CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Porthladdoedd a Harbwrs yng Ngogledd-ddwyrain Cymru


Menter newydd wedi’i chynllunio i nodi a diogelu porthladdoedd hanesyddol Cymru.


Rhagarweiniad

Mae sawl porthladd a harbwr hanesyddol wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru, er na cheir dealltwriaeth drwyadl o’u natur a’u maint yn aml. Mae gan lawer o safleoedd pwysig botensial sylweddol o ran gweddillion archeolegol, boed y rhain yn dal i sefyll, wedi'u claddu, neu wedi’u boddi, a deuant dan fygythiad cynyddol yn sgîl gwaith datblygu. Felly, cynlluniwyd yr astudiaeth bresennol i ddarparu asesiad manwl o’r adnodd archeolegol pwysig hwn er mwyn gwella ein dealltwriaeth o borthladdoedd a harbwrs, eu datblygiad, eu harwyddocâd a'u potensial, gan ddarparu gwaelodlin i'w defnyddio wrth ddatblygu strategaethau rheoli yn y dyfodol.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Cadw, yn cael ei gyflawni mewn dau gyfnod. Mae’r astudiaeth gychwynnol wedi’i chwblhau erbyn hyn. Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru gyfan oedd hon, ynghyd ag astudiaethau achos manwl o borthladdoedd ar hyd Toriad Newydd Afon Dyfrdwy. Bydd yr ail gyfnod yn parhau â’r astudiaethau achos, er mwyn cynnwys porthladdoedd eraill yr ardal, a’r bwriad yw ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2007.

Queensferry jetty

Dde: Glanfa ger Queensferry © CPAT 2079-023

Ceir crynodiad cyfoethog o borthladdoedd a harbwrs bychain ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, ac ar aber Afon Dyfrdwy yn arbennig, ac mae’r rhain yn bwysig i’n dealltwriaeth o gyfathrebu, masnach a diwydiant yn yr ardal hon. Mae’r prosiect yn cynnwys amrywiaeth o borthladdoedd a cheiau, gan gynnwys porthladdoedd canoloesol oedd yn gysylltiedig â Rhuddlan a’r Fflint, yr harbwrs hynny a restrwyd yn y Welsh Port Books 1550-1603, a’r rhai hynny a ddatblygodd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi i gefnwlad aber Afon Dyfrdwy gael ei diwydiannu. Nid yw’r mwyafrif ohonynt yn weithredol bellach. Ar sail eu potensial archeolegol, mae’r porthladdoedd Rhufeinig damcaniaethol ym Mhrestatyn a’r Fflint wedi’u cynnwys hefyd.

Hanes

Mae digonedd o dystiolaeth sy’n awgrymu bod arfordir Cymru wedi bod yn adnodd pwysig ers y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth bresennol yn canolbwyntio ar dwf porthladdoedd, harbwrs a cheiau y tybir iddynt fod wedi datblygu o’r cyfnod Rhufeinig ymlaen, yn hytrach nag ar y defnydd a wnaed o’r arfordir.

Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol o borthladdoedd Rhufeinig yn ardal yr astudiaeth, mae’n amlwg bod Afon Dyfrdwy yn arbennig yn ddyfrffordd o bwys yn y cyfnod ac yn darparu mynediad o’r môr i Gaer. Fodd bynnag, arweiniodd y gwaith cloddio a wnaed ym Mhrestatyn a’r Fflint at yr awgrym y gallai’r naill a’r llall fod wedi’u cysylltu â phorthladdoedd gerllaw o bosibl.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd adeiladu’r castell Edwardaidd yn Y Fflint o 1277 a sefydlu’r fwrdeistref gyfagos yn dibynnu’n helaeth ar ddefnyddio’r afon fel modd o gludiant, ac mae tystiolaeth bod gan y castell a’r dref fel ei gilydd eu ceiau eu hunain. Yn wir, gallai cychod sylweddol eu maint gyrraedd y castell mor ddiweddar â chanol y 19eg ganrif. Sefydlodd Edward gastell a bwrdeistref yn Rhuddlan hefyd, yn yr un flwyddyn ag yn Y Fflint. Mae torri sianel newydd ar gyfer Afon Clwyd trwy dir corsiog, i’r dwyrain o’i chwrs gwreiddiol, yn dangos pwysigrwydd mynediad o’r arfordir yn eglur.

