CPAT logo
Cymraeg / English
Adref eto
Mynegai prosiectau

CPAT Recent Project Work


Prosiect CPAT
13eg Grn Clwb Golff Llanymynech

O ganlyniad i'r cynlluniau i ail-ddatblygu'r 13eg grn yng Nghlwb Golff Llanymynech cynhaliwyd asesiad archaeolegol yn ystod Hydref 1999. Roedd y safle perthnasol yn agos i ymyl gorllewinol Bryngaer Llanymynech (SJ26092194). Er mwyn cyflawni'r asesiad cloddiwyd ffos sip-T o fewn y grn bresennol. Amlygodd y cloddiad nifer o nodweddion arwyddocaol gan gynnwys rhan o safle cwt crwn, yn cynnwys rhigol ddraenio grom hyd at 13m mewn diamedr, gwelwyd tri thwll yn y rhigol a allai fod yn dyllau pyst ar gyfer prif goed yr adeiladwaith. Gwelwyd cryn dystiolaeth o safle cynhanesyddol i weithio metel hefyd, gyda darnau o leinin ffwrnais a rhan o giwbicl, ynghyd gweddillion metelegol, sy'n dangos bod gwaith aloi copr yn rhywle'n y cyffiniau agos. Dim ond trwy ddadansoddiad arbenigol y gellir penderfynu ar bwysigrwydd y dyddodion hyn, er eu bod yn amlwg yn ychwanegu ymhellach at y dystiolaeth am waith metel o fewn y fryngaer o'r 4edd ganrif CC i'r ganrif 1af OC a ganfuwyd ym 1981. Roedd yr arteffactau eraill yn cynnwys 16 fflint a adfeddwyd o wyneb yr isbridd naturiol ac o gynnwys y rhigol ddraenio, carreg uchaf o freuan gyfrwy a nifer o esgyrn anifeiliaid. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 842
Ariannwyd gan Glwb Golff Llanymynech ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Abercynafon, Talybont-ar-Wysg, Brycheiniog

CS95/35/13

Yn ddiweddar cyflwynwyd yr adroddiad drafft terfynol ar y cloddiad a'r dadansoddiad palaeoamgylchedd yn Abercynafon i Cadw ac i olygydd Trafodion y Gymdeithas Gynhanesyddol roceedings of the Prehistoric Society. Rhagwelir y bydd adroddiad byr ar wahn ynglyn 'r 'cwpanau' plwm/tun o'r safle'n cael ei gyflwyno i Cadw ac i olygydd Britannia cyn bo hir. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 590
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1999/00
diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Abercynafon

Cwblhawyd dau adroddiad i'w cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ariannol, fel a ragfynegwyd yn y cynllun ymchwil yn dilyn y cloddio. Cwblhawyd adroddiad byr a ysgrifennwyd gan Dr Hilary Cool a Dr Peter Northover ar y ddau ddysgl biwter ac fe'i hanfonwyd i'w gyhoeddi at Britannia. Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi yn dilyn ychydig o waith golygu. Cynhyrchwyd adroddiad ar y strwythurau a dyddodion pren Neolithig, a ysgrifennwyd gan Dr Caroline Earwood, David Thomas ac Astrid Caseldine ac fe'i hanfonwyd gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn . Yn ystod y flwyddyn gwnaed gwaith golygu cyffredinol, cwblhawyd y lluniau a chynhwyswyd adroddiadau arbenigol ar olion planhigion, olion trychfilod a dendrocronoleg, a golygwyd yr adroddiad olaf hwn gan Nigel Nayling ar gyfer cyhoeddi.

CPAT logo

Prosiect CPAT 590
Ariannwyd gan Cadw ym 2000/01
diweddarwyd Ebrill 2001


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Aneddiadau Caeedig Bychain yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru

Amlygodd adroddiad gan John Manley a gyhoeddwyd yn Archaeologia Cambrensis ym 1990 bwysigrwydd posibl grwp o aneddiadau caeedig bychain sydd heb eu dyddio i'n dealltwriaeth ni o aneddiadau gwledig yn yr ardal hon yn ystod blynyddoedd olaf y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod hanesyddol cynnar. Mae'r prosiect presennol yn dilyn arolwg cyflym o gaeadleoedd bychain o fewn yr hen sir Clwyd gynt, a gynhaliwyd gan CPAT yn ystod 1993/4 (Frost 1995). Ynddo canfuwyd dros 80 o safleoedd lle argymhellwyd gwneud rhagor o waith i wella'r Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR), a gwnaed argymhellion amodol hefyd ar gyfer cofrestru nifer o safleoedd.

Mae'r gwaith cyfredol wedi canolbwyntio ar y safleoedd hynny yr argymhellwyd eu cofrestru, gyda'r amcanion o wella ein dealltwriaeth o'r safleoedd hynny, dadansoddi'r gwahanol deipiau morffolegol a gwella diogelwch a rheolaeth..

Yn dilyn y gwaith blaenorol, ailaseswyd y safleoedd a argymhellwyd ar gyfer cofrestru, a hynny'n gyntaf ar sail gwybodaeth a gafwyd o'r SMR. O ganlyniad i hyn cafwyd rhestr ddiwygiedig o safleoedd a argymhellwyd ar gyfer cofrestru ac roedd angen archwilio'r rhan fwyaf ohonynt ymhellach ar ffurf gwelliant ffotograffiaeth awyr neu arolwg o'r llawr. Mewn dau achos, y farn oedd bod cofnod yr Arolwg Ordnans yn ddigon at ddibenion cofrestru.

Yn achos y safleoedd hynny lle roedd ffotograffiaeth awyr yn cynnig y cofnod gorau, cafwyd plot cywiriedig trwy ddefnyddio AutoCAD12, seiliedig ar y map Arolwg Ordnans (OS) gyda'r raddfa fwyaf sydd ar gael neu, lle bo'n bosibl, ar ddata OS digidol. Yna trowyd y plotiau a gafwyd yn dablau Mapinfo i'w cynnwys yn yr SMR. Mewn achosion lle roedd modd cywiro mwy nag un ffotograff o safle penodol, cafwyd y plot terfynol trwy ddefnyddio'r ffit gorau rhwng y gwahanol ffynonellau.

Ailymwelwyd phob safle i gyfannu'r cywiriad ffotograffiaeth awyr ac i gofnodi'r cyflwr a'r defnydd o'r tir. Lle bu'n bosibl, casglwyd gwybodaeth hefyd ynghylch perchnogaeth y tir er mwyn cynorthwyo gyda'r cofrestru. Defnyddiwyd y wybodaeth a gafwyd o'r ymweliadau 'r safleoedd i wella'r SMR ymhellach.

Roedd angen cynnal arolwg llawr manwl yn achos pedwar safle lle nad oedd cofnod addas o ffotograffiaeth awyr ar gael ac nad oeddent wedi eu cofnodi gan yr OS. Cynhaliwyd yr arolygon yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 1998 gan ddefnyddio technegau arolwg cyflawn o'r safle. Cysylltwyd pob arolwg phwyntiau y gellid eu canfod ar fapiau OS modern, ond nid ag Ordnance Datum oherwydd eu lleoliad diarffordd. Gwellwyd eto y data digidol a gafwyd o ganlyniad i hyn a'i gywiro i'r grid OS trwy ddefnyddio AutoCAD13 cyn ei droi'n dablau Mapinfo ar gyfer plotio a gwella'r SMR.

Amlygodd yr arolwg cyflym blaenorol nifer o safleoedd lle roedd angen gwaith pellach, cwblhawyd peth ohono fel rhan o'r prosiect cyfredol. Fodd bynnag, un o'r argymhellion allweddol oedd cyflawni ffotograffiaeth awyr pellach ar nifer o safleoedd lle teimlwyd bod y cofnod cyfredol yn annigonol, hyd yn hyn ni chynhaliwyd gwaith pellach. Cafodd nifer o safleoedd eu hepgor o'r argymhellion presennol i gofrestru oherwydd diffyg gwybodaeth naill ai o ran eu diffinio neu i'w lleoli'n gywir, hyderwn y bydd ffotograffiaeth awyr yn y dyfodol yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol. (Mynegai prosiectau eto)

Ffynonellau

Frost., P., 1995. Clwyd Small Enclosures Rapid Survey, Adroddiad CPAT 127.
Manley, J., 1990. A Preliminary Survey of Some Undated Small Settlements in North-east Wales, Archaeologia Cambrensis 139, 21-55.

CPAT logo

Prosiect CPAT 509
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd: Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed

House

Archwiliwyd detholiad o safleoedd gwledig anghyfannedd Sir Faesyfed am y tro cyntaf ym 1996/97, ym mlwyddyn gyntaf y prosiect Cymru gyfan a ariannwyd gan Cadw. Yn ystod y flwyddyn honno ymwelwyd 226 o safleoedd, tua 66% o gyfanswm y safleoedd hysbys. Yn dilyn asesiad tebyg yn Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ym 1997/8, dychwelodd yr Ymddiriedolaeth i Sir Faesyfed ym 1998/99 er mwyn cwblhau'r archwiliad o henebion maes perthnasol y sir honno.

Roedd cyfanswm yr ymweliadau maes a gwblhawyd ym mis Ionawr 1999 yn 161, ystyriwyd bod 105 ohonynt yn cyfarfod 'r meini prawf a fabwysiadwyd ar gyfer yr astudiaeth o Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd, ac roedd y rhain yn cynnwys nifer o safleoedd newydd a ganfuwyd ar Allt Aberedw ac ar rai o'r tiroedd comin cyfagos yn ystod gwaith archwilio ar set o ffotograffau awyr yr RAF a dynnwyd ym 1946/47. Aseswyd mai 291 oedd cyfanswm safleoedd Sir Faesyfed.

Roedd y dadansoddiad dilynol yn cynnwys archwilio lleoliad holl safleoedd Sir Faesyfed trwy eu huchder, gorweddiad, llethr, wynebwedd a gosodiad topograffig lleol. Archwiliwyd morffoleg y safle ac enwyd hyd at 15 math o safleoedd, rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu gwella trwy waith pellach mewn ardaloedd cyfagos. Paratowyd tair astudiaeth achos ar y canlynol: safleoedd llwyfan dyffryn Glascwm; dirywiad cofnodedig y tiroedd comin a gymerodd Aberedw a thiroedd comin cydgyffyrddol fel enghraifft a chan ddefnyddio'r mapiau cynnar sydd ar gael a rhai ffynonellau dogfennol, mapiwyd lleihad y tir anamgaeedig wrth i ffriddoedd gael eu gosod o gwmpas yr ymylon; a safle cofrestredig Beili Bedw, y grwp anheddiad mwyaf yn Sir Faesyfed a'r unig un i gael ei gloddio, er hynny'n fan lle mae'r cynlluniau presennol yn annigonol ac mae asesiad newydd o ddatblygiad yr anheddiad yn ymarferol ar sail tystiolaeth yr wyneb. Mae Sir Faesyfed yn fan hynod o ddiddorol o ran anheddiad gwledig anghyfannedd oherwydd nifer uchel y safleoedd llwyfan sydd wedi goroesi, ar ymyl tiroedd comin yn fynych, a chychwyn amaethu ar dir uchel.

Enwodd arolwg cyntaf Sir Faesyfed naw safle neu grwpiau o safleoedd i'w diogelu'n statudol, ac ychwanegodd yr astudiaeth bresennol ddeunaw o safleoedd unigol a phum grwp o safleoedd at y rhestr i'w hystyried gan Cadw, gan gynnwys nifer o enghreifftiau ar Allt Aberedw sy'n llunio cyfuniad sylweddol o safleoedd gwasgaredig. Bu tri o'r rhai a enwyd yn atebol i arolwg EDM manwl, ac o ran y pedwerydd safle yn Neuadd Ford ar y Begwns medrom gysylltu i'r grid cenedlaethol arolwg llaw o anheddiad cnewyllol a wnaed ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyflwynwyd adroddiad llawn ar y gwaith yn Sir Faesyfed i Cadw ym mis Chwefror 1999.

Rhagwelwyd hefyd y gellid archwilio llawer o ogledd Sir Frycheiniog yn ystod y flwyddyn, ond problem fawr nas rhagwelwyd yn ystod y gwaith rhagarweiniol ar y rhan hon o'r prosiect oedd y nifer uchel o safleoedd perthnasol posibl a ganfuwyd gan raglen fapio awyr RCAHMW o feysydd tanio'r fyddin ar Fynydd Eppynt yn ystod 1996/97. Pan ddaeth graddfa'r data newydd yn glir, roedd yn rhaid addasu lefel gyffredinol y gwaith maes yng ngogledd Sir Frycheiniog, ac o ganlyniad mae'r asesiad o aneddiadau gwledig anghyfannedd Sir Frycheiniog yn parhau'n ei gyfnodau cynnar ac fe'i cwblheir yn ystod blwyddyn ariannol 1999/2000. Ar amser ysgrifennu hwn roedd 57 o ymweliadau safle wedi'u cwblhau a phrofodd 35 o safleoedd Sir Frycheiniog yn berthnasol i'r arolwg. Cyflwynodd yr awdur bapur ar aneddiadau gwledig anghyfannedd canolbarth Cymru yn y ym mis Gorffennaf 1998, ac mae papurau tair o'r ymddiriedolaethau mewn cyfrol ar aneddiadau gwledig canoloesol neu'n ddiweddarach yng nghyfres y British Archaeological Reports yn ail hanner 1999. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 658
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd

House

Y nod eleni, ym mhedwaredd flwyddyn y prosiect, oedd cwblhau'r arolwg o Frycheiniog a gychwynnwyd yn ystod chwarter olaf 1998/99. Roedd gan yr hen sir lawer mwy o safleoedd perthnasol nag unrhyw ardal arall o dan ofal yr Ymddiriedolaeth, llawer ohonynt mewn ardaloedd ucheldirol cymharol anghysbell. Gwelwyd mai rhaglenni gwaith maes blaenorol oedd i gyfrif am y nifer uchel o safleoedd: gan RCAHMW yn y Bannau gorllewinol, ardal a adwaenid ar gyhoeddiad fel y Mynydd Du a Fforest Fawr, gan y Comisiwn Brenhinol hefyd yn ei baratoadau ar gyfer ei Brecknock Inventory, a thrwy ei raglen fapio awyr ar Fynydd Epynt; gan Robin Skeates a'i dm ar diroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Mannau Brycheiniog i'r dwyrain o'r A470(T) i ddechrau, a hefyd ar Gomin Abergwesyn ger cronfeydd dwr Dyffryn Elan yng ngogledd y sir; a chan yr Ymddiriedolaeth ei hun yn Nyffryn Elan ym 1994 ac ar y cyd Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y Mynydd Du ym 1997 a 1998.

O ystyried yr amser a'r adnoddau oedd ar gael roedd yn amlwg nad oedd ymweld 'r holl safleoedd yn bosibl ac felly penderfynwyd ar ddechrau'r prosiect na ddylid ymweld 'r safleoedd hynny a gofnodwyd yn ddigonol gan y Comisiwn Brenhinol ym Mannau Brycheiniog na'r rhai hynny a archwiliwyd eisoes gan yr Ymddiriedolaeth yn Nyffryn Elan. Ychwanegwyd gwybodaeth berthnasol at ddata-bas y safle o'r cofnodion presennol.

Mae'r data-bas cyfredol ar gyfer Brycheiniog yn cynnwys 432 cofnod safle pendant, nifer cyffredinol a dueddodd i godi a gostwng yn ystod y flwyddyn ond yn gyffredinol cynyddodd wrth i safleoedd DRS newydd gael eu henwi neu wrth i rai hysbys gael eu torri lawr i'w helfennau cyfansoddiadol ar ymweliad maes. Ymwelwyd 367 o safleoedd yn ychwanegol at y 72 a gyflawnwyd yn y flwyddyn gynt, ond dilwyd nifer arwyddocaol o safleoedd o'r bas-data, llawer ohonynt o gofnodion cynnar yn y SMR, oherwydd nad oeddent yn berthnasol i'r astudiaeth bresennol.

Roedd y cofnod a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith maes ar gyfer y safleoedd hysbys bron yn ddieithriad yn gwella ar y cofnod a oedd yn bodoli, yn ogystal hyn enwyd nifer o safleoedd llwyfan a chytiau hirion newydd. Dyna sut yr oedd yn achos rhai o ddyffrynnoedd y Bannau a hefyd ar Fynydd Epynt lle na chyflawnwyd llawer o waith maes blaenorol, yn enwedig yng nghanol y bloc o rostir lle mae tanio byw fel rheol yn rhwystro mynediad. Er enghraifft, ar ochr ogleddol y maes tanio yn nyffryn Blaen Duhonw (SN 9746) nodwyd tri safle o ffotograffiaeth awyr; canfuwyd chwech pellach yn ystod gwaith maes ac mae mwy na hanner y dyffryn eto i'w archwilio. Oherwydd bod y Fyddin yn defnyddio Mynydd Epynt ers yr Ail Ryfel Byd, yn gyffredinol mae lefel cadwraeth y safle yn arbennig o dda ac argymhellir y dylai nifer o safleoedd yr ardal hon gael eu diogelu'n statudol. Hyd yn oed yn Nyffrynnoedd Elan ac ar Gomin Abergwesyn enwyd 50 o'r 103 safle am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn.

Yn groes i'n dyheadau, ni chwblhawyd y gwaith ym Mrycheiniog erbyn diwedd y flwyddyn. Archwiliwyd pob un o'r safleoedd a dargedwyd ar gyfer ymweliad yn ardal Dyffryn Elan /Comin Abergwesyn ac yn hanner gorllewinol Bannau Brycheiniog, yn ogystal 'r safleoedd hysbys ar Fynydd Epynt i gyd bron. Ymwelir 'r safleoedd ar y Mynydd Du, Mynydd Llangatwg a Mynydd Llangynidr yn ystod 2000/01.

At hyn, ac mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd mewn amryw o gyfarfodydd prosiect rhyng-Ymddiriedolaeth, sef bod sylw'n cael ei ganolbwyntio ar safleoedd yr aneddiadau a oedd wedi eu cadw orau a'r rhai mwyaf adnabyddus yn yr ucheldir, awgrymodd Cadw efallai y gellid cynnal arolwg cyflym ar floc o iseldir amaethyddol er mwyn sefydlu a oedd nifer sylweddol o safleoedd anheddiad yn parhau heb eu nodi yn y fath amgylchedd. Cafwyd canlyniadau da i arolwg o'r fath yng Ngwynedd y flwyddyn gynt ac argymhellwyd y dylid cynnal arolwg tebyg ym Mhowys. O restr fer, am resymau amrywiol, dewiswyd y bloc o dir amaeth i'r gogledd o bentref Aberedw ym Maesyfed ar gyfer arolwg cyflym. Yn gyntaf, dangosodd gwaith maes cynharach ar y tiroedd comin agored o gwmpas y pentref bod nifer o safleoedd aneddiadau anghyfannedd yn agos i'r ffin rhwng y mynydd dir agored a'r tir amaeth caeedig oddi tano. Yn ail, roedd grwp o brydlesi diddorol o ddiwedd y 17eg ganrif yn cyfeirio at fewnlif o'r gwastraff, gobeithiwyd y gellid ei gysylltu gyda gweddillion caeau. Yn codi o'r pwyntiau hyn roedd y posibilrwydd petai'r arolwg sydyn yn dangos safleoedd aneddiadau anghyfannedd pellach, y gellid cyfuno'r holl dystiolaeth i hyrwyddo ein dealltwriaeth gyffredinol ynghylch anheddiad a ddatblygwyd ac a adawyd mewn un ardal benodol. Yn drydydd, oherwydd topograffeg naturiol y plwyf gobeithiwyd y byddai safleoedd yr aneddiadau anghyfannedd yn amlygu eu hunain fel llwyfannau.

Diffiniwyd ardal yr arolwg gan yr Edw i'r de a'r Gwy i'r gorllewin, sef ardal o ychydig fwy na 8 cilomedr sgwr. Yn gyffredinol roedd canlyniadau'r arolwg yn foddhaol, yn wir, efallai eu bod ychydig yn fwy addysgiadol nag a ragwelwyd. Cofnodwyd cyfanswm o 39 o safleoedd newydd sy'n berthnasol i raglen aneddiadau anghyfannedd gwledig ac mae hyn wedi cywiro'r darlun gyda'r cydbwysedd rhwng y safleoedd ar dir comin agored a'r rhai ar dir amaeth yn newid yn sylfaenol. Daethpwyd ar draws nodweddion archaeolegol eraill hefyd gan gynnwys ffrydiau, ceuffyrdd, chwareli, ffermydd anghyfannedd 18fed a 19eg ganrif, bythynnod ac ysguboriau, un darn o gefnau amaethu, argae, clawdd crwn ar esgair a allai fod o'r cyfnod cynhanesyddol neu fe allai fod yn safle coelcerth, safle cyn orsaf reilffordd a gweddillion pont. .

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i'r tirfeddianwyr niferus ac amaethwyr Brycheiniog ac ardal Aberedw o Sir Faesyfed a ganiataodd i ni fynd ar eu tir yn ystod ein harolygon. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 658
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect a ariannwyd gan Cadw:Welsh Historic Monuments

CPAT Project
Aneddiadau Gwledig Gadawedig House

Yn ystod y flwyddyn hon, sef pedwaredd flwyddyn y prosiect, y nod oedd cwblhau'r arolwg o Sir Frycheiniog a gychwynnwyd yn ystod chwarter olaf 1998/99. Roedd gan yr hen sir nifer fwy o lawer o safleoedd perthnasol nag unrhyw ardal arall y mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol amdani, ac mae llawer ohonynt mewn ardaloedd o ucheldir diarffordd. Gwelwyd mai rhaglenni o waith maes blaenorol oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am y nifer uchel o safleoedd: gan RCAHMW yng ngorllewin Bannau Brycheiniog, ardal y rhoddwyd iddi'r enw Mynydd Du a Fforest Fawr, gan y Comisiwn Brenhinol hefyd wrth iddo baratoi ei Restr ar gyfer Byrcheiniog, a thrwy'r rhaglen o fapio o'r awyr ar Fynydd Epynt; gan Robin Skeates a'i dm ar diroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Mannau Brycheiniog yn y lle cyntaf i'r dwyrain o'r A470(T), a hefyd ar Gomin Abergwesyn yn ymyl cronfeydd Dyffryn Elan yng ngogledd y sir; a chan yr Ymddiriedolaeth ei hun yn Nyffryn Elan ym 1994 ac ar y cyd Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym Mynydd Du Gwent ym 1997 ac 1998.

Roedd yn amlwg na ellid ymweld phob un o'r safleoedd o ystyried yr amser a'r arian oedd ar gael, a phenderfynwyd yn fuan iawn beidio ag ymweld 'r safleoedd hynny ym Mannau Brycheiniog yr oedd y Comisiwn Brenhinol wedi eu cofnodi'n ddigonol na'r safleoedd hynny yn Nyffryn Elan a archwiliwyd eisoes gan yr Ymddiriedolaeth. Ychwanegwyd gwybodaeth briodol at y data-bas safleoedd o'r cofnodion presennol.

Ar hyn o bryd mae'r data-bas ar gyfer Brycheiniog yn cynnwys cofnodion pendant ar gyfer 432 safle, rhif sydd wedi amrywio yn ystod y flwyddyn ond sydd wedi cynyddu ar y cyfan wrth i safleoedd DRS newydd gael eu darganfod, neu wrth i rai adnabyddus gael eu rhannu i'w helfennau cyfansoddol pan ymwelwyd hwy. Ymwelwyd 367 o safleoedd yn ogystal 'r 72 ymwelaid yn ystod y flwyddyn flaenorol, ond dilewyd nifer arwyddocaol ohonynt, a ddaethai gan mwyaf o'r SMR, oherwydd nad oeddent yn berthnasol i'r astudiaeth hon.

Yn achos ymron pob safle hysbys, mae cofnodion y gwaith maes wedi gwella'r cofnod presennol, a chanfuwyd hefyd nifer o gytiau hir a safleoedd llwyfannol newydd. Dyna a ddigwyddodd yn rhai o ddyffrynnoedd y Bannau, a hefyd ar Fynydd Epynt lle na chynhaliwyd fawr ddim gwaith maes o'r blaen, yn enwedig yng nghanol y gweundir lle mae tanio'n rhwystro mynediad fel arfer. Er enghraifft, i'r gogledd o'r ardal danio milwrol yn nyffryn Blaen Duhonw (SN 9746) canfuwyd tri safle mewn awyrluniau; darganfuwyd chwech arall yn ystod gwaith maes, ac mae dros hanner y dyffryn heb ei archwilio. Oherwydd y defnydd milwrol o Fynydd Epynt ers yr Ail Ryfel Byd, mae cyflwr y safleoedd yn eithriadol o dda at ei gilydd ac fe argymhellir bod nifer o'r safleoedd yn yr ardal hon yn cael eu gwarchod yn statudol. Hyd yn oed yn Nyffryn Elan ac ar Gomin Abergwesyn canfuwyd agos i 50 o'r 103 safle am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn.

Yn groes i'n gobeithion, ni chwblhawyd y gwaith ym Mrycheiniog erbyn diwedd y flwyddyn. Archwiliwyd pob un o'r safleoedd yn ardal Dyffryn Elan / Comin Abergwesyn ac yn hanner gorllewinol Bannau Brycheiniog, ac felly hefyd bron y cyfan o'r safleoedd hysbys ar Fynydd Epynt. Ymwelir safleoedd y Mynydd Du a Mynydd Llangatwg a Mynydd Llangynidr yn ystod 2000/01.

