CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau
Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru


Dros y bedair blynedd diwethaf, bu CPAT yn cynnal arolwg ar ran Cadw: Henebion Hanesyddol Cymreig y safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol – yn ei hanfod, y beddau Neolithig, crugiau crwn yr Oes Efydd, cylchoedd o gerrig ac ati yn eu rhanbarth. Yng Ngogledd Sir Faesyfed y cynhaliwyd y gwaith diweddaraf, ac mae wedi datblygu erbyn hyn yn brosiect Cymru-gyfan mewn cysylltiad â’r Ymddiriedolaethau Cymreig eraill. Ymhlith yr ardaloedd eraill a gwblhawyd hyd yma mae rhan uchaf Dyffryn Hafren (1997-98), Sir Ddinbych a Dwyrain Conwy (1998-99), a Sir y Fflint a Wrecsam (1999-2000), a nodwyd dros 1400 o safleoedd yn y mannau hyn.

Aed ati â’r gwaith er mwyn gwella’r Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH), safoni termau, ac arolygu cyflwr presennol y safleoedd a’u statws cyfredol o ran gwarchodaeth.

Fel yn achos unrhyw restr neu gatalog, fe fydd defnyddioldeb y CSH a gynhelir ledled y wlad yn dibynnu ar ansawdd y categorïau a’u diffiniadau. Mireinio diffiniadau o’r mathau o safle fel bod modd eu defnyddio ymhob rhan o Gymru yw un o nodau'r prosiect, a bydd hyn yn caniatáu mynediad haws at y data fel offeryn ymchwil.

Trwy gydol hanes a'r cyfnod cynhanesyddol, ceisiodd dyn sicrhau anfeidroldeb iddo’i hun trwy greu henebion a chofebion claddu parhaol, a’r strwythurau hyn sy’n destun ein hastudiaeth yw’r cynharaf sy’n goroesi yn ein tirwedd presennol. Ni fu unrhyw bensaernïaeth goffaol yma hyd ddyfodiad y ffermwyr cyntaf tua 4000 BC. Mae’n debyg bod yr helwyr cynharach ar y bryniau hyn wedi parchu creigiau, bryniau amlwg a nodweddion naturiol eraill, ond oes fer fyddai gan unrhyw strwythur a adeiladwyd gan ddyn. Gyda dyfodiad ffermio, gwelwyd pryder ynghylch parhauster, a mynegwyd hyn yn yr henebion cerrig mawr neu adeiladau o bridd y byddwn yn eu galw erbyn heddiw yn feddrodau siambr neu grugiau hir megalithig ac fe barhaodd y diddordeb hwn mewn henebion yn yr Oes Efydd, er i ffurf yr henebion claddu a’r cylchoedd seremonïol newydd newid.

Yn ystod cyfnod cynnar a chanol yr Oes Efydd, roedd yr holl henebion o'r fath yn grwn, ac ar y cyfan yn llai, ac roedd hyn yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol lle disodlwyd natur gymunedol yr oes Neolithig gan bwysau sefydliad a hierarchaidd lle roedd y grym yn nwylo unigolion. Ffynnodd y gymdeithas honno mewn hinsawdd dyner a ganiataodd i’r anheddu a'r amaethu ehangu i’r tir uwch. Wrth i’r hinsawdd ddirywio yn yr unfed ganrif ar ddeg CC daeth pwysau ar y gymdeithas honno a diflannodd rhai o'u traddodiadau, yn anad dim adeiladu henebion claddu a chylchoedd cerrig. Er y gellid amau i ba raddau y cwympodd y gymdeithas honno yn llwyr, mae’n wir i’r holl henebion a drafodir yn yr arolwg hwn gael eu hadeiladu cyn y trobwynt allweddol oddeutu 1100-1000 CC. Mae'n fwy anodd dyfalu p'un a oedd rhai yn dal i gael eu defnyddio ai peidio.

Y beddrodau megalithig a geir dim ond yn nyffrynnoedd afonydd Dyfrdwy ac Elwy yw’r strwythurau sydd wedi goroesi hwyaf, a’r un yn Nhan y Coed, Cynwyd yw’r enghraifft orau. Maent oll yn wahanol o ran cynllun, ond gellir eu cyfateb i’r beddrodau ecsentrig braidd yn Sir Frycheiniog. Mae’r rhai y gellir eu dosbarthu’n hyderus yn perthyn i fath o'r enw Cotswold-Hafren, sydd yn dyddio o gyfnod o ganol yr Oes Neolithig yng Ngogledd Cymru . Gellir ystyried yr ardal hon felly yn ganolfan eilaidd ar gyfer amaethyddiaeth, un a agorodd yn ddiweddarach na’r ardaloedd arfordirol megis Môn a Sir Benfro.

