Cymraeg / English
|
|
Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir FaesyfedParhaodd yr arolwg Cymru gyfan o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol ac, fel rhan o hyn, cwblhawyd yr arolwg o Sir Faesyfed yn ddiweddar. Fel o’r blaen, aed ati â’r gwaith er mwyn gwella’r Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH), safoni termau, ac arolygu cyflwr presennol y safleoedd a’u statws cyfredol o ran gwarchodaeth. Er bod llawer o’r safleoedd hyn yn enwog, mae’n syndod na chynhaliwyd arolwg cynhwysfawr o henebion y sir gyfan ers rhestren y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, er y cynhaliwyd dwy astudiaeth fwy diweddar yn nwyrain Sir Faesyfed. Mae gwaith Chris Dunn yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol am yr ardal i’r dwyrain o afon Ithon ac yn anad dim mae wedi caniatáu inni gymharu maint y carneddi crynion a gofnodwyd yn y 1970au ac eto yn ystod yr arolwg diweddar. Yn aml mae hyn yn dangos pa mor gyflym y bydd aredig yn cwtogi ar daldra’r twmpathau ac yn ehangu eu diamedr ymddangosiadol. Mae archwiliadau Alex Gibson ym Masn Waltwn yn arbennig o arwyddocaol gan eu bod wedi cynnwys archwiliadau manwl o nifer o safleoedd allweddol, ac mae clostir palis Hindwell ymhlith y mwyaf nodedig o’r rhain.
Gwasgariad safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol yn Sir Faesyfed Mae nifer o dueddiadau amlwg i’w gweld yn nosbarthiad cyffredinol y safleoedd, a’r amlycaf yw’r crynodiad henebion ym masn Waltwn. Mae’r ardal wedi ei chydnabod ers amser hir yn rhywle sydd â photensial archeolegol mawr, ac roedd y pridd ffrwythlon sy’n draenio’n dda yn cynnig amgylchedd deniadol ar gyfer anheddu o’r cyfnod Mesolithig ymlaen. Mae’n eironig, fodd bynnag, mai’r union amodau hyn a’r ffaith eu bod yn ddeniadol ar gyfer amaethyddiaeth yw’r bygythiad mwyaf i’r adnodd archeolegol erbyn hyn. Mewn mannau eraill, mae crynodiad pendant yng ngogledd y sir i’r dwyrain o Afon Ithon, a nifer fwy o henebion i’w gweld yn gyffredinol yn yr ardaloedd uwchdirol. I ryw raddau, mae’n bosibl mai adlewyrchiad yw hyn o batrwm arolwg maes archeolegol blaenorol, sydd wedi canolbwyntio ar yr ardaloedd canlynol: i’r dwyrain o ran uchaf afon Ithon, Fforest Clud, tiroedd comin ardal Glascwm, a Chwm Elan yn y gorllewin eithaf. Gallai hyn gyfrif yn rhannol am y prinder amlwg yn nifer y safleoedd yng ngogledd-ddwyrain y sir, lle ceir ardaloedd helaeth o dir uchel, a lle gellid bod wedi disgwyl gweld henebion angladdol a defodol cynhanesyddol. Henebion claddu o’r Oes Efydd yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd y mae’r prosiect hwn yn eu cofnodi. Y carneddi crynion a’r carneddi claddu yw’r mwyaf niferus o bell, a nodwyd 276 o safleoedd hyd yma, sef 66% o’r holl henebion. Mae llawer o feini hirion hefyd, gyda 58 o safleoedd wedi’u cofnodi. Niferoedd cymharol isel sydd o fathau eraill o henebion megis meingylchoedd, cwrsws a rhesi cerrig.