Hefyd, ac mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd mewn gwahanol gyfarfodydd ar gyd-brosiectau gan yr Ymddiriedolaethau fod tuedd i roi sylw i'r safleoedd anheddog yn yr ucheldiroedd a oedd wedi eu cadw'n well ac a oedd yn fwy adnabyddus, roedd Cadw wedi awgrymu y gellir cynnal arolwg adnabod sydyn ar floc o dir is, amaethyddol er mwyn darganfod lle roedd nifer sylweddol o safleoedd anheddu'n dal heb eu darganfod mewn amgylcheddau o'r fath. Yn l pob sn, cafwyd cryn fudd o arolwg tebyg yng Ngwynedd llynedd ac argymhellwyd cynnal astudiaeth debyg ym Mhowys. O restr fer, dewiswyd y bloc o dir amaethyddol i'r gogledd o bentref Aberedw yn Sir Faesyfed ar gyfer arolwg sydyn am sawl rheswm. Yn gyntaf, roedd gwaith cynharach ar y tir comin agored o gwmpas y pentref wedi dangos bod nifer arwyddocaol o safleoedd anheddu gadawedig yn ymyl y ffin rhwng y mynydd-dir agored a'r ffermdir caeedig oddi tano. Yn ail, roedd grwp o brydlesau diddorol o'r 17eg ganrif hwyr yn cyfeirio at gau tir comin a'r gobaith oedd y gellid cysylltu hyn ag olion y caeau. Ac yn codi o'r pwyntiau hyn, roedd y posibilrwydd y gellid tynnu'r holl dystiolaeth hyn ynghyd pe bai'r arolwg sydyn yn datgelu safleoedd anheddol gadawedig eraill, gan wella ein dealltwriaeth gyffredinol o'r modd y datblygodd ac y gadawyd anheddau mewn un ardal arbennig. Yn drydydd, oherwydd topograffeg naturiol y plwyf, y gobaith oedd y byddai safleoedd anheddol gadawedig i'w gweld ar ffurf llwyfannau.

Diffiniwyd ardal yr arolwg gan yr Edw yn y de a'r afon Gwy yn y gorllewin, ac roedd yr ardal ei hun ychydig dros 8 cilometr sgwr. At ei gilydd, roedd canlyniadau'r arolwg yn foddhaol, gan ildio mwy o wybodaeth nag a ragwelwyd efallai. Cofnodwyd 39 safle newydd sy'n berthnasol i'r rhaglen safleoedd anheddol gadawedig ac mae hyn wedi newid y darlun yn sylfaenol o ran y cydbwysedd rhwng y safleoedd hynny ar dir comin heb ei gau a'r rhai ar dir ffermio. Gwelwyd nodweddion archaeolegol eraill hefyd, gan gynnwys dyfrffosydd, ceuffyrdd, chwareli, ffermdaigadawedig o'r 18fed a'r 19eg ganrif, bythynnod ac ysgubobau, darn o dir rhychau tyfu, argae, poncyn cylchog ar drum a allai fod yn gynhanesyddol ond a allai hefyd fod yn safle goleufa, safle hen orsaf reilffordd ac olion pont.

CPAT logo

CPAT Project 658
Ariannwyd gan Cadw ym 2000/01
diweddarwyd Ebrill 2001


Prosiect CPAT
Arolwg Efyrnwy

Ym 1998/9 defnyddiwyd yr adnoddau a gafwyd gan Severn-Trent Water yn y blynyddoedd blaenorol ar gyfer arolwg maes ar eu hystad fawr o gwmpas Llyn Efyrnwy er mwyn astudio archaeoleg y coedwigoedd o gwmpas y gronfa ddwr. Rhestrwyd 102 o safleoedd archaeolegol, 87 ohonynt yn newydd ac ymwelwyd 74 i asesu eu cyflwr ac unrhyw fygythiadau posibl. Ac eithrio mannau darganfod, tri safle cynhanesyddol yn unig oedd wedi'u nodi'n y goedwig ac mae'r rhan fwyaf o'r archaeoleg, pa un a oedd wedi ei nodi eisoes neu ein bod wedi ei adnabod o fapiau, yn berthnasol i weithgaredd amaethyddol l-ganoloesol. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 789
Ariannwyd gan Severn -Trent Water ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Prosiect CPAT
Arolwg Maes o Amgylch Efyrnwy

Yn ystod y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2000 cwblhawyd gwaith maes dros ardal o 6.6 cilomedr sgwr ym mhen gorllewinol Llyn Efyrnwy lle mae Afon Eiddew ac Eunant Fawr yn ffinio crib Moel Eunant. Rhostir agored sy'n ymestyn o 250m i 560m OD yw'r rhan fwyaf o'r ardal hon. Nodwyd cyfanswm o 46 o safleoedd archaeolegol, o'r cyfnod canoloesol neu l-ganoloesol yn bennaf, dim ond pedwar ohonynt oedd wedi'u cofnodi cyn hynny. Cofnodwyd ffermydd anghyfannedd a'u caeau, caeadleoedd, amryw o gytiau hirion a llwyfannau, llochesau, toriadau mawn helaeth, chwareli a gwelyau diogyn. Canfuwyd bod gwasgariad y safleoedd yn dibynnu llawer ar leoliad, fel y gellid ei ragweld mewn ardal o ddyffrynnoedd dyfnion a wahenir gan gribau o rostir uchel, yn enwedig yn y pen mwyaf anghysbell hwn o ddyffryn Efyrnwy, yn agos i'r ffin Gwynedd. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 824
Ariannwyd gan Severn Trent Water ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Arolwg o Fferm Wynt Gwaun Trannon

Arolwg o Fferm Wynt Gwaun Trannon Galluogodd nawdd pellach gan Ynni Gwynt Cenedlaethol, trwy Gyngor Sir Powys, yr Ymddiriedolaeth i barhau ei waith monitro hirdymor ar yr henebion archaeolegol ar Waun Trannon, Carno, yn ne Sir Drefaldwyn, lle adeiladwyd fferm wynt fawr, gyda'r bwriad o sicrhau na fydd unrhyw niwed yn cael ei achosi i unrhyw un o'r safleoedd. Yn ogystal hyn, llwyddwyd i gyflawni arolwg EDM o ddeunaw o'r henebion mwyaf pwysig ar y waun. Dylai'r rhain, ynghyd 'r disgrifiadau ysgrifenedig a ddiweddarir yn ystod ymweliadau maes, ddarparu sail gadarn ar gyfer cynllunio gwaith y dyfodol ar y waun. At hyn, gwahoddodd Ynni Gwynt Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu gwybodaeth i'r arddangosfeydd sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ar gyfer canolfan ymwelwyr yn y fferm wynt.

Bwriedir cyflawni arolwg, gwaith monitro, rheoli a chyflwyno yn ystod y 25 mlynedd nesaf, sef oes ddisgwyliedig y safle. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 787
Ariannwyd gan Ynni Gwynt Cenedlaethol trwy Gyngor Sir Powys ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Prosiect CPAT
Arolwg o Gastell Mwnt a Beili Erddig

Comisiynwyd CPAT gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal arolwg cyfuchlin manwl o gastell mwnt a beili Erddig i gynorthwyo'r rheolwyr a'r ymwelwyr i'w dehongli. Lleolir y safle mewn coetir i ogledd y ty ac ar amser yr arolwg roedd wedi ei orchuddio gan isdyfiant cymharol drwchus a choed llawn dwf. Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod mis Ionawr 1999, gan ddefnyddio Leica TC500 EDM ynghyd meddalwedd arolwg PenMap. Ychydig sy'n hysbys am hanes y safle, er mae'n bosibl mai hwn yw 'Wrislesham' y cyfeiriodd y siryf ato yn ei gofnodion blynyddol yn 1161. Tirluniwyd y parc a'r tiroedd gan Stephen Switzer ar gyfer John Mellor yn ystod y 1720au a'r 30au, roedd cynlluniau Switzer yn cynnwys twr castellog ar y mwnt, a oedd yn gweithredu fel ty haf, ynghyd chyfres o rodfeydd wedi'u hymylu choed yn dilyn ffos y beili mewn mannau. Dengys arolwg Thomas Badeslade ym 1739, y twr yn ogystal rhodfa ffurfiol o fewn y beili. Er hynny, nid oes unrhyw olion o'r twr nac o unrhyw nodweddion eraill o'r tirlun wedi goroesi. Ymddengys bod y mwnt a'r beili wedi eu hadeiladu'n rhannol trwy ddefnyddio pentir naturiol a dorrwyd gan ffosydd dyfnion i ffurfio safle amddiffynnol. Goroesa'r mwnt i uchder o tua 5.75m, mae ei ddiamedr yn 44m yn y gwaelod ac yn 17m ar y top. Gwahanir hwn o'r beili gan ffos 36m o led. Ceir dwy fynedfa i'r beili, un gyferbyn 'r mwnt a'r llall yn y gornel dde-orllewinol. Amddiffynnir y beili ar yr ochr ddeheuol gan ffos sylweddol sy'n 34m o led a hyd at 8.5m o ddyfnder. Mae'n bosibl bod yr allaniadau crynion yng nghorneli'r beili'n gysylltiedig thyrau. Defnyddiwyd Clawdd Wat, sy'n rhedeg ar hyd ochr orllewinol y safle, fel amddiffyniad ychwanegol sy'n ffurfio ffos hyd at 18m o led. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 803
Ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Prosiect CPAT
Arolwg o Gomin Ucheldir Gogledd Sir Faesyfed

Gydag arian Menter Ucheldir a ddarparwyd gan RCAHMW, yn ystod hydref a gaeaf 1998/99 parhaodd CPAT gyda'i raglen reolaidd i arolygu caeau'r ucheldir trwy archwilio dau floc ar wahn o gomin ucheldir canol Powys. Gorwedd y comin mwyaf gogleddol gydag Allt Cilfaesty yn ei ganol ar ben mwyaf gogleddol Sir Faesyfed hanesyddol, ychydig filltiroedd yn unig o'r Drenewydd a Dyffryn Hafren; pedwar cilomedr i'r de ceir ail floc sydd wedi ei ganolbwyntio ar elltydd Moelfre a Thynybriniau. Gyda'i gilydd maent yn ymestyn dros fwy na 14km2, archwiliwyd 13.4km2. Mae'r ddau yn rhan o Ystad y Goron ac rydym yn ddiolchgar i Gomisiynwyr y Goron am roi caniatd i ni fynd ar eu tir.

Cofnodwyd naw ar hugain o safleoedd yn y SMR rhanbarthol, yn y ddwy ardal, cyn yr arolwg, o ganlyniad i raglen fapio AP ragarweiniol, a ddilynwyd gan waith maes systematig, cynyddodd y nifer hwn i 289. Canfuwyd nad oedd cofnodion digonol ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd hysbys; o 13 o grugiau a charneddau penderfynwyd mai 9 yn unig oedd yn ddilys, cofnodion wedi eu dyblygu neu nodweddion naturiol a gamgymerwyd am archaeoleg oedd i gyfrif am y gweddill. Yn ogystal hyn canfuwyd bod caeadle, a briodolwyd yn y gorffennol i'r Oes Haearn, yn cynnwys ffos fewnol ac mae'n fwy tebygol o fod yn gorlan o'r cyfnod canoloesol neu gyfnod diweddarach.

Mae'r rhan fwyaf o'r data archaeolegol newydd yn berthnasol i'r cyfnod hanesyddol; cyn hyn gwyddid am bedwar safle anheddiad, bellach mae'r cyfanswm yn 23. Nodwyd nifer sylweddol o lwyfannau a chytiau hirion, ynghyd ffaldau a chaeadleoedd a thystiolaeth eang o grynnau amaethu. Mae'r rhan fwyaf o weithgaredd yr anheddiad yn agos i ochrau'r tiroedd comin. Canfuwyd dyfrffosydd, chwareli, tyrchfeydd mawn a meini terfyn hefyd.

Mae'r arolygon hyn yng ngogledd Sir Faesyfed yn gwrthbwyso'r rhai a gynhaliwyd ar y tiroedd comin yn ne Sir Faesyfed ym 1996/97 (Adroddiad 234 CPAT). Mae'r canlyniadau'n debyg, yr ymarfer cynharaf yn cynhyrchu 262 safle gyda 26 ohonynt wedi'u cofnodi'n y gorffennol, gyda chydran gref o anheddiad canoloesol ac l-ganoloesol unwaith eto. Ar sail y ddau arolwg hyn mae'n amlwg bod y blociau o ucheldir ar wahn sy'n ffurfio Tir Comin Sir Faesyfed yn gyfoethog o ran olion, yn enwedig o'r cyfnod hanesyddol, a bod angen cyflawni llawer mwy o waith maes gyda chanlyniadau sicr er mwyn sefydlu crynswth yr adnodd archaeolegol. Cyflwynwyd adroddiad i RCAHMW (Adroddiad 316 CPAT). (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 782
Ariannwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Prosiect CPAT
Buarth Tomen Sbwriel Erddig

Comisiynwyd CPAT gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyflawni arolwg ffotograffig a llun carreg-wrth-garreg o Fuarth Tomen Sbwriel a Buarth Calchfaen Erddig, Wrecsam. Y bwriad oedd cynhyrchu cofnod manwl a chywir o wyneb y buarth presennol, cyn ystyried yr argymhellion i ailosod y cobls er mwyn rhoi mynediad diogelach i ymwelwyr. Adeiladwyd y ty gwreiddiol ar gyfer Joshua Erdisbury o 1684, yn 1721- 4 codwyd estyniad iddo gan John Mellor. Fodd bynnag, mwy na thebyg bod y Buarth Tomen Sbwriel yn dyddio o adeg adeiladu'r bloc newydd o ystablau gan Philip Yorke ym 1774. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr 1998 gan ddefnyddio EDM i osod grid cywir yn sail i'r cofnod lluniadu ar raddfa o 1:20. Yna, cynhyrchwyd lluniau llai o'r safle ar raddfa o 1:50 yn sail i'r llun terfynol. Roedd yr arolwg ffotograffig yn cynnwys cyfres o olygon lletraws gorgyffyrddol a dynnwyd o thua 10m o uchder, gan ddefnyddio craen casglu ffrwythau. Dangosodd yr arolwg bod darnau sylweddol o'r wyneb gwreiddiol yno o hyd. Yn y mannau hyn roedd y cobls wedi'u gosod mewn cyfres o flociau hirsgwar yn cael eu gwahanu gan gerrig mwy, er nad yn ffurfio cynllun rheolaidd. Fodd bynnag, mae nifer o fannau wedi'u hailosod, ar y brif dramwyfa'n arbennig, yn ogystal nifer o ffosydd cynnal. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 791
Ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Caeadleoedd Neolithig Walton/SEPAH

Trwy gyfrwng Rhaglen Raphael y Comisiwn Ewropeaidd, derbyniodd CPAT gymhorthdal i gynnal arolwg geoffisegol a ffisegol dros 20 hectar o du mewn caeadle palisd Neolithig Hindwell, gan gynnwys ardal Caer Rufeinig Hindwell. Nod y prosiect oedd archwilio'r caeadle gan ddefnyddio magnetomedrau caesiwm synhwyrol iawn ac i ddadansoddi'r canlyniadau, yn erbyn model digidol y tir, er mwyn ceisio adnabod unrhyw dystiolaeth ar gyfer swyddogaeth y caeadle mawr ac enigmatig hwn. Gwnaeth Cadw gyfraniad ariannol sylweddol at y prosiect hefyd. Prosiect cyfunol o'r sefydliadau cyfrannog canlynol ydyw: CPAT (arolwg llawr a chydlynu); Sectie Wonen en Monumenten, Zwolle, yr Iseldiroedd (gweithlu gwirfoddol); Adran Diogelwch Archaeoleg ac Adran Archaeoleg, Bayerisches Landesamt fur Denmalflege, Munich (arolwg geoffisegol); a'r Discovery Programme, Dulyn (prosesu data ). Bellach, cwblhawyd y gwaith maes ar y prosiect ac mae adroddiad terfynol a chyhoeddiad ar y prosiect bron a'u cwblhau. Cydlynwyd y prosiect gan Alex Gibson, sydd bellach ar staff Treftadaeth Lloegr.

Galluogodd y nawdd Ewropeaidd i staff CPAT deithio i Munich a Dulyn. Nod yr ymweliad Munich oedd edrych ar a thrafod y canlyniadau tros dro ac er mwyn dadansoddi'r magnetometreg yn ogystal ag i weld dulliau gweithredu Gwasanaeth Amgueddfeydd Bafaria. Yn Nulyn cyfranogodd y staff mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan y Discovery Programme. Mynychodd holl bartneriaid y prosiect a nifer helaeth o wahoddedigion o sefydliadau archaeolegol Dulyn y gynhadledd. Amlinellodd y seminar hon gefndir y prosiect, edrychodd yn fanwl ar fanylion y methodolegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg a'r dadansoddiad, a thrafodwyd rheolaeth safleoedd Walton yn y dyfodol. Roedd y digwyddiad yn hynod o lwyddiannus ac yn darparu cysylltiadau defnyddiol gydag archaeolegwyr curadurol Iwerddon.

Yn anffodus, methodd yr arolwg geoffisegol ddarparu tystiolaeth ar gyfer nodweddion mewnol y caeadle Neolithig, ond cafwyd canlyniadau arwyddocaol am gynllun mewnol caer Rufeinig Hindwell ac anheddiad sifil neu ficws, na wyddid amdano ynghynt, sy'n rhedeg o git ddwyreiniol y gaer. Ymhlith canlyniadau eraill y geoffiseg mae trefniant diddorol o bydewau hirgrwn yn amgylchu'r mwyaf o'r crugiau crwn cynhanesyddol o fewn y caeadle, ymddengys ei fod yn cynrychioli cylch pren sydd wedi ei losgi'n rhannol o dan y crug. Cyhoeddir adroddiad am y prosiect ym 1999/00.

Fel rhan o'r prosiect cynhaliwyd cloddiad prawf ar gylch pydew Neolithig tybiedig Walton, nad oedd mynediad iddo'n bosibl yn y gorffennol. Nod y prosiect oedd sefydlu natur y pydewau a'u dyddiadau, er mwyn sefydlu ei gysylltiad gyda chylch pydew Neolithig Hindwell tua 0.5km i'r gogledd. Sefydlodd cloddiad a gyflawnwyd ar un o bydewau cylch Walton mai twll postyn oddeutu 4.3m wrth 2m ar draws a hyd at 1.3m o ddyfnder ar gyfer postyn o 0.4m neu'n fwy mewn diamedr oedd yma. Cafwyd golosg derw o waelod y twll, ond ar hyn o bryd, mae hwn yn cael ei ystyried yn anaddas ar gyfer dyddio radiocarbon dibynadwy i roi union ddyddiad ei adeiladu, o ystyried beth y mae'r golosg yn ei gynrychioli a'r ffaith ei fod yn ymddangos fel petai'n cynrychioli coed sy'n tyfu'n araf. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 766
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Cefnogi Tir Gofal

CS0003

Cynorthwyo Swyddog Rheoli Treftadaeth gyda chynllun Tir Gofal. Mae'r tasgau a ragwelir yn cynnwys y canlynol: cofnodi ac argraffu manylion pob ymgynghoriad a lwythir i system cofnodi data; mapio digidol maint pob parsel o dir arwahanol yng ngheisiadau Tir Gofal; archwilio Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR) o fewn ffiniau digidol pob cais, cynhyrchu allbrint SMR a ffeil chwilio ar gyfer pob cais; archwilio data-bas AP o fewn ffiniau digidol pob cais, adennill ffotograffau; asesiad pen-desg cyflym o ddeunydd arall o archifau SMR lle mae ar gael (degwm, Arolwg Ordnans a.y.y.b.); cynhyrchu mapiau ar gyfer pob cais yn dangos ffiniau digidol a data SMR; agor ffeiliau newydd ar gyfer pob cais a'u trosglwyddo i Swyddog Rheoli'r Ymddiriedolaeth.

Ar hyn o bryd nid yw'n sicr a oes lefelau digonol o adnoddau ar gael i gynnal y prosiect hwn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan ei fod yn dibynnu ar faint o brosiectau gaiff eu pasio i'r Ymddiriedolaeth gan Swyddog Prosiect Tir Gofal. Hyderwn y bydd darlun cliriach yn ymddangos yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 807
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1999/00
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Cloddiau Byrion yng Nghanolbarth a Gogledd-Ddwyrain Cymru

A short dyke

2005/6 oedd pumed flwyddyn yr astudiaeth o gloddiau byrion canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru ac, o bersbectif yr Ymddiriedolaeth, hon oedd y flwyddyn olaf. Pan ddechreuodd y prosiect yn 2002, dilyswyd pedwar ar bymtheg o gloddiau byrion yn y rhanbarth, yn gyntaf trwy asesiad pen desg o’r dystiolaeth ar gael ac yna trwy ymweliadau maes a chofnodi. Yn 2003, bu gwaith tyllu ar ddwy o’r cloddweithiau hyn i geisio dod o hyd i ddyddodion organig wedi’u selio a allai fod â photensial palaeoamgylcheddol, ac hefyd i benderfynu a fyddai’r fethodoleg benodol o ddefnyddio gwaith tyllu ac yna ymyrraeth gyfyngedig i adennill samplau addas ar gyfer dyddio radio carbon, yn fodd boddhaol o ddatblygu’r astudiaeth. Yn dilyn hyn, agorwyd un clawdd – clawdd Giant’s Grave, ger Llandinam yn Sir Drefaldwyn – er mwyn cadarnhau strwythur y clawdd a chaniatáu i Astrid Caseldine o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan samplo dyddodiad mawn wedi’i selio. Cafwyd y dyddiad 340-530 OC o’r haen fawn, sy’n rhoi’r dyddiad cynharaf y gallai’r clawdd fod wedi’i godi. Arweiniodd llwyddiant y gwaith cloddio hwn at asesu safleoedd eraill lle roedd posibilrwydd bod perthynas stratigraffig rhwng clawdd a dyddodion palaeoamgylcheddol gwaelodol.

Astudiwyd chwech o gloddiau byrion yn 2004/05, gan ddefnyddio’r un fethodoleg sylfaenol. Cymerwyd samplau o waith tyllu ym mhob clawdd ac yna gwnaed gwaith cloddio ar dri safle lle nodwyd peth potensial: yng Nghlawdd Mawr ger Pen-y-bont-fawr, yng ngogledd Sir Drefaldwyn, Clawdd Crugyn (PRN 1882), ger Dolfor yn ne Sir Drefaldwyn, a Short Ditch (PRN 1114), ger Llangunllo yn nwyrain Sir Faesyfed.

Canolbwyntiodd gwaith 2005/06 ar chwech o gloddweithiau eraill a chadarnhawyd bod pump ohonynt yn gloddiau byrion. Nododd dehongliad y chweched, yn Nolhelfa yng ngogledd-orllewin Sir Faesyfed, mai ffin maenor ganoloesol ydyw er ei bod yn debyg o ran morffoleg. Y cloddiau hysbys yw Upper a Lower Short Ditches ger Ceri yn nwyrain Sir Drefaldwyn, Clawdd Llesg, ger Meifod yng ngogledd Sir Drefaldwyn, Clawdd Red Hill Cross ger Rhiwlen yn ne Sir Faesyfed, a Chlawdd Cowlod (PRN 6871) ar ucheldir Fforest Clud yn nwyrain Sir Faesyfed.

Daethpwyd o hyd i ddyddodion organig wedi’u selio gan y clawdd ar un o’r cloddiau yn unig, sef Upper Short Ditch ar Lôn Las Ceri, a thorrwyd ffos er mwyn samplu’r deunydd hwn. Saif ychydig yn llai na hanner y clawdd yng Nghymru, a’r gweddill yn Swydd Amwythig. Mae’r rhan sydd yng Nghymru i gyd mewn planhigfa goed. Roedd mawn siltiog o liw llwyd tywyll tua 1 metr islaw crib y clawdd a chymerwyd sampl ohono. Daethpwyd o hyd i ddwy haen yn llawn o fawn, tua 0.3 a 0.8 metr o ddyfnder yn y ffos, oedd wedi’i thorri hyd at ddyfnder o tua 1.5 metr a lled o 3.5 metr.

Saif Lower Short Ditch tua thair cilometr yn unig oddi wrth Upper Short Ditch, ond rhan fach ohono, tua 50 metr, sydd yng Nghymru â’r 700 metr sy’n weddill yn Swydd Amwythig. Ni ddatgelwyd unrhyw ddyddodion organig yn y samplau o’r gwaith tyllu ar ochr Cymru’r ffin ond credir bod Dr David Hill o Brifysgol Manceinion wedi dod o hyd i ddyddodion palaeoamgylcheddol, sef mawn a/neu olosg dan y clawdd wrth iddo gloddio ar y rhan yn Swydd Amwythig yn yr 1980au.

