CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Prosiectau

The Walton Basin Project 2012 - 2014


Basn Walton, ffotograff 04-C-0195 © CPAT

Mae gwaith prosiect diweddar y mae Cadw wedii ariannu ym Masn Walton, fel rhan o fentrau Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol a Vici Milwrol Rhufeinig, a gyfunwyd chanlyniadau gwaith asesu cynharach gan yr Ymddiriedolaeth dan gyfarwyddyd Dr Alex Gibson a ariannwyd hefyd gan Cadw, yn parhau i ddwyn sylw at bwysigrwydd a chymhlethdod yr ardal hon o ddwyrain Sir Faesyfed, nad oes bron unrhyw le tebyg iddi unrhyw le arall ar Ynysoedd Prydain. Maer ardal yn crynhoi archaeoleg gororau Cymru a hyd yma rydym yn gwybod ei bod yn cynnwys tystiolaeth o weithgarwch yma mewn sawl cyfnod, or cyfnod l-rewlifol cynnar ymlaen.

Mae astudiaethau diweddar wedi canolbwyntio ar y casgliad o henebion cynhanesyddol o amgylch Hindwell ac Walton, y mwyafrif ohonynt yn dyddio or cyfnod Neolithig ac yn cynnwys rhai or safleoedd mwyaf ou math ym Mhrydain, er enghraifft cwrsws Hindwell a chlostir palis Hindwell. Mae pwysigrwydd yr ardal fel canolfan ymgyrchoedd milwrol Rhufeinig hefyd yn dod yn amlycach, ac fe barhaodd y llwybr trwyr basn i ganolbarth Cymru i fod ag arwyddocd strategol ymhell ir cyfnod canoloesol.

Olion cnydau a gofnodwyd ym 1996 yn dangos Beddrod II Fferm Hindwell gydag ymyl syth y gwersyll cyrch Rhufeinig ir dde, ffotograff 96-c-0057 © CPAT

Mae wedi bod yn amlwg ers cryn amser bod archaeoleg Basn Walton dan fygythiad i raddau amrywiol o aredig parhaus yn yr ardal amaethyddol hynod gynhyrchiol hon, a hefyd o ddatblygu yma ac acw; dyma ddau beth sydd wedi cael effaith wirioneddol ar yr adnodd archaeolegol. Prin iawn ywr safleoedd archaeoleg sydd ag unrhyw elfennau syn dal i fod ar eu sefyll, ac rydym yn gwybod amdanynt yn gyffredinol oherwydd tystiolaeth olion cnydau, syn golygu bod yna nifer o broblemau wedi codi ynglyn rheolir casgliad cenedlaethol bwysig hwn o henebion yn y dyfodol.

Maer astudiaeth bresennol felly wedii datblygu i fynd ir afael rhai or problemau hysbys ynglyn rheolir dirwedd archaeolegol helaeth a chymhleth hon. Yn ystod 2012-13, fe gwblhawyd cyfnod asesu cychwynnol a oedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer cyfnodau ymchwilio pellach, a chaiff rhai or rhain eu mabwysiadu ar gyfer yr ail gyfnod yn ystod 2013-14.

Cylch cerrig y Pedair Carreg ym 1996  ynys o dir heb ei drin mewn cae o datws, ffotograff CS96-29-0033 © CPAT

Manteisiodd yr asesiad cychwynnol yn llawn ar adnoddau digidol, fel awyrluniau fertigol a LiDAR, er mwyn cynhyrchu map manwl o safleoedd hysbys, yn ogystal ag archwilior microtopograffi ai berthynas lleoliad henebion a hefyd gweld pa mor agored ywr safleoedd hynny i niwed gan arferion amaethyddol.

Roedd astudiaeth flaenorol or defnydd tir yn y basn wedii chwblhau ym 1992 ac mae data newydd wediu hychwanegu gan ddefnyddio awyrluniau o 2006 a 2009, gan ddefnyddior canlyniadau i ddatblygu model rhagfynegi ar gyfer y risgiau posibl i archaeoleg yn sgil yr arferion amaethyddol sydd iw gweld.

Trwy waith yr Ymddiriedolaeth yn yr ardal hon dros yr ugain mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol yn lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd or archaeoleg. Cydnabu ers cryn amser ei bod yn hynod bwysig bod a wnelor gymuned threftadaeth eu hardal, o ran hybu synnwyr o berthyn a hefyd hybu ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb ehangach am yr archaeoleg, ac maer thema hon yn elfen allweddol or prosiect presennol.

