CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau

Ysgubor Neuadd, Cloggau, Sir Faesyfed


Rhagarweiniad

Prynwyd Ysgubor Neuadd yng Nghloggau, Sir Faesyfed yn ystod 1998 i'w droi'n gartref. Roedd y perchnogion newydd yn credu eu bod wedi prynu "ysgubor" hanner dadfeiliedig, tebyg i lawer a welir yng Nghymru, ond roedd presenoldeb y fframwaith coed mawr a'r enw 'Neuadd' a'r gwrthgloddiau yn y caeau cyfagos, a berthynai o bosibl i ardd gynnar, yn awgrymu bod yr adeilad hwn wedi bod yn rhywbeth llawer pwysicach ar un adeg. O ganlyniad i astudiaeth gychwynnol o'r dystiolaeth hon gan Adran Gynllunio Sir Faesyfed Cyngor Sir Powys, Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru a'r Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, rhestrwyd yr ysgubor fel adeilad o bwys cenedlaethol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ysgubor Neuadd, y tu allan

De: Ochr allanol talcen gogledd a chefn Ysgubor Neuadd, Cloggau. Dan yr estyllod mae'r fframwaith coed yn dal i fod, ond oddi tano gellir gweld y meini a osodwyd yn ei le. Y tu hwnt, yn y pen pellaf, fe welir rhan o estyniad y beudy o'r 19eg ganrif. © CPAT

Fel rhan o'r gwaith o'i newid y gartref modern, bu raid symud yr holl ddeunydd llawr hyd at ddyfnder o 40cm yn is na'r lefel bresennol, ac rodd angen cloddiad archaeolegol. Fodd bynnag, trwy hyn medrodd yr archaeolegwyr geisio ateb nifer o gwestiynau am yr adeilad, megis ai'r cerrig llorio hyn oedd y rhai gwreiddiol, adnabod a dod o hyd i safle'r lle tân gwreiddiol, a chael tystiolaeth arteffactaidd am fywydau'r cyndrigolion ac ar gyfer dyddio. Roedd hi hefyd yn bwysig cofnodi'r fframwaith coed oedd wedi goroesi, oherwydd byddai hyn yn llywio ystyriaethau cadwraeth. Yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr 1998/99, medrodd CPAT wneud cofnod o'r adeilad, y gwrthgloddiau a'r archaeoleg a gloddiwyd, paratoi adroddiad ar y safle ac ateb rhai o'r cwestiynau hyn, fel rhan o'r gorchwyl gwylio yn ystod cyfnodau cyntaf y gwaith trawsffurfio.

Gwnaed y gwaith yno fel amod o'r Caniatâd Adeilad Cofrestredig y mae'r awdurdod cynllunio lleol yn ei fynnu er mwyn datblygu'r safle. Bu hyn nid yn unig yn fewnwelediad gwerthfawr i hanes yr adeilad arbennig hwn, bu hefyd yn ddefnyddiol eithriadol o ran dangos faint o wybodaeth y gellir ei chael trwy gofnodi targededig ac ymchwilio archaeolegol i adeilad sy'n sefyll yn ystod gwaith ailddatblygu.

Ynghylch yr Adeilad

Neuadd barn, timber frame

De: Golwg ar du mewn Ysgubor Neuadd, Cloggau. Mae'r darlun hwn yn dangos yn dda iawn y fframwaith coed anferth a oedd yn ffurfio waliau hanner coed y t~ - mae'n amlw ei fod yn llawer mwy nag ysgubor ar un adeg! Ar yr ochr dde uchaf, gellir gweld bwlch drws sydd wedi goroesi gyda'r pen crwn. © CPAT

Mae archwiliad gofalus o'r adeiledd yn awgrymu mai ysgubor a beudy carreg o'r 19eg ganrif yw'r adeilad fel y mae heddiw, a'i fod yn cynnwys olion ty fframwaith coed cynnar â mwy nag un llawr. Gellir canfod pedwar cyfnod datblygu:

  1. At ddiwedd yr 16eg ganrif - codwyd ty newydd â fframwaith coed, a thri bae a mwy nag un llawr, ac mae'n debygol ei fod ar ffurf ty cyntedd â simnai ar un pen iddo, tebyg i dai cynnar eraill â mwy nag un llawr y gwyddys eu bod yn bodoli yn yr ardal.
  2. Yn yr 17eg ganrif - bu dau gyfnod o ailadeiladu, a disodlwyd rhan o'r fframwaith coed ar lefel y llawr isaf gan wal a ffenestri carreg, a defnyddiwyd rhannau o'r hen fframiau fel siliau a linteri
  3. Rywbryd yn gynnar yn y 19eg ganrif - trowyd y ty'n ysgubor â thri bae trwy dynnu'r simnai a'r nenfydau, a rhoddwyd cerrig yn lle rhannau eraill o'r waliau
  4. Ychwanegwyd y beudy yn y pen deheuol at ddiwedd y 19eg ganrif gan greu'r adeilad a welwn heddiw.

