CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Clostir Neolithig Womaston


Cyflwyniad

air photo

Awyrlun a dynnwyd yn 2006, yn dangos y clostir fel olion cnydau mewn cae o gnydau grawn a oedd yn aeddfedu
© Y Goron, Llun CBHC 2006-2198

O ganlyniad i ddarganfod clostir pwysig ‘â sarn’ o’r cyfnod Neolithig cynnar, cynhaliodd CPAT raglen arolwg geoffisegol a gwaith cloddio arbrofol yn ystod yr haf, 2008, â chymorth ariannol oddi wrth Cadw.

Daeth y clostir, sy’n agos at Womaston ym Masn Walton, i’r amlwg gyntaf o ganlyniad i waith rhagchwilio o’r awyr gan Chris Musson yn 2006. Roedd ffotograffau a dynnwyd ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno’n dangos yn eglur cylchlin dwy ffos fylchog fwy neu lai'n gonsentrig, i’w gweld fel olion cnydau mewn cae o gnydau grawn a oedd yn aeddfedu. Er nad oedd y clostir ei hun wedi’i gofnodi o’r blaen, mae nifer o arteffactau fflint wedi’u darganfod yn yr ardal gyffredinol.

Cydnabuwyd ers tro bod Basn Walton yn ardal hynod arwyddocaol o ran y crynodiad o henebion cynhanesyddol a’u hamrywiaeth. Fflintiau Mesolithig gwasgaredig yw’r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch, ac mae’r rhain wedi’u cofnodi mewn rhyw 16 o leoliadau yn yr ardal, yn bennaf ar hyd crib isel. Mae fflintiau o’r cyfnod Neolithig wedi’u dosbarthu mewn modd tebyg; cyfnod oedd hwn pan welwyd yr henebion cyntaf, a mwyaf mawreddog, yn cael eu codi, ac mae’n debygol mai’r clostir ‘â sarn’ yw’r cynharaf o’r rhain, o bosibl yn dyddio o tua 3500 CC

geophysics

Ar y chwith: Canlyniadau arolwg geoffisegol a thystiolaeth olion cnydau.

Er mai’r clostir ‘â sarn’ yw’r heneb arwyddocaol gyntaf i’w hadeiladu yn yr ardal o bosibl, y clostir palis mawr iawn yn Hindwell, 400m yn unig ymhellach i’r gorllewin, fyddai’r heneb fwyaf trawiadol ym Masn Walton. Â physt wedi’u gosod yn agos i ddiffinio’r clostir, roedd y palis yn amgáu ardal o rwy 34ha, gan ddefnyddio rhyw 1400 o goed derw aeddfed wrth ei adeiladu, sydd wedi’u dyddio i tua 2700 CC. Hyd yma, dyma’r clostir Neolithig mwyaf ym Mhrydain. Gorwedda safle tebyg, er llai, ymhellach i’r de, ger Walton, sy’n gysylltiedig o bosibl â rhodfa o dyllau. Cwrsws Walton yw’r heneb Neolithig arall o bwys yn yr ardal hon, yn gorwedd i’r de-ddwyrain o Hindwell. Mae’r cwrsws yn 660m o hyd ac yn 60m o led, gyda therfyniadau sgwâr y naill ben a’r llall.

Mae henebion ar raddfa lai o lawer yn cynrychioli gweithgarwch yr Oes Efydd yn yr ardal, gan gynnwys nifer o feddrodau crynion yn bennaf, neu eu gweddillion ar ffurf ffosydd cylch o ganlyniad i aredig. Mae’n ymddangos bod nifer o feddrodau wedi’u gosod yn bwrpasol ar hyd y gorwel ar ymyl ogledd-orllewinol y basn. Hefyd, mae yna un cylch cerrig, o’r enw addas ‘Pedair Carreg’, yn ogystal â nifer o feini hirion.