Siambr feddrod Llys Cleirwy© CPAT CS02-17-10 Siambrau beddrodauMae siambrau beddrodau Cymru, sy’n cynnwys beddrodau cymunedol y ffermwyr Neolithig cynharaf, ymhlith y strwythurau hynaf o wneuthuriad dyn sydd wedi goroesi. Mae dau feddrod yn ne Sir Faesyfed y gwyddys amdanynt, yn Llys Cleirwy a Chwm Illa, yn ogystal â dau safle posibl mewn mannau eraill. Daeth W E Griffiths o hyd i olion y siambr feddrod yn Llys Cleirwy ar gerlan uwchlaw Afon Gwy ym 1973. Mae’r twmpath sydd wedi goroesi tua 32m o hyd, o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin, hyd at 16.5m o led a hyd at 1.1m o daldra. Mae olion un, neu efallai dwy siambr wedi goroesi mewn pant bas tuag at ben de-orllewinol y twmpath, lle ceir pedair llechen hyd at 1.6m o hyd a hyd at 0.5m o daldra. Yng Nghwm Illa, ger Rhos Goch, dwy garreg syth ar ymyl ogledd-orllewinol esgair isel yw’r unig olion gweladwy o siambr feddrod bosibl, sydd efallai yn cynrychioli ochrau dwyreiniol a gorllewinol y siambr. Henebion CwrswsClostiroedd hir a chul â ffosydd yw henebion cwrsws. Mae eu hochrau yn baralel, a phob pen wedi’i gau, ac mae cysylltiad rhyngddynt â gweithgareddau defodol y cyfnod Neolithig. Yn aml mae cysylltiad gofodol rhyngddynt â henebion angladdol neu ddefodol eraill yn y cyfnod Neolithig neu’r Oes Efydd Gynnar. Gwyddys am ddau henebyn cwrsws ym Masn Waltwn, y mwyaf o’r rhain yn Walton Green, yn ymestyn o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain am 680m, a’r llall yn Hindwell yn estyn am 465m o leiaf. MeingylchoeddDarn crwn o dir wedi’i amgáu â chlawdd, a ffos o’i fewn (fel arfer) yw meingylch, ac mae’n bosibl mai’r rhain yw henebion seremonïol enwocaf y cyfnod Neolithig diweddar. Un meingylch posibl yn unig a gofnodwyd yn y sir, yng Nghoed Mynach, ger Rhaeadr Gwy. Trwy ragchwilio o’r awyr y daethpwyd o hyd i’r safle, sef olion cnydau crwn, eang rhyw 16m o ddiamedr, â mynedfa bosibl ar yr ochr ogledd-orllewinol ac awgrym o ffos fewnol gul. Clostiroedd palisAdnabod dau glostir palis ym Masn Walton, o ganlyniad i rhagchwilio o’r awyr, oedd y darganfyddiad mwyaf arwyddocaol o bosibl yn y sir yn ystod blynyddoedd diweddar. Mae clostir Hindwell yn arbennig yn ddarganfyddiad hynod dros ben, yn amgáu ardal o 35ha, sy’n golygu mai dyma’r clostir palis mwyaf ym Mhrydain o dipyn. Mewn cyd-destun Ewropeaidd, yr unig glostir mwy yw’r enghraifft Neolithig gynnar yn Urmitz ar afon Rhine, ger Koblenz. Mae dau gyfnod o gloddio arbrofol wedi datgelu bod yr henebyn yn cynnwys perimedr ar ffurf cyfres o dyllau pyst yn croestorri, pob un â ramp i mewn iddo. Roedd tyllau’r pyst rhyw 2m o ddyfnder ar gyfartaledd, a byddent wedi cynnwys pyst rhyw 0.8m mewn diamedr y gallent fod wedi sefyll o leiaf 6m uwchben y ddaear (gan dybio bod o leiaf un rhan o dair o uchder y pyst dan ddaear). Daethpwyd o hyd i byst derw wedi’u golosgi yn y tyllau pyst, ac o’r rhain, olrheiniwyd y dyddiad radiocarbon, sef 2900-2800 neu 2700-2220 CC, a 2880-2800 neu 2780-2460 CC. Mae’r gofod rhwng y pyst yn dangos bod yna dri phostyn bob 5m, felly pe byddai’r cylchedd yn 2.35km, fe fyddai angen dros 1400 o byst i gwblhau’r perimedr. Mewn ambell fan, roedd rhes ddwbl o byst yn ffurfio’r perimedr.
