CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau
Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru
Safleoedd yn
Sir Drefaldwyn
Safleoedd yn
Sir Faesyfed
Safleoedd yn
Sir Frycheiniog

Cyflwyno Safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol

Blaengarredd newydd a luniwyd i enwi a diogelu henebion cynhanesyddol Cymru


Henebion yn y dirwedd

Mae’r dirwedd Gymreig yn gyforiog o olion y gorffennol, yn enwedig o domenni claddu, cylchoedd cerrig, meini hirion a beddrodau siambr y cyfnod cynhanesyddol cynharach. Fel rhan o’r fenter newydd, y gobaith yw ymweld â phob safle hysbys yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a mynd ati i sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n barhaol, gyda chymorth tirfeddianwyr a thenantiaid.

cs976605.jpg

Pryd adeiladwyd hwy?

Codwyd y safleoedd y mae'r astudiaeth yn ymwneud â hwy dros gyfnod o dair mil o flynyddoedd, rhwng 4000 a 1000 CC. Dyma gyfnod maith a dramatig yn hanes dyn o gamau cyntaf grwpiau o helwyr-gasglwyr tuag at economi amaethyddol sefydlog hyd at gyfnod o newid technolegol cyflym a oedd yn cyd-daro â dyfodiad pendefigaeth rymus o ryfelwyr, mabwysiadu iaith Geltaidd a datblygu cysylltiadau masnachu pellter hir ledled Ewrop. Nid yw’n syndod bod amrywiaeth eang o henebion claddu a henebion defodol wedi dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd y newidiadau yng nghredoau crefyddol a threfniant cymdeithasol y bobl.

Siambrau cerrig neu bren wedi’u gosod mewn naill ai tomenni hirion neu domenni crynion oedd yr henebion claddu cynharaf, a defnyddiwyd hwy i gladdu grwpiau teuluol. Roedd rhodfeydd defodol hirion a llociau eang â ffosydd o’u hamgylch ymhlith mathau eraill o henebion cynnar. Yn ddiweddarach, gwelwyd claddiadau sengl dan domenni crwn o bridd neu o gerrig, cynnydd cyffredinol yn yr arferiad o gorfflosgi, a henebion defodol megis cylchoedd cerrig a choed, meini hirion a rhesi o feini.

Erys diben llawer o’r safleoedd hyn yn ddirgelwch, er i rai ohonynt, er enghraifft Côr y Cewri, gael eu defnyddio i ragfynegi'r tymhorau. Parhaodd cryn nifer o'r henebion yn ganolbwynt gweithgareddau claddu a defodol am filoedd o flynyddoedd ar ôl eu hadeiladu, ac mae rhai wedi goroesi hyd heddiw yn dirnodau amlwg.

cs910093.jpg

Beth all y rhain ei ddweud wrthym am y gorffennol?

Safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol cynnar yw’r hynaf o'r henebion hyn, ac yn aml, hwy yw'r mwyaf enigmatig yn y dirwedd, ac mae pob safle yn cynrychioli 'capsiwl amser' sy’n perthyn i'r fan a'r adeg benodol y codwyd yr heneb dan sylw.

Gall arteffactau sydd wedi’u claddu ddweud wrthym pryd y codwyd y safle, a gall hefyd roi gwybodaeth inni am sgiliau ac adnoddau'r adeiladwyr. Dywed olion sgerbydol wrthym pa mor hir y mae pobl wedi byw, pa mor faethlon oedd eu bwyd, a pha afiechydon oedd yn effeithio arnynt. Gall ffurf y safleoedd eu hunain ddweud wrthym am eu credoau crefyddol ac am strwythur y gymdeithas. Ceidw’r rhan fwyaf o’r safleoedd hefyd dystiolaeth ynglŷn â’r dirwedd y codwyd hwy ynddi, efallai o fewn llennyrch coediog, ar rostir agored, neu ar ffiniau rhwng caeau.

Mae gosodiad yr henebion yn arwyddocaol, gan fod eu hadeiladwyr wedi dewis y safleoedd yn ofalus. Mae'n ymddangos bod rhai ohonynt wedi'u gosod mewn mannau disylw, ond eto maent yn tremio dros olygfa eang. Codwyd eraill ar ben mynyddoedd mewn mannau amlwg, a gellid eu gweld o bell.

Goroesi a Dinistrio

Bydd llawer o henebion yn parhau i oroesi fel nodweddion amlwg yn y dirwedd, filoedd o flynyddoedd wedi iddynt gael eu codi. Hyd yn oed heddiw, bydd rhai ohonynt yn cynorthwyo i nodi lleoliad ffiniau sirol neu gymunedol. Mae llawer o safleoedd eraill wedi’u difrodi’n ddifrifol neu wedi diflannu’n llwyr. Mae ambell fath o safle wedi’i aredig nes ei fod yn wastad, ac nid oes modd eu hadnabod ond o'r awyr, a hynny oherwydd y gwahaniaeth yn y modd y mae'r cnydau'n tyfu.

86c0117.jpg

Prif nodau'r fenter bresennol yw yn gyntaf, cofnodi pa henebion sydd wedi goroesi, ac yn ail, ceisio sicrhau bod modd eu cadw er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.

Yr hyn sy’n achosi difrod safleoedd

Mae sawl safle wedi’i ddifrodi neu'i ddinistrio yn y gorffennol, yn anfwriadol yn aml, oherwydd aredig ac ailhadu, plannu coed, gwella porfa a chlirio cerrig, gosod llwybrau troed, datblygiadau adeiladu a ffyrdd. Erbyn hyn, cafwyd gweithredu i sicrhau bod cymaint o safleoedd â phosibl yn cael eu cadw at y dyfodol.

cs992006.jpg

Deddfwriaeth Allweddol a Chanllawiau Cynllunio

Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979. Mae henebion sydd o bwys cenedlaethol yn cael eu cynnwys ar ‘restr’ y mae Cadw yn gyfrifol amdani. Gydag eithriadau prin, mae angen caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol, trwy Cadw, ar gyfer unrhyw waith ar henebion rhestredig.

Mae Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru), a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol yn egluro’r meini prawf ar gyfer rhestru, ac yn argymell gweithdrefnau ar gyfer asesu, gwerthuso, cadw a lliniaru.

Mae cynlluniau datblygu pob ardal llywodraeth leol a pharc cenedlaethol yn cynnwys polisïau i amddiffyn archeoleg, adeiladau hanesyddol a thirweddau hanesyddol.

Adroddiadau ar arolygon o ardaloedd

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fe fydd yr arolwg yn cwmpasu ardal gyfan Clwyd Powys. Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer safleoedd yn y mannau canlynol y bydd modd cael rhagor o wybodaeth am yr arolwg:

Gogledd Ddwyrain Cymru
Sir Drefaldwyn
Sir Faesyfed
Sir Frycheiniog Safleoedd yn Sir Frycheiniog Safleoedd yn Sir Faesyfed Safleoedd yn Sir Drefaldwyn Safleoedd yn Sir Drefaldwyn Safleoedd yn Sir Drefaldwyn Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru Safleoedd yn Gogledd Ddwyrain Cymru

blog counter