ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Longer reports - PFRM Survey </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="pfrmont.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../w_index.htm">Adref Eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../w_longer.htm">Mynegai prosiectau</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../w_pfr.htm">Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol </A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir Drefaldwyn</H1> <HR> <P>Parhaodd yr arolwg Cymru gyfan o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol ac, fel rhan o hyn, cwblhawyd yr arolwg o Sir Drefaldwyn yn ddiweddar. Gwnaed arolwg rhannol o ran Uchaf Dyffryn Hafren gan Alex Gibson ym 1997-98 fel astudiaeth arbrofol ar gyfer y prosiect, cyn ei estyn dros Gymru gyfan. Mae gwaith maes diweddar wedi cwblhau r arolwg yn yr ardal hon a ledled gweddill y sir, ac ymwelwyd â thros 750 o safleoedd i gyd. Fel o r blaen, aed ati â r gwaith er mwyn gwella r Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH), safoni termau, ac arolygu cyflwr presennol y safleoedd a u statws cyfredol o ran gwarchodaeth. <P>Fel yn achos ardaloedd eraill sydd eisoes wedi bod yn destun arolwg, er bod llawer o r safleoedd yn adnabyddus, ni chynhaliwyd arolwg cynhwysfawr o holl henebion y sir ers rhestr gynnwys y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn ystod rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae r arolwg presennol, felly, wedi darparu cyfle pwysig i ddiweddaru r cofnod, gan ddarparu manylion cyflwr presennol yr henebion, a chan arwain mewn ambell achos at ailwerthuso u natur a u harwyddocâd. <P><IMG SRC="map.jpg" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Map"> <P><EM>Dde: Gwasgariad safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol yn Sir Drefaldwyn</EM> <P>Mae gwasgariad cyffredinol y safleoedd yn dangos sawl tuedd amlwg, yn enwedig crynodiad yr henebion ar hyd dyffrynnoedd afonydd o bwys, yn ogystal ag ar lwyfandiroedd uwchdirol. Mae r ardal wedi ei chydnabod ers amser hir yn rhywle sydd â photensial archeolegol mawr, ac roedd y pridd ffrwythlon sy n draenio n dda yn cynnig amgylchedd deniadol ar gyfer anheddu o r cyfnod Mesolithig ymlaen. I ryw raddau, mae n bosibl fod y gwasgariad hwn yn adlewyrchu patrwm arolwg maes archeolegol blaenorol, sydd yn arbennig o amlwg yn nghrynodiad y safleoedd o amgylch Llyn Efyrnwy, lle cynhaliodd CPAT arolwg helaeth o r uwchdiroedd. <P>Henebion claddu o r Oes Efydd yw r mwyafrif helaeth o r safleoedd y mae r prosiect hwn yn eu cofnodi. Y crugiau crynion a r carneddau claddu yw r mwyaf niferus o bell, a nodwyd 354 o safleoedd hyd yma, sef 55% o r holl henebion. Mae llawer o feini hirion hefyd, gyda 78 o safleoedd wedi u cofnodi. Niferoedd cymharol isel sydd o fathau eraill o henebion megis meingylchoedd, cwrsws a rhesi cerrig. <H3><FONT COLOR="black">Beddrodau Siambr</FONT></H3> <P>Mae beddrodau siambr Cymru, sy n cynnwys beddrodau cymunedol y ffermwyr Neolithig cynharaf, ymhlith y