I grynhoi, erbyn hyn bu gwaith cloddio ar bump o’r pedwar ar bymtheg o gloddiau byrion dilys. Edrychwyd ar samplau o waith tyllu yn wyth o’r pedwar safle ar ddeg sy’n weddill, heb unrhyw gadarnhad o ddyddodion palaeoamgylcheddol. Ni archwiliwyd chwech, gan y credir, oherwydd amrywiaeth o ffactorau, nad oes llawer o debygolrwydd bod y cloddweithiau hyn yn selio deunydd organig. Cynhyrchwyd dyddiadau radio carbon o bedwar o’r cloddiau. Mae’n ymddangos eu bod oll yn awgrymu tarddiad canoloesol cynnar i’r cloddweithiau. Dyma y tybiwyd yn y gorffennol, er nad oedd unrhyw dystiolaeth gadarn i ategu’r gred. Rhoddodd samplau o gloddiau Clawdd Mawr a Chlawdd Crugyn, a gloddiwyd yn 2004/05, ddyddiadau 630–710 OC i’r cyntaf, a 650–780 OC i’r ail. Rhoddodd y mawn wedi’i selio yn Upper Short Ditch ddyddiad 540-660 OC. Mae dyddiad hefyd a gafwyd ynghynt ar gyfer clawdd Giant’s Grave (340-530 OC) ychydig yn gynharach na’r canlyniadau a dderbyniwyd yn fwy diweddar. Gallai hynny fod oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, gan gynnwys y strategaeth samplu. O edrych ar y canlyniadau diweddar, cafwyd yr un ar gyfer Clawdd Mawr o weddillion planhigion golosgedig. Tybir mai hwn yw’r mwyaf manwl-gywir oherwydd natur byrhoedlog y deunydd hwn. Mewn cyferbyniad â hyn, daeth canlyniadau Clawdd Crugyn ac Upper Short Ditch o olosg microsgopig a allai fod wedi bod yn y pridd ers cryn amser. Mae’n debygol iddo ddod o rug, er y gallai fod o goed na wyddys eu hoed pan losgwyd hwy. Nid yw deunydd o Short Ditch yn Sir Faesyfed, a gloddiwyd yn 2004/5, wedi’i ddyddio hyd yma. Mae hyn i raddau helaeth o ganlyniad i gymhlethdod cynhenid yr haenau mawn wedi’i selio ar y safle hwn, a all gynrychioli mwy nag un cyfnod o weithgaredd cyn codi’r clawdd. Gobeithir y bydd yn bosibl darganfod dyddiad unwaith y bydd micromorffoleg y pridd y mae Dr Richard Macphail o’r Sefydliad Archeoleg, Coleg Prifysgol Llundain yn ei gynnal yn eglurhau’r dilyniant. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 927
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 2005/06
Diweddarwyd Hydref 2006


Prosiect CPAT
Court Fold, Pencraig

O ganlyniad i ddatblygu arfaethedig ar gae pori ar ochr de-orllewinol Pencraig cyflawnwyd gwerthusiad archaeolegol ym mis Medi 1999. Roedd yr gwerthusiad yn cynnwys chwe ffos, dim ond dwy ohonynt oedd yn cynnwys unrhyw nodweddion archaeolegol o bwys. Dangosodd un ffos gwter 0.4m o ddyfnder a thua 1.95m o led, a'i lleoliad yn fras gymharu gyda nodwedd linellol bosibl a nodwyd o ffotograffiaeth awyr ac a dybiwyd i fod yn cynrychioli rhan o system gaeau. Roedd y ffos arall yn cynnwys dilyniant stratigraffig a oedd yn cynnwys dau wyneb caregog annyddiedig y tybiwyd eu bod yn gysylltiedig gyda adeiladweithiau posibl a leolwyd y tu allan i derfynau'r gloddfa. Roedd ffynnon yn mesur 2.25m ar draws wedi ei leinio phren, o gyfnod l-ganoloesol mae'n debyg, yn torri'r wyneb. Roedd y casgliad o arteffactau o'r cloddfeydd braidd yn brin, er hynny'n cynrychioli tystiolaeth o anheddiad blaenorol o fewn ardal gyffredinol y datblygiad, roedd yn cynnwys gweddillion dau fflint cynhanesyddol a naw talch o grochenwaith canoloesol o'r 13eg neu 14eg ganrif o bosibl. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 831
Ariannwyd gan: Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1998/99
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Croes Criccin

Cynhaliwyd asesiad o'r ardal o gwmpas y groes cyn cychwyn ar raglen adnewyddu a oedd yn cynnwys codi ac ailosod y groes. Lleolir gweddillion y groes ar dwmpath amlwg ac mae'n cynnwys sylfaen o lechfaen hirsgwar gydag ymylon uchaf siamffrog a stopnobiau difrodedig yn y corneli, mae'r darn coes hirsgwar toredig gydag ymylon siamffrog yn sefyll i uchder o 0.8m. Mae'r sylfaen o lechfaen wedi torri ac wedi ei drwsio gyda choncrid a dau hoelbren haearn. Tybir mai croes o'r 13eg neu ddechrau'r 14eg ganrif yw hi. Agorwyd dwy ffos ar gyfer yr asesiad, un o amgylch y groes a'r llall wrth fn y twmpath ar yr ochr ogleddol. Profodd canlyniadau'r asesiad bod y twmpath lle saif y groes o darddiad naturiol. Fodd bynnag, ymddengys bod ychydig o deras hyd at 9m mewn diamedr a 0.3m o uchder ar gopa'r twmpath, a allai fod yn ganlyniad i lefelu'r copa'n fwriadol cyn codi'r groes. Mae arolwg o'r ardal ynghyd ag asesiad gweledol o'r dopograffeg gerllaw'n awgrymu y gallai cloddio am dywod ar yr ochr ogleddol, ni wyddys pryd, fod yn rhannol gyfrifol am ymddangosiad presennol y twmpath. Mae'r twmpath yn ffurfio pen cefnen isel naturiol sy'n rhedeg o'r gogledd-gogledd-orllewin i'r de-de-ddwyrain. Mae ochr orllewinol y twmpath yn ffurfio parhad diasiad o'r gefnen hon ac nid yw'n nodwedd ar wahn, tra ymddengys yr ochr ogleddol fel petai'n rhandoredig. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 873
Ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Crug Cornatyn VII, Sir Drefaldwyn

Ymgymerwyd â rhaglen gofnodi a gwaith adfer ar y crug hwn, sy’n dyddio o’r Oes Efydd, yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod gweithredoedd cwympo coed. Miss Chitty gofnododd yr henebyn yn gyntaf ar ddechrau’r 1950au. Roedd wedi’i argymell ar gyfer ei restru’n rhan o’r Fenter Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol sydd ar waith ar hyn o bryd, cyn y difrod. Saif y crug tua 395 metr ar linell sarn islaw Bryn Cornatyn ac mae’n rhan o glwstwr o henebion angladdol a defodol gwasgaredig ar draws y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Swydd Amwythig ar Lan Fawr, Bryn Cornatyn a Stapeley Hill, sy’n cynnwys cylchoedd cerrig The Hoarstones a Mitchell’s Fold a grŵp o garneddau ucheldirol amlwg. Mae nifer o’r safleoedd hyn wedi’u difrodi neu wedi’u dinistrio ers diwedd y 19eg ganrif. Pan darfodd YACP â charnedd ucheldirol fach tua 400 metr i’r de o’r crug presennol ym 1986, arweiniodd hyn at ddarganfod claddiad corfflosgi o’r Oes Efydd mewn Wrn Colerog. Cafwyd dau ddyddiad radio carbon sy’n calibro i 2040–1680 cal CC a 1770–1430 cal CC. Gwnaed gwaith cofnodi rhwng 5 a 6 metr ar draws ym mis Mawrth 2006, yn yr ardal ar ochr ogleddol y crug y tarfwyd arni yn ddiweddar. Dangosodd hwn fod y crug tua 15 metr o ddiamedr a hyd at tua 1.8 metr o uchder yn y canol, sy’n sylweddol fwy nag oedd arsylwi maes diweddar wedi’i awgrymu, yn rhannol oherwydd bod ochr ddwyreiniol y twmpath wedi’i chuddio gan bridd a cherrig sydd wedi casglu yno erbyn hyn. Er gwaethaf y difrod diweddar, mae’r crug crwn yn hynod o gyfan ac mae hyd yn oed yn debygol bod y wal gae ar yr ochr orllewinol sydd bellach wedi dadfeilio ac i raddau o’r golwg wedi cael effaith arwynebol yn unig ar ei strwythur. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 1320

diweddarwyd Hydref 2006


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Cyhoeddiad Arfordirol

CS95/60/12

Cymorth i baratoi adroddiad dadansoddol gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Ysgogwyd yr arolwg archaeolegol o arfordir Cymru, a gynhaliwyd gan y pedair Ymddiriedolaeth Gymreig rhwng 1993-97, oherwydd y bygythiadau i'r adnodd archaeolegol gan lefelau mr uwch ac erydiad arfordirol, ynghyd ag effeithiau datblygu a thwristiaeth. Roedd amcanion triphlyg i'r prosiect: asesu antur a maint yr archaeoleg ar hyd ymyl yr arfordir, asesu natur y bygythiadau a graddfa erydiad yr arfordir a safleoedd archaeolegol; ac i argymell strategaethau rheoli priodol. Ar derfyn yr arolwg cydnabuwyd bod angen cyhoeddi'r canlyniadau mewn adroddiad dadansoddol a fyddai'n defnyddio'r doreth o wybodaeth a gynhyrchwyd, ynghyd gwybodaeth arbenigol yr unigolion hynny a fu'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect. Noddwyd y prosiect hwn eto gan Cadw gyda'r bwriad o gyhoeddi'r adroddiad fel Council for British Archaeology Research Report yn ystod 1999/00, i'w goladu gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Bydd y gyfrol yn cynnwys y canlynol: cyflwyniad; disgrifiad o archaeoleg yr amgylchedd; y defnydd o ffotograffiaeth awyr; yr adnoddau archaeolegol - gorolwg cronolegol; adolygiadau thematig - adennill, amddiffyniadau, llongddrylliadau, odynau calch, coredau a thrapiau pysgod, Lefelau Gwent; rheolaeth arfordirol, a rhannau cloi'n ymwneud photensial, argymhellion a blaenoriaethau. Mae'r rhan ar adennill yn cynnwys astudiaeth achos o Aber yr Afon Ddyfrdwy a seiliwyd yn helaeth ar ganlyniadau'r Dee Estuary Historic Landscape Study a gynhaliwyd gan CPAT ac yn amlygu'r potensial am waddodion archaeolegol a phalaeoamgylcheddol claddedig yn yr ardaloedd a adenillwyd o'r morfeydd heli. Yn gyffredinol, cofnododd yr arolwg 1,502km o arfordir gan gynnwys y cyfan o'r tir mawr yn ogystal ag Ynys Mn, er yn eithrio ynysoedd eraill llai. Nododd dosbarthiad yr arfordir, yn l methodoleg yr arolwg, 1,406 o unedau arfordirol gwahanol, pob un 'i nodweddion unigryw. Y math o ymyl arfordirol a luniodd yr arfordir yn ei ffurf bresennol oherwydd naill ai amhariad dynol neu ddaearegol yw'r brif nodwedd ddiffiniol yn y rhan fwyaf o achosion. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 763
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar yr Arolwg Arfordirol ar ein tudalennau Adroddiad Prosiect Hirach


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Cytiau crynion: Clwyd a Powys

Prosiect mewn dwy ran, roedd y rhan gyntaf yn cynnwys asesiad pen-desg o'r adnodd trwy Bowys a hen sir Clwyd gynt, ac roedd yr ail ran yn archwilio cytiau crynion Sir Faesyfed a rhan ddeheuol Sir Drefaldwyn.

O'r Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR), a'r Cofnod Henebion Cenedlaethol National Monuments Record (NMR), a'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel y Brecknock Inventory, neilltuwyd 252 o'r cytiau crwn neu grwpiau ohonynt, ystyriwyd bod 139 ohonynt yn esiamplau pendant neu debygol, ond dim ond un ar ddeg ohonynt oedd wedi'u cofrestru. Roeddent wedi'u gwasgaru'n anwastad ar draws yr ardal gyda 50% o'r safleoedd yn ne Sir Frycheiniog. Gellir rhoi prinder y cwt crwn fel math o safle mewn cyd-destun trwy nodi bod Arolwg Anheddiad Cytiau Crynion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnwys 1,850 o esiamplau.

Canolbwyntiodd y dadansoddiad o'r data ar natur y safleoedd, pa un ai'n gytiau cerrig, crafbantiau a llwyfannau, neu'n l cnydau, eu cysylltiadau, ansawdd y cofnodion presennol a'r dystiolaeth ddyddio. Cyflwynwyd yr adroddiad am y rhan gyntaf i Cadw'n Mai 1998.

Gweithredodd yr arolwg pen-desg fel cyflwyniad i archwiliad pellach a manylach o safleoedd canol Powys. Ymwelwyd phob safle hygyrch yn Sir Faesyfed a rhai'n Sir Drefaldwyn; o 22 o safleoedd, cadarnhawyd bod 14 ohonynt naill ai'n gytiau crynion pendant neu'n rhai tebygol, gwnaethpwyd cofnod llawn ohonynt a pharatowyd cynlluniau mesuredig. Ychydig o'r grwp bychan hwn, hyd yn oed, y gellir honni eu bod yn gytiau crynion clasurol, dim mwy na dau efallai. O ran y gweddill, mae peth ansicrwydd yn parhau ynghylch a allent fod yn garneddau neu hyn yn oed yn safleoedd anheddiad o gyfnod diweddarach. Mae'r adroddiad gyda'i gatalogau manwl a'i ystyriaeth i faterion rheolaeth, yn rhoi sylw i'r agweddau hyn ac yn datblygu'r pwynt mai ychydig iawn o'r henebion hyn sydd yng nghanolbarth Powys a bod llawer o'r rhai hynny y gwyddys amdanynt wedi'u canfod o ganlyniad i waith maes yr Ymddiriedolaeth yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 762
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol: Dyffryn Tanat a Dyffryn Clwyd

CPAT HL areas

Cynhaliwyd prosiectau disgrifio nodweddion y tirwedd hanesyddol ar ddwy ardal cymeriad tirwedd hanesyddol yn y Register of Landscapes of Outstanding Historic Interest in Wales (Cadw 1998) - - yn Nyffryn Tanat yng ngogledd Sir Drefaldwyn a Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych. Roedd y gwaith prosiect yn cynnwys yr elfennau canlynol; adolygiad o'r wybodaeth bresennol yn y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR); adolygiad o'r dystiolaeth gartograffig gynnar, gan gynnwys mapiau degwm, mapiau caeadleoedd, a rhifynnau cynnar o fapiau Arolwg Ordnans; adolygiad o ffynonellau cyhoeddedig gan gynnwys cylchgronau lleol a nifer o ysgrifau i roi gwybodaeth newydd am y tirwedd i'r SMR; adolygiad o dystiolaeth am enwau lleoedd lle mae gwybodaeth ar gael; gwaith maes cyflym i helpu i ddiffinio ardaloedd cymeriad hanesyddol arbennig ym mhob ardal cymeriad hanesyddol, ac i gofnodi gwybodaeth mewn perthynas defnydd presennol y tir, mathau o derfynau caeau, mathau o adeiladau a defnydd deunydd; creu cofnodion SMR newydd o astudiaeth pen-desg a gwaith maes; cynhyrchu adroddiadau.

Ceisiodd yr astudiaethau yn Nyffryn Tanat a Dyffryn Clwyd nodi prif gydrannau'r tirwedd hanesyddol a'r prosesau a fu'n gyfrifol am eu bodolaeth, yn hytrach na darparu hanes tirwedd cyfan. Diffiniwyd ardaloedd cymeriad y tirwedd hanesyddol ar sail hanes y defnydd o'r tir yn y gorffennol ac ar hyn o bryd. Mae ardaloedd, felly, wedi'u diffinio, er enghraifft, ar sail patrymau pendant y caeau canoloesol a chyfnodau diweddarach, presenoldeb cloddio neu weddillion diwydiannol eang ac ar y sail mai bryngaerau Oes Haearn neu henebion angladdol neu ddefodol cynhanesyddol yw nodweddion pwysicaf y tirwedd hanesyddol. Mae'r adroddiadau ar bob un o'r ardaloedd a astudiwyd yn cynnwys rhannau ar y canlynol: nodweddion allweddol y tirwedd hanesyddol; y tirwedd naturiol, y tirwedd hanesyddol a gweinyddol; tirweddau'r aneddiadau, tirweddau amaethyddol; cyfathrebiadau; diwydiant a busnes; cysylltiadau chwedlonol ac ysbrydol; tirweddau addurnol a lliwgar; ynghyd disgrifiadau o ardaloedd cymeriad unigol a llyfryddiaeth. Yn achos yr astudiaeth o Ddyffryn Tanat, gyda defnydd helaeth o fapio GIS bu cynhyrchu model digidol o'r tirwedd hanesyddol y gellir ei archwilio ar lefelau gwahanol yn bosibl.

Amcan cyntaf yr astudiaethau yw cyfrannu at reolaeth y tirwedd hanesyddol. Rhagwelir y bydd yr astudiaethau o werth arbennig ar gyfer ymateb i geisiadau am gyngor ynghylch rheoli o ganlyniad i ffurfio Tir Gofal, sef cynllun newydd amaethyddol amgylcheddol Cymru gyfan, sydd i ddechrau ym mis Ebrill 1999.

Mae'r tair Ymddiriedolaeth Archaeolegol eraill yng Nghymru yn cynnal astudiaethau cyfochrog, ac er mwyn sicrhau unffurfiaeth wrth gofnodi a chyflwyno cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cydlynu gyda staff Cadw a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ystod y flwyddyn. Cynhaliwyd y gwaith ar astudiaeth Dyffryn Clwyd yn gyfochrog 'r prosiect LANDMAP a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth CCW. Mynychodd y staff nifer o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi sylw i fethodoleg, gyda'r bwriad o gydlynu canlyniadau prosiect CPAT i ddisgrifio nodweddion y tirwedd yn Nyffryn Clwyd ac elfennau amgylchedd hanesyddol prosiect LANDMAP Sir Ddinbych.

Cwblheir adroddiadau terfynol y ddwy astudiaeth yn gynnar ar ddechrau 1999/00, wedi i nifer o broblemau technegol yn ymwneud graddfa a llungopo'r mapiau gael eu datrys a phan fyddwn wedi llwyddo i gael cyfaddasrwydd gyda phrosiect LANDMAP Sir Ddinbych. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 761
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Dirweddau Hanesyddol yn ein tudalennau Adroddiad Prosiect Hirach.


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol: Bro Maldwyn a Mynydd Helygain - Comin Treffynnon

CPAT HL areas

Ymgymerir 'r prosiect fel rhan o astudiaeth Cymru gyfan gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gymreig ar y cyd Cadw a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn gweithio ar sail yr ardaloedd a ddiffiniwyd yn Rhan Un o'r Historic Landscapes Register. Astudiodd CPAT y ddwy ardal newydd hyn yn 1999/00, yn dilyn yr astudiaethau a wnaed yn Nyffryn Clwyd a Dyffryn Tanat ym mlwyddyn ariannol 1998/99.

Er nad oes unrhyw safon fyd-eang gyffredinol ar gyfer disgrifio nodweddion y tirwedd hanesyddol, seilir y fethodoleg a fabwysiadwyd ac sy'n cael ei datblygu yng Nghymru ar ddull ymarferol, gan ystyried amrediad eang o ddylanwadau a gynorthwyodd i lunio'r tirlun gan gynnwys patrymau anheddiad, patrymau ffiniau caeau, diwydiannau echdynnol a chynhyrchu, gwaith milwrol ac amddiffynnol, 9 trafnidiaeth a chyfathrebu a pharciau a gerddi. Prif ddiben nodweddu tirwedd yw er mwyn llunio strategaethau rheoli tirwedd y gellid eu defnyddio gan fentrau fel cynllun Tir Gofal, trwy enwi elfennau nodweddiadol neu hanesyddol pwysig a phatrymau yn yr amgylchfyd hanesyddol, ysgogi ymchwil bellach, codi ymwybyddiaeth gyhoeddus am y tirwedd a pharatoi datganiadau polisi gan gyrff cyhoeddus.

O ran elfennau Bro Maldwyn a Mynydd Helygain o'r prosiect, i ddechrau dadansoddwyd data presennol y tirwedd hanesyddol sy'n gynwysedig yn y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR), yna cynhaliwyd astudiaeth pen-desg gan gynnwys papurau newydd lleol, ffynonellau cyhoeddedig, ffynonellau cartograffeg i gael data hanesyddol ac archaeolegol pellach, yn enwedig gyda dimensiwn tirluniol. Mae ardal Bro Maldwyn yn ymestyn ar hyd y ffin rhwng Lloegr a Chymru ac yn yr achos hwn crwyd data-bas prosiect a oedd yn cynnwys setiau o ddata trwy garedigrwydd Cyngor Sir Amwythig yn ogystal SMR Powys a gynhelir gan CPAT.

Yn achos Bro Maldwyn roedd yr astudiaethau pen-desg yn cynnwys casglu gwybodaeth o Drafodion Cymdeithas Archaeolegol Sir Amwythig, cyhoeddiadau cynnar yr Arolwg Ordnans, rhaniadau degwm a chaeadleoedd. Crwyd cyfanswm o 629 cofnod newydd, yn enwedig mewn perthynas phatrymau caeau, pensaernaeth frodorol, gweithgareddau diwydiannol a chyfathrebiadau. Yn achos ardal tirwedd Mynydd Helygain canolbwyntiwyd ar hanes diwydiannol cynnar ac yma roedd y prif ffynonellau'n cynnwys tystiolaeth gartograffeg gynnar, ffotograffiaeth awyr fertigol a chyhoeddiadau gan y British Geological Arolwg . Bu llyfr Bryn Ellis, The History of Halkyn Mountain, 'r is-deitl The Mountain with Lead in its Veins a gyhoeddwyd yn 1998, hefyd o gymorth. Yn ystod cwrs y prosiect ychwanegwyd tua 4,883 o gofnodion newydd yn ymwneud thirwedd Mynydd Helygain a Chomin Treffynnon at ddata-bas y prosiect, gan gynnwys siafftiau pwll, adeiladau pwll, ffrydiau, cronfeydd dwr, tramffyrdd, cylchoedd winshis ac odynau calch.

Ymgymerwyd gwaith maes i ddiffinio'r ardal cymeriad. Galluogodd hyn i ni wneud cofnod ffotograffig hefyd yn ogystal chofnodi mathau o ffiniau caeau a deunyddiau adeiladu a chofnodi rhai safleoedd newydd a ychwanegwyd at y SMR. Gwnaed un daith mewn awyren fechan ym Mro Maldwyn er mwyn tynnu lluniau. Diffiniwyd cyfanswm o 19 ardal cymeriad ym Mro Maldwyn, gan gynnwys y mathau canlynol o dirweddau; ardaloedd doleniadau afon ar hyd yr Hafren yn Nhrehelig-gro; dolydd isel a chorstiroedd ar hyd afonydd Camlad a Chaebitra yn ardal cymeriad y Ffls, Gwern-y-go a'r Wernddu; ceunant rhewlifol dwfn a gynrychiolir gan Marrington Dingle; roedd y tiroedd amaeth yn canolbwyntio ar aneddiadau cnewyllol o'r cyfnod canoloesol a dechrau'r canol oesoedd, fel yn achos Yr Ystog, Hyssington, a Chirbury; tirweddau gyda ffermydd gwasgarog, rhai'n deillio o'r cyfnod canoloesol cynnar, fel yn Gunley, Pen-y-lan, Aldress, Weston Madoc, Ffridd Faldwyn, a Cwm; tref drawsblanedig ganoloesol yn Nhrefaldwyn; parc hela canol oesoedd diweddar a thirwedd parcdir diweddarach yn Lymore; tirwedd bwthyn 19eg ganrif o ganlyniad i gau iseldir comin isel yn Forden; cau ucheldir comin yn achos Pantglas; ac ardaloedd bychain o dir mynydd yn Nhodleth. Yn achos Mynydd Helygain ystyrir bod y tirwedd hanesyddol yn ffurfio un ardal cymeriad sydd dan drem gweddillion mwyngloddio 18fed a 19eg ganrif. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 761
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Dirweddau Hanesyddol yn ein tudalennau Adroddiad Prosiect Hirach.


Prosiect CPAT
Eglwys Gadeiriol Llanelwy: Cofnodi

Cynhaliwyd arolwg metrig manwl o lawr cerrig annyddiedig, ond 18fed ganrif o bosibl, y transept deheuol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar ran Pensaer yr Eglwys, y Deon a'r Cabidwl. Fel rhan o'r prosiect gwnaed cofnod manylach o nifer o gerrig coffa a rhan o groesfan ganoloesol nas cofnodwyd ynghynt. Mae rhai o gerrig y llawr yn gwisgo'n anwastad a gobeithir eu hailosod rywdro yn y dyfodol. Prif bwrpas yr arolwg oedd darparu cofnod sylfaenol o'r llawr a chynorthwyo Pensaer yr Eglwys i benderfynu pa gerrig llawr y gellid eu cadw a pha rai sydd angen eu hamnewid. Rhagwelir y bydd angen gwneud cofnod archaeolegol pellach pan osodir llawr newydd. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 827
Ariannwyd gan Ddeon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Llanelwy 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Eglwys St Cynfarch, Yr Hob: Gorchwyl Gwylio

Ym mis Chwefror 2000 cychwynnwyd ar raglen gynhwysfawr i adnewyddu'r eglwys ac mae'n debygol o barhau am o leiaf wyth mis. Mae'r gwaith yn cynnwys gwaith adnewyddu eang i do'r eil ddeheol a tho'r twr, ynghyd gwaith pellach i ffenestr ddwyreiniol corff yr eglwys, llawr yr eil ddeheuol a gwaith arall cysylltiol. CPAT sy'n gweithredu fel contractwyr archaeolegol y cynllun ac mae'r gwaith archaeolegol a gwblhawyd hyn yn hyn yn cynnwys arolwg ffotograffig o do'r eil ddeheuol, to'r twr a'r ffenestr ddwyreiniol, yn ogystal gorchwyl gwylio yn ystod gosod goleuadau allanol. Bydd gwaith y dyfodol yn cynnwys cofnodi pellach o adeiladwaith y ddau do, cloddio lle o fewn yr eil ddeheuol, prisio peintio wal yr arcd efallai a gorchwyl gwylio cyffredinol ar bob gwaith adeileddol a tharfu ar y tir. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 860
Ariannwyd gan Eglwys Blwyf Yr Hob ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Eglwys y Santes Fair, Y Drenewydd

Gorchwyl Gwylio ym mis Gorffennaf 1999 yn ystod gwaith adnewyddu adfeilion yr eglwys. Cynhaliwyd gorchwyl i wylio ffos yn cael ei chloddio ar hyd ochr fewn wal ddeheuol y gangell. Cloddiwyd y ffos llaw i ddyfnder o 0.5m yn is na lefel y tir y tu mewn, gan ddatgelu dyddodion o ddyddiad cymharol ddiweddar, ni chanfuwyd unrhyw ddyddodion archaeolegol perthnasol i'r eglwys ganoloesol. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 823
Ariannwyd gan Gyngor Tref Y Drenewydd ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Ffordd Chirbury, Trefaldwyn

Gorchymyn gorchwyl yn ystod a chloddiadau ar gyfer seiliau a gwasanaethau mewn perthynas ag adeiladu ty newydd. Dangosodd gwerthusiad cyn-penderfynu a gyflawnwyd ar y safle bod gwaddodion claddedig sylweddol yn perthyn i adeilad ffrm bren o'r 13eg/14eg ganrif wedi'u cadw ar hyd blaen y stryd. Cyflawnwyd y gorchwyl gwylio dros gyfnod o dri diwrnod rhwng 29 Mehefin a 1 Gorffennaf 1999. Yr oedd yr unig dystiolaeth a gafwyd a allai fod yn perthyn i anheddiad canoloesol neu ddiweddarach ar y safle yn cynnwys darn byr o wyneb caregog annyddiedig a welwyd ar hyd blaen y stryd o fewn ffos wasanaethu. Fe allai hwn gynrychioli darn pellach o wyneb caregog a nodwyd yn ystod y gwerthusiad ac a ddehonglwyd fel llawr posibl mewn adeilad o goed. Er hynny, ni nodwyd unrhyw nodweddion pellach y gellid eu cysylltu ag adeiledd. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 819
Ariannwyd gan ddatblygwr preifat ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Ffordd Rufeinig Caersws: Pibell Nwy Caersws-Machynlleth

