Cymraeg / English
|
|
Valley Site, Rhydymwyn, Historic Environment Management Plan
Gorwedda Safle Dyffryn ym mhentref Rhydymwyn yn Sir y Fflint, rhwng yr Wyddgrug a Llanelwy. Bellach fe’i rheolir fel gwarchodfa natur, ond ar un tro dyma oedd MS Valley (y Weinyddiaeth Gyflenwi) lle byddai Nwy Mwstard ac arfau rhyfel yn cael eu cynhyrchu a’u storio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd ymchwil a arweiniodd at adeiladu’r bom atomig gyntaf yno hefyd. Gorwedda’r safle hir a chul ar waelod dyffryn coediog ac mae iddo arwynebedd o tua 35 hectar. Mae Bywyd Gwyllt Gogledd-Ddwyrain Cymru a pherchnogion y safle, sef Adran Ystadau DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig), wrthi ar hyn o bryd yn trafod cyn arwyddo cytundeb rheoli 10 mlynedd ar gyfer y safle. Right: The Valley Site, Rhydymwyn. Copyright Birmingham Archaeology Daeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn rhan o hyn wedi i aelod o’r cyhoedd ddod atynt i fynegi pryder ynglyn â chadw a gwarchod yr olion hanesyddol ar y safle pwysig hwn. Cafodd YACP wahoddiad oddi wrth DEFRA i anfon cynrychiolydd i fod ar Gyd-Fwrdd Ymgynghorol Dyffryn Rhydymwyn. Nod y corff hwn yw annog deialog, hybu syniadau a dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i faterion rheolaeth a mynediad yn y safle. Bydd YACP yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol o ran archaeoleg a hanes y safle. Yn 2005, cytunodd DEFRA i ariannu Cynllun Rheoli Amgylchedd Hanesyddol i gyd-fynd â’r Cynllun Rheoli Bywyd Gwyllt a gynhyrchwyd gan Fywyd Gwyllt Gogledd-Ddwyrain Cymru. Bu YACP yn gweithio gyda DEFRA i benderfynu ar yr ymgeisydd mwyaf addas ac, yn dilyn ymarfer tendro, dyfarnwyd contract i Birmingham Archaeology. Roedd y cynllun rheoli’n ymwneud ag:
Fe fydd yr adroddiadau prosiect gorffenedig ar gael yn fuan i’w hastudio yng Nghanolfan Ddehongli Safle Dyffryn Rhydymwyn, ynghyd ag archifau eraill yn ddiweddarach. Mae YACP yn edrych ymlaen at weithio gyda’r carfanau eraill sydd â diddordeb i ddatblygu agweddau archeolegol a hanesyddol ymhellach ar Safle Dyffryn at ddibenion ymchwil ac addysg, er budd a mwynhad y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Safle Dyffryn Rhydymwyn yn www.rvsweb.org.uk.
The paint shop for 25lb shells (left), and the building used for the 'Tube Alloys' project (right), where research leading to the building of the first atomic bomb was undertaken. Copyright Birmingham Archaeology |