strwythurau hynaf o wneuthuriad dyn sydd wedi goroesi. Nid oes gan Sir Drefaldwyn ond un beddrod siambr, yn Afon y Dolau Gwynion, i r gogledd-ddwyrain o Lyn Efyrnwy Daethpwyd o hyd i r safle yn ystod arolwg cyflym gan CPAT ym 1993, ac mae n cynnwys siambr betryal gydag o leiaf dri gwahanol orthostat yn ffurfio mynedfa gul. Mae cyfeiriadau hynafiaethol hefyd yn awgrymu safle posibl ar fynydd Breidden, er bod y safle erbyn hyn wedi diflannu. <H3><FONT COLOR="black">Carneddau hir</FONT></H3> Tra bod beddrodau siambr yn gysylltiedig â r ardaloedd mwy uwchdirol, mae n bosibl dweud mai r crugiau hir o bridd a phren sy n cyfateb iddynt yn yr ardaloedd iseldirol. Gwyddys am ddau grug hir yn y sir, ac mae dau safle posibl pellach hefyd wedi u darganfod. Darganfuwyd y crug hir yn Lower Luggy trwy ffotograffau o r awyr yn y lle cyntaf, er bod gwaith maes yn ddiweddarach wedi dangos y twmpath unionsyth bychan a gloddiwyd gan Alex Gibson ym 1994 fel mesur arbrofol. Yn New House, ger Yr Ystog, mae twmpath hirgrwn rhyw 30m o hyd ar droed Corndon Hill gyda golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Hafren. <H3><FONT COLOR="black">Henebion Cwrsws</FONT></H3> <P>Clostiroedd hir a chul â ffosydd yw henebion cwrsws. Mae eu hochrau yn baralel, a phob pen wedi i gau, ac mae cysylltiad rhyngddynt â gweithgareddau defodol y cyfnod Neolithig. Yn aml mae cysylltiad gofodol rhyngddynt â henebion angladdol neu ddefodol eraill yn y cyfnod Neolithig neu r Oes Efydd Gynnar. Darganfuwyd tair heneb gwrsws bosibl hyd yma o ganlyniad i ffotograffau o r awyr, er mai dim ond cwrsws Y Trallwng sydd wedi i gadarnhau o ganlyniad i gloddio. Mae r safle yn rhan o gasgliad o henebion yn Sarn-y-bryn-caled, i r de o r Trallwng sy n cynnwys y cylch pren adnabyddus. Mae r cwrsws yn 380m o hyd ac yn 10m o led, gyda therfyniadau sgwâr a sarnau bob hyn a hyn ar ei hyd. Mae r safleoedd eraill ym Meifod a Chollfryn yn aros ei gael eu harchwilio ymhellach. <P><IMG SRC="79cu22.jpg" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Dyffryn Lane henge"> <P><EM>Dde: Golwg o r awyr ar Hengor Lôn Dyffryn<SMALL>&copy CPAT 79-cu-22</SMALL></EM> <H3><FONT COLOR="black">Hengorau</FONT></H3> <P>Darn crwn o dir wedi i amgáu â chlawdd, a ffos o i fewn (fel arfer) yw hengor, ac mae n bosibl mai r rhain yw henebion seremonïol enwocaf y cyfnod Neolithig diweddar. Mae wyth hengor posibl wedi u cofnodi yn y sir, ac yn Lôn Dyffryn, i r de o r Trallwng y ceir yr un sydd wedi ei gadw orau. Dyma r unig safle sydd wedi goroesi fel gwrthglawdd. Trwy ffotograffau o r awyr neu drwy gloddio y daethpwyd o hyd i r gweddill. Mae hengor Lôn Dyffryn yn 60m o ddiamedr, mae clawdd isel o i gwmpas gyda ffos fewnol, ac mae mynedfa i r gogledd-orllewin. Mae twmpath isel y tu mewn iddo. Bu tri hengor, neu heneb hengoraidd ychwanegol, ychydig i r gogledd, ger Sarn-y-bryn-caled, a safleoedd eraill ymhellach i r dde yn Nyffryn Hafren, i r gogledd yn Four Crosses a hefyd yn Nyffryn Tanat. <P><IMG SRC="9043323.