Dangosodd yr asesiad o lwybr y bibell nwy a gynhaliwyd gan CPAT ym 1998 dystiolaeth o ffordd Rufeinig ym mynd tua'r gorllewin o gaer Rufeinig II Caersws. Felly, gyda nawdd gan RSK Environment, yn gweithredu ar ran Nwy Prydain / Transco, cyflawnwyd cloddiadau cyn i bibell nwy gael ei gosod. Roedd y bibell nwy'n croesi'r ffordd Rufeinig ar SO 02209186, 0.8km i'r gorllewin o Gaersws. Mae rhan o'r ffordd Rufeinig yn goroesi fel gwrthglawdd sy'n sefyll yn y cae sy'n union i'r dwyrain, er nad oedd unrhyw dystiolaeth o wrthglawdd o fewn llwybr y bibell. Roedd y cloddiad yn ymwneud ag ardal yn mesur 14.5m x 13.0m, oddi fewn iddo cloddiwyd darn trwy weddillion y ffordd Rufeinig, er mwyn penderfynu ar ei adeiladwaith ac adennill unrhyw ddeunydd dyddio a oedd yn bresennol. O dan yr uwchbridd a haen o glai siltiog roedd olion gwaelodol y ffordd Rufeinig, oddeutu 0.1m o drwch, ac yn cynnwys cyfres o domenni cyfoes yn l pob tebyg o glai cherrig crwn bach i ganolig a phren. Gwelwyd bod y pren wedi'i dorri ar ongl lem gyda erfyn llafn miniog, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y deunydd wedi ei osod yn fwriadol i ffurfio sail y ffordd. Awgryma ymddangosiad y ffordd a oroesodd bod llawer o haenau uchaf y ffordd wedi'u tynnu, gan welliannau amaethyddol neu waith lefelu efallai. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o wyneb ffordd na ffosydd o'i deutu, ac mae'n bosibl bod y ffordd wedi ei hadeiladu heb ffosydd. Mae'r hyn a oroesodd o'r ffordd uwchben amryw haen o fawn a chlai mawnog yn ymestyn i ddyfnder o 0.55m. Wedi i ni ganfod y gwaddodion mawnog, gyda'u potensial palaeoamgylcheddol, cysylltwyd staff Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan i gael cyngor ynghylch dulliau samplo posibl. Roedd y strategaeth samplo a fabwysiadwyd yn cynnwys bras-samplo'r 0.25m uchaf o'r gwaddodion mawn ar gyfwng fertigol o 0.05m , a thynnu 0.5m o fonolith pridd a oedd yn rhychwantu dyfnder cyfan y gwaddodion mawn o dan y ffordd Rufeinig. Dangosodd rhaglen o samplau taradr ar hyd llwybr y bibell mai tua 2.0m oedd dyfnder mwyaf y mawn ac mae'n awgrymu ei fod yn cynrychioli crynhoad o fewn palaeosianel. Awgryma asesiad o'r paill oddi tan y ffordd Rufeinig bod cadwraeth y paill yn dda ym mhob sampl. Roedd y dosbarthiadau yn cynnwys gwern, derw, llwyf, Tilia, pinwydd, cyll, glaswellt, hesg a rhedyn. Awgryma'r canlyniadau bod y peilliau wedi'u cadw'n ddigon da a bod digon ohonynt i gyfiawnhau dadansoddiad manylach o'r golofn baill. Mae'r cofnod paill o'r safle hwn yn bwysig am ddau brif reswm. Yn gyntaf, mae cysylltiad uniongyrchol rhyngddo ag olion archaeolegol ac mae'n agos at y safle Rhufeinig enwog yng Nghaersws. Yn ail, mae diffyg gwybodaeth am hanes llystyfiant a datblygiad y tirwedd yn yr ardal hon o iseldir. Cofnod o'r Carneddau (Walker 1993), sef safle ucheldirol 8km i'r gogledd-gogledd-orllewin, yw'r cofnod agosaf am baill. Yn dilyn trafodaethau gyda RSK Environment, derbyniwyd nawdd ychwanegol er mwyn cyflawni dadansoddiad pellach o'r paill, mae'r gwaith yn mynd rhagddo ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ar hyn o bryd. (Mynegai prosiectau eto)

Ffynonellau

Bognar, L., & Hankinson, R., 1998, Caersws to Machynlleth Gas Pipeline (Phase 1 Caersws-Talerddig) Archaeological Assessment. Adroddiad CPAT 274

Walker, M J C., 1993. Holocene (Flandrian) vegetation change and human activity in the Carneddau area of upland mid-Wales. In F. Chambers (ed.) Climate Change and Human Impact on the Landscape. London: Chapman and Hall

CPAT logo

Prosiect CPAT 795
Ariannwyd gan RSK Environmental ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


 Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Ffosydd Byrion a Chloddweithiau Llinellol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru 2002/03

A short dyke

Gwnaed y prosiect hwn dan nawdd Cadw mewn dau gyfnod. Cafwyd astudiaeth pen-bwrdd o’r adnoddau oedd ar gael yn ystod y flwyddyn gyntaf (2001/02), ac yn ystod y flwyddyn bresennol (2002/03) cynhaliwyd archwiliad maes o’r holl gloddiau hysbys a’r rhai posibl. Cofnodwyd morffoleg, lleoliad topograffig a chyflwr pob clawdd. Cyflwynwyd adroddiad llawn i Cadw, yn cynnwys cynlluniau wedi’u huwchraddio a disgrifiadau diwygiedig.

Ymwelwyd ag un ar hugain o gloddiau pendant, sef cyfanswm o 13.32 km o hyd, sef cyfartaledd o tua 0.63 km yr un. O’r rhain, Clawdd Wantyn yn ne Sir Drefaldwyn, sy’n 2.9 km o hyd, yw’r hiraf, a Chlawdd Shepherds Well a Chlawdd Red Hill Cross, ill dau yn nwyrain Sir Faesyfed, yw’r byrraf, tua 0.08 km i 0.09 km o hyd. Mae gwaith maes hefyd yn awgrymu bod modd olrhain clawdd cyfansawdd yn croesi’r ffin rhwng Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn, a’i fod yn cynnwys tair nodwedd sydd wedi’u cofnodi ar wahân, sef Clawdd Crugyn, Clawdd Two Tumps I a Chlawdd Two Tumps II. Yn bendant, fe benderfynodd cofnodwr gwreiddiol y safleoedd hyn eu trin fel uned, dan yr enw ‘Double Dyche’ bryd hynny, ac mae cyfanswm yr hyd, sef 2.27 cilometr bron yr un fath â hyd Clawdd Wantyn. Fodd bynnag, at ddibenion dadansoddi, ystyriwyd y ddwy elfen ar wahân. Ymwelwyd â nifer fwy o gloddweithiau llinellol y mae eu tarddiad yn ansicr, er na ailddehonglwyd yr un o’r rhain yn glawdd byr o ganlyniad i’r archwiliad maes.

Mae’r prosiect wedi ystyried nodweddion morffolegol a lleoliad cloddiau unigol mewn ymgais i ddarparu man cychwyn ar gyfer astudiaeth bellach. Roedd y morffolegau y daethpwyd ar eu traws yn amrywio o glawdd llinellol unigol i gloddiau a ffosydd lluosog; efallai nad yw’n syndod mai clawdd a ffos sengl yw’r ffurf fwyaf cyffredin. Mae lleoliad y cloddiau hefyd yn amrywio, ond fe ddaw rhai ffactorau cyffredin i’r amlwg. Yn eu plith mae cribau, dyffrynnoedd ac is-gloddiau rhwng afonydd, sy’n croesi, er y bydd clawdd yn amlach na heb yn dod ar draws diroedd cymhleth. Yn ddiddorol iawn, nid y llinell fwyaf effeithlon ac uniongyrchol a ddefnyddir bob tro, ac mae hyn yn awgrymu bod y nodweddion hyn yn ffiniau yn hytrach nag yn gloddweithiau amddiffynnol. Mae’r ffaith eu bod yn cysylltu dyfrffosydd â’i gilydd yn awgrymu bod y cloddweithiau llinellol hyn yn nodi ffiniau a bod nodweddion naturiol yn nodi’r ffin mewn mannau eraill. Mewn nifer fechan o achosion (e.e. Clawdd Cowlod a Chlawdd Red Hill Cross, y ddau yn nwyrain Sir Faesyfed,) mae’r clawdd yn croesi un ochr yn unig o’r grib, ac yn dod i ben ar y grib ei hun. Ni chafwyd unrhyw eglurhad rhwydd am y nodwedd yma, ond nid yw’n ymddangos mai canlyniad syml erydiad diweddarach ydyw gan na welwyd unrhyw olion oedd yn awgrymu bod y cloddiau’n parhau ymhellach na hynny, er gwaethaf archwilio gofalus.

Efallai mai’r diffyg tystiolaeth dyddio pendant yw’r brif broblem wrth geisio pennu cyd-destun a natur yr amryw gloddiau byr hyn, rhywbeth nad yw archwiliad maes yn debygol o’i ddatrys ond ar ddamwain. Prin yw’r cysylltiadau uniongyrchol rhwng cloddiau a nodweddion eraill yn y tirlun, a lle gwelir cysylltiadau, maent yn ymwneud â nodweddion canoloesol neu hwyrach, fel yn achos llawer o’r ffiniau sy’n ardaro’r cloddiau. Cofnodwyd dwy ardal lle gallai perthynas rhwng clawdd a dyddodion mawn fod yn bosibl, a gallai hyn fod yn ddefnyddiol o ran data palaeamgylcheddol.

Un o’r prif dueddiadau yn yr ymchwil flaenorol i gloddiau byr oedd y gymhariaeth â Chlawdd Offa a’r ffordd y cawsant eu cynnwys yma ac acw mewn astudiaethau cysylltiedig. Cafwyd aml i ymgais i integreiddio’r cloddweithiau llinellol llai yn system amddiffyn gyfredol yn erbyn tresmasiad o’r ucheldiroedd i’r gorllewin. Mae golwg gyfredol y rhan fwyaf o’r cloddiau byr yn peri ichi amau ai swyddogaeth amddiffynnol yn unig oedd iddynt. Mae gwaith maes wedi dangos y byddai’n fater cymharol syml a rhwydd i orasgellu unrhyw rai o’r cloddweithiau pe byddent yn ddim ond mecanweithiau amddiffynnol neu’n rhwystrau.

Mae’n ymddangos mai yn hen deyrnas (neu wlad) Powys yn unig y mae’r cloddiau byrion dilys yn ardal yr astudiaeth. Yn gyffredinol, fe fyddai tirnodau naturiol wedi diffinio ffiniau, gan ddefnyddio rhai nodweddion artiffisial i nodi pwyntiau allweddol, o bosibl, ac mae cantref Mechain yng ngogledd Powys yn un ardal lle gwelwyd perthynas rhwng grwp o nifer o gloddiau byr a ffin wleidyddol. Mae ffin y cantref, yn ôl Melville Richards, o fewn un cilometr i o leiaf pump o gloddiau hysbys: Clawdd Mawr; Clawdd Llesg; Clawdd Ty Newydd; Clawdd Abernaint; a Chlawdd Bwlch-y-cibau. Os gellir tybio bod y safleoedd hyn yn dyddio o tua’r un cyfnod, ac y gallent gynrychioli ffin y cantref, yna gallai’r ffaith fod gan bob un ohonynt ffos ar yr ochr allanol fod yn ffactor arwyddocaol sy’n cadarnhau hyn. Hefyd, mae pen dwyreiniol Clawdd Ty Newydd yn gorffen gerllaw nant a oedd yn nodi ffin maenor y Waun a Swydd y Waun (cantref Mochnant Is Rhaeadr gynt) mewn dogfen o’r 16eg ganrif. Mae’n rhesymol tybio y byddai ardal Mechain, er gwaethaf ei maint, yn ardal dra phwysig oherwydd bod eglwys clas Meifod, lle cleddid tywysogion a phwysigion Powys, yn y cantref. Cymharwyd yr un clawdd ar bymtheg oedd yn weddill â ffiniau gwleidyddol awgrymedig, a gwelwyd perthynas ddichonol mewn o leiaf pump o’r achosion.

Dylid nodi hefyd y grwp cloddiau yn ardal Lôn Las Ceri yn nwyrain Sir Drefaldwyn. Yn y grwp hwn mae’r ddau glawdd hwyaf, ill dau bron yn 3 cilometr o hyd, sef Clawdd Wantyn a’r nodwedd gyfansawdd o’r enw ‘Double Dyche’, lle ceir y tri chlawdd y soniwyd amdanynt uchod. Roedd cofnodydd gwreiddiol y tri darn o gloddwaith yn eu hystyried yn rhan o un cloddwaith parhaus a alwodd yn ‘Double Dyche’, ac mae’r gwaith maes yn awgrymu bod y dehongliad yma yn gywir. Yn ogystal â’r ddau glawdd helaeth yma, ceir dau arall yn yr un ardal, y ddau yn llai nag un cilometr o hyd, sef Upper Short Ditch a Lower Short Ditch. Er nad oes dim a allai gysylltu’r rhain yn forffolegol, mae’r ffaith fod gan bob un o’r cloddiau hyn ffosydd ar yr ochr orllewinol yn awgrymu perthynas gyffredinol rhyngddynt. Gallai’r ffaith fod dyffryn serth nant Caebitra wedi ffurfio cysylltiad rhwng pen deheuol Clawdd Wantyn a phen gogleddol Upper Short Ditch fod yn un posibilrwydd. Mae Chris Arnold wedi awgrymu bod y grwp hwn o gloddweithiau yn rhan o system fwy o raniadau tir a oedd hefyd yn defnyddio nodweddion naturiol, a’u bod o bosibl yn gysylltiedig â rhaniadau cwmwd Ceri o ganlyniad i anghydfod yn y 13eg ganrif. Mae archwiliadau ar hynt y cloddiau hyn mewn perthynas â’u ffiniau tir tybiedig o’r canol oesoedd yn awgrymu y gallent ddynodi rhaniad y cwmwd yn dair rhan sydd fwy neu lai yn gyfartal. Mae hefyd yn bosibl eu bod yn ffurfio diffiniadau dilynol o’r un ffin wleidyddol, gan ei fod yn annhebygol o ran morffoleg bod naill ai Clawdd Wantyn neu’r ‘Double Dyche’ yn rhwystrau amddiffynnol. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 927
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 2002/03
diweddarwyd Hydref 2003


 Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Fframwaith Ymchwil Cymru: Archwiliad o Adnoddau ar gyfer canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru 2002/03

Yng nghynhadledd Sefydliad Archeolegwyr Maes Cymru (IFA), a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 2001, cytunwyd y dylid ymdrechu i gwblhau Fframwaith Ymchwil Archeolegol i Gymru. Sefydlwyd pwyllgor llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol ddisgyblaethau ym maes archeoleg yng Nghymru, ag IFA Cymru yn ei drefnu, a chynhyrchwyd manyleb yn amlinellu proses fesul cam. Roedd hyn yn cynnwys cynnal pedwar archwiliad rhanbarthol eu sail (un ymhob ardal Ymddiriedolaeth Archeolegol) o'r holl wybodaeth oedd ar gael ynghylch yr adnodd archeolegol, a'u cyhoeddi, ac yna cynnal seminarau rhanbarthol i gyflwyno asesiadau o’r adnodd ar sail cyfnod penodol gan nodi’r cryfderau a’r gwendidau yn y data ymhob achos. Yna fe fydd y papurau sydd wedi'u casglu o'r seminarau hyn yn cael eu cyhoeddi (ar y rhyngrwyd) er mwyn cael cyfnod o ymgynghori arnynt. Yn dilyn hyn, cynhelir seminar cenedlaethol i gyflwyno canlyniadau’r ymarfer ac yna cynhyrchir fframwaith cenedlaethol.

Dechreuwyd y broses fis Ebrill 2002 gyda phob un o’r pedair Ymddiriedolaeth yn cynhyrchu archwiliad adnoddau yr oedd Cadw wedi ei ariannu: Mae archwiliad YACP yn cwmpasu awdurdodau unedol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys, Wrecsam, a’r rhan ddwyreiniol o Gonwy a arferai fod yn Glwyd. Roedd yn cynnwys archwiliad o gofnodion, rhestrau o safleoedd allweddol a llyfryddiaethau, pob un ohonynt wedi eu rhannu yn gyfnodau amseryddol, a rhannau cyffredinol yn rhestru prosesau dyddio gwyddonol, gwaith amgylcheddol, prosiectau ymchwil cyfredol a chasgliadau data.

Casglwyd yr archwiliad o’r cofnod bron yn llwyr o ffynonellau digidol sydd ar gael yn rhwydd - y Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH) Rhanbarthol, Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru (END), a'r catalog o gasgliadau archeolegol Amgueddfeydd ac Orielau Cymru yng Nghaerdydd. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod pob un o’r ffynonellau hyn yn anghyflawn, ac yn ddiamau yn cynnwys camgymeriadau a hepgoriadau, ni theimlwyd mai mynd i’r afael â materion fel hyn oedd diben yr archwiliad, er bod pob set data wedi’u gwirio, a phob problem amlwg wedi’u cywiro. Roedd y setiau data diwygiedig yn cynnwys 47,507 o gofnodion safleoedd a 68,844 o gofnodion o’r CSH, 16,490 o gofnodion safleoedd o END a 28,885 o gofnodion arteffactau oddi wrth Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC). Cafwyd cymhariaeth rhwng data’r CSH ac END a, lle roedd hynny'n bosibl, cafodd cofnodion END eu croesgyfeirio i’r cofnodion yn y CSH. Fe nododd y broses hon 6,563 o ‘safleoedd’ a oedd yn gyffredin i'r ddwy set data. O’r 9,927 o gofnodion END heb gofnod tebyg iddynt yn y CSH, amheuir y gellid bod wedi croesgyfeirio o leiaf draean o'r rheiny pe byddai safon y ddau fath o gofnod wedi bod yn well. Pan wnaed cymhariaeth debyg rhwng y safleoedd yn y CSH a’r rhai y gellir eu casglu o ddata AOCC, roedd yn ymddangos mai 83 yn unig o’r safleoedd na chafodd eu cynnwys yn nata’r CSH, er bod cofnodion unigol yr arteffactau yn nata AOCC llawer yn fwy manwl na’r rhain. Er mwyn rhannu’r cofnodion a gasglwyd yn adrannau mwy hydrin, rhannwyd y data ar y safleoedd yn gyfnodau (Paleolithig, Mesolithig, Neolithig, Yr Oes Efydd, Oes yr Haearn, Canoloesol Cynnar, Canol Oesoedd, Ôl-ganoloesol) ac, o fewn pob cyfnod, yn fras adrannau yn ôl y math o safle (Amaethyddiaeth a Chynhaliaeth, Dinesig, Coffaol, Masnachol, Cysylltiadau, Amddiffyniad, Domestig, Addysg, Gerddi, Parciau a Mannau Agored Trefol, Iechyd a Lles, Diwydiannol, Morol, Henebion (yn ôl y ffurf), Hamdden, Crefyddol, Defodol ac Angladdol, Trafnidiaeth, Cyflenwad Dwr a Draeniad). Rhannwyd y data am y darganfyddiadau yn isadrannau yn yr un modd (Ceramig, Ceramig (rhan o adeilad), Anifeiliaid, Planhigion, Olion Dynol, Cerrig, Cerrig (rhan o adeilad), Gwaith metel, Gwaith metel (arian bath), Tecstilau, gwrthrychau pren, gwrthrychau wedi’u gwneud o ddarnau o anifeiliaid). Wedi categoreiddio’r wybodaeth yn y modd yma, cynhyrchwyd mapiau a thablau cryno ar gyfer safleoedd a gofnodwyd ar gyfer pob cyfnod, a dangoswyd dosbarthiad pob bras adran. Casglwyd ynghyd rhestr o safleoedd allweddol, a ddewiswyd oherwydd y gwaith sylweddol a wnaed arnynt o ran dogfennu a gwaith archeolegol (cloddio, archwilio ac ati) a gynhaliwyd arnynt yn y cyfnod diweddar, a lluniwyd llyfryddiaeth ar gyfer pob cyfnod a’i chyflwyno ynghyd â data wedi eu gosod mewn tablau a'u mapio.

Cynhyrchwyd yr archwiliad adnodd ar ffurf adroddiad YACP fis Mehefin 2002, a rhoddwyd fersiwn llawn ar wefan YACP. Ar wahoddiad caredig Cyngor Sir Powys, cynhaliodd YACP ei seminar rhanbarthol llwyddiannus iawn yn eu swyddfeydd yn Y Trallwng, ac fe gyflwynwyd papurau gan 8 o anerchwyr. Yn dilyn y seminar, rydym wrthi’n diwygio papurau, a byddwn yn eu gosod ar y wefan ganolog y bydd YACP yn ei pharatoi a’i gwesteio yn gynnar y flwyddyn nesaf. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 982
Ariannwyd gan Cadw yn 2002/03
diweddarwyd Hydref 2003


 Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Ffyrdd Rhufeinig yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru

Datblygwyd diddordeb yr Ymddiriedolaeth mewn ffyrdd Rhufeinig yn brosiect yn ystod ail hanner 2001/2 pan olygodd clwy'r traed a'r genau nad oedd modd gweithio ar rai o’r prosiectau maes; cytunodd Cadw i ailddyrannu’r nawdd er mwyn i’r Ymddiriedolaeth gychwyn prosiect ar ffyrdd Rhufeinig.

Nodwyd dau amcan sylfaenol ar gyfer y prosiect hwn. I ddechrau, roedd llawer o ddata ar gael ar y rhwydwaith ffyrdd, peth ohonynt yn anghydweddol ac o safon amrywiol ac nid yw’r cyfan ar gael yn rhwydd. Gan ddefnyddio’r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gofnodi manylion holl gydrannau pob ffordd, y nod oedd sefydlu data man cychwyn cyson a safon gyson ar gyfer holl ffyrdd canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru. Yna gallai’r Ymddiriedolaeth a sefydliadau ac unigolion eraill yn y dyfodol ddefnyddio’r data, eu holi a’u hymestyn. Yn ail, dangosodd bras archwiliad o’r CSH mai nifer hynod fach o ddarnau o ffyrdd Rhufeinig oedd wedi’u rhestru, felly un o nodau pellach y prosiect oedd nodi darnau pellach o ffyrdd oedd yn goroesi y gallai eu diogelu yn statudol fod o fudd iddynt.

Yn 2001/02, dechreuwyd nodi, dwyn ynghyd a digideiddio data ar gyfer ffyrdd Powys. Daeth y data digidol cyfredol o’r CSH ac oddi wrth Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW) a oedd wedi bod yn gweithio ar fap newydd yr Arolwg Ordnans o Brydain Rufeinig, a chafwyd gwybodaeth copïau papur o ‘ffeiliau llinellol’ yr Arolwg Ordnans a oedd yn cofnodi’n fanwl ddarganfyddiadau eu harchwilwyr maes yn y 1970au a’r 1980au, o adroddiadau cyhoeddedig ac adnoddau amrywiol eraill. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd cyfran resymol o Bowys wedi’i chwblhau, gan gynnwys llawer o’r ffyrdd mwy cymhleth megis yr un o Gaerdydd i Gaer Aberhonddu lle roedd sawl hynt gwahanol wedi’u hawgrymu.

Yn ystod 2002/03, fe gwblhawyd elfen pen-bwrdd y gwaith, yn anad dim y gwaith o osod yr holl ddata sydd ar gael ar fformat digidol. Ychwanegwyd rhai llwybrau eraill ar gyfer Powys wrth i ffynonellau eraill gael eu nodi a’u hasesu, ac hefyd rhai o’r llwybrau llai dibynadwy, megis yr un o Gefn Digoll yn nwyrain Sir Drefaldwyn i Fallwyd ym Meirionnydd. Mae llwybrau eraill a grybwyllwyd yn y gorffennol, fodd bynnag, mor amwys fel na ellir mo’u plotio mewn gwirionedd. Felly mae hi yn achos llawer o’r llwybrau a awgrymir gan S O’Dwyer mewn set anadnabyddus o bamffledi ar bob sir yng Nghymru a gyhoeddwyd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Nid yw asesu a chydnabod y ffyrdd Rhufeinig yn hen sir Clwyd wedi datblygu i’r un graddau ag y mae ymhellach i’r de. I ddechrau, mae’r caerau Rhufeinig yr ystyrir eu bod ar derfyn y siwrneiau, wedi bod yn anos dod o hyd iddynt yn y gogledd-ddwyrain nag ymhellach i’r de, ond mae’n ymddangos hefyd bod diffyg darnau o ffyrdd sydd â chadwraeth arnynt yn yr ardal. Nid yw’r ffynonellau gwybodaeth mor amrywiol ag ydynt ym Mhowys, sy'n adlewyrchu’r ffaith fod llai o waith wedi’i wneud ar hyn yn y gogledd-ddwyrain. Hyd yn ddiweddar, nid oeddem yn gwybod am unrhyw ‘ffeiliau llinellol’ gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer Clwyd, tebyg i’r rheiny oedd ar gael ar gyfer Powys, ond daethpwyd o hyd i’r rhain yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol yn Aberystwyth, a buont o werth mawr wrth blotio ffyrdd y gogledd-ddwyrain.

Cwblhawyd elfen pen-bwrdd yr astudiaeth o ffyrdd Rhufeinig dros y flwyddyn ddiwethaf, a gwnaed cymaint â phosibl o ddigideiddio o'r ffynonellau ysgrifenedig a dogfennol, ac amcangyfrifir ein bod naill ai wedi creu neu wedi addasu bron i naw cant o gofnodion. Mae patrwm cymhleth y ffyrdd (gweler y ffigwr sy’n cyd-fynd â’r adroddiad hwn), yn rhai tebygol ac yn rhai posibl, yn gwrthdaro â’r cynlluniau symlach a mwy taclus y deuir ar eu traws mewn gwaith cyhoeddedig ar y pwnc. Yn hyn o beth, mae llawer o ffordd i’w fynd wrth egluro ffyrdd Rhufeinig yn y rhan hon o Gymru, fel ymhobman trwy’r wlad.

Data GIS yw’r prif gynnyrch, ac fe fydd ar gael i’r CSH yn y dyfodol agos at ddiben rheoli datblygiad. Yn ogystal â hyn, fe baratowyd a dosbarthwyd copi papur o'r adroddiad i amlinellu cefndir y prosiect ac mae’n cyflwyno disgrifiad ysgrifenedig o bob ffordd Rufeinig, ynghyd â phlotiau cyfrifiadurol yn dangos sefyllfa'r wybodaeth gyfredol am y ffordd honno o ran ei goroesiad ffisegol a ph’un a ellir ei galw yn ffordd hysbys, yn un tebygol ynteu yn un posibl?