Fe barhaodd y prosiect yn 2013-14, gan ymgymryd nifer o fentrau gwaith cloddio ar raddfa fach i gasglu set ddata ar sail methodoleg prosiect ACRE, a rhoi hyn ar brawf wrth ei gymhwyso dan amodau yn y maes. Maer prosiect hefyd wedi cryfhau mwy fyth y cysylltiadau r gymuned leol, gan roi cyfle i wirfoddolwyr gymryd rhan a chael gwell dealltwriaeth o dechnegau archaeolegol ar amrywiaeth o henebion ym Masn Walton.

Beddrod II Fferm Hindwell

Maer beddrod yn un or henebion cynhanesyddol prin syn dal i fod ar ei sefyll yn y basn, ac mae o fewn y clostir palis ar cwrsws Neolithig. Roedd y gwaith cloddion cynnwys un rhych a gloddiwyd pheiriant, yn mesur 25m wrth 3m ac yn estyn ir dwyrain o ganol y twmpath.

Cynllun deongliadol o Feddrod II Fferm Hindwell, wedii seilio ar dystiolaeth o arolwg geoffisegol, olion cnydau a gwaith cloddio

Gwnaeth y canlyniadau ddangos bod y prif dwmpath wedii adeiladu o dywyrch ai fod yn mesur 13.5m or gogledd ir dde wrth 12.5m or dwyrain ir gorllewin, gan orchuddio twll canolog tua 2m ar ei draws. Roedd arolwg geoffisegol wedi nodi cyfres o anomaleddau hirgul or blaen a oedd, maen debyg, yn gysylltiedig slot cul o amgylch y twmpath tywyrch, syn awgrymu y bu rhyw fath o ragfur yno, er nad oedd hyn yn hollol amlwg wrth archwilio arwyneb y twmpath yn unig.

Yn ddiweddarach, gwnaed y beddrod yn fwy pan gloddiwyd ffos 2.5m o led a thaflwyd y deunydd or ffos yn erbyn y twmpath tywyrch mewn cyfres o ddyddodion a drychwyd yn ddiweddarach gan aredig. Ar ei ffurf ddiweddarach, roedd diamedr allanol yr henebyn yn rhyw 33.5m i ymyl allanol y ffos, ac roedd y twmpath yn 28.5m ar ei draws. Roedd tystiolaeth olion cnydau yn enwedig wedi awgrymu ail ffos fewnol, diamedr o ryw 24m, er na wnaeth y gwaith cloddio gynhyrchu unrhyw dystiolaeth i gadarnhau hyn ac maen bosibl mai adlewyrchiad oedd yr olion cnydau o newidiadau yng nghyfansoddiad y beddrod. Mae canrifoedd o aredig wedi lleihau uchder y twmpath yn sylweddol, gan ledaenur deunydd ar draws y ffos i greu cloddwaith diamedr ymddangosol o ryw 41m.

Nododd yr arolwg geoffisegol gyfres o 12 neu 13 o ardaloedd llosgi, ac archwiliwyd un or rhain yn ystod y gwaith cloddio diweddar. Er nad oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ddyddio hyn, rhagdybiwyd bod yr ardaloedd yn cynrychioli ffyrnau maes Rhufeinig, yn l pob tebyg yn gysylltiedig r gwersyll cyrch mawr a oedd rhyw ychydig ir de-orllewin or beddrod.



Clostir Trapesoidaidd Hindwell

Arolwg geoffisegol ym 1998 a ddatgelodd y clostir trapesoidaidd yn union y tu allan ir clostir palis © CPAT

Roedd tystiolaeth olion cnydau ac arolwg geoffisegol wedi nodi clostir trapesoidaidd yn union ir gorllewin o Glostir Palis Neolithig mawr Hindwell. Ymchwiliwyd ir clostir trwy gyfrwng dau rych a gloddiwyd pheiriant, y naill ar draws ei ochr ogledd-ddwyreiniol, gan gynnwys rhan or clostir palis, ar llall ar draws ochr orllewinol y clostir.