Gop Cairn CPAT AP 89-C-137

Chwith: Carnedd Gop, Sir y Fflint © CPAT 89-C-137

Carnedd Gop ger Trelawnyd yn Sir y Fflint yw’r heneb gynhanesyddol fwyaf yng Nghymru. 100m x 68m yw arwyneb y safle, ac mae rhyw 12m o uchder, wedi ei adeiladu o gerrig yn bennaf. Datgloddiwyd y garnedd yn rhannol gan Boyd Dawkins yn 1886-7, pan gloddiwyd siafft yn y canol i lawr hyd lefel wreiddiol y llawr. Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrech, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gladdiadau na darganfyddiadau.

Henebion claddu o’r Oes Efydd yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd y mae’r prosiect hwn yn eu cofnodi. Y crugiau crynion a’r carneddau claddu yw’r mwyaf niferus o bell, a nodwyd 520 o safleoedd hyd yma, er bod y categori hwn yn cynnwys henebion o amrywiol adeiladwaith a maint. Mae’r safleoedd sydd wedi’u cadw’n weddol dda i’w gweld fel twmpathau crynion, ambell waith gydag ymylfaen o gerrig. Mewn ardaloedd uwchdirol, megis Mynydd Rhiwabon, maent yn tueddu i fod yn rhai cerrig, ond yn yr ardaloedd isdirol, megis y crug trawiadol yng Nghefn Coch, ger Rhuthun, byddent wedi'u hadeiladu o bridd a gloddiwyd o’r ffos o’u hamgylch. Mewn sawl achos, mae canrifoedd o aredig wedi gwastatáu'r twmpath fel nad yw'n bosibl adnabod safleoedd o'r fath ond o ffotograffau o'r awyr fel olion cnydau, neu ffosydd cylch. Mewn lleoliadau dramatig yn aml y ceir y crugiau crynion, er enghraifft y rhai sydd ar grib y Berwyn, yn fwriadol efallai, fel bod modd eu gweld o ardal arbennig, neu er mwyn iddynt dremio dros yr ardal honno.

Efallai y bydd safleoedd eraill a ddifrodwyd yn ystod gwaith datblygu cyfoes yn cael eu darganfod, ac mae'n bosibl mai fel ‘claddedigaethau’ ‘corfflosgiadau’ neu ‘gistiau’ y cofnodir hwy, gan y bydd y gladdfa ei hun yn goroesi wedi i’r twmpath sy'n ei gorchuddio ddiflannu. Fodd bynnag, datgelodd cloddiadau CPAT yn Nhandderwen ger Dinbych na fyddai pob claddfa'n cael ei gorchuddio, a bod olion llawer o gorfflosgiadau wedi'u gosod mewn tyllau. Darganfu cloddiadau yn Hendre, ger Yr Wyddgrug, gladdedigaeth a oedd wedi’i gosod o fewn twmpath naturiol. Yn nodweddiadol, mae cistiau i’w gweld mewn lleoliadau uwchdirol ac maent yn cynnwys ‘blwch’ o gerrig ar eu hochrau, gyda maen capan ar ei ben a charnedd fechan yn ei orchuddio. Mae grŵp anarferol o gistiau petryal i’w gweld ym Moel Tŷ Uchaf, Llandrillo, sy'n dyddio o’r Oes Haearn neu’r Oesoedd Canol cynnar.

Nid yw’r gwahaniaeth rhwng safleoedd claddu neu angladdol megis carneddau, a safleoedd seremonïol neu ddefodol, megis cylchoedd o gerrig, bob amser yn amlwg, ac yn wir, mae’n debygol fod rhywfaint o ddefod yn gysylltiedig ag arferion claddu, fel sy’n wir heddiw. Y garnedd gylchog, sef strwythur siâp toesen sydd ambell waith yn cynnwys addurn o gerrig unionsyth o amgylch ymyl fewnol y cylch, yw canolbwynt yr amwyseddau hyn yn y cofnod archeolegol ac yn arferion yr Oes Efydd, oherwydd mae cloddiadau yn dangos bod y gweithgareddau a gyflawnwyd ar y safleoedd hyn yn cynnwys oddeutu’r un faint o ddefodau nad oedden nhw’n angladdol a defodau angladdol. Mae ffactorau fel hyn yn pwysleisio mai edrych ar gontinwwm yr ydym, ac mai dros gyfnod o amser y gallai safleoedd a gloddiwyd ddatgelu hynny. Hefyd, roedd rhai o’r safleoedd wedi’u defnyddio dros gyfnod o sawl canrif, ac mae’n bosibl bod newidiadau cynnil yn y ffordd y defnyddiwyd hwy.

