ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Longer reports - PFRM Survey </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="pfrbre.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../w_index.htm">Adref eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../w_longer.htm">Prosiectau diweddar CPAT</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../w_pfr.htm">Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol ym Mrycheiniog</H1> <HR> Mae arolwg Cymru-gyfan o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol bellach wedi cael ei gwblhau ym Mrycheiniog. Fel o r blaen, aed ati â r gwaith er mwyn gwella Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (HER), safoni termau, ac arolygu cyflwr presennol y safleoedd a u statws cyfredol o ran gwarchodaeth. <P><IMG SRC="brecmap.jpg" WIDTH="350" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Map"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Dde: Gwasgariad safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol ym Mrycheiniog</EM></blockquote> <P> Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod gan Frycheiniog nifer sylweddol o safleoedd pwysig ac enwog. Mae r arolwg wedi bod yn gwirio r holl safleoedd a allai fod yn berthnasol, ac mae swyddogion bellach wedi ymweld â bron i 1300 o safleoedd. Fel canlyniad, cyfanswm terfynol y safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol wedi'u cofnodi yn y sir yw 624. <P> Fel mewn ardaloedd eraill, henebion claddu o r Oes Efydd yw r rhan fwyaf o r safleoedd y mae r prosiect hwn yn eu cofnodi. Crugiau crynion a charneddi claddu sydd i w cael yma yn bennaf, gydag oddeutu 450 o safleoedd wedi u dynodi hyd yma. Mae llawer o feini hirion i w cael hefyd, gydag oddeutu 89 o safleoedd wedi u cofnodi. Niferoedd cymharol isel sydd o fathau eraill o henebion megis meingylchoedd, cwrsws a rhesi cerrig. <H3><FONT COLOR="black">Beddrodau Siambr</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs050818.jpg" WIDTH="420" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT=" Ty Illtud"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Dde: Beddrod siambr Ty Illtyd yn tremio dros ddyffryn Wysg gyda Bannau Brycheiniog y tu hwnt. <small>&copy CPAT CS05-08-18</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Mae beddrodau siambr Cymru, sy n cynnwys beddrodau cymunedol y ffermwyr Neolithig cynharaf, ymhlith y strwythurau hynaf o wneuthuriad dyn sydd wedi goroesi. Mae gan Frycheiniog 17 o feddrodau siambr hysbys neu rai posibl yn ne r sir, y rhan fwyaf ohonynt yn y Mynydd Du, gan gynnwys dau yn Ffostyll, ac eraill yn Little Lodge, Croes Llechau, Gwernvale, Mynydd Troed, Ty Isaf, Cwrt y Prior, Twyn y Beddau, Penywyrlod Talgarth a Phenywyrlod Llaneigon. Ymhlith safleoedd enwog eraill mae r beddrodau yn Nhy Illtyd a Pipton. <H3><FONT COLOR="black">Henebion Cwrsws</FONT></H3> Clostiroedd hir a chul â ffosydd yw henebion cwrsws. Mae eu hochrau yn baralel, a phob pen wedi i gau, ac mae cysylltiad rhyngddynt a gweithgareddau defodol y cyfnod Neolithig. Yn aml mae cysylltiad gofodol rhyngddynt a henebion angladdol neu ddefodol eraill yn y cyfnod Neolithig neu r Oes Efydd Gynnar. Mae un henebyn cwrsws posibl wedi i ddynodi ym Mrycheiniog, yn agos i Afon Gwy yn Pipton. <H3><FONT