Mae gwaith maes, gan gynnwys dwy daith awyren, wedi dechrau ar ddarnau o ffyrdd hysbys neu tebygol, ac fe fydd y gwaith yma’n parhau yn 2003/04. Mae dirywiad parhaus rhai o’r ffyrdd trwy wella’r borfa neu amaethyddiaeth o bryd i’w gilydd, yn amlwg o’r gwaith ar RR642 (ffordd Caersws i Gaer Gai, trwy ardal Llyn Llanwddyn). Gellir dilyn trywydd y ffordd Rufeinig hon i’r gogledd o Gaersws ac mae’n un o’r rhai prin lle dangosir llinell y ffordd, er yn ysbeidiol, ar fapiau modern yr Arolwg Ordnans. Ond mae mwy nag un darn o'r ffordd a welir ar fapiau erbyn hyn yn amhosibl eu dirnad fel cloddwaith. Mae sarn y ffordd o Gaersws i Gaer Ffordun, yn y caeau i’r dwyrain o Gaersws, yn dal yn ymddangos fel cloddwaith er gwaethaf tyfu cnydau arni, ac mae hyn yn dangos bod effaith gweithgareddau o'r fath yn gallu bod yn amrywiol ac yn anwadal. Ond y ffyrdd hynny y mae eu hynt yn rhedeg dros rostir agored sy’n cynnig y cyfle gorau i oroesi. Mae'r rhain yn brin y tu allan i dde eithaf Powys. Mae gwaith maes wedi cadarnhau’r adran wych o ffordd i’r gogledd-ddwyrain o Landrindod, sy’n croesi Tir Comin Penybont, sef ffordd Mortimer’s Cross i Gastell Collen (RRX76). (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 966
Ariannwyd gan Cadw yn 2002/03
diweddarwyd Hydref 2003


 Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Gaol Road, Trefaldwyn

Dangosodd gorchwyl gwylio a gynhaliwyd gan CPAT yn ystod camau cyntaf adeiladu stad o dai newydd ym 1998 dystiolaeth o dy llwyfan posibl ar hyd ymyl blaen Pool Road o'r llain. O ganlyniad, yn ystod mis Mehefin 1999 cynhaliwyd asesiad er mwyn archwilio cefn y llain a'r tir blaen ar hyd Gaol Road. Gan ddefnyddio peiriant, cloddiwyd ffos sip-L, 2m o led a 15.7m o hyd i waelod dyddodion l-ganoloesol. Ni ddangosodd yr asesiad unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o anheddiad canoloesol yn yr ardal a archwiliwyd. Tybiwyd efallai fod cwrs y Ffos Garthion (Shite Brook), carthffos ganoloesol agored, wedi ei lleoli o fewn yr ardal, er nad oedd y canlyniadau'n cadarnhau'r dybiaeth hon. Roedd y dystiolaeth stratigraffig yn awgrymu bod y dyddodion cynharaf yn cynnwys golchwaddodion gallt a dyddodion amaethu canoloesol yn cynnwys crochenwaith ysgrafelledig canoloesol efallai. Roedd hyd at 1.1m o ddeunydd wedi ei ollwng ar ben hwn, er mwyn ffurfio sarn mewn cysylltiad ag adeiladu Gaol Road tua 1830 efallai. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 815
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Gwaith Arolygu Ucheldir: Synthesis

Cynigiodd RCAHMW arian Menter Ucheldiroedd i ni lunio synthesis o ganlyniadau'r arolygon a gynhaliwyd gan CPAT yn ystod y deng mlynedd ers 1989. Yn ystod y cyfnod hwnnw cynhaliwyd 29 o arolygon, 14 ohonynt ar raddfa eang gydag adnoddau a ddarparwyd gan Cadw a chan RCAHMW yn fwy diweddar. Mae asesiad o ddeuddeg fferm wynt yn yr ucheldir hefyd wedi'u cynnwys yn y cyfanswm, derbyniwyd nawdd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) a chan Dwr Hafren-Trent hefyd am waith a gyflawnwyd ar eu hystadau. Cyflawnwyd gwaith maes systematig ar 251km2, mae hyn yn 5.8% o ucheldir Powys a Chlwyd. Roedd gan y 29 arolwg 392 o safleoedd wedi'u cofrestru ar eu cyfer yn y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR) rhanbarthol, cofnodwyd 2385 ychwanegol o ganlyniad i waith maes, bron chwe gwaith yn fwy.

Yn ystod amser paratoi'r adroddiad hwn, nid oedd y synthesis wedi ei gwblhau, ond mae rhai canlyniadau rhagarweiniol ar gael. Mae'r uchder a'r dopograffeg yn cyfyngu'r gweithgareddau dynol yn yr ucheldir tra bo'i lystyfiant yn ei wneud yn anodd i'w adnabod. Honnir bod archaeoleg yn lleihau uwchlaw 430m Ordnance Datum (OD), ond mae'n amlwg bod hyn yn gamarweiniol, o leiaf mewn perthynas dwyrain Cymru. O'r cofnodion y mae data uchder ar gael mae 777 neu 35.3% dros 430m OD gyda 211 (9.6%) dros 500m OD. Mae'r dopograffeg yr un mor nodweddiadol ond yn llai mesuradwy. Lle mae sgarpiau serth yn gyffredin fel yn y Mynydd Du, mae archaeoleg o unrhyw fath yn brin ac mae hefyd leihad yng nghyfanswm y cynnyrch archaeolegol ar rostiroedd gwastad eang gorllewin yr ardal, fel a welwyd ar rai o'r safleoedd ffermydd gwynt megis Y Foel a Mynydd Nantcarfan.

Ers cynhanes nodwyd nifer sylweddol o garneddau newydd a bu'r arolwg maes yn fodd i gywiro gwallau ac anghysonderau yn y cofnod presennol. Mae safleoedd domestig lawer yn brinnach, er, fel y nodwyd uchod canfuwyd llawer o gytiau crynion a llwyfannau o ganolbarth Powys i'r gogledd o ganlyniad i waith maes CPAT

Yn y cyfnod hanesyddol, yn enwedig yn y cyfnodau canoloesol ac l-ganoloesol, y bu newid sylfaenol ym maint ac ansawdd y cofnod o'r ucheldir. Cyn hynny, er enghraifft, 31 safle'n unig oedd wedi'u cofnodi, bellach mae'r nifer dros 350. Creodd yr arolygon ymwybyddiaeth ddofn o faint a natur yr anheddiad o gwmpas yr ymylon ucheldirol, a chyda'r gwaith a gyflawnwyd fel rhan o brosiect Cymru gyfan o Safleoedd Gwledig Anghyfannedd, a noddwyd gan Cadw, mae hwn yn arwain at werthfawrogiad mwy aeddfed o forffoleg anheddiad a chronoleg, gobeithio. Mae nodweddion archaeolegol na chafodd eu cofnodi'n aml yn y gorffennol - tyrchfeydd mawn, llwyfannau sychu mawn, dyfrffosydd ac argaeau, meini terfyn, llwybrau, corlannau a llochesau, meysydd saethu, chwareli - i gyd yn cyfrannu at lunio darlun llawnach o weithgareddau dynol yn yr ucheldir. Cyflwynir adroddiad i RCAHMW yn nechrau mis Ebrill a rhagwelir y bydd y synthesis yn cael ei gyhoeddi ar ryw ffurf yn ei dro. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 783
Ariannwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Prosiect CPAT
Hen Felin, Nantglyn

Cynhaliwyd gorchwyl gwylio ym mis Awst 1999, yn ystod newid ac ehangu'r hen felin ddwr, lle roedd gweddillion olwyn ddwr o bren a system bwli'n goroesi. Mae'r adeilad yn cynnwys y breuandy lle roedd gweddillion y wal a oedd yn amgu'r olwyn bwll a'r pwli pren i godi sachau a'i gasin oddi tano. Wrth ymyl y breuandy roedd hen odyn sychu grawn a ddefnyddiwyd, mwy na thebyg, i sychu'r ceirch cyn ei falu. Y tu allan, roedd y cafn olwyn wedi ei lenwi a'r olwyn wedi ei thynnu. Yn y gorffennol roedd y rhod uwchredol yn cael ei bwydo gan landeri o lyn y felin i'r de-orllewin o'r felin. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 828
Ariannwyd gan ddatblygwr preifat ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Mapio Ffotograffiaeth Awyr

Parhad o raglen fapio ffotograffiaeth awyr yn Sir Drefaldwyn. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, canolbwyntiodd y prosiect hwn ar drosi ffotograffiaeth ar osgo CPAT. Llwyddwyd i fapio ardal o oddeutu 80km2 fel rhan o'r prosiect. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 696
Prosiect a ariannwyd gan RCAHMW ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Llociau Amddiffynnol yn Sir Faesyfed

88-c-51

Pan gynhaliodd yr Ymddiriedolaeth asesiad o’r nifer fawr o lociau olion cnydau a chloddweithiau y tybir sy’n dyddio o Oes yr Haearn ac Oes y Rhufeiniad yn iseldiroedd Sir Drefaldwyn, llawer ohonynt wedi’u gweld yn gyntaf o’r awyr, nid oedd disgwyl y byddai’r astudiaeth yn cael ei datblygu a’i hintegreiddio mewn prosiect mwy ei faint dros Gymru-gyfan yn y dyfodol a fyddai’n ystyried yr holl lociau amddiffynnol ledled y wlad. Hyd yn oed wedi archwilio'r holl lociau bach yng Nghlwyd yn sydyn, a gwneud arolwg ohonynt yn ddiweddarach yn ail hanner y 1990au, nid oedd bwriad eglur i gynnal astudiaeth systematig ledled rhanbarth y dwyrain. Dechreuwyd prosiect Llociau Amddiffynnol Cymru-gyfan, a ariennir gan Cadw, ag astudiaeth gwmpasu yn Ngwynedd yn 2004. Cynigodd hyn gyfle i ymestyn yr astudiaeth i weddill dwyrain Cymru ac ehangu ei chwmpas trwy gynnwys llociau amddiffynnol mawr hefyd. Mae’r arolwg presennol wedi asesu llociau amddiffynnol a bryngeyrydd Sir Faesyfed yn ystod 2005/6. Ystyrir hyn yn rhan gyntaf astudiaeth dwy flynedd o lociau de Powys (hen siroedd hanesyddol Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog). Mae safleoedd cloddweithiau ac olion cnydau Sir Faesyfed yn grŵp sydd wedi’u hesgeuluso ac ychydig a wyddys amdanynt. Er hynny, mae’n amlwg o’r archwiliad presennol fod nifer o safleoedd diddorol yn Sir Faesyfed a’u bod yn wir werth eu hastudio yn eu rhinwedd eu hunain.

Amcanion yr ymarfer hwn, yn unol â’r hyn sy’n cael ei wneud mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, yw dynodi, diffinio a nodi dosbarthiad olion cnydau a llociau cloddweithiau yn yr hen sir, paratoi casgliad o gynlluniau i gyd-fynd â disgrifiadau manwl o’r holl safleoedd perthnasol, asesu arwyddocâd archeolegol y safleoedd mewn fframwaith rhanbarthol a chenedlaethol fel ei gilydd, asesu bregusrwydd yr elfen hon ar yr adnodd archeolegol ac argymell strategaethau rheoli yn y dyfodol, ac ehangu’r Cofnod o’r Amgylchedd Hanesyddol a’r Gronfa Ddata Genedlaethol Estynedig rhanbarthol.

Gan ddechrau ag asesiad pen desg a gwtogodd ar nifer y safleoedd yr ystyriwyd hwy yn ddilys i lawr o 202 i 111, arweiniodd gwaith maes at gwtogi pellach ar y cyfanswm. Ni ellid dilysu rhai safleoedd o’r dystiolaeth oedd ar gael. Roedd cyfanswm o 54 safle wedi’u cadarnhau yn y sir, yn gloddweithiau ac yn olion cnydau fel ei gilydd. O’r rhain, mae ugain yn Henebion Rhestredig, pob un yn gloddwaith.

Nifer weddol fach o wir fryngeyrydd sydd yn y rhanbarth. Ar un pen o’r raddfa, mae rhai bryngeyrydd gwych, sy’n deilwng o’r enw. Mae Burfa Bank (PRN 312) bron 800 metr o hyd, â’i amddiffynfeydd wedi’u mowldio i gyfuchliniau bryn hirgul. Mae’r lloc diddorol ar ben bryn Castle Bank yn Llansanffraid-yn-Elfael, yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu sawl cyfnod gweithgaredd. Mae ynddo nifer o lwyfannau cwt ac mae’n ymddangos bod y fynedfa wedi’i llosgi gan adael cerrig sydd wedi troi’n wydrog ar yr wyneb. Ceir hefyd nifer o geyrydd llai megis Castle Ring ger Llanandras, sy’n lled-hirgrwn ac wedi’i lleoli ar sbardun sy’n arwain o’r bryn yn hytrach nag ar gopa’r bryn ei hun. Ceir golygfeydd braf ohoni dros yr iseldir islaw, ac efallai peth rheolaeth ar yr iseldir hwnnw. Ailddefnyddiwyd tair o’r bryngeyrydd tybiedig yn ddiweddarach, wedi Concwest y Normaniaid: Castell Tinboeth, Castell Cnwclas a Chastell Cefnllys, ond mae’r dystiolaeth yn ddigamsyniol yn achos yr olaf o’r rhain yn unig.

Aileen Fox yn y 1950au oedd y gyntaf i nodi grŵp o lociau a cheyrydd â sawl lloc, ym mhenrhyn y de-orllewin ac yn ne Cymru. Roedd llawer ohonynt ar lethrau’r bryniau yn hytrach nag ar eu crib. Ar y pryd, ni chydnabuwyd y ffaith eu bod yn ymestyn i ganolbarth Cymru hefyd. Mae’r Gaer, ger Llandrindod yn un o amryw o fryngeyrydd sydd â rhagfuriau gwasgarog yn yr hen Sir Faesyfed. Mae hon o ddiddordeb arbennig oherwydd bod bryngaer arall ar y bryncyn nesaf tua’r dwyrain, heb fod yn fwy na 500 metr i ffwrdd, sef Cwm Cefn y Gaer. Mae hon eto’n dilyn y cyfuchliniau ond mae’n ymddangos nad oes ganddi unrhyw ragfuriau gwasgarog, ac yn wir mae’n well ystyried mai lloc unglawdd ydyw.

Mae gan sawl lloc megis bryngaer Creigiau Llandeglau randai sylweddol eu maint, tra bod lloc mewnol lled hirgrwn yn Llysin Hill a dau groesglawdd, 80 metr a 180 metr i ffwrdd. Roedd y rheiny, yn ôl pob tebyg, yn creu llociau ychwanegol. Mae grwpiau o fryngeyrydd o ba bynnag fath yn anghyffredin yn Sir Faesyfed ond mae yna dri safle ar y Carneddau i’r gogledd-orllewin o Lanfair-ym-Muallt o amgylch perimedr yr ucheldir ac o fewn 2 cilometr i’w gilydd. Ceyrydd pentir â sawl lloc yw pob un o’r rhain. Mae natur y tir yn addas ar gyfer cyfaddasu safleoedd amddiffynnol o’r fath.

Gwelir llociau bach amddiffynnol ar lethrau’r bryniau yn bennaf, gydag arwynebeddau mewnol bach sydd fawr mwy na llawer o’r llociau olion cnydau yn yr iseldiroedd. Maent yn debyg i rai o’r rhathlannau yn ne-orllewin Cymru. Mae’r llociau olion cnydau eu hunain wedi’u crynhoi yn nwyrain y sir, yn benodol ym Masn Waltwn ac o’i gwmpas, lle bu cymaint o ragchwilio ag awyrluniau a gwaith maes dilynol yn ystod y degawd diwethaf neu fwy. Hefyd, mae’n ymddangos bod amodau tyfu’r cnydau’n well ac, yn benodol, bod mwy o dyfu cnydau yma nag yn unrhyw ran arall o’r sir. Mae fwy neu lai pob safle sydd wedi’i ddilysu yn lloc unigol, gyda ffosydd cul ar ffurf hirgul ar y cyfan, er y gwelir y siâp D clasurol, gydag un ochr grom a thair ochr syth ar ambell un. Mae’n ymddangos bod y forffoleg weddol syml sydd i’w gweld yn y safleoedd yn y dyffrynnoedd i’w gweld hefyd yn yr ychydig sydd y tu hwnt i dir isel y basn.

Ni chloddiwyd unrhyw rai o’r llociau yn Sir Faesyfed, p’un ai’n fryngeyrydd neu’n llociau amddiffynnol, felly nid oes tystiolaeth, heblaw tebygrwydd, i gadarnhau mai o gyfnodau Oes yr Haearn neu Oes y Rhufeiniaid y maent yn dyddio. Bu cloddio ystyrlon ar safleoedd olion cnydau ym Masn Waltwn yn unig. Yma, mae’n ymddangos bod lloc Hindwell bron yn sicr yn dyddio o Oes yr Haearn oherwydd y crochenwaith a ddarganfuwyd yn siltiau’r ffos uchaf. Archwiliwyd lloc Knapp Farm yn ystod yr un rhaglen waith: ni ddaethpwyd o hyd i ddarganfyddiadau wrth gloddio, ac ar sail tebygrwydd yn unig yr awgrymodd Alex Gibson ddyddiad ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ar gyfer y safle hwn. Roedd trydydd safle, lloc Rough Close, yn fwy fyth o broblem oherwydd y dyddiadau radio carbon gwrthdro a ddaeth ohono. Rhagwelir y bydd mwy o ddadansoddi yn ddichonadwy yn dilyn cwblhau gweddill de Powys (Sir Frycheiniog) yn 2006/07. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 1283
Ariannwyd gan Cadw yn 2005/06
diweddarwyd Hydref 2006


Prosiect CPAT
Mapio Ffotograffiaeth Awyr

Ymgymryd 12 awr o ffotograffiaeth awyr i archwilio Dyffryn Tanat a Dyffrynnoedd Blaen Hafren, ynghyd Basn Walton a Dyffryn Gwy oedd y bwriad gwreiddiol. Yn anffodus, nid oedd amgylchiadau'r haf yn ffafriol i olion cnydau ffurfio ac o ganlyniad ychydig iawn o hedfan a gyflawnwyd yn Nyffryn Tanat a Basn Walton. Felly, newidiwyd y rhaglen er mwyn cynnal cyfres o deithiau awyr yn ystod y gaeaf i fonitro Henebion Rhestredig yng ngogledd Sir Drefaldwyn, y Berwyn a'r ardal o gwmpas Wrecsam a Mynydd Rhiwabon. Fel y bu hi, oherwydd amgylchiadau anaddas a diffyg amser roedd yn rhaid dileu ardal y Berwyn o'r rhaglen. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 816
Ariannwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Moel Findeg: Asesiad

Arweiniodd bwriad Cyngor Sir Ddinbych i greu Gwarchodfa Natur Leol ar Foel Findeg (SJ206612), at arolwg archaeolegol manwl o'r ardal ar ran orllewinol Moel Findeg, i'r dwyrain o bentref Maeshafn. Awgrymodd astudiaeth pen-desg bod yr ardal yn parhau'n agored a heb ei datblygu'n ei hanfod tan Arolwg Degwm 1838, wedi hynny daeth mwyngloddio'n ddiwydiant lleol pwysig. Cysylltir y prif gyfnod cloddio gyda datblygiad Pwll Maeshafn ac yn benodol gan ddatblygiadau o gwmpas Siafft Grosvenor. O fewn yr ardal astudio, arweiniodd hyn at adeiladu cyfres o gronfeydd sylweddol a ffrydiau cysylltiol, goroesodd eu gweddillion mewn coetir. Nodwyd pum siafft fechan hefyd yn yr ardal. Daeth mwyngloddio i ben ym Maeshafn ym 1906-7, wedi hynny, bu'r ardal yn wrthrych nifer o brydlesu echdynnu silica tan y 1940au, ac mae gweddillion nifer o chwareli, inclein o bosibl, arfdy a nodweddion cysylltiedig eraill wedi goroesi. Nodwyd cyfres o gloddiau caeau a waliau creiriol hefyd, yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif mae'n debyg. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 818
Ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Mwynfeydd Metel yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru: Cyhoeddiadau

Cwblhau’r adroddiad ar arolwg yr Ymddiriedolaeth o safleoedd mwyngloddio metel yn ardal Clwyd-Powys er mwyn ei gyhoeddi o bosibl yng Nghyfres Adroddiadau Ymchwil Cyngor Archeoleg Prydain, yn dilyn derbyn sylwadau a chyngor oddi wrth arbenigwr archeoleg diwydiannol Cadw. Roedd y gwaith yn cynnwys gwaith golygu helaeth a gwella'r testun, diwygio'r cynllun cyfredol, comisiynu nifer gyfyngedig o luniadau newydd a chomisiynu nifer o brintiau ffotograffig. Fe fydd yr adroddiad drafft yn cael ei gwblhau a’i gyflwyno i’w gyhoeddi yn 2003/04. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 983
Ariannwyd gan Cadw yn 2002/03
diweddarwyd Hydref 2003


Prosiect CPAT
Mynwent Worthenbury: Asesiad

Arweiniodd yr estyniad bwriadedig i fynwent bresennol Eglwys Worthenbury at gynnal gwerthusiad yn ystod mis Awst 1999. Mae Worthenbury o darddiad Eingl-Sacsonaidd ac fe'i cofnodir yn Llyfr Domesday fel Hurdinburie, ac mae o leiaf bosibilrwydd mai Sacsonaidd yw'r burhAnglo-Saxon Chronicle yn nechrau'r 10fed ganrif. Ailadeiladwyd eglwys St Deniol ym 1736-9 ac mae'n esiampl wych o bensaernaeth eglwysig Sioraidd, credir ei bod yn un o'r gorau yng Nghymru. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys tair ffos na ddangosodd fawr o arwyddocd archaeolegol, roedd yr unig nodweddion yn cynnwys marciau aradr posibl a chladdfa anifail. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 829
Ariannwyd gan Gyngor Plwyf Worthenbury ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Mynydd y Ffynnon

Datblygodd yr arolwg o dirwedd Mynydd y Ffynnon fel prosiect gwaith ar y cyd gan CPAT ac Archaeoleg Cambria gyda nawdd o'r Undeb Ewropeaidd a'r RCAHMW dros y tair blynedd diwethaf. Massif ucheldirol ydyw ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys, i'r dwyrain o Bontarfynach, eisoes cynhaliwyd asesiad pen-desg manwl, astudiaeth fanwl o bob ffotograffiaeth awyr sydd ar gael, a thri arolwg gwaith maes ar wahn. Yn ystod 1998/99 cynhaliwyd gwaith maes pellach ar dir ar ochr orllewinol y massif yng nghyffiniau Cwmystwyth (Ceredigion), dangosodd hwn lwyfannau a chytiau hirion, gweddillion mwyngloddio, un garnedd gylchog bosibl a nifer o nodweddion eraill. O ganlyniad i waith archwilio yn y coedwigoedd conwydd eang ar y masiff canfuwyd rhagor o gytiau hirion, gan gynnwys un ym Mhowys, systemau dyfrffosydd ac argaeau a nodweddion mwyngloddio. Cefnogwyd y gwaith yn y coedwigoedd gan raglen Asedau Treftadaeth Gymreig Menter Coedwigaeth (WHA), a gynhaliwyd gyda chymorth ariannol o'r Gronfa Loteri Treftadaeth, a geisiodd asesu'r safleoedd hysbys yng nghoedwig Mynydd y Ffynnon, sef cyfanswm o 171 o gofnodion safle. Roedd 14 ohonynt ar gyfer Powys a'r gweddill ar gyfer Ceredigion, er bod nifer o fwyngloddiau mawr i gyfrif am dros 40% o'r cofnodion. Ymwelwyd phob un o'r safleoedd i gofnodi eu cyflwr, y bygythiad posibl ac argymhellion rheoli cryno.