Golygfa o’r awyr o ben gorllewinol clostir palis Hindwell yn dangos yr arc sy’n crymu o dyllau, gyda chlostir petryal bychan y tu allan© CPAT 94-c-0292 Llai na chilometr i’r de o Hindwell, ac yn agos at bentref Waltwn, ceir rhes grom o dyllau mawr sy’n ffurfio cwadrant gogledd-orllewinol cylch tua 300m mewn diamedr; mae’n ymddangos ei fod yn gysylltiedig â rhodfa o dyllau i’r de-orllewin lle ceir dwy res baralel o bedwar twll ar ddeg 12m ar wahân a 75m o hyd. Mae’n ymddangos bod y cyfan yn debyg i’r clostir Neolithig diweddarach yn Meldon Bridge, Peeblesshire. Yn ystod cyfnod o gloddio arbrofol gan YACP ym 1998, archwiliwyd un o’r tyllau, a datgelwyd twll postyn rhyw 4.3m o hyd a 2m o led, ar gyfer postyn 0.4m neu fwy mewn diamedr, a ramp ar un ochr iddo. Cylchoedd tyllauNi ddaethpwyd o hyd ond i nifer fach yn unig o gylchoedd tyllau yng Nghymru hyd yma, a digwyddodd hyn yn bennaf o olion cnydau, neu yn un achos o gofnod dogfennol. Nodwyd dau safle posibl yn Sir Faesyfed, gan gynnwys safle olion cnydau yng Nghoed Mynach, a chyfeiriad o’r 19eg ganrif yn awgrymu safle ger Glascwm. Cylchoedd cerrigMae cylchoedd cerrig Cymru ymhlith y grwpiau henebion mwyaf cynyrfiadol. Eto, er eu hastudio’n helaeth, nid ydym yn deall yn llawn beth oedd eu rôl yn y gymdeithas gynhanesyddol. Credir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o ddechrau’r Oes Efydd a thybir iddynt fod â swyddogaeth ddefodol. Maent i’w cael yn aml gerllaw henebion defodol ac angladdol eraill, megis rhesi cerrig, meini hirion a charneddi. O’r saith, neu o bosibl wyth, safle posibl a gofnodwyd yn Sir Faesyfed, dim ond pedwar sydd wedi goroesi i unrhyw raddau, a chylch y Pedair Carreg ym Masn Waltwn yw’r unig un sy’n drawiadol mewn unrhyw fodd. Er mai fel cylch carreg yr ystyrir yr henebyn hwn, mewn gwirionedd mae’n rhan o is-fath a elwir yn ‘bedwar postyn’, ac mae ganddo bedair o gerrig sylweddol eu maint yn mesur rhwng 0.9m a 1.55m o daldra. Mae’n un o ddim ond llond dwrn o gylchoedd cerrig pedwar post y tu allan i ardal y ffin rhwng Lloegr a’r Alban, a dyma’r unig safle a gadarnhawyd yng Nghymru, er bod rhywrai wedi nodi’n betrus y gallai ail safle fodoli yn Henriw (81215), ger Pant-y-dwr . Yma, cofnodir presenoldeb maen hir unigol yn gysylltiedig â henebyn arall sydd â phedair carreg arall o’r fath, sef dwy garreg fawr a dwy garreg fach wedi eu gosod yn bedronglog neu ‘Dau fraich a dau law’. Codwyd y cerrig oddi yno yn y 19eg ganrif yn ystod y gwelliannau amaethyddol.
Cylch cerrig Pedair Carreg© CPAT CS00-68-32 Mae’n ymddangos bod gan gylch Chwe Charreg, ar Fryn Glascwm, yr enw hynod oherwydd ei fod wedi ei adeiladu o’r cylchoedd lleiaf o unrhyw gylch yn Sir Faesyfed. Nid yw’r talaf ond 0.2m uwchlaw’r ddaear. Cynhaliwyd arolwg o’r cylch ym 1986 ac fe ddatgelodd procio ac archwilio dair ar hugain o gerrig yn ffurfio cylch cerrig eliptig 27m wrth 23.5m gyda’r echel ar linell o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain. Mae’r cylch cerrig yn Gelli Hill, i’r dwyrain o Hawau, yn mesur tua 22m mewn diamedr, ac wyth carreg yn unig sydd i’w gweld erbyn hyn yn eu lle, er bod cerrig eraill wedi’u hychwanegu at yr ochr orllewinol yn ystod y cyfnod diweddar. Mae cylch cerrig Cefn Wylfre, i’r de-orllewin o Glascwm, hefyd yn eliptig, ac yn mesur 23.8m wrth 22.5m. Darganfuwyd deuddeg o lechi siâl bychain, ynghyd ag un glogfaen fwy yn folcanig ei gwreiddiau, er bod bylchau amlwg yn awgrymu bod rhai cerrig wedi mynd ar goll. Yng nghanol y cylch mae carnedd gron â ffos fas o’i hamgylch. Mae’r safleoedd sydd ar ôl mewn cyflwr gwael, neu nid ydynt yn hysbys ar wahân i mewn ffynonellau dogfennol ac nid oes modd hyd yn oed cadarnhau mai cylchoedd cerrig ydynt. Rhesi cerrigDiffinnir rhes gerrig fel un neu fwy o resi paralel yn fras o dair neu fwy o gerrig unionsyth. Mae deg o resi cerrig posibl yn ardal yr astudiaeth, a chofnodwyd bod tair o’r rhain wedi’u dinistrio neu wedi mynd ar goll. Mae’r enghreifftiau sydd wedi goroesi yn syml, heb unrhyw resi dwbl na rhodfeydd. Ar y cyfan, credir bod rhesi cerrig yn dyddio o ddechrau’r Oes Efydd, er y gallai’r rhodfeydd ddyddio o’r cyfnod Neolithig.