Mae’r Welsh Port Books 1550-1603 yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am natur porthladdoedd ôl-ganoloesol yn yr ardal gyda rhestr o’r unig hafanau ar hyd arfordir Sir y Fflint, sef Welsh Lake, Wepra Pool, Picton Pool a Foryd. Nid oes cofnod o fannau glanio yn Sir Ddinbych ond ni ddylid cymryd bod hyn yn awgrym nad oedd masnach a gweithgareddau arfordirol o gwbl yno. Yn lle hynny, er nad yw arfordir y sir yn cynnig unrhyw harbwrs naturiol, mae digonedd o leoedd ar ei thraethau lle gellid tynnu cychod bychain, boed yn rhai pysgota neu’n rhai masnachu, i fyny ar y blaen traeth. Mae’n debygol mai dyna fyddai wedi digwydd yn Abergele, Llanddulas a Llandrillo-yn-Rhos.

Quay House

Dde: The Old Quay House, Cei Connah. © CPAT 2079-028

Erbyn y 15fed ganrif, roedd siltio yn effeithio ar Afon Dyfrdwy. Y cofnod cynharaf o anawsterau yw ‘Brîff Brenhinol’ ym 1449 a wnaeth asesu Dinas Caer ac awgrymu adeiladu cei yn Neston ar gyfer trosglwyddo cargoau i gychod llai. Daeth arolwg gan y Capten Andrew Yarranton ym 1674 a gyhoeddwyd ym 1677 dan y teitl England's Improvement by Sea and Land, i’r casgliad bod yr afon wedi’i thagu cymaint â thywod fel na allai cwch ugain tunnell gyrraedd Caer. Argymhellodd adeiladu sianel newydd ar hyd traethlin Sir y Fflint fel bod mordwyo dŵr dwfn i Gaer yn bosib. Ar y pryd, roedd y sianel dŵr dwfn yn dilyn morlin Swydd Gaer, a thraethellau lleidiog Morfa Saltney oedd morlin Sir y Fflint yn bennaf.

Adeiladwyd Toriad Newydd Afon Dyfrdwy o’r diwedd ym 1737. Roedd yn dilyn y lan ddeheuol ar y pryd o Gaer i Saltney ac yna, wedi tro bach, aeth mewn llinell syth ar hyd morlin Sir y Fflint i Golfftyn. Adeiladwyd pier o garreg yng Ngolfftyn i ddiogelu cychod oedd yn teithio i Gaer ac yn ôl ac a oedd yn aros am wynt teg, a dyma ffurfiodd gnewyllyn yr hyn a ddaeth yn borthladd Cei Connah. Y Toriad Newydd oedd yn gyfrifol am roi cychwyn ar Saltney, Sandycroft, Queensferry a Chei Connah gan alluogi cysylltiadau dŵr hawdd er mwyn mewnforio deunyddiau i’r gefnwlad ac allforio glo a mwynau i Gaer, Iwerddon a chyn belled â gogledd Ffrainc a Sbaen.

Daeth datblygiad rhwydwaith y rheilffyrdd o ganol y 19eg ganrif ag ehangu pellach i fwyafrif y porthladdoedd, yn arbennig Cei Connah a Mostyn. Fodd bynnag, dechreuodd Rhuddlan ddirywio yn ystod yr un cyfnod oherwydd siltio Afon Clwyd, ac arweiniodd hyn yn ei dro at dwf Foryd. Roedd y porthladdoedd, ar wahân i Ruddlan, ar eu hanterth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, wrth i’r diwydiannau roeddent wedi’u sylfaenu arnynt hefyd ffynnu. Daeth diwedd y porthladdoedd llai yn sgîl y dirywiad dilynol yn y diwydiannau lleol megis glo, plwm, brics, peirianneg ac adeiladu llongau. Erbyn heddiw, Mostyn yn unig sydd wedi goroesi fel porthladd o bwys, ac yn wir, gwelwyd ehangu yno’n ddiweddar. Mae Cei Connah hefyd yn weithredol o hyd, er nad yw ond cysgod o’r hyn a fu yn y gorffennol, a diflannu wnaeth y porthladdoedd bychain eraill i gyd.