Neuadd barn, elevation drawing

Chwith: Un o'r darluniau, a baratowyd gan Brian Williams ar gyfer CPAT, o'r fframiau hanner coed sydd wedi goroesi ac a fu unwaith yn waliau i'r fferm neu'r 'neuadd', yn Neuadd, Cloggau. 'Marciau'r saer coed' yw'r marciau bychan yn ymyl nifer o'r uniadau yn y coed a defnyddid hwy'n wreiddiol i helpu i roi'r fframwaith wrth ei gilydd tra roedd yn fflat ar y llawr. © CPAT

Mae un o'r fframweithiau coed mewnol sy'n dal i fodoli'n cynnwys capanau drysau crynion (eliptig) ar y llawr isaf (dau ddrws) ac ar y llawr cyntaf (un drws), a chyda rhwymiad diamwnt yn yr apig. Mae un o'r fframiau pren eraill wedi goroesi, yn y talcen gogleddol, ond dim ond o lefel y llawr cyntaf, ac mae'n cynnwys dwy ffenestr â myliynau diamwnt cyn-osod sylweddol , ac mae'r ffrâm ar yr ochr ddwyreiniol (yng nghefn yr adeilad) hefyd wedi goroesi o'r llawr cyntaf yn unig ac mae hefyd yn cynnwys tystiolaeth o agoriadau ffenestr. Mae nifer o 'farciau saer coed' neu symbolau endoredig i'w gweld o hyd ar y fframiau pren hyn.

Ynghlych y Darganfyddiadau (gan Sue Anderson)

Casglwyd 127 o ddarganfyddiadau o'r haenau dan y lloriau ac o draeniau,gan gynnwys crochenwaith, deunyddiau adeiladu, gwydr, esgyrn anifeiliaid a phibellau clai. Roedd y crochenwaith cynharaf yn cynnwys ychydig o deilchion o lestri coch o'r canol oesoedd diweddar a wydrolchwyd yn wyrdd. Roedd y grwp mwyaf o grochenwaith o'r safle, fodd bynnag, yn cynnwys teilchion o briddlestri coch o'r cyfnod ar l y canol oesoedd,rhai wedi eu gwydrolchi a rhai heb. Yn eu plith roedd darnau mawr o ddau bancheon, y ddau wedi eu gwydrolchi'n frown y tu mewn, ac yn dyddio o'r 18fed ganrif neu'n ddiweddarach. Ymhlith y darnau eraillroedd teilchion garw a thrwchus a allai fod wedi dod o lestri garddwrol.Roedd hefyd deilchion llestri l-ganoloesol coch wedi eu haddurno ag addurniad slip gwyn neu frown neu felynddu ar gefndir slip gwyn, ac yn dyddio mae'n debyg o'r 17eg ganrif neu'r 18fer ganrif. Roedd hefyd lestri slip eraill o'r cyfnod hwn, o'r math a elwir Staffordshire, ac roeddent mewn ffabrig hufen cymharol arw. Fe'u gwnaed yn l pob tebyg ym Mwcle (ymh ngogledd-ddwyrain Cymru) neu Fryste. Roedd y rhan fwyaf wedi eu gwydrolchi'n felyn gydag addurniad slip brown, ac roedd addurniad o'r math a elwir agat ar un ohonynt, ac roeddent ar ffurf llestri gwag a llestri fflat a fowldiwyd trwy wasgu. Tadogwyd teilchion llestri a wydrolchwyd yn frown brith i Staffordshire hefyd, ond mae'n bosibl iddynt gael eu cynhyrchu'n rhywle arall. Ymhlith y llestri diweddarach,roedd dau dalch bychan o lestri melyn, un ymyl plt o'r math a elwir Whieldon, un talch o lestr pridd ac un darn o lestr melyn gyda chlytiau gwyrdd golau o'r 18fed ganrif neu ar l hynny. Ymhlith y llestri caled roedd rhai platiau Staffordshire gwydredd halen gwyn gydag addurniad bambw a basged ar yn ymylon, ymyl tancard, ac ymyl tancard a drochwyd gwyn. Roedd hefyd un talch o lestr caled Westerwald gydag addurniad glas cobalt.

Neuadd barn, excavation

De: Cloddio lloriau Ysgubor Neuadd Barn. Yn y blaendir gellwch weld darnau o'r fflacs gwreiddiol â draen o'r 19eg ganrif wedi ei thorri drwyddynt, ac mae rhan isaf un o'r fframaiu pren a'r gwadnau cerrig y tu hwnt iddynt. © CPAT

Ymhlith y darganfyddiadau eraill, roedd darnau o ddeunyddiau adeiladu, pegdeilsen mae'n debyg, darnau o ffenestr wydr l-ganoloesol, asgwrn anifail na ellir bod yn sicr o'i rywogaeth, darnau o goesau a phen pibellau clai o'r 18fed ganrif, a darnau o lestr gwydr. Mae'n bosibl mai pelen o wydr gwastraff oedd un gwrthrych na ellid ei adnabod, sef sffr afreolaidd, llwyd a du.