Rhes gerrig Tre-hesglog© CPAT CS02-21-12/10/4 Mae’r rhes hwyaf yn Sir Faesyfed, ym Mryn y Maen i’r de-orllewin o Lanfihangel-Nant-Melan, 16.5m o hyd ac yn cynnwys pum carreg o rhwng 0.8m a 0.3m o daldra. Mae dwy o’r rhain bellach yn gorwedd. Ceir tair rhes gerrig yn yr ardal o amgylch Cronfeydd Dr Cwm Elan, ac mae enghraifft fwyaf trawiadol y sir i’w gweld ym Rhosygelynnen, lle ceir llinell o’r dwyrain i’r gorllewin 9.5m o hyd. Mae’r chwe charreg, tair ohonynt yn gorwedd, yn amrywio o ran eu taldra o 0.62m i 1.6m, er bod un garreg sy’n gorwedd yn 2.75m o hyd. Mae’r ddwy res arall rhywfaint yn llai, a’r un yn Nhre-hesglog yn mesur 5.2m o hyd ac yn cynnwys tair, neu efallai bedair carreg yn agos at gist, ac mae rhes Esgair Penygarreg, ger Cronfa Ddwr Penygarreg, yn cynnwys tair carreg, ag un yn unig ohonynt yn dal i sefyll. Mae dwy res gerrig yn agos at ben deheuol Bryn Gilwern rhwng Hawau a Llansanffraid-yn-Elfael, ill dwy â cherrig anghymesur o fawr, dros 2m o daldra, ar un pen i’r rhes. Mae un rhes yn cynnwys tair carreg sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de, a’r llall yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn cynnwys pedair carreg. I’r dwyrain o Lansanffraid-yn-Elfael, ym Mryn Twppa, ceir rhes 4.5m o hyd o dair carreg, yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin yn fras, yn gysylltiedig yn agos â charnedd. Meini hirionDylid diffinio meini hirion fel cerrig sy’n sefyll ar eu pennau’u hunain, neu weithiau mewn parau, y tybir eu bod yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae eu natur, fodd bynnag, yn anochel yn golygu bod modd drysu rhyngddynt â nodweddion diweddarach, fel cerrig ffiniau, pyst gatiau a physt rhwbio ac, wrth gwrs, mae’n eithaf posibl iddynt gael eu defnyddio at y dibenion hyn. Mae swyddogaeth meini hirion cynhanesyddol yn parhau i fod yn ansicr, er ei bod yn ymddangos eu bod yn nodi mannau arwyddocaol, ac mae’n bosibl eu bod yn dangos llwybrau neu ffiniau. Bydd rhai ohonynt yn allgreigiau chylchoedd cerrig, ac mae’n bosibl fod carreg fawr sy’n gorwedd ger cylch cerrig Gelli Hill yn un o’r rhain. Cofnodwyd oddeutu hanner cant o feini hirion posibl yn y sir, a hanner yn unig sy’n parhau i sefyll. Gwyddys i bump ohonynt gael eu dinistrio, ni ddarganfuwyd naw ohonynt yn ystod yr ymweliadau diweddar, ac mae tair ar ddeg arall yn gorwedd. Er mai cerrig unigol yw’r rhan fwyaf ohonynt, ceir parau yng Nghefn Llanerchi, yng Nghwm Elan, a Chwm y Saeson ger Pant-y-dwr, a dau bâr posibl arall, un yng Nghwm Elan eto a’r llall ger Llanwrthwl. Mae’r pâr yng Nghefn Llanerchi yn cynnwys y maen hir mwyaf yn Sir Faesyfed, sy’n 3.6m o hyd, er ei fod bellach yn gorwedd. Yn Neuadd Glan Gwy, sy’n tremio dros afon Gwy ger Bochrwyd, ceir y garreg unigol mwyaf trawiadol. Mae hi’n 2.35m o daldra, yn 1.35 o hyd ac yn 0.7m o drwch. Mae’r rhan fwyaf o’r cerrig, fodd bynnag, o faint mwy cymedrol. Mae rhai ohonynt mor fychan â 0.4m o daldra, er bod taldra rhwng 0.9m a 1.5m yn fwy nodweddiadol. Yn gyffredinol mae’r cerrig yn adlewyrchu’r ddaeareg leol, ond mae’n ymddangos bod meini crwydr rhewlifol wedi’u defnyddio mewn ambell fan.