COLOR="black">Meingylchoedd</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs050108.jpg" WIDTH="420" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT=" Carnau Gwynion"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Chwith: Henebyn meingylchol Carnau Gwynion, Ystradfellte <small>&copy CPAT CS05-01-08</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Darn crwn o dir wedi i amgáu â chlawdd, a ffos o i fewn (fel arfer) yw meingylch, ac mae n bosibl mai r rhain yw henebion seremonïol enwocaf y cyfnod Neolithig diweddarach. Dim ond pedwar meingylch neu henebyn ffurf hengoraidd sydd wedi u dynodi hyd yma, tri ohonynt ym Mannau Brycheiniog, gan gynnwys dau safle ger Ystradfellte. <H3><FONT COLOR="black">Crugiau hir</FONT></H3> Mae r arolwg wedi dynodi un crug hir posibl yn unig, yn y Mynydd Du ym Mlaen y Cwm Uchaf, er bod ei leoliad yn anarferol ar gyfer safle o r fath. <H3><FONT COLOR="black">Cylchoedd pren</FONT></H3> <P>Ni ddynodwyd ond nifer fach o gylchoedd pren yng Nghymru hyd yma, o olion cnydau yn bennaf, neu o gloddfeydd. Mae un safle posibl wedi i ddynodi ym Mrycheiniog, tra n cloddio cylch bychan o gerrig wedi u gosod ar eu hymylon ym Mhont-ar-Daf. <H3><FONT COLOR="black">Cylchoedd cerrig</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs050326.jpg" WIDTH="420" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Pigwn stone circle"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Dde: Un o r ddau gylch cerrig ym Mhigwn ar Fynydd Trecastell. <small>&copy CPAT CS05-03-26</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Mae cylchoedd cerrig Cymru ymhlith y grwpiau henebion mwyaf cynyrfiadol. Eto, er eu hastudio n helaeth, nid ydym yn deall yn llawn beth oedd eu rôl yn y gymdeithas gynhanesyddol. Credir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o ddechrau r Oes Efydd a thybir iddynt fod â swyddogaeth ddefodol. Maent i w cael yn aml gerllaw henebion defodol ac angladdol eraill, megis rhesi cerrig, meini hirion a chrugiau. O r 17 safle posibl sydd wedi u cofnodi ym Mrycheiniog, mae r rhan fwyaf ohonynt wedi u difrodi dros y blynyddoedd, gyda cherrig wedi cwympo neu wedi u symud ymaith. Ymhlith y safleoedd mwyaf trawiadol mae Cerrig Duon, sydd hefyd â rhodfa o feini hirion bychain, Nant Tarw, sydd â dau gylch a rhes gerrig fer, a Phigwn, lle ceir hefyd dau gylch gyda rhes gerrig bosibl. <H3><FONT COLOR="black">Rhesi cerrig</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs050814.jpg" WIDTH="420" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Saith Maen"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Chwith: Rhes gerrig Saith Maen ger Dan-yr-Ogof. <small>&copy CPAT CS05-08-14</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Diffinnir rhes gerrig fel un neu fwy o resi paralel yn fras o dair neu fwy o gerrig unionsyth. Mae deg o resi cerrig posibl yn ardal yr astudiaeth, a chofnodwyd bod tair o r rhain wedi u dinistrio neu wedi mynd ar goll. Mae r enghreifftiau sydd wedi goroesi yn syml, heb unrhyw resi dwbl na rhodfeydd. Ar y cyfan, credir bod rhesi cerrig yn dyddio o ddechrau r Oes Efydd, er y gallai r rhodfeydd ddyddio o r cyfnod Neolithig. <P> Mae tri ar ddeg o resi cerrig wedi u dynodi ym Mrycheiniog, ac mae naw o r rhain ym Mannau Brycheiniog, gan gynnwys rhodfa o gerrig sy n gysylltiedig â chylch cerrig Cerrig Duon, a rhes o dair carreg yn agos at un o gylchoedd