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Sarn-y-bryn-caled timber circle"> <P><EM>Chwith: Ailgynhyrchiad o gylch pren Sarn-y-bryn-caled wedi r cloddio ym 1990 <SMALL>&copy CPAT cs90-43-323</SMALL></EM> <H3><FONT COLOR="black">Cylchoedd pren</FONT></H3> <P>Ni fydd cylchoedd pren, oherwydd eu natur, fyth yn goroesi fel henebion unionsyth, ac ni wyddys amdanynt ond trwy gloddio neu trwy ôl cnwd a welir mewn ffotograff o r awyr. Gellir eu rhannu yn ddau grup, y cylchoedd yn y naill wedi u codi fel henebion yn eu rhinwedd ei hunain, a r cylchoedd yn y llall yn cynnwys safleoedd a ddarganfyddir o dan y crugiau crwn a fwriadwyd efallai yn strwythurau dros dro. Mae dau gylch pren hysbys yn Sir Drefaldwyn, un ymhob categori. Cylch Sarn-y-bryn-caled yw r mwyaf adnabyddus, ac fe gloddiwyd hwn ym 1990 cyn torri Ffordd Osgoi r Trallwng. Roedd gan y cylch dwbl o dderw a wynebai r de olion dau gorfflosgiad yng nghanol y cylch canol. Roedd pedwar pen saeth fflint calchynedig yn gysylltiedig â r prif gorfflosgiad, a r dehongliad yw mai aberth oedd hwn a oedd yn cyfateb i rai tebyg yng Nghôr y Cewri. Roedd yr ail yn gysylltiedig â ffiol neu lestr bwyd di-addurn. Darganfuwyd yr ail safle o dan grug crwn ar Fryn Caebetin, ger Ceri. <H3><FONT COLOR="black">Cylchoedd pydewau</FONT></H3> <P>Dim ond nifer fechan o gylchoedd pydewau sydd wedi eu nodi yng Nghymru hyd yma, yn bennaf trwy olion cnydau neu mewn un achos, o adroddiadau dogfennol. Darganfuwyd chwe safle posibl yn Sir Drefaldwyn. Un yn unig o r rhain, ger Sarn-y-bryn-caled, sydd wedi i gadarnhau trwy gloddio. Darganfuwyd ail safle posibl yn Sarn-y-bryn-caled, ac eraill yn Lymore Park ger Trefaldwyn, Four Crosses, a dau safle yn Nyffryn Tanat. <H3><FONT COLOR="black">Cylchoedd cerrig</FONT></H3> <P>Mae cylchoedd cerrig Cymru ymhlith y grwpiau henebion sy n peri r cynnwrf mwyaf. Eto, er eu hastudio n helaeth, nid ydym yn deall yn llawn beth oedd eu rôl yn y gymdeithas gynhanesyddol. Credir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o ddechrau r Oes Efydd a thybir iddynt fod â swyddogaeth ddefodol. Maent i w cael yn aml gerllaw henebion defodol ac angladdol eraill, megis rhesi cerrig, meini hirion a charneddi. Cofnodwyd pedwar safle ar ddeg posibl yn Sir Drefaldwyn, ac mae nifer o r rhain wedi u colli neu u dinistrio. Mae r cylchoedd sydd wedi goroesi yn llai ar y cyfan o ran diamedr, ac wedi u ffurfio o gerrig bychain. Maent yn gysylltiedig fel arfer â safleoedd o r un cyfnod fwy neu lai, megis y carneddau claddu a r rhes o gerrig yn Rhos y Beddau, Llanrhaeadr-ym-Mochnant. <P>Saith safle yn unig sydd i w gweld yn rhwydd erbyn hyn, gan gynnwys y ddau ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae cylch Rhos y Beddau oddeutu 12.8m o ran diamedr ac mae tua 12 o gerrig i w gweld, tra bod cylch Cwm Rhiwiau gerllaw yn hirgrwn ac yn mesur 10.4m wrth 10.5m. Mae dau gylch pellach gerllaw yng ngorllewin y sir yng Ngherrig Caerau, sydd yn 22.2 o ddiamedr ac yn Lled Croen yr Ych, sydd oddeutu 26m ar draws. Mae tri chylch wedi goroesi yn yr uwchdiroedd i r gogledd o Garno, gan gynnwys y Capel, sef cylch o 