Maen hir nodweddiadol yn tremio dros Afon Gwy© CPAT CS03-17-08 Mae dosbarthiad y meini hirion yn dangos crynodiad arwyddocaol yng nghanol Sir Faesyfed rhwng Basn Waltwn a Llandrindod, ac nid oes ond ychydig o safleoedd yn y gogledd, a nifer wasgaredig yn y de a’r gorllewin. Mae’n ymddangos y byddai eu lleoliad cyffredinol yn golygu bod yr awgrym bod o leiaf rhai ohonynt wedi’u codi i nodi’r ffordd yn fwy credadwy. Saif pum carreg yn agos at lwybrau sy’n croesi’r ucheldir, naill ai mewn bwlch, neu heb fod yn bell o fwlch, megis carreg Brunddel Felen ar y llwybr y mae’r ffordd o Raeadr Gwy i Gwm Ystwyth yn ei ddilyn erbyn hyn. Saif wyth carreg pellach mewn dyffrynnoedd afonydd, ac mae’n bosibl bod y rhain yn lwybrau o bwys yn y cyfnod cynhanesyddol. Awgrymwyd bod y meini hirion ym Masn Waltwn yn nodi dau lwybr sy’n fforchio o Burfa Bank, lle mae Nant Hindwell yn gadael y basn. Mae un llwybr canolog yn dirwyn tua’r gorllewin at gylch cerrig y Pedair Carreg, yn dilyn Nant Summergil i’w tharddle a thu hwnt, mae’n debyg, a’r llwybr gogledd-orllewinol yn dirwyn tuag at Kinnerton. Grwpiau o gerrigTerm sy’n disgrifio trefniant o gerrig unionsyth na ellir mo’i adnabod yn rhwydd fel rhes gerrig, cylch cerrig nac unrhyw fath arall o henebyn megalithig amlwg yw ‘grwp o gerrig’. Maent yn anodd eu diffinio, eu dyddio a’u dehongli, ac er bod pedwar safle wedi’u dosbarthu yn y modd yma, un yn unig a gadarnhawyd yn ystod ymweliadau maes diweddar, ym Mwlch y Fedwen i’r dwyrain o Hawau. Carneddi crynionMae’r term carnedd gron yn cwmpasu amrywiaeth o henebion angladdol o garreg a phridd y gallai arwyddocâd defodol arbennig hefyd fod yn perthyn iddynt. Fel y nodwyd uchod, henebion claddu dechrau’r Oes Efydd yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd a gofnodwyd yn yr arolwg. Pan gloddir carneddi crynion, darganfyddir yn aml eu bod yn gorchuddio claddfeydd, naill ai’n gladdedigaethau neu’n amlosgiadau, mewn tyllau neu, fel sydd efallai yn fwy cyffredin mewn ardaloedd uwchdirol, cistiau â haen o gerrig o’u mewn. Gall natur, cynnwys a maint y carneddi amrywio’n sylweddol, er bod eu deunyddiau adeiladu yn aml yn adlewyrchu’r ddaeareg leol, fel bod safleoedd uwchdirol ar ffurf carneddi o gerrig, tra bod rhai ar y tir isel yn dwmpathau pridd fel arfer â ffosydd o’u hamgylch. Mae’r rhan fwyaf o safleoedd bellach yn ymddangos fel twmpathau syml o bridd neu gerrig, er bod gan nifer ohonynt nodweddion gwahaniaethol arwyddocaol. Mae rhai carneddi, a elwir yn ‘garneddi strwythuredig’, yn hynod oherwydd eu hadeiladwaith mwy manwl, efallai gydag ymylfeini neu rai wedi eu gosod ar eu hochr. Ceir enghraifft arbennig o dda yng Ngwarchodfa Natur Gilfach i’r gogledd o Raeadr Gwy, lle gwelir carnedd 7m mewn diamedr gyda slabiau ar eu hochr yn ymylfeini hynod. Mae’n bosibl nad henebion claddu yn bennaf mo’r carneddi cylch, sy’n cynnwys argloddiau cylch dyrchafedig ac yn amgáu rhan fewnol wastad, ac mae’n hawdd drysu rhyngddynt a chylchoedd cytiau, clostiroedd bychain