Cei Connah

Wedi cwblhau’r Toriad newydd ym 1737, datblygodd porthladd bychan tua’r môr yn y sianel yng Ngolfftyn, lle adeiladwyd morwal i gysgodi cychod oedd yn aros am wynt teg a llanw i fordwyo i Gaer ac yn ôl. Nid oedd Cei Connah mor ddibynnol ar lanw ffafriol a gwynt teg a dyma un o’r rhesymau y datblygodd yn borthladd o bwys, yn hytrach na’r rhai oedd yn uwch i fyny Afon Dyfrdwy.

Connah's Quay

Chwith: Doc I Cei Connah. © CPAT 2079-031

Roedd cysylltiad uniongyrchol rhwng llawer o ddatblygiad cyfleusterau Cei Connah a’r cwmnïau amrywiol oedd yn gweithredu’r dramffordd, ac yn ddiweddarach, y rheilffordd oedd yn terfynu ar y cei. Y cynharaf o’r rhain oedd yr Irish Coal Company a ddechreuodd adeiladu Ffordd Haearn Gwepra o lofeydd yn Llaneurgain ym 1799. Northop Hall and Dublin Coal Company Cyf oedd berchen ar hwn yn ddiweddarach, cyn ei ddisodli i bob pwrpas gan Reilffordd Bwcle ym 1862.

Er mai porthladd diwydiannol oedd Cei Connah yn bennaf, bu rhywfaint o deithwyr hefyd yn teithio trwyddo o ganol y 1860au ymlaen, gyda dyfodiad gwibdeithiau ar y trên oedd yn cynnwys taith ar stemar i leoedd fel Llandudno. Roedd gwasanaeth i deithwyr ar hyd yr afon i Gaer ac yn ôl hefyd.

Erbyn yr 1880au, glo a brics oedd y prif allforion o’r dociau a hefyd cemegolion a gwrteithiau. Pren, yn cynnwys pyst pwll, o Norwy a gwledydd Llychlyn oedd y prif fewnforyn. Ym 1884, cofnodwyd llongau yn gadael y porthladd i deithio i Barrow, Aberteifi, Iwerddon, Ffrainc, Yr Almaen, Nova Scotia a Norwy.

Adeiladu Llongau

Dechreuodd cwmni Ferguson, MacCallum a Baird adeiladu llongau yn Y Fflint ym 1840, ond trosglwyddwyd y busnes i Gei Connah ym 1858. Yno y bu, dan yr enw Ferguson a Baird, nes iddo gau ym 1916. Llongau pren yn unig roedd y cwmni’n eu hadeiladu, a dyma oedd y rheswm dros ei dranc yn y pen draw. Ailagorwyd yr iard ym 1920 gan gwmni J Crichton and Co Cyf, oedd yn adeiladu llongau o fetel. Roedd yna hefyd iard llongau lai yng Nghei Connah, drws nesaf i dafarn Old Quay House ar Ffordd y Dociau, oedd yn cael ei gweithredu gan William Butler ac yn arbenigo mewn cychod achub, gan gynnwys y rhai ar gyfer y Mauritania.

Queensferry

Dan y Ddeddf Seneddol oedd yn caniatáu adeiladu’r Toriad Newydd, byddai fferi’n cael ei darparu ar gyfer cludo teithwyr, gwartheg a cherbydau. Yn wreiddiol, Fferi Isaf oedd yr enw ar hon ond ailenwyd hi yn King’s Ferry tua 1750 er anrhydedd i George III ac ym 1837, daeth yn Queen's Ferry, er anrhydedd i’r Frenhines Victoria. Dyfeisiau troi y byddai ceffyl yn eu tynnu oedd yn gyrru’r fferi. Yn ddiweddarach, disodlwyd y rhain gan fferi â chapstan winsh dan reolaeth dau ddyn ar ei bwrdd. Erbyn 1861, mae’n ymddangos bod y fferi wedi cael ei gweithredu’n fecanyddol, gyda pheiriandy ar ochr Queensferry. Disodlwyd y fferi gan Bont Jiwbilî Victoria ym 1897

Queensferry Quay

Chwith: Cei Queensferry. © CPAT 2079-023

Datblygodd cei yn Fferi Isaf neu King’s Ferry ar gyfer cludo glo o tua 1740 pan adeiladwyd Tramffordd Mancot i gysylltu Glofa Big Mancot ag Afon Dyfrdwy. Disodlwyd hon tua 1793 gan drac rheilffordd haearn.