The stone's the fat one

Dde: Maen hir nodweddiadol © CPAT CS99/10/4

Er mai dim ond wyth cylch cerrig a gofnodwyd, maent ymhlith yr henebion mwyaf trawiadol, megis Moel Tŷ Uchaf, ger Llandrillo, ar ochr orllewinol y Berwyn. Credir mai heneb a godwyd ar gyfer seremonïau a defodau ar wahân i gladdu pobl oedd y cylch cerrig, er bod twmpath bychan yn aml i’w gael yn ei ganol. Ceir tua 45 o feini hirion wedi'u cofnodi, er ei bod yn anodd gwahaniaethu rhyngddynt â nodau terfyn diweddarach, ac er bod rhai ohonynt dros 3m o uchder, mae’r rhan fwyaf lawer yn llai trawiadol. Erys swyddogaeth y meini hirion yn ansicr, er bod cysylltiadau amlwg rhwng rhai ohonynt â chylchoedd o gerrig, ac er bod eraill wedi bod yn gyfeirbwyntiau. Mae mathau eraill o safle, sydd fel arfer yn cael eu hystyried yn ‘ddefodol’, yn rhesi o gerrig a gosodiadau cerrig, yn brin yn yr ardal hon.

Moel Ty Uchaf CPAT CS99-21-4

Chwith: Cylch cerrig Moel Tŷ Uchaf © CPAT CS99/21/4

Yn ystod yr arolwg, fe ddaeth yn eglur ei bod yn ymddangos fod gan rai ardaloedd penodol arwyddocâd arbennig yn ystod yr Oesoedd Neolithig ac Efydd, a bod safleoedd wedi’u gwasgaru mewn modd hynod. Yn eu plith, er enghraifft, mae clwstwr o safleoedd anarferol a choeth o amgylch Llandrillo, yn Sir Ddinbych. O ran topograffeg, mae gorlifdir afon Dyfrdwy yn ymledu, ac uwchdiroedd tonnog i’r gogledd-orllewin sy’n codi i lefel crib Berwyn i’r de a’r dwyrain. O fewn yr adran 6km hon o ddyffryn Dyfrdwy, ceir tair o feddrodau siambr ym Mranas Uchaf, Tyn-y-coed a Chraig yr Arian, y cylchoedd o gerrig yn Nhyfos Uchaf a Moel Tŷ-uchaf, ynghyd â henebion angladdol llai. Mae grŵp o henebion angladdol, gan gynnwys dwy garnedd ac efallai pedair cist, yn amgylchynu cylch cerrig Moel Tŷ-uchaf. Mae pob un o’r prif safleoedd hyn yn cynnwys nodweddion sy’n eu gosod ar wahân i eraill o’r un math. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys yr unig garreg gerfiedig, addurnedig yn ardal yr astudiaeth, ac ychydig i’r gogledd fe geir Stad Maesmor lle darganfuwyd pen brysgyll fflint yn 1840 ag ôl llawer o waith arno. Ceir gwrthrychau mewn mannau eraill sy'n cyfateb i'r pen brysgyll, gan gynnwys un o feddrod dwyreiniol y bedd cyntedd yn Knowth, yn nyffryn Boyne, Iwerddon. Roedd Mynydd Rhiwabon sy’n tremio dros Langollen, lle ceir cylch cerrig yn agos at ddau faen hir a grŵp o garneddi claddu, yn ardal arwyddocaol yn y cyfnod, a hefyd dyffryn Brenig.

Fe fydd cwblhau’r prosiect hwn ledled Cymru yn darparu cofnod cyson am y tro cyntaf o’r grŵp henebion hwn ac fe fydd y data CSH yn offeryn ymchwil hygyrch i’r cyhoedd. Y gobaith yw y bydd astudiaeth Gymru-gyfan yn cael ei chwblhau o fewn y pedair i bum mlynedd nesaf, ac y bydd dadansoddiad o'r canlyniadau yn cael ei gyhoeddi yn y pen draw.