii ailddyddodi yn y ffos, ni lwyddwyd hyd yma i gadarnhau pun ai henebyn claddu oedd y ffos gylch (o bosibl thomen ganolog isel), neu a oedd iddi swyddogaeth fwy defodol efallai.