CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau
Download the project report

Clawdd Chwitffordd, Sir y Fflint


One of the best preserved sections of the Whitford Dyke, near Bryn Bella, photo 08-C-0223 © CPAT

Mae’r cloddwaith llinellol o’r enw Clawdd Chwitffordd wedi’i olrhain yma ac acw am ryw 9km, o’r pen gogleddol tybiedig i’r gorllewin o Drelawnyd (SJ 0834 7988) i’w ben pellaf i’r de (SJ 1531 7466) y tu hwnt i Gylch Pridd Treffynnon, sef heneb feingylchol gynhanesyddol. Mae mwyafrif yr adrannau sydd dal ar eu sefyll wedi’u rhestru oherwydd y tybiwyd yn wreiddiol eu bod yn rhan o Glawdd Offa, er na chredir hyn mwyach ac yr ystyrir mai cloddwaith ffin ar wahân yw’r heneb, neu glawdd byr yn perthyn i’r cyfnod canoloesol cynnar.

Mae nifer o adrannau’r clawdd wedi bod yn destun gwaith cloddio ar raddfa fach, gan Syr Cyril Fos i ddechrau yn ystod y 1920au, ac yna fel rhan o Brosiect Clawdd Offa yn ystod y 1970au a’r 1980au, ac yn fwy diweddar yn 2008-9 gan CPAT, wedi'i ariannu gan Cadw. Nid oedd unrhyw rai o’r adrannau a gloddiwyd yn flaenorol wedi cynhyrchu unrhyw dystiolaeth ddyddio, felly cynhaliodd CPAT raglen bellach o waith ymchwilio yn ystod 2012, eto wedi’i hariannu gan Cadw.

Y bwriad gwreiddiol yn ystod gwaith cloddio 2009 oedd ailagor un o rychau Fox i’r gogledd o’r Cylch Pridd, er y bu’n anodd lleoli hwn ac archwiliwyd adran newydd yn yr un ardal yn lle. Cofnododd Fox anawsterau sylweddol wrth ddynodi ymylon y ddwy ffos, a daeth y gwaith cloddio diweddar ar draws broblemau tebyg, oherwydd natur amrywiol y rhewglai sy’n gorwedd ar ben y creigwely calchfaen yn yr ardal hon. Roedd yn arbennig o anodd pennu’r ffos orllewinol er, ar ôl ei chloddio, roedd yn ymddangos ei bod oddeutu 4.2m o led a hyd at 0.75m o ddyfnder. Roedd y ffos ddwyreiniol wedi’i diffinio’n well ac roedd yn mesur 3.7m o led a hyd at 0.55m o ddyfnder.

The 2009 excavation viewed from the west, photo 2791-0033 © CPAT

Ym mis Hydref 2012, cloddiwyd un rhych, 25m o hyd ac 1.5m o led, ar draws y cloddwaith ym mhen deheuol y cae yn union i’r gogledd o Dŷ Griana (SJ 1526 7491) a 300m i’r de o’r Cylch Pridd. Ni chynhyrchodd hyn unrhyw dystiolaeth o glawdd a oedd wedi goroesi, er ei bod yn bosibl y bu hwn hyd at 8m o led yn wreiddiol, ond dangoswyd bod y ffosydd rhwng 4.9m a 5.7m o led a hyd at 0.7m o ddyfnder. Yn annisgwyl ddigon, pennwyd dyddiad radiocarbon o 1665-1950 OC i samplau o lenwadau isaf y ffos ddwyreiniol, mae’n debyg yn nodi cryn dipyn o aflonyddu gan weithgarwch diweddarach, o bosibl yn gysylltiedig â chwarelu gerllaw, sef rhywbeth a oedd yn fwy amlwg yn yr adran trwy’r ffos orllewinol ac a awgrymwyd hefyd gan weddillion planhigion golosgedig cyfyngedig eu hamrywiaeth. Perthynas y cloddwaith â’r dirwedd clostiroedd diweddar y mae’n rhedeg trwyddi yw’r unig beth sy’n awgrymu y gellid dod i’r casgliad ei fod yn deillio o gyfnod cynharach. Mae’n amlwg ei fod yn dyddio o ddyddiad cyn y ffyrdd presennol a’r rhaniadau tir sy’n dyddio, mae’n debyg, o ddiwedd y 18fed ganrif (tir comin heb ei amgáu oedd yr ardal yn flaenorol) ac mae hefyd yn dyddio o ddyddiad cyn Cae Rasio Treffynnon o’r 18fed ganrif.