Felly gellir ystyried bod y clostir sydd wedi’i ddarganfod yn Womaston yn ddiweddar yn rhan o dirwedd gynhanesyddol ehangach o lawer.

Arolwg a gwaith cloddio 2008

Ditch terminal: &copyCPAT photo 2627-126

Ar y dde: Yn cloddio terfyniad ffos ar y gylchlin fewnol. © CPAT, llun 2627-126

Fel rhan o’r prosiect presennol, cynhaliwyd arolwg magnetomedr mewn dau gae pori yn ystod mis Mai 2008, mewn ymdrech i nodi gweddill y clostir nad oedd olion cnydau wedi’i ddangos. Yn anffodus, nid oedd canlyniadau’r arolwg mor eglur yn y cae gorllewinol ag roeddem wedi gobeithio, er y darganfuwyd digon o wybodaeth i gadarnhau llinell y ffosydd. Yn y cae gogledd-ddwyreiniol, fodd bynnag, roedd yr arolwg yn fwy llwyddiannus, gan nodi cylchlinau dwy ffos fylchog, yn ogystal â nodweddion eraill, fel ffiniau caeau diweddarach.

Ar ôl y geoffiseg, a single trench was excavated, cloddiwyd un rhych a leolwyd i gynnwys y ddwy ffos ac ardal y tu mewn, ynghyd ag estyniad bach i archwilio un o derfyniadau’r ffosydd.

Defnyddiwyd peiriant i dynnu’r uwchbridd, a oedd yn fas iawn, gan ddatgelu lleoliad y ddwy ffos, a oedd wedi’u torri i mewn i’r gro gwaelodol, ar unwaith. Cloddiwyd adrannau’r ffosydd yn ofalus dros gyfnod o fwy na thair wythnos, gan ddatgelu dwy nodwedd drawiadol ymhen amser: roedd y ffos fewnol yn mesur tua 2.5m o led a hyd at 1.7m o ddyfnder, ac roedd yr un allanol yn mesur tua 2.8m o led ac 1.5m o ddyfnder. Roedd yna dystiolaeth yn y ddwy ffos o aildorri bas, diweddarach, a darganfuwyd crochenwaith o’r cyfnod Neolithig Cynnar yn y llenwadau uchaf.

Enclosure ditches. © CPAT photo 2627-103

Ar y chwith: Ffosydd y clostir. © CPAT, llun 2627-103

Mae dadansoddi samplau pridd o nifer o gyd-destunau allweddol wedi darparu cyfres o ddyddiadau radiocarbon. Cynhyrchodd siarcol o waelod y ffos fewnol ddyddiad o 3658﷓3384 cal. CC, a chynhyrchodd aildoriad diweddarach y ffos ddyddiad o 3625-3360 cal. CC. Yn anffodus, nid oedd unrhyw ddeunydd yr oedd modd ei ddyddio o lenwadau isaf y ffos allanol, er bod siarcol o nodwedd ddiweddarach a dorrwyd i mewn i ben y ffos wedi’i ddyddio i 3621-3342 cal. CC. O ystyried hyn fel grŵp, awgrymir cyfnod o weithgarwch eithaf dwys rhwng tua 3650 a 3350 CC, pan gloddiwyd y ddwy ffos, eu mewnlenwi ac, yn achos y ffos fewnol, ei haildorri. Mae hyn yn cadarnhau tarddiad Neolithig y safle, er bod tystiolaeth a ddaeth o bwll bach y tu mewn yn awgrymu cyfnod posibl o’i ailddefnyddio yn ystod yr Oes Haearn. Roedd y llenwad yn cynnwys nifer o hadau chwyn a grawn nad oedd mewn cyflwr da, yn ogystal â siarcol cyll a gynhyrchodd ddyddiad o 750-390 cal. CC.

Caiff canlyniadau llawn y gwaith cloddio eu cyhoeddi yn Archaeologia Cambrensis.


Preifatrwydd a chwcis