Mae ADAS a Menter Coedwigaeth, sef y tirfeddianwyr mwyaf ar y darn hwn o ucheldir, yn ystyried cynllun Mynydd y Ffynnon fel cynllun peilot ar gyfer yr ucheldir gyda'r nod o adfer cynefinoedd cynhenid yr ucheldir a chadwraeth eu bywyd gwyll, tra'n sicrhau bod elw economaidd go iawn i goedwigaeth ac amaethyddiaeth a thrwy hynny economi gwledig yr un ardal. Oherwydd bod y ddau dirfeddiannwr mawr wedi adnabod archaeoleg yr ardal ac wedi talu sylw i'r amgylchedd hanesyddol, cyflwynwyd adroddiad terfynol gydag argymhellion rheoli manwl ar gyfer y safleoedd o fewn y goedwig a'r rhostiroedd agored. Bydd trafodaethau ynghylch yr argymhellion hyn yn parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf. Cynhyrchodd rhaglen Mynydd y Ffynnon swm sylweddol o ddata dros gyfnod o dair blynedd, mae llawer ohono'n gwbl newydd. Hyderwn y caiff adroddiad academaidd ei gynhyrchu ar y gwaith yn ei dro. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 780
Ariannwyd gan y Swyddfa Gymreig/ADAS ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Nodweddu’r Tirlun Hanesyddol: Maelor Saesneg 2002/03

CPAT HL areas

Mae tirlun hanesyddol Maelor Saesneg sydd wedi’i ddiffinio yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru yn sôn am gymunedau modern Bangor Is-y-coed, Owrtyn, Willington Worthenbury, Hanmer, a De Maelor. Er cyfleustod, mae’r astudiaethau presennol yn cwmpasu ardal hanesyddol gyfan Maelor Saesneg i’r dwyrain o Afon Dyfrdwy, ac felly mae’n cwmpasu pob rhan o’r cymunedau hyn a hefyd cymuned Bronington, pob un ohonynt o fewn sir gyfoes Wrecsam. Diwygiwyd y fethodoleg rhywfaint ar gyfer y prosiect arbennig yma oherwydd cymeriad tirlun penodol yr ardal. Crëwyd gweithfan System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) er mwyn gallu holi Cofnod Safleoedd a Henebion (CSH) Rhanbarthol yr oedd Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn ei gofnodi a’i gynnal yn ôl seiliau mapiau modern rhastr (1:10,000) a fector (LandLine) yr Arolwg Ordnans (OS). Crëwyd tua 150 o gofnodion CSH newydd ar gyfer strwythurau a safleoedd nad oeddent yn adeiladau, y gellid eu gweld ar y mapiau hyn, yn ogystal ag ar fapiau papur modern OS 1:25,000 (cyfres Explorer) ac ar argraffiad cyntaf y mapiau OS 6-modfedd. Cynhaliwyd astudiaethau arbennig o byllau marl a thirweddau cefnen a rhych sy’n nodweddu hanes defnydd tir ym Maelor Saesneg. Felly, crëwyd data pwyntiau arwahanol ar gyfer 2,200 cofnod o byllau marl o’r mapiau papur a’r ffynonellau mapiau digidol a restrwyd uchod, a chrëwyd data amlochrog ar gyfer ychydig dan 20 cilomedr sgwâr o dirwedd cefnen a rhych a oedd i’w gweld ar awyrluniau o’r ardal. Crëwyd cyfres o 865 o bolygonau hefyd ar gyfer mathau o dirlun, gan gynnwys caeau, aneddiadau, coetiroedd, tir ymylol, parcdir ac ati, yn ôl dosbarthiad a ddyfeisiwyd ar gyfer y prosiect, er mwyn gallu fformiwleiddio patrymau hanesyddol cyffredinol defnydd tir, a chreu sail i ddiffinio ardaloedd tirlun nodwedd hanesyddol. Crëwyd model topograffig o’r ardal hefyd, fel offeryn i ddadansoddi tirlun hanesyddol. Gwnaed ychydig o waith maes i brofi dilysrwydd y gwaith pen-bwrdd ac i ddarparu ffotograffiaeth o’r ddaear. Aethpwyd ar daith mewn awyren er mwyn darparu’r awyrluniau. Mae cyfanswm o 17 o ardaloedd tirlun nodwedd hanesyddol wedi eu diffinio o fewn yr ardal tirlun hanesyddol. Gwnaed ymdrech arbennig i drefnu rhyngwyneb ar gyfer yr ymarfer nodweddu a phrosiect LANDMAP Wrecsam yr oedd Archeolegwr y Sir yn ymgymryd ag ef ar yr un pryd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd hyn yn cynnwys ailgategoreiddio’r mathau tirlun sylfaenol gan ystyried agwedd tirlun hanesyddol LANDMAP a ddiwygiwyd yn ddiweddar, er mwyn gallu defnyddio’r dyddiad nodweddu o fewn LANDMAP. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 761
Ariannwyd gan Cadw yn 2002/03
diweddarwyd Hydref 2003


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Nodweddu’r Tirlun Hanesyddol: Canol Dyffryn Wysg

CPAT HL areas

Nod yr astudiaeth yw nodweddu ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Wysg yn llawnach ac yn fanylach, yn unol â'r diffiniad yn y Gofrestr Tirweddau Hanesyddol. Crëwyd gweithle MapInfo 6, ac ynddo roedd modd ymholi’r Cofnod Rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol (CAH) y mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn ei gadw a’i gynnal, trwy ei gymharu â mapiau sylfaen hanesyddol a modern rhastr (1:10,000) a fector (LandLine) yr Arolwg Ordnans (OS). Fel rhan o astudiaeth gychwynnol lluniwyd polygonau MapInfo, i gynrychioli mathau ar dirweddau hanesyddol, a diffinio aneddiadau, mathau o gaeau a mathau eraill o ddefnydd tir. Dosbarthwyd y rhain yn ôl system a ddyfeisiwyd ar gyfer y prosiect, a luniodd ddata lefel sylfaenol ar gyfer yr astudiaeth hon. Crëwyd model topograffig o’r ardal hefyd fel offeryn ar gyfer dadansoddi tirweddau. Diffiniwyd cyfanswm o 8 o ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol (ceir y manylion isod). Roedd y rhain yn cynrychioli ardaloedd daearyddol arwahanol o nodwedd hanesyddol eithaf cyson. Gallent fod yn nodweddion ffisegol, er enghraifft defnydd tir amlycaf neu ffurf ar anheddiad roedd y setiau data a nodir uchod yn darparu gwybodaeth ar eu cyfer, neu’n gysylltiadau diwylliannol y cydnabyddir eu bod yn arbennig o gryf o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol hon.

Gwaith desg oedd yr astudiaeth yn bennaf, gan dynnu ar wybodaeth yn y Cofnod rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol y mae YACP yn ei gynnal, ac mewn ffynonellau cyhoeddedig oedd ar gael yn rhwydd. Gwnaed rhywfaint o waith maes i roi dilysrwydd yr asesiad desg ar brawf, ac i ddarparu ffotograffiaeth o’r ddaear. Aeth Nigel Jones o YACP i hedfan mewn awyren unwaith i ddarparu delweddau ffotograffig o’r dirwedd o’r awyr. Nid oedd cwmpas y prosiect yn cynnwys nodi safleoedd o arwyddocâd archeolegol neu hanesyddol nad oeddent wedi’u cofnodi, na chadarnhau safleoedd oedd eisoes wedi’u nodi, felly ni cheisiwyd gwneud hyn.

Cyflwynwyd canlyniadau’r astudiaeth mewn adroddiad papur ar gyfer cylchrediad cyfyngedig. Mae adran gyntaf yr adroddiad yn darparu hanes thematig datblygiad tirwedd Canol Dyffryn Wysg, gan edrych ar y dirwedd naturiol a ffiniau hanesyddol a gweinyddol, hanes defnydd tir ac anheddu, effaith y chwyldro diwydiannol a gwelliannau i drafnidiaeth a chyfathrebu, ac yn olaf y cwestiwn o gydgysylltiadau diwylliannol. Yn dilyn hyn mae disgrifiad o ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol unigol, ynghyd â rhestr o ffynonellau hanfodol a map lleoliad. Cyflwynir ffotograffau o ardaloedd nodwedd mewn adran ddilynol. Bydd fersiwn dwyieithog o’r adroddiad ar gael maes o law ar wefan YACP fel rhan o fenter nodweddu’r dirwedd hanesyddol. Cynhyrchir taflen ddarluniadol am y dirwedd hanesyddol hefyd maes o law.

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd canlynol fel rhan o’r prosiect: Llansbyddyd (caeau canolig a mawr eu maint, â siapiau rheolaidd, ar lawr ac ar lethrau is dyffryn afon Wysg, dyffrynnoedd is Ysgir ac Aberbrân i’r gorllewin o Aberhonddu, gydag aneddiadau eglwysig canoloesol bach yn Llansbyddyd ac Aberysgyr ac elfennau o hanes trafnidiaeth yn gysylltiedig â ffyrdd Rhufeinig, ffyrdd ôl-ganoloesol, a’r rheilffordd); Pen-y-crug (tirwedd amrywiol, donnog i’r gogledd a’r gorllewin o Aberhonddu gyda chaeau afreolaidd yn bennaf, ac ardaloedd o goetir conwydd a chomin agored ar ben bryn, gyda dyffrynnoedd nentydd bach yn torri trwyddi yma a thraw, a strwythurau amddiffynnol cynhanesyddol a Rhufeinig, gan gynnwys bryngeyrydd mawr o Oes yr Haearn ym Mhen-y-crug a Choed Fenni-fach a chaer Rufeinig Aberhonddu); Aberhonddu (anheddiad cnewyllol mawr o darddiad canoloesol ger afon Wysg, a sefydlwyd gyntaf ar ddiwedd yr 11eg ganrif ochr yn ochr â chastell a adeiladwyd gan Bernard de Newmarché yn dilyn concwest y Normaniaid, ac a ddaeth yn ddiweddarach yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru yn yr 17eg ganrif ac yn dref sirol Sir Frycheiniog); Llan-ddew (tirweddau caeau iseldirol, tonnog i’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu, yn cynnwys caeau rheolaidd mawr i ganolig eu maint, yn ôl pob tebyg o darddiad canoloesol a hwyrach, ynghyd â phentref crebachog canoloesol Llan-ddew a nifer o ffermydd ôl-ganoloesol mwy wedi’u gwasgaru’n eang, a bryngaer a lloc cynhanesyddol hwyrach o bosibl); Tal-y-llyn (iseldir tonnog ar ymylon ochr ogleddol dyffryn Wysg ac yn cynnwys rhan o gefndeuddwr afon Llynfi. Tirwedd o gaeau afreolaidd canolig i fawr eu maint yn bennaf, ffermydd gwasgaredig ac aneddiadau eglwysig bach o darddiad canoloesol cynnar a chanoloesol. Cofebion claddu a defod cynhanesyddol yn dangos anheddu a defnydd tir cynnar. Aneddiadau ôl-ganoloesol bach yn gysylltiedig â thramffyrdd a rheilffyrdd o’r 19eg ganrif sydd bellach yn segur; Pengelli – Tal-y-Bont (tirwedd o gaeau mawr afreolaidd iseldirol, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli amgáu cymharol ddiweddar o ddolydd comin blaenorol ar orlifdir llifwaddodol eang afon Wysg rhwng Aberhonddu a Thal-y-Bont ar Wysg, gyda chyfundrefn gymhleth ac egnïol o ystumiau ac ystumllynnoedd yr afon, gyda Chamlas Mynwy a Brycheiniog yn ei chroesi, ac yn cynnwys aneddiadau cnewyllol bach o’r canol oesoedd yn Llanfrynach, Pengelli, a Thal-y-Bont ar Wysg. Cyfadail fila Rufeinig arwyddocaol ym Maesderwen ger Llanfrynach); Llyn Syfaddan (llyn mawr, rhewlifol naturiol diweddar a ffurfiodd nodwedd ganolog ym Mrycheiniog cyn concwest y Normaniaid ac, erbyn hyn, mae’n ganolbwynt gwarchod natur a chwaraeon dŵr. Mae’r llyn yn gysylltiedig â llawer o lên gwerin cynnar ac ynys neu grannog gwneud sy’n unigryw i Gymru oedd yn ffurfio preswylfa frenhinol o’r canol oesoedd cynnar. Tystiolaeth o weithgaredd Mesolithig llawer cynharach a gwaddodion â photensial palaeoamgylcheddol rhanbarthol sylweddol; Cathedin (tirwedd o gaeau a rannwyd yn rheolaidd ar lethrau gorllewinol Mynydd Troed a Mynydd Llan-gors yn edrych dros Lyn Syfaddan, gyda ffermydd gwasgaredig, a amgaewyd yn ôl pob tebyg yn y cyfnod canoloesol diweddarach ac ôl-ganoloesol cynnar. Darganfyddiadau carreg yn dangos gweithgaredd cynhanesyddol cynnar. Safleoedd tai gadawedig ac anghyfannedd). (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 761
Ariannwyd gan Cadw yn 2005/06
diweddarwyd Hydref 2006


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Porthladdoedd a Harbwrs yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Queensferry

Mae sawl porthladd a harbwr hanesyddol wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru, er na cheir dealltwriaeth drwyadl o’u natur a’u maint yn aml. Mae gan lawer o safleoedd pwysig botensial sylweddol o ran gweddillion archeolegol, boed y rhain yn dal i sefyll, wedi'u claddu, neu wedi’u boddi, a deuant dan fygythiad cynyddol yn sgîl gwaith datblygu. Felly, cynlluniwyd yr astudiaeth bresennol i ddarparu asesiad manwl o’r adnodd archeolegol pwysig hwn er mwyn gwella ein dealltwriaeth o borthladdoedd a harbwrs, eu datblygiad, eu harwyddocâd a'u potensial, gan ddarparu gwaelodlin i'w defnyddio wrth ddatblygu strategaethau rheoli yn y dyfodol.

Cyflawnir y prosiect mewn dau gyfnod, yn dechrau gydag astudiaeth gwmpasu ac astudiaethau achos manwl o borthladdoedd ar hyd Toriad Newydd Afon Dyfrdwy. Bydd yr ail gyfnod yn parhau â’r astudiaethau achos er mwyn cynnwys gweddill y porthladdoedd yn yr ardal.

Ceir crynhoad cyfoethog o borthladdoedd a harbwrs bychain ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, ac ar aber Afon Dyfrdwy yn arbennig, ac mae’r rhain yn bwysig i’n dealltwriaeth o gyfathrebu, masnach a diwydiant yn yr ardal hon. Mae’r prosiect yn cynnwys amrywiaeth o borthladdoedd a cheiau, gan gynnwys porthladdoedd canoloesol oedd yn gysylltiedig â Rhuddlan a’r Fflint, yr harbwrs hynny a restrwyd yn y Welsh Port Books 1550-1603, a’r rhai hynny a ddatblygodd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi i gefnwlad aber Afon Dyfrdwy gael ei diwydiannu. Nid yw’r mwyafrif ohonynt yn weithredol bellach. Ar sail eu potensial archeolegol, mae’r porthladdoedd Rhufeinig damcaniaethol ym Mhrestatyn a’r Fflint wedi’u cynnwys hefyd.

Mae digonedd o dystiolaeth sy’n awgrymu bod arfordir Cymru wedi bod yn adnodd pwysig ers y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth bresennol yn canolbwyntio ar dwf porthladdoedd, harbwrs a cheiau y tybir iddynt fod wedi datblygu o’r cyfnod Rhufeinig ymlaen, yn hytrach nag ar y defnydd a wnaed o’r arfordir. Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol o borthladdoedd Rhufeinig yn ardal yr astudiaeth, mae’n amlwg bod Afon Dyfrdwy yn arbennig yn ddyfrffordd o bwys yn y cyfnod ac yn darparu mynediad o’r môr i Gaer. Fodd bynnag, arweiniodd y gwaith cloddio a wnaed ym Mhrestatyn a’r Fflint at yr awgrym y gallai’r naill a’r llall fod wedi’u cysylltu â phorthladdoedd gerllaw o bosibl.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd adeiladu’r castell Edwardaidd yn Y Fflint o 1277 a sefydlu’r fwrdeistref gyfagos yn dibynnu’n helaeth ar ddefnyddio’r afon fel modd o gludiant, ac mae tystiolaeth bod gan y castell a’r dref fel ei gilydd eu ceiau eu hunain. Yn wir, gallai cychod sylweddol eu maint gyrraedd y castell mor ddiweddar â chanol y 19eg ganrif. Sefydlodd Edward gastell a bwrdeistref yn Rhuddlan hefyd, yn yr un flwyddyn ag yn Y Fflint. Mae torri sianel newydd ar gyfer afon Clwyd trwy dir corsiog, i’r dwyrain o’i chwrs gwreiddiol, yn dangos pwysigrwydd mynediad o’r arfordir yn eglur.

Mae’r Welsh Port Books 1550-1603 yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am natur porthladdoedd ôl-ganoloesol yn yr ardal gyda rhestr o’r unig hafanau ar hyd arfordir Sir y Fflint ym 1566, sef Welsh Lake, Wepra Pool, Picton Pool a Foryd. Nid oes cofnod o fannau glanio yn Sir Ddinbych ond ni ddylid cymryd bod hyn yn awgrym nad oedd masnach a gweithgareddau arfordirol o gwbl yno. Yn lle hynny, er nad yw arfordir y sir yn cynnig unrhyw harbwrs naturiol, mae digonedd o leoedd ar ei thraethau lle gellid tynnu cychod bychain, boed yn rhai pysgota neu’n rhai masnachu, i fyny ar y blaen traeth. Mae’n debygol mai dyna fyddai wedi digwydd yn Abergele, Llanddulas a Llandrillo-yn-Rhos.

Erbyn y 15fed ganrif, roedd siltio yn effeithio ar Afon Dyfrdwy. Y cofnod cynharaf o anawsterau yw ‘Brîff Brenhinol’ ym 1449 a wnaeth asesu Dinas Caer ac awgrymu adeiladu cei yn Neston ar gyfer trosglwyddo cargoau i gychod llai. Daeth arolwg gan y Capten Andrew Yarranton ym 1674 a gyhoeddwyd ym 1677 dan y teitl England's Improvement by Sea and Land, i’r casgliad bod yr afon wedi’i thagu cymaint â thywod na allai cwch ugain tunnell gyrraedd Caer. Argymhellodd adeiladu sianel newydd ar hyd traethlin Sir y Fflint fel bod mordwyo dŵr dwfn i Gaer yn bosib. Ar y pryd, roedd y sianel dŵr dwfn yn dilyn morlin Swydd Gaer, a thraethellau lleidiog Morfa Saltney oedd morlin Sir y Fflint yn bennaf.

Adeiladwyd Toriad Newydd afon Dyfrdwy o’r diwedd ym 1737. Roedd yn dilyn y lan ddeheuol ar y pryd o Gaer i Saltney ac yna, wedi tro bach, aeth mewn llinell syth ar hyd morlin Sir y Fflint i Golfftyn. Adeiladwyd pier o garreg yng Ngolfftyn i ddiogelu cychod oedd yn teithio i Gaer ac yn ôl ac a oedd yn aros am wynt teg, a dyma ffurfiodd gnewyllyn yr hyn a ddaeth yn borthladd Cei Connah. Y Toriad Newydd oedd yn gyfrifol am roi cychwyn ar Saltney, Sandycroft, Queensferry a Chei Connah gan alluogi cysylltiadau dŵr hawdd er mwyn mewnforio deunyddiau i’r gefnwlad ac allforio glo a mwynau i Gaer, Iwerddon a chyn belled â gogledd Ffrainc a Sbaen.

Daeth datblygiad rhwydwaith y rheilffyrdd o ganol y 19eg ganrif ag ehangu pellach i fwyafrif y porthladdoedd, yn arbennig Cei Connah a Mostyn. Fodd bynnag, dechreuodd Rhuddlan ddirywio yn ystod yr un cyfnod oherwydd siltio afon Clwyd, ac arweiniodd hyn yn ei dro at dwf Foryd. Roedd y porthladdoedd, ar wahân i Ruddlan, ar eu hanterth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, wrth i’r diwydiannau roeddent wedi’u sylfaenu arnynt hefyd ffynnu. Daeth diwedd y porthladdoedd llai yn sgîl y dirywiad dilynol yn y diwydiannau lleol megis glo, plwm, brics, peirianneg ac adeiladu llongau. Erbyn heddiw, Mostyn yn unig sydd wedi goroesi fel porthladd o bwys, ac yn wir, gwelwyd ehangu yno’n ddiweddar. Mae Cei Connah hefyd yn weithredol o hyd, er nad yw ond cysgod o’r hyn a fu yn y gorffennol, a diflannu wnaeth y porthladdoedd bychain eraill i gyd. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 1264
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 2005/06
Diweddarwyd Hydref 2006


Prosiect CPAT
Piblinell Llanasa: Asesiad

O ganlyniad i'r bwriad i osod prif bibell bwmpio carthffosiaeth 4.5 km rhwng Prestatyn (SJ 07898410) a Thalacre (SJ 24588335) cynhaliwyd asesiad maes ar hyd darn o'r biblinell i'r gorllewin o Gronant. Mae'r ardal gyffredinol yn cynnwys ehangder o waddodion mawn sydd wedi datblygu tu l i dwyni tywod, a chanfuwyd mawn tebyg o bryd i'w gilydd am beth pellter i'r gorllewin. Gwelir tystiolaeth o weithgareddau dynol Neolithig ar ffurf tomenni cregyn o tua 4700 BP a 4890 BP yn l dyddio-radiocarbon ar safle cyfagos Ffordd Nant Hall, Prestatyn. Mae data paill hefyd ar gael o hwn ac o Melyd Avenue, Prestatyn, sy'n rhoi cofnod o newidiadau'n y llystyfiant trwy rannau o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar a'r cyfnod hanesyddol yn yr ardal arfordirol hon. Cynhaliwyd yr asesiad yn ystod mis Hydref 1999, ac roedd yn cynnwys arolwg trawslun gan ddefnyddio taradr llaw sengl i gymryd samplau craidd bob 20m ar hyd darn 850m o lwybr y biblinell arfaethedig. Dangosodd archwiliad maes o'r deunydd o broffiliau taradr detholedig bod y gwaddodion yn cynnwys haen denau o uwchbridd gyda haenau o fawn o drwch amrywiol oddi tano. Canfuwyd deunydd coediog mewn rhai o'r proffiliau o rannau dwyreiniol y trawslun, ond, ac eithrio darnau achlysurol o hesg a chawn, roedd macroffosilau planhigion yn gyffredinol brin. Canfuwyd deunydd tywodlyd mewn nifer o broffiliau, naill ai wedi gwelyo mewn, neu wedi ei wasgaru trwy'r mawn. Sylwyd ar ddarnau bychain o gregyn hefyd. Mae'n sicr mai tywod yn cael ei chwythu'n ysbeidiol o'r twyni tywod i'r gogledd yw'r deunyddiau hyn a bod y gwaddodion a'r darnau o gregyn yn cael eu hymgorffori yn y mawn adraddedig wedyn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddeunydd archaeolegol yn unrhyw un o'r proffiliau taradr. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 847
Ariannwyd gan Dwr Cymru ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000


Prosiect CPAT
Priffordd Cyfronydd (A458), Cam 2

Roedd asesiad cychwynnol CPAT (Prosiect CPAT 806) o lwybr y briffordd yn cynnwys astudiaeth pen-desg ac arolwg cerdded cwrs. Dangosodd hwn bod posibl i'r cynllun ffordd arfaethedig effeithio ar ddau gaeadle olion cnydau y gwyddom amdanynt o ffotograffiaeth awyr, yn Sylfaen a Bythynnod Hydan. Un o awgrymiadau'r adroddiad dilynol oedd y dylid cynnal arolwg geoffisegol ar y ddau safle er mwyn deall natur a maint y caeadleoedd yn well ac er mwyn rhoi sail i strategaethau lliniaru pellach. Wedi hyn comisiynwyd CPAT gan Wasanaethau Cludiant ac Eiddo Cyngor Sir Powys i gynnal yr arolwg geoffisegol fel Cam 2 o'r asesiad archaeolegol. Isgytundebwyd yr arolwg i ArchaeoPhysica o Newport, Sir Amwythig a ddefnyddiodd gradiomedr magnetig ag anwedd caesiwm ar gydraniad gofodol uchel. Dangosodd yr arolwg o Sylfaen gyfres o anomaleddau llinellol a chrymion a ddadansoddwyd fel cyfres o ffosydd yn dangos amryw gyfnodau cau tiroedd, er bod ffurf y caeadleoedd yn anghyson ac yn anodd i'w ddiffinio ar hyn o bryd. Dangosodd yr arolwg o Fythynnod Hydan olion gwan o'r ffos amgu gyda nifer o arwyddion o anomaleddau gwan gan gynnwys ffos gron ty crwn neu grug crwn o bosibl. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 809
Ariannwyd gan Adran Priffyrdd Cyngor Sir Powys ym 1998/99
diweddarwyd Ebrill 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Prosiect Eglwysi

CS97/47/22

Ystod haf 1995, ymwelwyd , a chofnodwyd 261 o eglwysi, cafodd y canlyniadau eu cyfuno gyda manylion o ffynonellau eilaidd a'r archifau. Gwelwyd bod angen gwirio ac ailysgrifennu'r adroddiadau eglwysig ar gyfer Siroedd Maldwyn, Fflint, a Wrecsam er mwyn cael safon gyffredin, bellach mae hyn wedi ei gwblhau. Paratowyd cyfres o chwe adroddiad sy'n rhoi manylion pob eglwys ar gyfer ardaloedd: Siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn; dwyrain Conwy, Sir Ddinbych; Sir y Fflint a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Wedi cytuno ar amser gyda Cadw, dosberthir yr adroddiadau hyn, neu'r darnau sy'n berthnasol i ddiddordebau penodol i'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru (RCAHMW), yr Eglwys yng Nghymru, Cyngor Archaeoleg Prydain (Cymru), archaeolegydd esgobaeth Llanelwy, Bangor, Abertawe a Brycheiniog, Henffordd a Chaer, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac i swyddogion unigol. Paratowyd adroddiadau cryno neu arolygon ar gyfer yr ardaloedd canlynol: Siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn; Cyngor Bwrdeistref Conwy (ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd); Sir Ddinbych a Dyffryn Clwyd; Sir y Fflint a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bydd cylchrediad yr arolygon hyn ychydig yn wahanol i gylchrediad yr adroddiadau manwl, dosberthir hwy i archddiaconiaid, awdurdodau lleol ac archifwyr sirol ymhlith eraill. Casglwyd archif sylweddol o ddeunydd, gan gynnwys nodiadau maes ac archif, cynlluniau bras, data-basau cyfrifiadurol, llyfrynnau cyhoeddedig a ffotograffau du a gwyn a rhai lliw, trosglwyddir llawer ohonynt i'r Cofnod o Safleoedd a Henebion ac i archifau'r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol agos. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 607
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Prosiect Eglwysi: Adroddiad Dadansoddol

CS96/21/23

Am y tro cyntaf cynhyrchodd y prosiect Cymru gyfan ar eglwysi hanesyddol gofnod manwl a thrwyadl o'r holl eglwysi cyn y 19eg ganrif yn y Dywysogaeth, sef cyfanswm o 976, ac eithrio'r eglwysi cadeiriol. Lluniwyd set gynhwysfawr o ddata ac fe ragwelir y bydd o ddefnydd i Cadw eu hunain, y National Monument Record, archaeolegwyr esgobaethol ac eraill. Mae llawer o botensial o ran ymchwil i'r wybodaeth hon, er, o fewn amodau maes gorchwyl prosiect Cadw nid yw'n bosibl gwneud defnydd o'r potensial hwnnw, ac eithrio yn y modd mwyaf arwynebol. Comisiynodd Cadw adolygiad dadansoddol o'r prosiect cyfan a fydd yn ymddangos yn y cylchgrawn, Church Archaeology - yn y flwyddyn 2000 yn l pob tebyg. Awdur yr adolygiad yw Dr E Evans o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent, ei fwriad yw egluro, inter alia, dosbarthiad y prif gyfnodau archaeolegol, ar draws Cymru, fel a ddangosir gan y manylion sy'n goroesi, dosbarthiad mathau o gynlluniau a dosbarthiad y gwaith pren sy'n goroesi, yn enwedig toeau, trwy gyfres o fapiau a fydd yn cael eu paratoi gan y RCAHMW. Darparodd pob ymddiriedolaeth ddata ar gyfer Dr Evans gan ddefnyddio meini prawf a ddiffiniwyd yn glir, prif nod yr adolygiad oedd nid yn unig dangos beth y gellid ei gyflawni trwy ymagwedd gydlynol at gofnodi maes ond hefyd er mwyn neilltuo'r tueddiadau rhanbarthol hynny mewn archaeoleg eglwysi na fyddant o reidrwydd yn amlwg o'r synthesis a oedd yn un o ganlyniadau'r prosiect prif-ffrwd. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 764
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Prosiect Eglwysi: Cyhoeddiad Poblogaidd

CS95/61/06

Nod y prosiect oedd cynhyrchu llyfryn o'r enw Caring for Historic Churches i'w gyhoeddi ar y cyd gan Cadw ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Bydd y llyfryn yn yr un gyfres Caring for Coastal Heritage/Gofalu am Dreftadaeth yr Arfordir. , a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n dilyn arolwg Cymru gyfan o eglwysi hanesyddol chwe esgobaeth Cymru - Bangor, Llanelwy, Mynwy, Abertawe a Brycheiniog, Llandaf a Thyddewi - a ariannwyd gan Cadw yn ystod y blynyddoedd diweddar ac sy'n cael ei gyflawni law yn llaw gyda chynhyrchu adroddiad dadansoddol yr eglwysi a ddisgrifir uchod. Gofynnwyd am sylwadau'r canlynol ar y testun drafft ar gyfer y llyfryn: archaeolegwyr sy'n eistedd ar bob Pwyllgor Ymgynghorol Esgobaethol, y swyddog prosiect a gynhaliodd yr arolwg o eglwysi hanesyddol, y Cofnod o Safleoedd a Henebion a Swyddogion Rheoli Datblygiad pob un o'r Ymddiriedolaethau Cymreig, Corff Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru a nifer o unigolion eraill. Ar hyn o bryd rydym yn ceisio dod o hyd i luniau lliw priodol i gyd fynd 'r testun, mae hyn yn profi'n anodd mewn rhai achosion. Rhagwelir y bydd y llyfryn yn cael ei gyhoeddi'n ystod hanner cyntaf 1999/00, i gyd-ddigwydd lansio adroddiadau arolwg yr eglwys. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 765
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yn Sir Ddinbych a Dwyrain Conwy

Yn ei hanfod, roedd y prosiect yn parhau 'r asesiad cyflym o ffurf a chyflwr safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol yn Sir Ddinbych a Dwyrain Conwy er mwyn gwella'r Cofnod o Safleoedd a Henebion ac ar gyfer rhaglen wella Henebion Cofrestredig , parhau gwaith prosiect tebyg ym Mlaen Hafren yn Sir Drefaldwyn yn ystod 1997/98.