Maer clostir yn mesur rhyw 35m ar ei draws, gydag un ffos yn ei ddiffinio a mynedfa bosibl ar yr ochr orllewinol. Gwnaeth y gwaith cloddio ddangos bod y ffos yn eithaf bach, yn mesur rhwng 1.2m a 1.5m o led a rhwng 0.48m a 0.65m o ddyfnder, er ei bod yn amlwg bod aredig wedii thrychu.

Rhagdybiwyd y gallair clostir fod yn gyfoesol r clostir palis Neolithig cyfagos, oherwydd y ffordd y mae ochr ogledd-orllewinol y clostir, i bob golwg, yn parchu llinell y palis. Er nad oedd unrhyw gysylltiad stratisgraffig rhwng y ddau henebyn, maer ffaith bod crochenwaith o ddiwedd Oes yr Haearn neur cyfnod Rhufeinig-Brydeinig wedii ddarganfod yn llenwadau isaf y ffos yn awgrymu bod y clostir yn dyddio o gyfnod sylweddol ddiweddarach. Mae lleoliadaur henebion, fodd bynnag, yn awgrymu ei bod yn eithaf posibl bod llinell y palis wedi bod iw gweld adeg adeiladur clostir trapesoidaidd ac mair bwriad oedd gosod y clostir y tu allan ir palis. Maer dystiolaeth ddyddio hefyd yn arwyddocaol wrth ystyried y berthynas bosibl rhwng y clostir ar gwersyll cyrch Rhufeinig mawr. Maer clostir iw gael o fewn y gwersyll, tuag at ei gornel ddeheuol, ac nid ywn afresymol tybio bod y clawdd ar ffos oi amgylch wediu difrodin fwriadol pan adeiladwyd y gwersyll, yn l pob tebyg yn ystod yr ymgyrchoedd cynnar i mewn i Gymru rhwng 48 OC a 60/61 OC.



Cwrsws Hindwell

Plot o dystiolaeth olion cnydau ar gyfer terfyniad Cwrsws Hindwell, yn dangos lleoliad gwaith cloddio 2013 © CPAT

Roedd gwaith ar derfyniad gogledd-ddwyrain Cwrsws Hindwell yn gyfle i gadarnhau lleoliad ffos y cwrsws a hefyd rhoir ddamcaniaeth ar brawf ei bod yn debygol bod pridd a oedd wedii aredig wedi cronni tuag at droed llethr, gan ddiogelu dyddodion archaeolegol claddedig yn well. Roedd canlyniadaur gwaith cloddio braidd yn annisgwyl, fodd bynnag, gan i ni ddarganfod bod y pridd a oedd wedii aredig yn fwy bas ger troed y llethr. Maen bosibl bod presenoldeb glaslain 5m o led ger y ffin gerllaw yn un rheswm am hyn, gan y gallai fod wedi effeithio ar ddyfnder yr aredig a nodwyd yn rhych B. Yn y ddau rych arall, gwelwyd bod yr uwchbridd yn rhyw 0.1m yn ddyfnach. Manteisiwyd ar y cyfle hefyd i ymchwilio i ail henebyn, a oedd yn hysbys trwy dystiolaeth olion cnydau yn unig ac y rhagdybiwyd ei fod yn ail gwrsws llai o lawer. Roedd y ddwy ffos yn gymharol fach, phroffiliau ar sip V, ac ni chynhyrchwyd unrhyw dystiolaeth iw dyddio. Fodd bynnag, mae maint a ffurf y ffosydd yn awgrymu eu bod, efallai, yn gysylltiedig chyfundrefn caeau a oedd yn dyddio o gyfnod cyn y ffiniau presennol, yn hytrach nau bod yn rhan o ail gwrsws.



Clostiroedd Palis Hindwell

Gwnaed gwaith cloddio ar raddfa fach ym mis Rhagfyr 2013 i ymchwilio ir berthynas rhwng dau glostir palis Neolithig a phalaeosianeli amlwg ir de o Fferm Hindwell.