Yn gyffredinol mae'r crochenwaith yn nodweddiadol o'r deunydd a gafwyd mewn rhannau eraill o Brydain yn ystod y cyfnod hwn, a defnyddid crochenwaith garw lleol o hyd, ond roedd rhai o'r llestri'n briddlestri gwynion o'r math mwy poblogaidd a ddefnyddid fel llestri bwrdd. Mae'r crochenwaith yn awgrymu mai pobl o statws canolig o leiaf oedd yn byw yma rhwng diwedd yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif gynnar. Nid oes unrhyw grwpiau amlwg o grochenwaith ar y safle, ac yn gyffredinol mae'r ychydig olion a gafwyd o gynnwys y draeniau, y bylchau rhwng cerrig y llawr, a'r llawrlanw'n awgrymu bod sbwriel domestig wedi ei glirio o'r safle cyn gosod y llawr meini diweddarach ac mai ychydig o ddefnydd a waned o serameg yn yr adeilad ar l y cyfnod hwn. Roedd presenoldeb pedwar talch o grocenwaith cynharach yn awgrymu bod pobl yn byw ar y safle yn ystod y canol oesoedd diweddar. Nid oes nrhyw arwydd bod pobl yn byw yno ar l y 18fed ganrif, ond mae'r arteffactau'n awgrymu i ryw raddau fod yr adeilad yn dal i galel ei ddefnyddio.

Ynghylch y Safle

Cynhaliodd CPAT hefyd arolwg o'r tir cyfagos, a oedd yn cynnwys amrywiol gloddiau a phantiau ar y llethr y tu l i'r prif adeilad, yn ogystal â sawl man lefeledig y tu blaen iddo. Mae yma hefyd lwybr, nas defnyddir bellach, sy'n mynd i lawr y llethr gan fynd trwy'r buarth cefn ac yn ei flaen o gwmpas ochr ddeheuol y ty ac yn dilyn hynt y llwybr presennol ac yn ymuno â ffordd y dyffryn o flaen y ty. Cofnodwyd waliau nifer o adeiladau llai ar i llethrau, yn ogystal â chloddiau a phantiau na ellid eu dyddio. Dangosir y llwybr sydd ar y llethr a'r tai allan ar fap eiddo diddyddiad sy'n perthyn i'r 19eg ganrif gynnar mae'n debyg ac sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth bellach, yn ogystal ag amryw adeileddau ategol. Mae'r map hefyd yn dangos "mill meadow" yn ymyl nant y dyffryn, sydd hefyd yn rhan o eiddo Neuadd. Wrth gynnal yr arolwg maes, canfuwyd dau fan lefeledig y tu blaen i'r ty (ochr ddeheuol), ac mae'n bosibl mai gerddi teras oeddent neu fannau garddwrol.

Casgliadau

Trwy'r gwaith cloddio cafwyd rhywfaint o dystiolaeth ddyddio archaeolegol, ond gallai peth ohoni fodd yn weddilliol. Mae'n debyg bod y llawr carreg uchaf, y tybid i ddechrau ei fod yn llawr domestig, yn dyddio o'r adeg y trowyd yr adeilad yn ysgubor yn gynnar yn y 19eg ganrif. Dan y llawr hwn, roedd nifer o draeniau o'r tep amaethyddol a oedd yn cynnwys crochenwaith, gwydr a phibellau clai o'r 19eg ganrif, a oedd yn torri trwy weddillion llawr carreg cynharach. Yn ei dro, gorweddai hwn ar ben traen gromliniol â gwaelod carreg a oedd yn draenio o gefn y buarth ac yn mynd dan fae deheuol y ty ac yna i'r estyniad - sef beudy. Roedd y draen hon yn fwy domestig ei golwg ac roed yn cynnwys darnau o grochenwaith a phibellau clai o ddiwedd y 18fed ganrif. Ni ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth o aelwyd, lle tân na brestwaith simnai. Mae hyn i gyd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r arteffactau o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, ac unrhyw adeiledaau neu aelwydydd cynharach wedi eu dileu gan weithgarwch diweddarach. Cofnododd yr arolwg o'r tir olion tai allan llai yn y cefn, a dangosodd gardd derasog debygol yn y tu blaen, yn ogystal â gosod yr adeilad presennol yng nghyd-destun ehangach y tirwedd.

Fe wyddom fod enghreifftiau tebyg o'r math hwn o dy tri bae, hanner coediog yn bodoli mwn rhannau eraill o Sir Faesyfed a dwyrain Cymru. Gellir gweld enghraifft dda o sut y byddai'r ty hwn yn edrych ar ei orau o edrych ar y ty Abernodwydd, o Langadfan, Sir Drefaldwyn a ailadeiladwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru., Sain Ffagan, yn ymyl Caerdydd. Mae'r cloddiadau a'r arolwg yn Neuadd, Cloggau wedi ychwanegu llawer at ein gwybodaeth am y math hwn o dy sy'n nodweddiadol o ddwyrain Cymru, ac mae wedi rhoi golwg ddiddorol i ni ar fywyd ei drigolion yn y rhan hon o ororau Cymru. cyn oiddo gael ei droi'n drigfan fodern.


Copleston, P - 1999, Neuadd Barn, Cloggau, Radnorshire: An Archaeological Watching Brief, Adroddiad CPAT rhif. 307