Wedi i Dr Alex Gibson ymadael i fynd i Wasanaethau Archaeolegol Canolog Treftadaeth Lloegr roedd peth ad-drefnu o'r prosiect yn anochel, yn ogystal chwblhau'r rhaglen waith yn y prosiect gwreiddiol roedd hefyd yn rhaid cwblhau adroddiad y prosiect ar Ddyffryn Blaen Hafren a gychwynnwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol a'r synthesis o'r astudiaeth ar Ddyffryn Blaen Hafren i'w gyflwyno i Montgomeryshire Collections, yn ogystal gwneud y gwaith sy'n weddill ar brosiect Walton.

Mae'r arolwg o safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol Sir Ddinbych a Dwyrain Conwy yn dilyn y fformat a fabwysiadwyd ar gyfer arolwg tebyg yn Nyffryn Blaen Hafren (Gibson 1998). Cafodd ei lunio fel astudiaeth gynhwysfawr o henebion beddrodol-defodol o'r cyfnod Neolithig a'r Oes Efydd yn yr ardal ac fe'i seiliwyd ar y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR) presennol. Ni wnaethpwyd unrhyw waith maes newydd er i safleoedd nas cofnodwyd ynghynt gael eu nodi yn ystod rhai o'r ymweliadau safle ac fe'u hychwanegwyd at y SMR wedyn.

Ymgymerwyd 'r prosiect rhwng mis Hydref 1998 a Mawrth 1999. Archwiliwyd y SMR er mwyn cynhyrchu data-bas o'r holl safleoedd a allai ddod o fewn y categori safleoedd defodol a/neu angladdol y cyfnod Neolithig neu'r Oes Efydd. Seiliwyd hwn ar ddetholiad o fathau o safleoedd o fewn maes yr astudiaeth. Cynhyrchodd y detholiad cyntaf 597 o safleoedd, a oedd yn cynnwys nifer o gofnodion ar gyfer safleoedd amrywiol, yn ogystal 40 o enwau lleoedd a 35 o safleoedd a gofnodwyd fel rhai distrywiedig.

Yna aseswyd y safleoedd hyn yn drylwyr, gan gymryd i ystyriaeth ddisgrifiad y SMR ac unrhyw ffynonellau cyhoeddedig neu ysgrifenedig eraill oedd ar gael, megis ffurflenni ymweliad safle CPAT neu adroddiadau Wardeiniaid Cadw ar Henebion Maes. Archwiliwyd pob safle yn y data-bas cyntaf gyda'r bwriad o wella'r SMR trwy wella manylion a chywirdeb y cofnodion, heb ystyried eu cynnwys na'u hepgor o ddata-bas terfynol y prosiect. Wedi asesu'r cofnodion presennol, cafodd 130 o'r safleoedd eu diystyru fel rhai o fath a/neu gyfnod amherthnasol i'r arolwg.

Ymwelwyd chynifer phosibl o safleoedd, ac eithrio'r rhai hynny a gofnodwyd fel rhai distrywiedig. Ymwelwyd chyfanswm o 294 o safleoedd, gan gynnwys tua 50 o safleoedd cofrestredig. Un tirfeddiannwr un unig a wrthododd roi caniatd i ni fynd ar ei dir, effeithio hyn ar dri safle. Er na dderbyniom ganiatd Ystad y Foelas yn ddigon buan i'n galluogi i gynnal ymweliadau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan effeithio ar 59 safle, hyderwn y bydd hynny'n digwydd yn ystod Ebrill 1999.

Cofnodwyd manylion newydd am y safle a manylion am ddefnydd presennol y tir a chyflwr y cofadail ar ffurflenni ymweld safle yn y maes, wedi hynny ychwanegwyd y wybodaeth at ddata-bas y prosiect. Tynnwyd lluniau o'r safleoedd pan a phryd yr oedd hynny'n briodol. Yna llwythwyd y manylion o'r ffurflenni ymweld safle i'r SMR er mwyn diweddaru'r cofnod presennol a darparu sail i'r adroddiad am y prosiect. O ganlyniad i'r ymweliadau maes ychwanegwyd nifer o safleoedd nas cofnodwyd yn y gorffennol at y data-bas, tra bod 51 wedi'u dileu wedyn, gan roi cyfanswm terfynol o 382 o safleoedd.

O ganlyniad i waith y prosiect, bydd nifer arwyddocaol o safleoedd yn cael eu hargymell ar gyfer eu cofrestru, gan gynnwys 34 grug crwn, 2 gylch cerrig, 2 res o feini, a chistfaen. Bellach, mae amryw o safleoedd yn cael eu hystyried ar gyfer arolygon llawr manwl yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fel cymorth i gofrestru, rheoli a dehongli. Mae'r argymhellion eraill yn cynnwys datgofrestru nifer o safleoedd sydd wedi'u dinistrio neu nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn rhai archaeolegol. (Mynegai prosiectau eto)

Ffynonellau Gibson, A M, 1998. Prehistoric Funerary and Ritual Sites: Upper Severn Valley, CPAT Report No 277.

CPAT logo

Prosiect CPAT 715
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol: De Sir Faesyfed a Dyffryn Dyfi

CS97/47/22

Parhad o’r prosiect Cymru-gyfan y mae Cadw yn ei ariannu. Yn dilyn oedi o ganlyniad i glwy’r traed a’r genau, mae’r gwaith maes yn Ne Sir Faesyfed a dalgylch afon Dyfi yng ngorllewin Sir Drefaldwyn bellach wedi’i gwblhau. Cyfunwyd canlyniadau De Sir Faesyfed â’r rheiny o ogledd y sir er mwyn cynhyrchu un adroddiad ar gyfer Sir Faesyfed yn ei chyfanrwydd. Cynhyrchwyd adroddiad interim ar ganlyniadau dalgylch afon Dyfi, gyda'r bwriad o integreiddio'r data â data gweddill Sir Drefaldwyn wedi i'r gwaith maes yno gael ei gwblhau yn ystod 2003/04. Mae methodoleg y prosiect bellach wedi'i hen sefydlu, ac ar y dechrau, roedd yn cynnwys archwilio’r Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH) Rhanbarthol er mwyn cynhyrchu cronfa ddata o’r holl safleoedd a allai gael eu cynnwys yng nghategori safleoedd angladdol a defodol o Oes Newydd y Cerrig neu o’r Oes Efydd. Seiliwyd hyn ar ddetholiad o fathau o safleoedd, ac roedd yn cynnwys safleoedd lle nad oedd y dehongliad mwyaf tebygol yn gynhanesyddol nac yn perthyn i henebion angladdol neu ddefodol o angenrheidrwydd, ond gellid cynnwys dehongliadau eraill, llai tebygol o bosibl, o fewn cwmpas yr astudiaeth. Archwiliwyd y cofnodion ar gyfer yr holl safleoedd yn y gronfa ddata gychwynnol yn drylwyr â’r bwriad o ychwanegu at y CSH trwy wella manylder a manwl-gywirdeb y cofnodion, waeth p'un a fyddent yn cael eu cynnwys yng nghronfa ddata derfynol y prosiect ai peidio. Yna ailaseswyd y safleoedd, gan ystyried disgrifiad y CSH ac unrhyw ffynonellau cyhoeddedig neu ysgrifenedig eraill sydd ar gael yn rhwydd ac, o ganlyniad i hyn, roedd yn bosibl hepgor nifer sylweddol o safleoedd o'r astudiaeth. Ymwelwyd â chymaint o safleoedd â phosibl, ar wahân i’r rheiny a gofnodwyd fel rhai oedd wedi eu dinistrio. Cofnodwyd manylion safleoedd newydd a manylion y defnydd cyfredol o'r tir, ynghyd â chyflwr yr henebyn, ar ffurflenni ymweliad â’r safle tra yn y maes, ac yna ychwanegwyd y wybodaeth at gronfa ddata’r prosiect. Tynnwyd ffotograffau o safleoedd unigol pan oedd hyn yn gyfleus. Maes o law, fe ychwanegwyd manylion o’r ffurflenni ymweliad â’r safle at y CSH er mwyn diweddaru'r cofnod a darparu sylfaen ar gyfer yr adroddiad presennol. Yn ystod y gwaith maes, ac wedi hynny, penderfynwyd p'un a ddylid argymell safleoedd unigol i'w rhestru ai peidio, ar sail meini prawf rhestru henebion.

Yr unig astudiaeth flaenorol o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol yn Sir Faesyfed yn gyffredinol yw’r un a geir yn Rhestren y Comisiwn Brenhinol a gyhoeddwyd ym 1913, er i astudiaethau cyhoeddedig arwyddocaol gael eu cynnal gan Chris Dunn yn achos yr ardal i’r dwyrain o Afon Ithon, a chan Alex Gibson yn achos ardal basn Waltwn. Mae nifer y safleoedd a gloddiwyd yn eithaf bychan, a dim ond 33 o gloddiadau sydd wedi eu cofnodi, a gallai 11 o’r rhain fod yn rhai hynafiaethol. Deuddeg safle yn unig a gloddiwyd er 1960, ac ymhlith y rhai diweddaraf oedd clostir palis Hindwell a dwy garnedd gron a gloddiwyd fel rhan o Brosiect Basn Waltwn. Mae’n ymddangos bod sawl safle hefyd wedi bod yn destun archwiliadau hynafiaethol llai ffurfiol, ond nid oes unrhyw gofnod cyhoeddedig o hyn.

Ymwelwyd â chyfanswm o 585 o safleoedd yn Sir Faesyfed yn ei chyfanrwydd, a nodwyd pump o safleoedd newydd. Fel y byddem yn disgwyl, carneddi crynion yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd (267), sef 66% o’r holl safleoedd. Mae’n bosibl y gellir priodoli nifer gymharol isel y ffosydd cylch (29) i’r diffyg cyffredinol yn nifer y safleoedd ôl cnwd a nodir isod. Niferoedd cymharol fychain a geir yn yr astudiaeth o’r holl fathau eraill o henebion, ar wahân i feini hirion (58), mewn 12% o’r safleoedd. Mae crynodiad amlwg yn nosbarthiad cyffredinol y safleoedd, yn enwedig y crynodiad henebion ym masn Waltwn. Fel y nodwyd uchod, fe fu’r ardal hon eisoes yn destun astudiaeth gan yr Ymddiriedolaeth a oedd yn cynnwys cloddiadau ar ddwy garnedd, Cwrsws Waltwn, tri lloc cynhanesyddol ac ardal â sglodion fflint. Mae’r ardal wedi ei chydnabod ers amser hir yn rhywle sydd â photensial archeolegol sylweddol, ac mae’r pridd ffrwythlon sy’n draenio’n dda yn cynnig man deniadol ar gyfer anheddu o’r cyfnod Mesolithig ymlaen. Mae’n eironig, fodd bynnag, mai’r union amodau hyn a’u potensial ar gyfer amaethyddiaeth âr yw’r bygythiad mwyaf i’r adnodd archeolegol. Mewn mannau eraill, mae crynodiad pendant yng ngogledd y sir i’r dwyrain o Afon Ithon, a nifer uwch o henebion i’w gweld yn gyffredinol yn yr ardaloedd uwchdirol. I ryw raddau, mae’n bosibl mai adlewyrchiad yw hyn o batrwm arolwg uwchdirol, sydd hyd yma wedi canolbwyntio ar yr ardaloedd canlynol: i’r dwyrain o ran uchaf afon Ithon, Fforest Clud a Thiroedd Comin Sir Faesyfed; a Chwm Elan yn y gorllewin eithaf. Gallai hyn gyfrif yn rhannol am y diffyg amlwg yn nifer y safleoedd yng ngogledd-ddwyrain y sir, lle ceir ardaloedd sylweddol o dir uchel, a lle gellid bod wedi disgwyl gweld henebion angladdol a defodol cynhanesyddol.

O ran cyflwr presennol cadwraeth y safleoedd yn Sir Faesyfed, mae 83 o safleoedd (23%) yn gyfan neu bron yn gyfan, 182 (45%) wedi’u difrodi, a 45 (12%) wedi’u dinistrio neu bron â’u dinistrio. Er bod y rhan fwyaf o’r safleoedd (59%) wedi dioddef o leiaf rhywfaint o niwed, o ganlyniad i aredig, cloddio am gerrig neu archwilio hynafiaethol, mae’n ddiddorol nodi bod 23% o’r safleoedd yn dal i fod yn gyfan, neu bron yn gyfan, a dim ond 6% sydd wedi’u cofnodi fel rhai sydd wedi’u dinistrio neu y tybir eu bod wedi’u dinistrio. Mae dau safle, sef meini hirion neu feini hirion posibl, wedi’u symud. Mae’r safleoedd hynny lle mae’r amodau’n parhau i fod yn anhysbys naill ai yn destun cyfeiriadau hynafiaethol na lwyddwyd i ddod o hyd iddynt, neu’n safleoedd na lwyddwyd i ddod o hyd iddynt yn ystod ymweliadau maes diweddar. Mae’n bosibl felly bod nifer o safleoedd lle nad yw unrhyw olion gweladwy wedi goroesi yn y categori olaf hwn. O ran cyflwr ffisegol yr henebion hynny y llwyddwyd i’w hasesu, mae 180 (58%) mewn cyflwr da gyda dim neu brin dim erydiad amlwg, mae 82 (26%) mewn cyflwr gweddol gyda pheth erydu yn digwydd iddynt, ac mae 49 (16%) mewn cyflwr gwael gyda phroblemau erydu difrifol.

Aseswyd pob safle o ran bygythiadau cyfredol neu rai posibl, ac maent wedi’u graddoli yn ôl yr effaith debygol ar y safle, yn ogystal ag yn ôl pa mor gyflym y bydd hyn yn digwydd. Fel y gellid disgwyl, bygythiadau amaethyddol eu natur yw’r mwyaf niferus o lawer iawn, ac maent yn cyfrif am 68% o achosion. Mae hyn yn cynnwys aredig, sef y bygythiad mwyaf enbyd ei effaith, ond hefyd erydiad gan anifeiliaid a gwelliannau amaethyddol cyffredinol, rheoli tir a bwydo anifeiliaid, dwyn cerrig ar gyfer adeiladu a chodi waliau. Mae’r patrwm sy’n dod i’r amlwg yn atgyfnerthu’r posibilrwydd o sefyllfa ragweladwy lle mae’r henebion yn yr ucheldiroedd dan y bygythiad mwyaf o ganlyniad i erydiad gan anifeiliaid, a’r henebion yn y tiroedd is, yn enwedig ym masn Waltwn, dan fwy o fygythiad o ganlyniad i aredig, naill ai trwy dyfu cnydau ar y tir âr, fel rhan o batrwm cylchdro, neu drwy ail-hau porfa yn rheolaidd. Yn galonogol, ystyrir bod y rhan fwyaf o’r safleoedd (63%) yn destun bygythiad bach ei effaith, y rhan fwyaf ohonynt dan fygythiad posibl o gael eu mân-erydu gan anifeiliaid neu ddim byd mwy amlwg na bygythiad (hirdymor, fel arfer) erydiad naturiol. (Mynegai prosiectau eto)

Ffynonellau Gibson, A M, 1998. Prehistoric Funerary and Ritual Sites: Upper Severn Valley, CPAT Report No 277.

CPAT logo

Prosiect CPAT 715
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 2002/03
Diweddarwyd Hydref 2003


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol: Sir y Fflint a Wrecsam

CS97/47/22

Roedd yr astudiaeth yn parhau gyda'r asesiad cyflym o safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol a gyflawnwyd hyd yn hyn ym Mlaen Hafren yn Sir Drefaldwyn ynghyd Sir Ddinbych a Dwyrain Conwy. O fis Ebrill 2000 mabwysiadir yr astudiaeth gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig eraill er mwyn llunio prosiect Cymru gyfan a ariannir gan Cadw. Felly, hyderwn y bydd Cymru gyfan wedi ei harchwilio mewn dull cyffelyb i'r ardaloedd hynny a archwiliwyd eisoes ac y bydd yr astudiaeth wedi ei chwblhau o fewn pump neu chwe blynedd

Cyhoeddwyd yr arolygon cynhwysfawr cyntaf o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol yn Sir Fflint a Wrecsam gan y Canon Ellis Davies ym 1929 a 1949 a nododd nifer sylweddol o safleoedd, gan roi disgrifiad a manylion hanesyddol lle roeddent ar gael. Yn wir, gwaith arloesol Davies sy'n gyfrifol am enwi llawer o'r safleoedd yn y lle cyntaf.

Ymgymerwyd 'r prosiect rhwng Ebrill 1999 a Mawrth 2000. Seiliwyd y prosiect ar y Cofnod o Safleoedd a Henebion presennol (SMR), heb wneud unrhyw waith maes newydd. Archwiliwyd y SMR i gynhyrchu data-bas o'r holl safleoedd a allai ddod o fewn categori safleoedd angladdol a/neu ddefodol Neolithig neu Oes Efydd. Seiliwyd hwn ar ddetholiad o fathau o safleoedd o fewn terfynau'r astudiaeth ac yn cynnwys cyfanswm o 448 safle i ddechrau. Ar sail manylion y SMR, aseswyd y safleoedd hyn yn drwyadl, gan ystyried unrhyw ffynonellau cyhoeddedig oedd ar gael neu rai eraill ysgrifenedig. Ymwelwyd chyfanswm o 342 safle, cofnodwyd ffurf yr henebion, yn ogystal defnydd y tir a llystyfiant ac yn cynnwys asesiad trylwyr o ran goroesiad, potensial archaeolegol, cyflwr a gwendidau.

Diwygiwyd y cofnodion presennol yn sylweddol o ganlyniad i waith ail-asesu henebion yn ystod y prosiect, ail-gategorwyd ac ail-ddisgrifiwyd safleoedd yn unol diffiniad diwygiedig y gwahanol fathau o henebion (gweler isod). Defnyddiwyd y canlyniadau i gynhyrchu crynodeb o niferoedd perthynol y safleoedd a safleoedd posibl ar gyfer pob math o henebyn angladdol a defodol cynhanesyddol a restrir ar hyn o bryd yn y SMR rhanbarthol, ynghyd nifer cyfredol y safleoedd rhestredig.

Yn unol 'r disgwyl, safleoedd crugiau crwn oedd y rhan fwyaf o'r safleoedd (225 safle), yn cyfrif am 79% o'r holl safleoedd. Efallai mai'r diffyg cyffredinol yn y safleoedd l cnydau a nodir isod sydd i gyfrif am nifer gymharol isel y ffosydd crwn (14 safle). Ceir nifer cymharol fychan o bob math arall o henebyn a gynrychiolir yn yr ardal astudio, ac eithrio meini hirion (22).

Dengys gwasgariad cyffredinol y safleoedd grynodiad amlwg yng ngogledd Sir y Fflint gyda 151 o safleoedd ar y llwyfandiroedd tonnog yn edrych dros Aber y Ddyfrdwy. Sylwir hefyd bod yr ardal yn cynnwys nifer sylweddol o grugiau crwn mawr (dros 60m mewn diamedr), gan gynnwys Gop Cairn (PRN 1022027), sef y safle mwyaf yng Nghymru, yn mesur 100m wrth 68m a 12m mewn uchder. .

Ychydig o safleoedd cyfan, neu bron yn gyfan, a oroesodd (8%), dioddefodd y rhan fwyaf o'r safleoedd o leiaf beth difrod (56%), yn gyffredinol, aredig, symud cerrig, neu ymchwiliadau hynafiaethol a achosodd y difrod. Cofnodir 30 o safleoedd fel rhai distrywiedig a 31 fel rhai bron felly. .

Dangosodd asesiad o freuder a gwendid yr henebion bod y rhan fwyaf (70%) o freuder canolig neu isel, tra roedd 60 safle'n fregus iawn. O ran gwendid, mae'r sefyllfa'r rhan fwyaf (79%) yn gymharol wan neu'n well tra credid mai 43 o safleoedd sy'n wan iawn. O ystyried y ddau gyda'i gilydd, ymddengys bod 38 safle'n fregus ac yn wan iawn.

O ganlyniad i'r prosiect cynigir 64 safle yn awr i'w cofrestru, gan gynnwys 55 twmpath crwn, 5 maen hir, 2 ffos gylchog, hengor a gosodiad cerrig. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 715
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 1999/00
diweddarwyd Ebril 2001


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol: Sir Frycheiniog

CS97/47/22

Mae’r arolwg o safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol yn rhanbarth Clwyd-Powys bellach ym mlwyddyn olaf yr arolwg maes, gyda gwaith maes mewn dwy ardal, sef dwyrain Bannau Brycheiniog a gogledd Brycheiniog.

Dwyrain Bannau Brycheiniog
At ddiben yr astudiaeth bresennol, diffiniwyd dwyrain Bannau Brycheiniog fel cornel de-ddwyreiniol Brycheiniog, i’r de o Afon Wysg ac i’r dwyrain o Afon Tarell. Rydym bellach wedi ymweld â mwy na 200 o safleoedd i gyd yn yr ardal hon, ond nid yw nifer sylweddol o’r rhain wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth gan nad oeddent yn henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, neu roeddent yn dyblygu cofnodion oedd eisoes yn bodoli. Fel yn achos ardaloedd eraill, crugiau crwn yw’r mwyafrif helaeth o safleoedd (61 safle), sef 79% o’r holl safleoedd. Niferoedd cymharol fach a geir yn ardal yr astudiaeth o’r holl fathau eraill o henebion, ar wahân i feini hirion (9 safle), sef 12% o’r safleoedd. Mae amrywiaeth y mathau o henebion yn ddiddorol gan mai dyma’r unig ardal lle na cheir unrhyw gofnod o gylchoedd cerrig. Gellir ystyried bod diffyg mathau eraill ar henebion, fel henebion cwrsws, cylchoedd pren a ffosydd crynion, yn adlewyrchu’r ffaith nad yw’r dopograffeg, y priddoedd na’r drefn amaethyddol ar y cyfan yn caniatáu i lawer o olion cnydau ffurfio.

Mae’r ardal yn cynnwys rhai o’r carneddau mwyaf enwog yng Nghymru, sef y rheiny ar gopa Pen y Fan ac ar gopa Corn Du, y bu YACP yn eu cloddio yn ystod y 1990au. Mewn mannau eraill, mae crynhoad sylweddol o henebion wedi’i nodi ar Fynydd Llangynidr, sydd â grŵp diddorol o garneddau a charneddau cylchog yn agos i res gerrig a dau faen hir.

Er bod y rhan fwyaf o’r safleoedd (76%) wedi dioddef o leiaf rhywfaint o niwed, fel arfer o ganlyniad i ddwyn cerrig, neu archwilio hynafiaethol, mae’n ddiddorol nodi bod 17% o’r safleoedd yn dal i fod yn gyfan, neu bron yn gyfan, a dim ond pedwar safle yr ystyrir hwy yn rhai sydd wedi’u dinistrio neu bron wedi’u dinistrio. O ran cyflwr ffisegol yr henebion hynny y llwyddwyd i’w hasesu, mae 102 safle (76%) mewn cyflwr da gyda dim neu brin ddim erydu amlwg, mae 28 safle (21%) mewn cyflwr gweddol gyda pheth erydu yn digwydd iddynt, a dim ond pedwar safle sydd mewn cyflwr gwael gyda phroblemau erydu difrifol.

Aseswyd pob safle o ran bygythiadau cyfredol neu rai posibl, ac maent wedi’u graddoli yn ôl yr effaith debygol ar y safle, yn ogystal ag yn ôl pa mor gyflym y bydd hyn yn digwydd. Fel y gellid ei ddisgwyl mewn ardal sydd i raddau helaeth yn ucheldirol, erydiad naturiol yw’r bygythiad mwyaf cyffredin o bell ffordd, sy’n wir yn achos 89% o’r safleoedd. Mae erydiad ymwelwyr hefyd yn fygythiad sylweddol i leiafswm o safleoedd, fel arfer yn gysylltiedig â dwyn cerrig i adeiladu carneddau cerddwyr, er yn achos y carneddau ar gopa Cribyn (PRN 4560) a Charn Pica (PRN 4396) mae’r llwybrau troed yn tresmasu ar y carneddau eu hunain. Dim ond lleiafswm o safleoedd (5%) y mae bygythiadau amaethyddol yn effeithio arnynt, a gallai hyn gynnwys erydiad gan anifeiliaid fferm.