Canfuwyd y clostir palis mawr yn Hindwell yn wreiddiol o dystiolaeth olion cnydau ym 1994 ac yna trwy waith rhagchwilio pellach or awyr mewn blynyddoedd wedi hynny. Gwnaed gwaith cloddio arbrofol ym 1995 a dilynodd rhaglen helaeth o arolwg geoffisegol ac arolwg tir manwl ym 1998. Dangosodd yr archwiliadau fod tyllau pyst a oedd yn rhyngdorrin diffinior clostir, a buasai pob un or tyllau hyn wedi dal postyn derw diamedr o ryw 0.8m. Roedd y pyst wediu golosgi ac roedd dyddiadau radiocarbon yn awgrymu dyddiad adeiladu o gwmpas 2700 CC. Roedd y palis yn amgu ardal o ryw 34ha, ar amcangyfrif oedd bod rhyw 1400 o goed derw aeddfed wediu defnyddio iw adeiladu. Hyd yma, dymar clostir Neolithig mwyaf ym Mhrydain.

Cynhyrchodd y gwaith cloddio yn 2013 ganlyniadau siomedig gan na fun bosibl penderfynu beth oedd y berthynas rhyngddo a phalaeosianel amlwg, oherwydd eu bod yn croestorri yn yr un man ffos Rufeinig fawr. Nodwyd hon yn ystod gwaith cloddio blaenorol yn 2011 ar gred yw ei bod yn ddiffinio atodiad ar ochr ddeheuol caer Rufeinig Hindwell. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, nid ywn afresymol rhagdybio bod y palis wedi dod i ben ar ymyl y palaeosianel, er nad ydym hyd yma wedi gallu cadarnhau ai cwrs afon gweithredol oedd hwn yn ystod y cyfnod Neolithig, ynteu tirffurf or cyfnod l-rewlifol ydoedd. Mae tystiolaeth o arolygon geoffisegol blaenorol yn dangos llinell y palis yn eglur, a hefyd y ffos Rufeinig ir gorllewin or sianel, ond y ffos Rufeinig yn unig syn ailymddangos ir dwyrain. Maer clostir yn cwmpasu Pwll Hindwell, i leoliad ar ffynnon naturiol syn llifo gydol y flwyddyn, sef ffynhonnell Nant Hindwell, ac mae ymgorfforir palaeosianel yn y gylchlin, o bosibl, yn atgyfnerthu mwy fyth y syniad o gysylltiad dwr, sef nodwedd sydd hefyd yn gyffredin i glostiroedd Neolithig eraill.

Gwaith cloddior clostir palis dwbl yn 2013, yn dangos pa mor agos ywr palis mewnol i gwrs presennol Nant Summergil, ffotograff 3745-0025 © CPAT

Gwnaeth geoffiseg ym 1998 a 2010, ynghyd thystiolaeth olion cnydau, nodi dwy set o ffosydd crom ir dwyrain o gaer Rufeinig Hindwell. Gellid olrhain cylchlin un ffos ddwbl o dan y gaer ac ymchwiliwyd i hyn ir de or gaer yn 2011. Gwnaeth y canlyniadau ddatgelu mai clostir palis dwbl Neolithig oedd hwn, wedii adeiladu o ddarnau pren derw yn agos at ei gilydd, tua 0.25m ar eu traws, wediu gosod mewn rhych sylfaen llydan. Mae siarcol o un or darnau pren wedii ddyddio i 28662574 cal. CC. Ymchwiliwyd ymhellach i hyn yn 2012, gan edrych ar adran rannol trwyr palis mewnol a hefyd cadarnhawyd lle roedd adran a oedd wedii chamlesu o Nant Hindwell wedi torri ar ei draws. Roedd yna dystiolaeth i awgrymu bod y pyst wediu llosgi yn y fan ar lle, a darparodd samplau o siarcol or pyst, a darn o asgwrn wedii losgi o dwll y postyn, bedwar dyddiad radiocarbon yn amrywio rhwng 2624 a 2297 cal. CC.

Maer gwaith cloddio diweddar wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth or clostir palis dwbl, gan estyn ei gylchlin fewnol o ryw 35m. Yn anad dim, fodd bynnag, rydym bellach yn gwybod bod y palis yn estyn ir de-orllewin o Nant Hindwell. Maer gwaith cloddio wedi dangos bod o leiaf rhan or gylchlin fewnol yn rhedeg yn gyfochrog Nant Summergil, ac maer ongl y maer ochr orllewinol yn dod i fyny at y cwrs dwr arnin awgrymu naill ai y bu newid sydyn mewn cyfeiriad, neu y cafodd y nant ei hymgorffori yn y cynllun.


Privacy and cookies