Cei Aston oedd yr enw ar y cei yn ddiweddarach, ac estynnodd ymhellach yn dilyn adeiladu system o dramffyrdd yn cysylltu gwahanol ddiwydiannau rhwng Bwcle a’r afon.

Adeiladu Llongau

Tua 1885, dechreuodd Smith and Co adeiladu cychod haearn bychain a chychod camlas ar safle 250 llath i’r gorllewin o’r fferi. Yn ddiweddarach, gwnaethant symud i safle ger cilfach fechan ymhellach tua’r dwyrain. Adeiladwyd 'Reliance' ym 1892 gan Messrs J Wilson and Co., ac erbyn 1894 roedd yr iard yn cael ei gweithredu gan Queensferry Shipbuilding and Engineering Co. Ym 1908/09, daeth yn eiddo i Isaac J Abdella and Mitchell Cyf. Canolbwyntiodd y cwmni ar gychod dadlwytho a chychod camlas, ond roeddent hefyd yn adeiladu stemars rhodli, fel y 'Manoel Tomaz' ym 1912, a aeth i Brasil, a’r 'Broughton' a aeth i Nigeria. Caeodd yr iard ym 1925, er i’r enw barhau mewn cwmnïau byrhoedlog hyd y 1930au.

Sandycroft

Datblygodd Cei Sandycroft gerllaw cilfach fechan o’r enw Fowl Pool Gutter. Tua 1751, rhoddodd y teulu Glynne o Gastell Penarlâg brydles oedd yn caniatáu adeiladu tramffordd o Bwll Glo Sandycroft, Bwcle, ar hyd Moor Lane i Afon Dyfrdwy. Mae’n bosibl, er hynny, mai’r darn ar hyd Moor Lane yn unig gafodd ei gwblhau. Yn ddiweddarach, cafodd hon ei disodli gan Reilffordd Sandycroft a oedd o bosibl wedi’i hadeiladu gan Syr John Glynne, tua 1790.

Adeiladu Llongau a Diwydiant

Datblygodd iard llongau fach ar lan y gilfach yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd hon yn cael ei gweithredu gan Thomas Cram & Co. Gwnaethant gychwyn adeiladu’r ‘Royal Charter’, sef cliper hwylio o haearn gyda sgriw stêm ategol, tua 1852. Lansiwyd y llong ym mis Gorffennaf 1854. Cafodd ei dryllio yn y môr gerllaw Moelfre, Ynys Môn ar 27 Hydref 1859 a chollwyd dros 400 o fywydau.

Sandycroft

Chwith: Cai Sandycroft. © CPAT 2079-003

Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd ffowndri wedi datblygu ar ochr ddwyreiniol y gilfach. Meddiannwyd y safle ym 1862 gan gwmni John Taylor, sef cwmni a sefydlwyd dan enw Mold Foundry yn Rhydymwyn ym 1837. Roedd y cwmni’n arbenigo mewn adeiladu peiriannau ar gyfer y diwydiant mwyngloddio. Ym 1874, daeth y cwmni yn Messrs Bricknell, Taylor and Co., a thua 1890 newidiodd ei enw eto i Sandycroft Foundry and Engine Works Company Cyf. Ym 1886, agorwyd cloddfeydd aur De Affrica a derbyniodd y cwmni archebion di-ri. Roeddent hefyd yn cyflenwi peiriannau i India, Brasil, Awstralia, Seland Newydd a mwyngloddiau a chloddfeydd niferus ledled Prydain. Erbyn yr 1920au, roedd y gystadleuaeth wedi cynyddu’n fawr a chaeodd y gweithfeydd ym 1925 oherwydd diffyg archebion.