Yn galonogol, ystyrir mai bygythiad isel ei effaith sydd i’r rhan fwyaf o’r safleoedd (86%), gyda bygythiad canolig ei effaith i 12% o safleoedd, a bygythiad uchel ei effaith i un safle yn unig, sef y garnedd ar gopa Cribyn (PRN 4560).

Gogledd Brycheiniog
Yng ngogledd Brycheiniog, sef ardal sy'n cynnwys Stad Elan a Chomin Abergwesyn yn bennaf, mae'r arolwg wedi datgelu crynhoad sylweddol o garneddau angladdol bach sydd newydd eu darganfod ar Gro Hill (SN 926622), y rhan fwyaf ohonynt â chistfeini wedi dod i’r golwg. Saif y safleoedd gyferbyn â’r cylch cerrig ar Grugian Bach, yn ei wynebu. Ymwelwyd â chyfanswm o 368 o safleoedd yn ystod y prosiect, gan gynnwys 23 o safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol nad oeddent yn hysbys o’r blaen. Datgelwyd y rhain wrth ymweld â safleoedd hysbys. Nodwyd 26 o safleoedd eraill o ddiddordeb archeolegol nad oeddent wedi’u cofnodi o’r blaen, ond nid oedd y rhain yn berthnasol i’r astudiaeth benodol hon. Fel rhan o’r arolwg, rhoddwyd sylw arbennig i asesu bregusrwydd safleoedd, a natur a thebygolrwydd unrhyw fygythiad, â’r bwriad o wella’r rheolaeth ar safleoedd yn y dyfodol. Un enghraifft tra nodedig o safle bregus mewn lleoliad ucheldirol yw rhes gerrig Saith Maen sydd dan fygythiad gan gerbydau oddi-ar-y-ffordd sy’n defnyddio hawl tramwy cyfagos, ond sydd hefyd o bryd i’w gilydd yn mynd ar yr henebyn. Y gobaith yw y bydd modd dechrau ar waith adferol yn y dyfodol agos i atal unrhyw niwed difrifol, nawr bod y broblem wedi’i nodi.

Fel yn achos Dwyrain Bannau Brycheiniog, crugiau crwn yw’r mwyafrif helaeth o henebion (139 safle), sef 79% o’r holl safleoedd. Unwaith eto, niferoedd cymharol fach a geir yn ardal yr astudiaeth o’r holl fathau eraill o henebion, ar wahân i feini hirion (26 safle), sef 15% o’r safleoedd.

Yng Ngogledd Brycheiniog, er bod y rhan fwyaf o’r safleoedd (60%) wedi dioddef o leiaf rhywfaint o niwed, fel arfer o ganlyniad i ddwyn cerrig, neu archwilio hynafiaethol, mae 31% o’r safleoedd yn dal i fod yn gyfan, neu bron yn gyfan, a dim ond chwe safle yr ystyrir hwy yn rhai sydd wedi’u dinistrio neu bron wedi’u dinistrio.

O ran cyflwr ffisegol yr henebion hynny y llwyddwyd i’w hasesu, mae 132 (85%) mewn cyflwr da gyda dim neu brin ddim erydu amlwg, mae 21 (13%) mewn cyflwr gweddol gyda pheth erydu yn digwydd iddynt, a dim ond tri safle sydd mewn cyflwr gwael gyda phroblemau erydu difrifol.

Trwy asesu bygythiadau posibl, gwelwyd mai erydiad naturiol yw’r bygythiad mwyaf cyffredin o bell ffordd mewn ardaloedd ucheldirol fel Gogledd Brycheiniog, sy’n wir yn achos 72% o safleoedd. Mae bygythiadau amaethyddol, gan gynnwys erydiad gan anifeiliaid fferm, yn effeithio ar nifer gymharol fach o safleoedd (17%), ac mae 5% ohonynt i’w cael mewn coedwigoedd. O’r safleoedd hynny lle ystyrir bod y bygythiad yn uchel, efallai mai Rhes Gerrig Saith Maen (PRN 878), sy’n sefyll yn union gerllaw trac y mae cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn ei ddefnyddio, yw’r un sydd wedi gweld yr effaith fwyaf difrifol arni. Adeg yr ymweliad maes yn 2005, roedd yn amlwg bod rhai cerbydau wedi gyrru dros yr henebyn ei hun sydd, oherwydd bod y cerrig yn fach, yn anodd i’w weld ymhlith y cyrs. Yn galonogol, ystyrir mai bygythiad isel ei effaith sydd i’r rhan fwyaf o’r safleoedd (88%), gyda bygythiad canolig ei effaith i 10% o safleoedd, a bygythiad uchel ei effaith i bedwar safle yn unig. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 715
Prosiect a ariannwyd gan Cadw 2005/06
diweddarwyd Hydref 2006


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Eglwysig y Canol Oesoedd Cynnar yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru

Yn 2001/02, fe noddodd Cadw y bedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru i gynnal astudiaeth o’r dystiolaeth o weithgareddau eglwysig canoloesol yn eu hardaloedd hwy, yn gyffredinol o gyfnod o ddechrau’r 5ed ganrif OC hyd ddiwedd yr 11eg ganrif. Canlyniad oedd y penderfyniad hwn yn rhannol i un o’r bylchau mwyaf amlwg a nodwyd gan Musson a Martin yn eu hadroddiad ym 1998 ar gyflwr adnoddau archeolegol yng Nghymru, fel y diffiniwyd hwy yng Nghofnodion Safleoedd a Henebion y pedair rhanbarth.

Nodwyd y prif amcanion canlynol ar gyfer y prosiect: asesiad o natur ac amlder y dystiolaeth sy’n ymwneud â thirluniau eglwysig canoloesol cynnar; nodi, mor wrthrychol â phosibl, y prif safleoedd eglwysig cynnar a’r rhai tebygol; nodi safleoedd posibl o bwysigrwydd cenedlaethol â’r bwriad o argymell diogeliad statudol; casglu data y gall y pedair ymddiriedolaeth eu defnyddio wrth hwyluso unrhyw asesiad Cymru-gyfan yn y dyfodol; ac yn olaf, gwella a, lle bo gofyn am hynny, addasu’r data a ddelir yn y CSH rhanbarthol.

Roedd cyfnod cychwynnol yr astudiaeth yn cynnwys dadansoddiad pen-bwrdd manwl o’r dystiolaeth ganoloesol gynnar ledled canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddata archeolegol a hanesyddol a data a ddaw o enwau lleoedd. Diffiniodd hefyd system a ddatblygwyd gan dair o’r Ymddiriedolaethau o raddoli safleoedd, er mwyn pennu lle cymharol yr eglwysi a safleoedd yr eglwysi cynnar yng Nghymru. Dyma oedd testun yr adroddiad cyntaf a ddosbarthwyd fis Ebrill 2003.

Roedd ail gam y prosiect, a gychwynnwyd yn ystod 2002/03, yn ymwneud ag archwiliadau maes o safleoedd a allai fod yn berthnasol. Cydnabuwyd o’r cychwyn bod goroesiad ffisegol olion eglwysi canoloesol yn amrywiol ac yn brin ac, yn achos amrywiaeth o fathau o safleoedd, roedd y wybodaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y strwythur ar y safle ar y pryd yn debygol iawn o fod yn ganoloesol neu hyd yn oed yn ddiweddarach, er y gallai’r safle ei hun fod o darddiad canoloesol cynnar. Er enghraifft, mae yna bron i fil o safleoedd eglwysig hanesyddol yng Nghymru, a llawer yn tarddu o’r cyfnod cyn y Goncwest. Eto, dim ond yn un ohonynt, sef Llanandras yng nghanol Powys, y gellir gweld deunyddiau sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, mae’r mynwentydd lled crwn o amgylch llawer o’r eglwysi hyn, neu lle safai’r eglwysi gynt, yn darparu tystiolaeth mwy sylweddol o weithgaredd canoloesol cynnar. Mae’n bosibl mai yng nghanrifoedd cynnar y canol oesoedd mae tarddiad rhai o safleoedd capeli is-blwyfol y rhanbarth - ac, yn rhyfedd ddigon, mae yna lawer yn llai o’r rhain yma nag mewn ambell ran o orllewin Cymru - ond unwaith eto, ni welwyd unrhyw olion ffisegol o’r cyfnod hwnnw. Ac, yn eu hanfod, nid oes modd dyddio ffynhonnau sanctaidd yr ystyrir yn aml eu bod o’r canol oesoedd cynnar oherwydd eu bod wedi eu priodoli i sant ag enw Prydeinig. Ar y llaw arall, ceir rhai mathau o safleoedd megis cerrig o’r canol oesoedd cynnar ag arysgrifau arnynt a slabiau claddu â chroes wedi’i naddu arnynt lle mae’r priodoli amseryddol yn ddigamsyniol.

Mae gwaith maes wedi canolbwyntio ar nifer o eglwysi segur nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr arolwg o eglwysi hanesyddol dan nawdd Cadw oherwydd nad oeddent bellach yn addoldai. Mae’n debygol bod deunyddiau canoloesol yn llawer ohonynt, ac mae olion Llanbedr Dyffryn Clwyd (Sir Ddinbych) a’r hyn a wyddys am Lanilltyd (Sir Frycheiniog) yn ategu’r ddadl yma, er ei bod yn dra annhebygol bod olion eu rhagflaenwyr o’r canol oesoedd cynnar yma. Ni ellir dweud llawer o gwbl am Langynog, Llanddewi Abergwesyn a Llanfihangel Abergwesyn (y cyfan yn Sir Frycheiniog) lle mae’r olion oll wedi eu chwalu. Mae’r Clas ar Wy (Sir Faesyfed) yn eithriad. Mae’r eglwys bresennol ar lan ddeheuol Afon Gwy yn Sir Frycheiniog, ond roedd ei rhagflaenydd mewn lleoliad anarferol, yn agos iawn at yr afon. Roedd y tir yn y fan hon wedi ei godi’n fwriadol i greu codiad tir siâp triongl y gellid adeiladu’r eglwys arno, ac mae lleoliad yr eglwys yn amlwg o hyd yn y gornel ogledd-orllewinol. O weddill yr olion, gellir gweld yn y pantiau llinellol lle mae rhywun wedi symud y cerrig oddi yno, a’r rwbel wedi ei daflu ar y naill ochr a’r llall, bod yna gorff bychan a changell yn yr eglwys. Yn ôl pob tebyg, roedd y codiad tir yn rhyw fath o fan caeëdig neu fynwent ar dir yr eglwys, ond mae man caeëdig eglwysig cynharach i’w weld o hyd ar yr ochr ddeheuol (gweler y ffigwr sy’n cyd-fynd â hyn). Roedd Y Clas ar Wy, fel y mae’r enw yn ei awgrymu, yn Glas ac, yn draddodiadol, roedd ei safle ar dir comin i’r gogledd lle ceir ffynnon sanctaidd. Ond mae’r traddodiad hwnnw yn un cymharol diweddar, a gellir cymharu ei lleoliad ar orlifdir Afon Gwy â lleoliadau mynachaidd cynnar eraill yng Nghymru.

Nid oes nifer arbennig o uchel o gapeli yn yr ardal, ond cofnodwyd tri ym mhlwyf Crai (Brycheiniog), sef capel Sant Ilid, Tan y Fedw a Chae Capel. Mae ymweliadau maes wedi datgelu bod pob un o’r rhain yn gapeli dilys. Mae’n ymddangos i gapel Sant Ilid gael ei ddymchwel ar ôl iddo gael ei ddefnyddio am y tro olaf ym 1880, pan godwyd eglwys newydd Crai ar safle newydd. Mae rhywfaint o hen gerrig a thystiolaeth bosibl o fynwent lled gron 50-60 metr o ddiamedr o amgylch y bryncyn lle roedd capel Tan y Fedw wedi’i leoli wedi goroesi ar y safle. Mae ffenestr â bwa pigfain o garreg ohono wedi ei chynnwys mewn wal adeilad fferm gerllaw. Ni cheir yng Nghae Capel yng Nghwmnewynydd ond waliau sylfaen adeilad petryal ac olion man amgaeëdig cysylltiedig, ond nid oes unrhyw fanion pensaernïol gweladwy i ddarparu tystiolaeth ddefnyddiol i ddyddio’r adeilad.

Archwiliwyd mynwentydd lled crwn yn achlysurol yn ystod yr Arolwg o Eglwysi, ac fe all y rhaglen bresennol ychwanegu at y data a gasglwyd bryd hynny. Mae sawl mynwent yn cynnwys olion hen ffiniau na nodwyd mohonynt o’r blaen: yn Llandefalle (Sir Frycheiniog), mae perimedr y fynwent betryal ar ochr ddeheuol yr eglwys wastad wedi ymddangos yn od o ystyried y ffin gromlinog i’r gogledd. Datgelwyd ffin gromlinog gynnar, gyda llethr bychan, yn union i’r de o’r eglwys. Mae’r man amgaeëdig amlochrog o amgylch yr eglwys segur yn Llangynog (Sir Frycheiniog) yn adlewyrchu’r ffaith fod wal gerrig wedi’i gosod yn y fynwent ar godiad tir, o bosibl yn y cyfnod ôl ganoloesol. Mae’r ffin wreiddiol i’w gweld fel teras cromlinog ychydig y tu hwnt iddi. Mae sefyllfa debyg yn bodoli yn Llandewi’r Cwm (Sir Frycheiniog) lle mae arolwg mesuredig yn dangos man amgaeëdig yr eglwys gynharach o fewn mynwent amlochrog ddiweddarach. Yn olaf, gallem nodi Eglwys Ffordun i’r de o’r Trallwng. Mae yno fan amgaeëdig sy’n bendant yn betryal, gan awgrymu mai sefydliad a ddaeth ar ôl y Goncwest oedd hwn. Fodd bynnag, mae astudiaeth ar hap o fap stad yn dyddio o 1783 wedi datgelu bod y fynwent bresennol wedi ei hailgynllunio yn y 19eg ganrif. Roedd gan Ffordun fynwent lled gron cyn hyn.

Ychydig iawn o fynwentydd a safleoedd claddu sydd yn yr ardal, ac rydym eisoes wedi ymweld â’r rhan fwyaf o’r rhain. Mae Meysydd, Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn un o’r safleoedd prin hynny na welwyd mohono drwy gloddio, ond ar awyrlun. Mae’n ymddangos bod yno grwp o feddau nad ydynt wedi eu hamgáu; nid yw’r safle wedi ei ddyddio hyd yma, ond o edrych arno, tybir ei fod yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar. Afraid dweud nad oes unrhyw dystiolaeth ar wyneb y tir o’r beddau, ond mae’n bosibl bod hwn yn safle lle gellid defnyddio technegau pellach megis geoffiseg neu waith cloddio prawf. Un safle arall sy’n debyg o fod yn henebyn angladdol o’r cyfnod yw’r garnedd sgwâr yng Nghoed Bell, ger Prestatyn. Gallai fod yn esiampl sydd wedi goroesi o fath o gladdfa ganoloesol gynnar fel y rhai a gafwyd yn ystod y gwaith cloddio yn Nhandderwen. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 930
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 2002/03
Diweddarwyd Hydref 2003


 Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Milwrol Rhufeinig a Vici

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae’r Ymddiriedolaeth wedi cwblhau astudiaeth o’r rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig yn y rhanbarth, ac wedi symud ymlaen i archwilio agweddau eraill ar weithgaredd milwrol Rhufeinig a’i gymynrodd. Mae canlyniadau chwilio geoffisegol ar safleoedd vici, yr aneddiadau y tu allan i waliau ceyrydd Rhufeinig, wedi bod yn arbennig o werth chweil yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a dangosodd y tymor cyntaf o waith geoffisegol ym Mhowys (yn 2004/05) y potensial yma. Castell Colwyn yn Sir Faesyfed oedd yr eithriad y llynedd; datgelodd geoffiseg bron iawn ddim y tu mewn na’r tu allan i’r gaer, ond yn ystod y gwaith daeth yn amlwg nad oedd y cynlluniau oedd yn bodoli ar gyfer y gaer a’i hamgylchion yn foddhaol iawn, felly gwnaethom ddychwelyd yn 2005 i wneud arolwg mesuredig llawn o’r safle. Yn olaf, ehangwyd ar yr asesiad amlinellol o waith cloddio’r diweddar Barri Jones ar dri safle milwrol Rhufeinig arfaethedig yng ngogledd Sir Drefaldwyn i gynhyrchu adroddiad llawn, gan ddefnyddio’r archifau roedd ei ysgutorion archeolegol wedi’u trosglwyddo i'r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn Aberystwyth ac i'r Ymddiriedolaeth. Unwaith y bydd ei gymheiriaid wedi adolygu hwn y gobaith yw y bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Roedd yr hyn a ddysgwyd yng Nghaer Aberhonddu yn ne Powys y llynedd yn argyhoeddiadol wrth ddangos yr hyn y gellir ei ddysgu o geoffiseg. Yma, fe ychwanegwyd at y llun o’r vicus sy’n hysbys o waith cloddio Mortimer Wheeler yn y 1920au trwy nodi datblygiad rhubanog ar ochr orllewinol y ffordd sy’n arwain i’r gogledd o’r gaer, a nodi o leiaf un adeilad cerrig arall i ychwanegu at y tri roedd wedi’u cloddio. Eleni, archwiliwyd tri bloc cyfagos ar ochr ddwyreiniol y ffordd, ac un bloc pellach ar yr ochr orllewinol. Datgelwyd adeilad cerrig arall a oedd yn anhysbys cyn hynny, ynghyd ag olion anheddu eraill ar hyd yr hyn sy’n ymddangos i fod yn ffordd yn rhedeg i’r dwyrain o borth gogleddol y gaer. Dangoswyd terfynau gogleddol y vicus hefyd yn ôl pob golwg, ynghyd ag estyniad i geuffos sylweddol, â leinin cerrig, roedd Wheeler wedi’i hagor.

Mae darnau mawr o dir o gwmpas, ac i’r gogledd-ddwyrain o Gaer Ffordun ger Y Trallwng yng ngogledd Powys wedi’u rhestru eisoes oherwydd yr olion cnydau o amryw o nodweddion anheddu sydd i’w gweld ar awyrluniau. Nod y geoffiseg yn yr achos hwn oedd pennu p’un a yw’r ardaloedd rhestredig yn cwmpasu’r vicus i bob pwrpas, ynteu a oedd ardaloedd eraill nad oeddent wedi’u hamddiffyn, ar gyfer caer oedd mewn safle ar dirwedd oedd yn cael ei defnyddio’n helaeth. Fel mae’n digwydd, mae’n ymddangos bod y prif ardaloedd gweithredu wedi’u hamddiffyn eisoes, ac mai dim ond ychydig o olion gweithgareddau dyn oedd yn yr ardaloedd nad ydynt wedi’u rhestru sy’n ffinio’r ardaloedd hynny. Ychydig o anomaleddau a welir yn y gridiau geoffiseg i’r dwyrain, i’r gogledd-ddwyrain ac i’r gogledd-orllewin o’r gaer. Yn yr ardal restredig, manteisiwyd ar y cyfle i roi’r nodweddion ar ffurf y ffigwr wyth i’r gogledd-ddwyrain o’r gaer ar brawf. Awgrymwyd amryw esboniad o’r rhain yn y gorffennol. Roedd y rhain yn ymddangos fel anomoleddau eang a gwasgaredig ar y plotiau geoffiseg, sy’n awgrymu amrywiadau yn yr isbridd naturiol. Nid oedd unrhyw beth a grëwyd yn amlwg gan ddyn ac ar hyn o bryd, gwell yw dehongli’r ddau fel rhyw fath o bant echdynnu.

Pen-y-gaer, ger Tretwr yn nyffryn Wysg yn ne Powys oedd y drydedd gaer i’w harchwilio. Roedd olion vicus yma’n anniffiniadwy, ac nid oedd modd mynd i’r cae ar ochr ffordd sy’n arwain o borth deheuol y gaer, sef un lleoliad posibl anheddiad y tu allan i’r waliau. Mae’n bosibl mai’r baddondy ‘coll’ y cyfeiriwyd ato mewn cofnodion sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif yw un adeilad a nodwyd ger nant i dde-orllewin y gaer.

Saif Castell Colwyn i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-Muallt yng nghanol Powys. Awgrymwyd bod caer Rufeinig yng Ngholwyn mor ddiweddar â 1974 a chryfhawyd y ddadl yn sylweddol pan ddarganfuwyd darn o grochenwaith cynnar yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae’r darlun o gloddwaith yn fwy cymhleth oherwydd bod amddiffynfa gylch ganoloesol fawr ynghyd â beili yn gorchuddio’r gaer. Mae’r gaer fwy neu lai ar ffurf sgwâr. O gopa’r naill glawdd i gopa’r llall, mae’n mesur tua 162m o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain a 165m o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin, gan roi arwynebedd o tua 2.7 hectar. Er bod yr ochr ogledd-ddwyreiniol wedi diflannu fwy neu lai, ac wedi’i gorchuddio gan yr amddiffynfa gylch fwy diweddar, mae’r gornel ogleddol yn eglur. Tua 40m y tu allan i’r amddiffynfeydd hyn, mae clawdd sgarp isel, sy’n arwydd o ardal o dir caeëdig allanol, cymesur i’r un fewnol. Gwelir hefyd llinell y ffordd yn rhedeg trwy’r gaer o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin.

Bu Barri Jones yn cloddio am dros ddegawd o 1983 ar dri safle yn nyffryn Efyrnwy. Ond, o archwilio’n ofalus yr holl ddogfennaeth sydd wedi goroesi, mae’n eithaf sicr nad oedd y gwaith cloddio hwn wedi’i gwblhau ar yr un o’r safleoedd hyn i bob pwrpas. Ni chynhyrchwyd adroddiad terfynol ac ni chyhoeddwyd nifer o'r datganiadau interim, er y bu datganiadau byr iawn yn y cyfnodolyn Britannia. Archwiliwyd y ‘storfa’ yn Llansanffraid-ym-Mechain dros ddau dymor. Cadarnhaodd y gwaith fod gan y lloc amlochrog glawdd â dwy ffos o’i flaen ac roedd ynddo flociau barics ar hyd yr ochr orllewinol ac o leiaf un granar ar yr ochr ogleddol. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddarganfyddiadau yn dyddio’n ddiamheuol o oes y Rhufeiniaid. Cloddiodd dair nodwedd yn Abertanat, lle cynhaliwyd y gwaith cloddio dros chwe thymor. Yn ôl y dehongliad, gwersyll a gafodd ei drosi wedyn yn rhandy i gaer oedd Safle A, gyda’i ddau gyfnod. Seiliwyd y gwaith dilynol ar ôl-lenwi ffos y cyfnod cyntaf a chreu porth newydd o bren â thitwlwm yn ei amddiffyn. Fodd bynnag, mae dyddiadau radio carbon, sydd heb eu cyhoeddi, yn awgrymu mai nodwedd mwy diweddar oedd y titwlwm, ac felly ni ellir bod yn sicr o ddyddiad y porth ychwaith. Yn ôl y dehongliad, caer oedd Safle B, a chynhyrchodd y gwaith cloddio dystiolaeth o’r amddiffynfeydd a’r blociau barics, er nid y darganfyddiadau i gyd-fynd â hwy. Priodolwyd ffos arall a elwid yn C i oes y Rhufeiniaid oherwydd bod rhagfur bocs oedd yn cynnal ffos wedi’i ddynodi. Yn ôl y sôn, roedd yn rhedeg i gyfeiriad Bryn Llanymynech, ac roedd Barri Jones o’r farn bod hon yn rhan o ‘ffens derfyn’ o gwmpas y fryngaer yno. Credai mai dyma oedd safle safiad olaf Caradog yn erbyn byddin Rhufain. Yn olaf, mae’r dystiolaeth yng Nghlawdd Coch o'r gwersyll cyntaf yn amwys ar y gorau, ond mae'n ymddangos bod ffwrn faes wych a ffosydd a ddaeth i’r golwg mewn rhan o lan yr afon yn cadarnhau gweithgareddau Rhufeinig, milwrol eu natur mae’n debyg. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 966
Ariannwyd gan Cadw yn 2005/06
diweddarwyd Hydref 2006


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Sifil Rhufeinig De Powys: Broadheath a Maesderwen

Maesderwen bath house mosaic

Cyhoeddi gwaith asesu a gynhaliwyd ym 1997/98 ar aneddiadau sifil Rhufeinig Broadheath a Maesderwen. Mae'r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys cwblhau celfwaith i'w gyhoeddi a chwblhau adroddiad ar weddillion planhigion a gyflwynwyd gan Astrid Caseldine o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Rhagwelir y bydd yr adroddiadau'n cael eu cyflwyno ar gyfer eu cyhoeddi mewn cylchgronau lleol neu rai Archaeolegol yng Nghymru tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 717
Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1999/00
Diweddarwyd Hydref 1999


Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments

Prosiect CPAT
Safleoedd Sifil Rhufeinig

Ymgymerwyd gwaith ar ddau adroddiad yn delio gwaith prawf a waned ar ddau safle enheddol Rhufeinig sef Fila Rufeinig Maederwen, Sir Frycheiniog a safle Rhufeinig Broadheath, Llanandras, Sir Faesyfed, gan gynnwys canlyniadau adroddiadau palaeoamgylcheddol ac adroddiadau arbenigol eraill. Fel a ragwelwyd, anfonwyd yr adroddiadau i'w cyhoeddi yn y rhifyn nesaf o Archaeology in Wales.

CPAT logo

Prosiect 717 CPAT
Ariannwyd gan Cadw in 2000/2001
Diweddarwyd Ebrill 2001


Prosiect CPAT
Talerddig-Machynlleth Pibell Nwy: Asesiad

Archwiliwyd cwrs argymelledig y bibell nwy rhwng Talerddig ac ochr ddwyreiniol Machynlleth yng ngorllewin Sir Drefaldwyn trwy gyfrwng astudiaeth ben-desg ac arolwg cerdded ym mis Awst a Medi 1999. Cofnodwyd 83 o safleoedd neu nodweddion yn yr ardal archwilio, gan amrywio o enwau lleoedd ac olion cnydau i wrthgloddiau ac adeiladau. (Mynegai prosiectau eto)

CPAT logo

Prosiect CPAT 830
Ariannwyd gan R S K Environmental Ltd ym 1999/00
diweddarwyd Gorffennaf 2000