Ym mhen gogledd-orllewinol yr heneb, fe gloddiwyd rhych ar draws y cloddwaith ger Fferm Gop (SJ 0840 7980) ym mis Rhagfyr 2012, i ymchwilio i adran sydd wedi bod yn amheus ers cryn amser. Dangosodd y canlyniadau, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, y gellir diystyru’r hyn a oedd, fel y tybiwyd o’r blaen, yn ben gogleddol y clawdd gan mai trac ydyw, â’i arglawdd cysylltiedig. Mae hyn hefyd yn golygu bod yn rhaid ailystyried yr adrannau eraill ym mhentref Trelawnyd, lle awgrymwyd bod arglawdd isel ar ochr ogleddol yr A5151 yn barhad o’r clawdd, a dyna sydd wedi’i restru.

I’r gogledd o Gylch Pridd Treffynnon, ac i’r de o’r A55, archwiliodd arolwg magnetomedr ardal y tybiwyd bod y clawdd yn mynd trwyddi, ond nad oedd unrhyw gloddweithiau’n goroesi na thystiolaeth olion cnydau’n bodoli ynddi. Methodd y canlyniadau â nodi unrhyw nodweddion posibl yn gysylltiedig â’r clawdd, er bod yna anomaleddau eraill yn bresennol, gan awgrymu y bu bwlch yn yr heneb y fan hon erioed.

Excavations in 2012 near Ty Griana, photo 3351-0033 © CPAT

Fel nodwedd ffin, mae’r cloddwaith yn rhedeg fwy neu lai ar hyd cefnen llwyfandir Sir y Fflint, gan rannu cefnwlad aber afon Dyfrdwy oddi wrth Ddyffryn Clwyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yr heneb gyfan yn dyddio o’r un cyfnod. Mae’r gwaith cloddio cyfyngedig sydd wedi’i wneud hyd yma wedi dangos amrywiaeth sylweddol o ran dimensiynau a chyflwr y clawdd, efallai’n awgrymu na chafodd y cyfan ei adeiladu ar yr un pryd. Er enghraifft, mae yna wahaniaeth sylweddol rhwng maint a gwahaniad y ffosydd ger Brynbella a dimensiynau’r adran yn agos at Gylch Pridd Treffynnon. Gellid dadlau, felly, nad yw’r cysylltiad rhwng tair brif adran y clawdd fel a gynigir yma wedi’i gadarnhau yn bendant. Yn ôl barn Hill a Worthington, dim ond y cloddweithiau mwy trawiadol y naill ochr i Frynbella sy’n rhan o Glawdd Chwitffordd, er ei bod yn sicr bod ffurf y cloddwaith sy’n gyfagos at Gylch Pridd Treffynnon yn debyg, gydag arglawdd canolog a ffosydd o bobtu iddo, ac efallai nad cyd-ddigwyddiad mo hyn. Tuag at Drelawnyd, fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen mwy o waith i gadarnhau ffurf y cloddwaith ac, yn benodol, cadarnhau yn bendant a oes unrhyw ffosydd cysylltiedig ai peidio.

Bwriedir gwneud mwy o waith cloddio yn 2013 i ymchwilio i adran restredig o gloddwaith ar ei sefyll i’r de-ddwyrain o Drelawnyd.

I gael gwybod mwy am waith diweddar CPAT ar Glawdd Chwitffordd, gallwch chi lawrlwytho copi o’r adroddiad trwy ddilyn y ddolen hon i CPAT Report 1182


Preifatrwydd a chwcis