cerrig Nant Tarw. Rhes Saith Maen yw un o r safleoedd mwyaf trawiadol sydd, fel mae ei henw n awgrymu, yn cynnwys saith o gerrig, dwy ohonynt wedi cwympo erbyn hyn. <H3><FONT COLOR="black">Meini hirion</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs035312.jpg" WIDTH="100" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Fish stone"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Chwith: Y Fish Stone ym Mhenmyarth ger Crughywel. <small>&copy CPAT CS03-53-12</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Dylid diffinio meini hirion fel cerrig sy n sefyll ar eu pennau u hunain, neu weithiau mewn parau, y tybir eu bod yn dyddio o r Oes Efydd. Mae eu natur, fodd bynnag, yn anochel yn golygu bod modd drysu rhyngddynt a nodweddion diweddarach, fel cerrig ffiniau, pyst gatiau a physt rhwbio ac, wrth gwrs, mae n eithaf posibl iddynt gael eu hailddefnyddio at y dibenion hyn. Mae swyddogaeth meini hirion cynhanesyddol yn parhau i fod yn ansicr, er ei bod yn ymddangos eu bod yn nodi mannau arwyddocaol, ac mae n bosibl eu bod yn dangos llwybrau neu ffiniau. Bydd rhai ohonynt yn allgreigiau chylchoedd cerrig, ac mae n bosibl fod carreg fawr sy n gorwedd ger cylch cerrig Gelli Hill yn un o r rhain. <P> Mae oddeutu 140 o feini hirion posibl wedi u cofnodi yn y sir, llawer ohonynt yn dal i oroesi, er bod rhai wedi'u difrodi, wedi'u symud, neu maent wedi cwympo. Er bod y rhan fwyaf o r meini rhwng 0.6m a 2m o daldra, mae yna dair o feini hynod o fawr yn ardal Crughywel; y talaf o r rhain yw r Fish Stone ym Mhenmyarth sydd, yn drawiadol, yn 4.5m o daldra. <P> Byddai n ymddangos bod eu lleoliadau cyffredinol yn rhoi peth coel pellach i r awgrym bod o leiaf rhai ohonynt wedi u codi i nodi llwybr, gyda nifer sylweddol o feini wedi u lleoli yn agos at lwybrau sy n croesi r ucheldiroedd, naill ai mewn bwlch, neu n agos i un. <H3><FONT COLOR="black">Grwpiau o gerrig</FONT></H3> Term sy n disgrifio trefniant o gerrig unionsyth na ellir mo i adnabod yn rhwydd fel rhes gerrig, cylch cerrig nac unrhyw fath arall o henebyn megalithig amlwg yw  grwp o gerrig . Mae n anodd eu diffinio, eu dyddio a u dehongli, er bod 13 o safleoedd posibl wedi u dynodi. <H3><FONT COLOR="black">Crugiau crynion</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs045208.jpg" WIDTH="420" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Pwll y Cig cairn"> <P><BLOCKQUOTE><EM>Dde: Carnedd fechan uwchdirol ym Mhwll y Cig, ger Ystradgynlais. <small>&copy CPAT CS04-52-08</small></EM></BLOCKQUOTE> <P> Mae r term crug crwn yn cwmpasu amrywiaeth o henebion angladdol o garreg a phridd y gallai arwyddocâd defodol arbennig hefyd fod yn perthyn iddynt. Fel y nodwyd uchod, henebion claddu dechrau r Oes Efydd yw r rhan fwyaf o r safleoedd a gofnodwyd yn yr arolwg. Pan gloddir crugiau crynion, darganfyddir yn aml eu bod yn gorchuddio claddfeydd, naill ai n gladdedigaethau neu n amlosgiadau, mewn tyllau neu, fel sydd efallai yn fwy cyffredin mewn ardaloedd uwchdirol, cistiau â haen o gerrig o u mewn. Gall natur, cynnwys a maint y crugiau amrywio n sylweddol, er bod eu defnyddiau adeiladu yn aml yn adlewyrchu r ddaeareg leol, fel bod safleoedd uwchdirol ar ffurf carneddi o gerrig, tra bod rhai ar y tir isel yn dwmpathau pridd fel arfer â ffosydd o u hamgylch. Mae r rhan fwyaf o safleoedd bellach yn ymddangos