54 o gerrig 26m wrth 23m, Llyn y Tarw, sef cylch o 39 o gerrig rhyw 19m o ddiamedr, a chylch cerrig bychan posibl yn Llanllugan. <H3><FONT COLOR="black">Rhesi cerrig</FONT></H3> <P>Diffinnir rhes gerrig fel un neu fwy o resi paralel yn fras o dair neu fwy o gerrig unionsyth. Mae wyth rhes gerrig posibl yn y sir, gan gynnwys un heol ac un rhes ddwbl arall. Ar y cyfan, credir bod rhesi cerrig yn dyddio o ddechrau r Oes Efydd, er y gallai r rhodfeydd ddyddio o r cyfnod Neolithig. <P><IMG SRC="cs003108.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Carreg Llwyd stone row"> <P><EM>Chwith: Rhes gerrig Carreg Llwyd yn cael ei chloddio gan CPAT ym 2000 <SMALL>&copy CPAT CS02-21-12</SMALL></EM> <P>Y rhes ddwbl yn Rhos-y-beddau yw r rhes gerrig hwyaf, ac efallai y fwyaf adnabyddus yn Sir Drefaldwyn. Mae n ffurfio rhodfa sy n gysylltiedig â r cylch cerrig cyfagos. Mae n mesur oddeutu 60m o hyd, ac yn ymestyn o r dwyrain i r gorllewin, gyda 12 carreg yn weladwy erbyn hyn yn y rhes ogleddol, a 24 yn y rhes ddeheuol. Mae r rhes ddwbl arall, yn Nhryfel, yn 10m o hyd, ac yn cynnwys wyth pâr o gerrig yn ymestyn o r gogledd i r de, gan orffen ger carnedd gladdu yn y pen gogleddol. Mae r safle yn yr un ardal gyffredinol â rhes gerrig Mynydd Dyfnant lle ceir 10 o gerrig, sydd bellach mewn llannerch yn y goedwig. <P>Archwiliwyd rhes gerrig Carreg Llwyd ar rostir Trannon yn ddiweddar gan CPAT ac mae n cynnwys rhes unigol o chwech neu saith o gerrig mawr yn ymestyn 21 m i r gogledd o garreg fawr iawn orweddol mewn ardal lle ceir hefyd carnedd gylchog a sawl carnedd gladdu. Mae rhes gerrig Lluest Uchaf, i r gogledd o Gaersws, yn rhes 12 m o hyd, sy n ymestyn o r gogledd i r de ac yn cynnwys 11 o gerrig sy n unionsyth neu n orweddol. Yn ystod arolwg diweddar, daethpwyd o hyd i res fer o dair carreg ar ffiniau gorllewinol Sir Drefaldwyn, yn tremio dros Gronfa Ddur Nant y Moch. Mae r safle mewn ardal sy n llawn dyddodion mawn dwfn y cymerwyd samplau ohonynt yn ddiweddar gan Astrid Caseldine o Brifysgol Cymru, Llanbedr pont Steffan, a r gobaith yw y bydd canlyniadau r archwiliadau hyn yn datgelu gwybodaeth ynghylch llystyfiant a defnydd tir ar yr adeg y codwyd y rhes gerrig. Yn ne r sir y mae r ddau safle sydd ar ôl, ac nid oes cymaint o sicrwydd yn eu cylch. Yn Rhyd Hywel mae tair carreg orweddol yn awgrymu rhes sydd wedi i dinistrio i raddau helaeth, ac yn Fuallt, mae n bosibl fod dwy garreg 10 m ar wahân wedi bod yn gysylltiedig â cherrig eraill sydd bellach wedi diflannu. <H3><FONT COLOR="black">Meini hirion</FONT></H3> <P>Diffinnir meini hirion fel cerrig sy n sefyll ar eu pennau u hunain, neu weithiau mewn parau, y tybir eu bod yn dyddio o r Oes Efydd. Mae eu natur, fodd bynnag, yn anochel yn golygu bod modd drysu rhyngddynt â nodweddion diweddarach, fel cerrig ffiniau, pyst gatiau a physt rhwbio ac, wrth gwrs, mae n eithaf posibl iddynt gael eu defnyddio at y dibenion hyn. Mae swyddogaeth meini hirion cynhanesyddol yn parhau i fod yn ansicr, er ei bod yn ymddangos eu bod yn nodi mannau arwyddocaol, ac mae n bosibl eu bod yn dangos llwybrau neu ffiniau. <P><IMG SRC="cs976605.jpg" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Maesmochnant standing stone"> <P><EM>Dde: Maen hir Maesmochnant <SMALL>&copy CPAT CS97-66-05</SMALL></EM> <P>Cofnodwyd oddeutu 75 o feini hirion posibl yn y sir, llawer ohonynt erbyn hyn yn orweddol neu wedi diflannu. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn gerrig unigol, cofnodwyd parau o gerrig yng Ngharreg Wen yng ngorllewin y Sir, er nad oes ond un ohonynt ar ôl bellach, ac ym Mhantiau, ger Llyn Efyrnwy. Ym Maesmochnant, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir y garreg unigol fwyaf trawiadol sydd yn 3.6m o uchder, er bod y rhan fwyaf ohonynt rhwng 0.5m ac 1.5m o uchder. <P>Mae gwasgariad y meini hirion wedi i grynhoi yn ardaloedd uwchdirol Sir Drefaldwyn, er bod eu lleoliadau yn awgrymu bod o leiaf rai ohonynt wedi u codi fel nodwyr llwybr. Ym Mhen-y-bont-fawr, er enghraifft, mae dwy garreg, y naill i w gweld o r llall, ar hyd trac sy n arwain at y bwlch rhwng dyffryn Tanat a Chwm Pennant. <H3><FONT COLOR="black">Gosodiadau cerrig</FONT></H3> Term sy n disgrifio trefniant o gerrig unionsyth na ellir mo i adnabod yn rhwydd fel rhes gerrig, cylch cerrig nac unrhyw fath arall o henebyn megalithig amlwg yw  gosodiad cerrig . Maent yn anodd eu diffinio, eu dyddio a u dehongli, ac er bod chwe safle wedi u categoreiddio fel rhai â gosodiadau cerrig, pedwar yn unig ohonynt sydd wedi goroesi, pob un yn amrywio yn sylweddol o ran golwg. Gorwedda dau safle ar Rostir Trannon mewn ardal sy n gyforiog o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol eraill o r Oes Efydd, mae r naill ger bryngaer Pen-y-gaer sy n tremio dros Gronfa Ddur Clywedog, a r llall yn ne r Sir. <H3><FONT COLOR="black">Crugiau crynion</FONT></H3> <P>Mae r term crug crwn yn cwmpasu amrywiaeth o henebion angladdol o garreg a phridd y gallai arwyddocâd defodol arbennig hefyd fod yn perthyn iddynt. Fel y nodwyd uchod, henebion claddu dechrau r Oes Efydd yw r rhan fwyaf o r safleoedd a gofnodwyd yn yr arolwg. Pan gloddir crugiau crynion, darganfyddir yn aml eu bod yn gorchuddio claddfeydd, naill ai n gladdedigaethau neu n amlosgiadau, mewn tyllau neu, fel sydd efallai yn fwy cyffredin mewn ardaloedd uwchdirol, cistiau â haen o gerrig o u mewn. Gall natur, cynnwys a maint y carneddau amrywio n sylweddol, er bod eu deunyddiau adeiladu yn aml yn adlewyrchu r ddaeareg leol, fel bod safleoedd uwchdirol ar ffurf carneddau o gerrig, tra bod rhai ar y tir isel yn dwmpathau pridd fel arfer â ffosydd o u hamgylch. Mae r rhan fwyaf o safleoedd bellach yn ymddangos fel twmpathau syml o bridd neu gerrig, er bod gan nifer ohonynt nodweddion gwahaniaethol arwyddocaol. Mae rhai carneddau, a elwir yn  garneddau strwythuredig , yn hynod oherwydd eu hadeiladwaith mwy manwl, efallai gydag ymylfeini neu rai wedi eu gosod ar eu hochr. Ceir enghreifftiau da o garneddau strwythuredig ar Corndon Hill, a hefyd yn Nhrelystan ar Gefn Digoll, lle datgelwyd strwythur manwl ag ymylfaen, gorchudd o dywyrch, ac isgarneddau bychain yn ystod y gwaith cloddio. <P><IMG SRC="cs040815.