crynion, cylchoedd cerrig ar arglawdd neu hyd yn oed carneddi sydd wedi’i hysbeilio’n ddrwg. Mae gwaith cloddio wedi dangos iddynt gael eu defnyddio ar gyfer defodau a oedd yn gysylltiedig â chladdu golosg a dyddodion eraill, a oedd efallai yn ategol i’r claddiadau, ac mai dim ond yn ystod cyfnod diweddarach o’u hanes unigol y rhoddwyd esgyrn dynol ynddynt. Gorwedd arglawdd cylch tua 14.5 m mewn diamedr, hyd at 3.5m o led a 0.5m o daldra ger pen dwyreiniol y Begwns, ac mae’n bosibl mai hon yw’r enghraifft orau yn y sir. I orffen, ceir nifer o garneddi bychain a elwir yn ‘garneddi ymylfaen’ sydd fel arfer yn llai na 5m mewn diamedr, ac mae ganddynt ymylfaen allanol o gerrig anghymesur o fawr. Gall y rhain fod yn debyg eu golwg i’r carneddi cylch bychain, gyda cheudod neu fan gwastad yn y canol.
Un o’r carneddi mawr ar Fryn Bache, yn tremio dros Fasn Waltwn© CPAT CS01-03-25 Cofnodwyd tua 267 o garneddi crynion neu rai y credir eu bod yn garneddi crynion ar amrywiol ffurfiau yn Sir Faesyfed. O’r rhain, mae 160 yn dwmpathau pridd a 82 yn garneddi o gerrig. 14 o garneddi strwythuredig, 10 o garneddi cylch ac un carnedd ymylfaen yw’r gweddill. Er bod y rhan fwyaf o safleoedd rhwng 10m a 20m mewn diamedr, mae naw safle sydd dipyn yn fwy, gyda diamedr o dros 30m, pob un ohonynt ym Masn Waltwn. Maent yn cynnwys un safle eithriadol o fawr yn Knapp Mount sydd yn 4.5m o daldra. Ystyrid yn draddodiadol mai mwnt oedd hwn, a dadleuwyd y gallai’r safle fod yn dwmpath cynhanesyddol yn nhraddodiad Silbury Hill, Marlborough a Duggleby Howe.
Right: Tre-hesglog cist © CPAT CS02-21-13 CistiauFel arfer, roedd twmpath yn gorchuddio bron pob claddfa gynhanesyddol, eto gwyddys am gladdiadau cist syml ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd uwchdirol. Ni ddylai diffyg tystiolaeth sydd wedi goroesi i ddangos bod yna dwmpath dros ben y gladdfa fod yn arwydd nad oedd un yno yn wreiddiol, fodd bynnag. Gwyddys am dair cist yn y sir. Aflonyddwyd ar bob un o’r rhain, ac nid oes capfaen yn gorchuddio’r un ohonynt bellach. Mae dau safle yn ucheldiroedd Cwm Elan, un ym Moelfryn sydd â phedwar slab ymyl i ffurfio cist pendant yn mesur oddeutu 0.9m o hyd, 0.75m o led a 0.35m o ddyfnder, a’r llall yn Nhre-hesglog tua 30m i’r gogledd-gogledd-ddwyrain o res gerrig ac yn mesur 1.2m o hyd, 0.6m o led a 0.45m o ddyfnder. Mae’r trydydd safle ar ymyl y llwyfandir uwchdirol i’r dwyrain o Afon Gwy ym Manc Dolhelfa, ac mae’n cynnwys tair carreg ymyl sy’n dynodi sgwâr oddeutu 0.4m ar draws y tu mewn, gyda charreg yn gorwedd yn llorweddol wedi’i dadleoli ar y bedwaredd ochr. Ffosydd cylchGellir adnabod ffosydd cylch fel arfer o olion cnydau, neu weithiau yn ystod gwaith cloddio, ac maent yn cynnwys un neu fwy o ffosydd consentrig ac nid oes unrhyw dwmpathau amlwg wedi goroesi o’u mewn. Hyd yma, daethpwyd o hyd i 29 o ffosydd cylch olion cnydau yn Sir Faesyfed, ac fel y gellid disgwyl, maent i’w cael yn yr iseldir yn gyffredinol mewn ardaloedd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer ffermio âr a phorfa gwaelod y dyffryn. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain (20 safle) o fewn Basn Waltwn, ac mae clwstwr o 3 safle i’r gorllewin o Raeadr Gwy a allai fod yn arwyddocaol. Ceir amrywiaeth sylweddol yn niamedr y ffosydd cylch, rhwng 7.5m a 48m, ac eithrio ffos gylch Court Farm, sydd oddeutu 100m mewn diamedr. Mae’r safle hwn ger clostir palis Waltwn, ac yn yr un cae â thri gwersyll gorymdeithio Rhufeinig, sydd wedi arwain at yr awgrym amgen y gallai hwn fod yn gyrus Rhufeinig. Er bod hwnnw yn arbennig o fawr, mae chwe ffos gylch arall â diamedr o fwy na 30m. Mae’r rhan fwyaf, fodd bynnag, rhwng 10m a 20m mewn diamedr, ac nid oes ond pum safle rhwng 20m a 30m. Mae’n debygol bod ffosydd cylch o’r maint hwn yn cynrychioli olion carneddi crynion a gafodd eu haredig, a gallai’r rhai mwy fod yn olion meingylchoedd neu henebion meingylchol. CasgliadauMae’r arolwg wedi dangos cyfoeth ac amrywiaeth gorffennol cynhanesyddol Sir Faesyfed yn eglur. Mae wedi darganfod bron i 400 o henebion angladdol a defodol, ac mae llawer ohonynt yn ddigon arwyddocaol ac mewn cyflwr digon da fel yr ystyrir eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol. Mewn sawl ffordd, mae’n ymddangos bod yr henebion yn Sir Faesyfed yn debyg ar y cyfan i’r rheiny mewn ardaloedd eraill a astudiwyd eisoes. Fel mewn mannau eraill, carneddi crynion a charnau a geir yn bennaf, ac ychydig yn unig a geir o fathau eraill o safleoedd, ar wahân i feini hirion. Mae hynodrwydd crynodiad henebion, yn enwedig safleoedd defodol, ym Masn Waltwn, yn un o’r nodweddion sy’n gosod Sir Faesyfed ar ei phen ei hun ar hyn o bryd, fodd bynnag. Er bod henebion cwrsws yn ymddangos fan hyn a man draw ar hyd a lled Cymru, ni wyddys am unrhyw glostiroedd palisad y tu allan i’r sir, er bod enghreifftiau mewn mannau eraill o Brydain. Mae’r ffaith fod dau safle o’r fath yn yr ardal o amgylch Waltwn yn hynod, yn enwedig pan ystyrir mai un ohonynt yw’r mwyaf ond un o’i fath yn Ewrop. Does dim dwywaith bod hon yn ardal o bwysigrwydd mawr yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd, ac o ystyried bod ein gwybodaeth yn bell o fod yn gyflawn, ni all darganfyddiadau’r dyfodol wneud dim ond atgyfnerthu pwysigrwydd Basn Waltwn. Y gobaith yw y bydd y data a gesglir ac a gyfrennir at y CSH Rhanbarthol yn darparu sail defnyddiol ar gyfer astudiaethau’r dyfodol a allai estyn ein gwybodaeth o’r cyfnod enigmatig hon ymhellach. Mae bwrw golwg frysiog hyd yn oed ar y mapiau gwasgariad yn datgelu bod diffyg ymddangosiadol yn nifer yr henebion a gofnodwyd yng ngogledd-ddwyrain y sir, sefyllfa sydd bron yn bendant yn adlewyrchu’r diffyg gwaith maes systematig yn yr ardal hon. Mae safleoedd na chofnodwyd mohonynt yn aros i’w darganfod neu eu hadnabod wrth i fwy o waith maes gael ei gynnal, ac wrth i olion cnydau gael eu hadnabod, fel bod modd ystyried y crynodeb a geir yn yr erthygl hon yn ddatganiad ar un adeg benodol yn hanes y gwaith y gobeithir y bydd yn parhau. |