fel twmpathau syml o bridd neu gerrig, er bod gan nifer ohonynt nodweddion gwahaniaethol arwyddocaol. Mae rhai carneddi, a elwir yn  garneddi strwythuredig , yn hynod oherwydd eu hadeiladwaith mwy manwl, efallai gydag ymylfeini neu rai wedi u gosod ar eu hymylon. Mae yna fwy na 500 o grugiau crynion neu grugiau crynion posibl ar amryw o ffurfiau wedi u cofnodi ym Mrycheiniog, y rhan fwyaf ohonynt yn garneddi wedi u hadeiladu o gerrig. <H3><FONT COLOR="black">Carneddi Cylchog</FONT></H3> <P><IMG SRC="cs050334.jpg" WIDTH="420" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Sand Hill ring cairn"> <P><blockquote><EM>Chwith: Carnedd gylchog arbennig o fawr a thrawiadol yn Sand Hill, ger Ystradfellte. <SMALL>&copy CPAT CS05-03-34</SMALL></EM></blockquote> <P> Mae n bosibl nad henebion claddu yn bennaf mo r carneddi cylchog, sy n cynnwys argloddiau cylch dyrchafedig ac yn amgáu rhan fewnol wastad, ac mae n hawdd drysu rhyngddynt a chylchoedd cytiau, clostiroedd bychain crynion, cylchoedd cerrig arglawdd neu hyd yn oed carneddi sydd wedi i hysbeilio n ddrwg. Mae gwaith cloddio wedi dangos iddynt gael eu defnyddio ar gyfer defodau a oedd yn gysylltiedig â chladdu golosg a dyddodion eraill, a oedd efallai yn ategol i r claddiadau, ac mai dim ond yn ystod cyfnod diweddarach o u hanes unigol y rhoddwyd esgyrn dynol ynddynt <H3><FONT COLOR="black">Cistiau</FONT></H3> Fel arfer, roedd twmpath yn gorchuddio bron pob claddfa gynhanesyddol, eto gwyddys am gladdiadau cist syml ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd uwchdirol. Os nad oes tystiolaeth sydd wedi goroesi i ddangos bod yna dwmpath dros ben y gladdfa ni ddylai hynny fod yn arwydd nad oedd un yno yn wreiddiol, fodd bynnag. Gwyddys am naw cist yn y sir. Aflonyddwyd ar bob un o r rhain, ac nid oes capfaen yn gorchuddio r un ohonynt bellach. <P><IMG SRC="cs034110.jpg" WIDTH="420" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Mynydd Pen-y-fal cairn and cist"> <P><blockquote><EM>Dde: Cist o fewn carnedd ar Fynydd Pen-y-fal, Crughywel. <SMALL>&copy CPAT CS03-41-10</SMALL></EM></blockquote> <H3><FONT COLOR="black">Ffosydd cylch</FONT></H3> Gellir adnabod ffosydd cylch fel arfer o olion cnydau, neu weithiau yn ystod gwaith cloddio, ac maent yn cynnwys un neu fwy o ffosydd consentrig ac nid oes unrhyw dwmpathau amlwg wedi goroesi o u mewn. Hyd yma, mae 13 o ffosydd cylch olion cnydau wedi u dynodi, ac mae r rhan fwyaf o r rhain i'w cael yn agos at Afon Gwy yn Pipton. Mae diamedr y ffosydd cylch yn amrywio n sylweddol, gyda'r rheiny ym Mrycheiniog yn amrywio rhwng 6m ac 20m. Mae n debygol bod ffosydd cylch o r maint hwn yn cynrychioli olion carneddi crynion a gafodd eu haredig, er y gallai r safleoedd llai fod yn olion cytiau cynhanesyddol. </TD> </TR> </TABLE> <!-- Start of StatCounter Code --> <script type="text/javascript" language="javascript"> var sc_project=2285157; var sc_invisible=0; var sc_partition=21; var sc_security="d29060b2"; </script> <script type="text/javascript" src="http://www.statcounter.com/counter/counter_xhtml.js"></script><noscript><div class="statcounter"><a class="statcounter" href="http://www.statcounter.com/"><img class="statcounter" src="http://c22.statcounter.com/2285157/0/d29060b2/0/" alt="blog counter" /></a></div></noscript> <!-- End of StatCounter Code> </BODY> </HTML>