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Round barrow"> <P><EM>Chwith: Dwy garnedd gladdu ar gopa Carn Biga yng ngorllewin Sir Drefaldwyn <SMALL>&copy CPAT cs04-08-15</SMALL></EM> <P>Mae n bosibl nad henebion claddu yn bennaf mo r carneddau cylchog sy n cynnwys argloddiau cylch dyrchafedig ac yn amgáu rhan fewnol wastad, ac mae n hawdd drysu rhyngddynt a chylchoedd cytiau, clostiroedd bychain crynion, cylchoedd cerrig ar arglawdd neu hyd yn oed carneddau sydd wedi i hysbeilio n ddrwg. Mae gwaith cloddio wedi dangos iddynt gael eu defnyddio ar gyfer defodau a oedd yn gysylltiedig â chladdu golosg a dyddodion eraill, a oedd efallai yn ategol i r claddiadau, ac mai dim ond yn ystod cyfnod diweddarach o u hanes unigol y rhoddwyd esgyrn dynol ynddynt. Mae n bosibl mai r arglawdd cylch 17.5 m mewn diamedr, gyda chlawdd 3 i 4m o led, ar Rostir Trannon, ger rhes gerrig Carreg Llwyd, yw r enghraifft orau yn y sir. I orffen, ceir nifer o garneddau bychain a elwir yn  garneddau ymylfaen sydd fel arfer yn llai na 5m mewn diamedr, ac mae ganddynt ymylfaen allanol o gerrig anghymesur o fawr. Gall y rhain fod yn debyg eu golwg i r carneddau cylchog bychain, gyda cheudod neu fan gwastad yn y canol, ac unwaith eto, gellir gweld sawl enghraifft dda ar Rostir Trannon. <P><IMG SRC="cs003036.jpg" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Kerb cairn"> <P><EM>Dde: Carnedd ymylfaen fechan ar Rostir Trannon yn cael ei chloddio gan CPAT yn ystod 1990 <SMALL>&copy CPAT cs00-30-36</SMALL></EM> <P>Cofnodwyd tua 354 o garneddau crynion neu rai y credir eu bod yn garneddau crynion ar amrywiol ffurfiau yn Sir Drefaldwyn. O r rhain, mae 129 yn dwmpathau pridd a 162 yn garneddau o gerrig. 37 o garneddau strwythuredig, 13 o garneddau cylch, 12 carnedd ymylfaen ac un garnedd lwyfan yw r gweddill. Maent yn amrywio n fawr o ran maint. Mae 126 o safleoedd yn llai na 10m mewn diamedr, a 7 safle yn hynod fawr, gyda diamedr o dros 30m. Mae n ymddangos bod tueddiad cyffredinol i r safleoedd llai fod yng ngorllewin y sir, a r safleoedd mwy fod yn y dwyrain, yn enwedig yn Nyffryn Hafren a r cyffiniau. <P>Mae tueddiad pendant i grugiau crwn fod mewn lleoliadau amlwg, naill ai ar gopaon, cribau neu golion bryniau, neu mewn lleoliadau sy n ymddangos fel pe byddent ar y gorwel pan welir hwy o r dyffryn islaw. Mae hyn yn wir am 39% o leoliadau crugiau crwn. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o garneddau ar gopa bryniau mae r rhai ar y Glog, i r de o r Drenewydd, Cader Berwyn a Charn Gwilym yng ngorllewin y Sir. Mae n amlwg bod llawer o r carneddau ar y copaon yn tueddu i fod yn fawr, a r bwriad oedd eu bod yn tra-arglwyddiaethu ar y gorwel, fel, er enghraifft, yn Nhas Eithin, sydd dros 3m o uchder ac yn nodwedd amlwg dros ben. Yn yr ardal o amgylch y Glog, ac i r de o Ceri, mae nifer o grugiau wedi u lleoli ar bwyntiau arwyddocaol yn y dirwedd. Mae Bryn y Glog rhwng tarddleoedd afon Miwl sy n llifo tua r gogledd-ddwyrain, nant Cwmrhiwdre sy n llifo tua r gogledd, ac Afon Ithon sy n llifo tua r de. Dyma welir hefyd yn Nau Dwmpath Ceri, lle mae r twmpathau hefyd ar gyffordd tri gwahanfa ddur: sef afonydd Miwl, Ithon a Thefeidiad sy n llifo tua r de-ddwyrain. Mae r safleoedd hyn yn nodi n bendant y gwahanfeydd dur o bwys ac mae n bosibl fod gan eu lleoliad a u goruchafiaeth arwyddocâd tiriogaethol, gan fod y fan hon yn ffin sy n nodi tir gwahanol berchnogion. <P><IMG SRC="cs003117.jpg" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="Trannon cist"> <P><EM>Dde: Cist fechan mewn carnedd ar Rostir Trannon, a gloddiwyd gan CPAT yn 2000 <SMALL>&copy CPAT CS00-31-17</SMALL></EM> <H3><FONT COLOR="black">Cistiau</FONT></H3> Fel arfer, roedd twmpath yn gorchuddio bron pob claddfa gynhanesyddol, eto gwyddys am gladdiadau cist syml ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd uwchdirol. Ni ddylai diffyg tystiolaeth sydd wedi goroesi i ddangos bod yna dwmpath dros ben y gladdfa fod yn arwydd nad oedd un yno yn wreiddiol, fodd bynnag. Cofnodir chwech o gistiau yn y sir, er na ellir adnabod yr un ohonynt yma ar lawr bellach. <H3><FONT COLOR="black">Ffosydd crwn</FONT></H3> <P>Gellir adnabod ffosydd crynion fel arfer o olion cnydau, neu weithiau yn ystod gwaith cloddio, ac maent yn cynnwys un neu fwy o ffosydd consentrig ac nid oes unrhyw dwmpathau amlwg wedi goroesi o u mewn. Hyd yma, darganfuwyd 131 o ffosydd crwn yn sir Drefaldwyn trwy olion yn y cnydau, yn nyffrynnoedd Hafren a Thanat yn bennaf. Mae amrywiaeth sylweddol yn niamedr y ffosydd crynion, gyda r rhan fwyaf yn mesur rhwng 10m a 30m mewn diamedr, er bod yna 9 o safleoedd llai, ac 18 ohonynt â diamedr o dros 30m. Mae n debygol bod ffosydd crwn o r maint hwn yn cynrychioli olion crugiau crynion a gafodd eu haredig, a gallai r rhai mwy fod yn olion hengorau neu henebion hengoraidd. Darganfuwyd grwpiau arwyddocaol o ffosydd cylch yn Nyffryn Tanat, ym masn Caersws, yng nghymhlyg Sarn-y-bryn-caled, Four Crosses, Lôn Dyffryn ac yng Ngharreghofa yn Nyffryn Efyrnwy, lle ceir crynodiad o ffosydd crwn mawr hyd at 54m mewn diamedr. Hefyd ceir tystiolaeth sy n awgrymu bod rhai safleoedd llai yn clystyru o amgylch un ffos gron fwy oedd, o bosibl, yn un bwysicach. Yn Four Crosses, er enghraifft, mae tri safle gyda diamedr o dros 30m gyda safleoedd llai wedi u gwasgaru yn eu mysg, ac ym Manhadla yn nyffryn Tanat mae oddeutu pump safle â diamedr bychan mewn llinell fras oddeutu 60m i r gogledd-ddwyrain o safle mwy. </TD> </TR> </TABLE> <!-- Start of StatCounter Code --> <script type="text/javascript" language="javascript"> var sc_project=2285157; var sc_invisible=0; var sc_partition=21; var sc_security="d29060b2"; </script> <script type="text/javascript" src="http://www.statcounter.com/counter/counter_xhtml.js"></script><noscript><div class="statcounter"><a class="statcounter" href="http://www.statcounter.com/"><img class="statcounter" src="http://c22.statcounter.com/2285157/0/d29060b2/0/" alt="blog counter" /></a></div></noscript> <!-- End of StatCounter Code> </BODY> </HTML>