ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys - Prosiectau </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="summary.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../w_index.htm">Adref eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_recent.htm">Mynegai prosiectau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1><FONT COLOR="black">CPAT Recent Project Work</FONT></H1> <HR> <TABLE> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="842"><H2>Prosiect CPAT <BR>13eg Grn Clwb Golff Llanymynech </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-----------> <P> O ganlyniad i'r cynlluniau i ail-ddatblygu'r 13eg grn yng Nghlwb Golff Llanymynech cynhaliwyd asesiad archaeolegol yn ystod Hydref 1999. Roedd y safle perthnasol yn agos i ymyl gorllewinol Bryngaer Llanymynech (SJ26092194). Er mwyn cyflawni'r asesiad cloddiwyd ffos sip-T o fewn y grn bresennol. Amlygodd y cloddiad nifer o nodweddion arwyddocaol gan gynnwys rhan o safle cwt crwn, yn cynnwys rhigol ddraenio grom hyd at 13m mewn diamedr, gwelwyd tri thwll yn y rhigol a allai fod yn dyllau pyst ar gyfer prif goed yr adeiladwaith. Gwelwyd cryn dystiolaeth o safle cynhanesyddol i weithio metel hefyd, gyda darnau o leinin ffwrnais a rhan o giwbicl, ynghyd gweddillion metelegol, sy'n dangos bod gwaith aloi copr yn rhywle'n y cyffiniau agos. Dim ond trwy ddadansoddiad arbenigol y gellir penderfynu ar bwysigrwydd y dyddodion hyn, er eu bod yn amlwg yn ychwanegu ymhellach at y dystiolaeth am waith metel o fewn y fryngaer o'r 4edd ganrif CC i'r ganrif 1af OC a ganfuwyd ym 1981. Roedd yr arteffactau eraill yn cynnwys 16 fflint a adfeddwyd o wyneb yr isbridd naturiol ac o gynnwys y rhigol ddraenio, carreg uchaf o freuan gyfrwy a nifer o esgyrn anifeiliaid. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 842 <BR>Ariannwyd gan Glwb Golff Llanymynech ym 1999/00 <BR>diweddarwyd Gorffennaf 2000 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="590"><H2>Prosiect CPAT <BR>Abercynafon, Talybont-ar-Wysg, Brycheiniog </H2></A> <IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HEIGHT="110" WIDTH="150" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13"> <P>Yn ddiweddar cyflwynwyd yr adroddiad drafft terfynol ar y cloddiad a'r dadansoddiad palaeoamgylchedd yn Abercynafon i Cadw ac i olygydd Trafodion y Gymdeithas Gynhanesyddol roceedings of the Prehistoric Society. Rhagwelir y bydd adroddiad byr ar wahn ynglyn 'r 'cwpanau' plwm/tun o'r safle'n cael ei gyflwyno i Cadw ac i olygydd Britannia cyn bo hir. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 590 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1999/00 <BR>diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> <BR> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <H2> Prosiect CPAT <BR>Abercynafon</H2> <P>Cwblhawyd dau adroddiad i'w cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ariannol, fel a ragfynegwyd yn y cynllun ymchwil yn dilyn y cloddio. Cwblhawyd adroddiad byr a ysgrifennwyd gan Dr Hilary Cool a Dr Peter Northover ar y ddau ddysgl biwter ac fe'i hanfonwyd i'w gyhoeddi at <EM>Britannia</EM>. Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi yn dilyn ychydig o waith golygu. Cynhyrchwyd adroddiad ar y strwythurau a dyddodion pren Neolithig, a ysgrifennwyd gan Dr Caroline Earwood, David Thomas ac Astrid Caseldine ac fe'i hanfonwyd gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn <EM.Proceedings of the Prehistoric Society</EM>. Yn ystod y flwyddyn gwnaed gwaith golygu cyffredinol, cwblhawyd y lluniau a chynhwyswyd adroddiadau arbenigol ar olion planhigion, olion trychfilod a dendrocronoleg, a golygwyd yr adroddiad olaf hwn gan Nigel Nayling ar gyfer cyhoeddi. <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P> Prosiect CPAT 590 <BR>Ariannwyd gan Cadw ym 2000/01 <BR>diweddarwyd Ebrill 2001 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="509"><H2>Prosiect CPAT <BR>Aneddiadau Caeedig Bychain yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru </H2></A> <!------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">------------> <P>Amlygodd adroddiad gan John Manley a gyhoeddwyd yn Archaeologia Cambrensis ym 1990 bwysigrwydd posibl grwp o aneddiadau caeedig bychain sydd heb eu dyddio i'n dealltwriaeth ni o aneddiadau gwledig yn yr ardal hon yn ystod blynyddoedd olaf y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod hanesyddol cynnar. Mae'r prosiect presennol yn dilyn arolwg cyflym o gaeadleoedd bychain o fewn yr hen sir Clwyd gynt, a gynhaliwyd gan CPAT yn ystod 1993/4 (Frost 1995). Ynddo canfuwyd dros 80 o safleoedd lle argymhellwyd gwneud rhagor o waith i wella'r Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR), a gwnaed argymhellion amodol hefyd ar gyfer cofrestru nifer o safleoedd. <P>Mae'r gwaith cyfredol wedi canolbwyntio ar y safleoedd hynny yr argymhellwyd eu cofrestru, gyda'r amcanion o wella ein dealltwriaeth o'r safleoedd hynny, dadansoddi'r gwahanol deipiau morffolegol a gwella diogelwch a rheolaeth.. <P>Yn dilyn y gwaith blaenorol, ailaseswyd y safleoedd a argymhellwyd ar gyfer cofrestru, a hynny'n gyntaf ar sail gwybodaeth a gafwyd o'r SMR. O ganlyniad i hyn cafwyd rhestr ddiwygiedig o safleoedd a argymhellwyd ar gyfer cofrestru ac roedd angen archwilio'r rhan fwyaf ohonynt ymhellach ar ffurf gwelliant ffotograffiaeth awyr neu arolwg o'r llawr. Mewn dau achos, y farn oedd bod cofnod yr Arolwg Ordnans yn ddigon at ddibenion cofrestru. <P>Yn achos y safleoedd hynny lle roedd ffotograffiaeth awyr yn cynnig y cofnod gorau, cafwyd plot cywiriedig trwy ddefnyddio AutoCAD12, seiliedig ar y map Arolwg Ordnans (OS) gyda'r raddfa fwyaf sydd ar gael neu, lle bo'n bosibl, ar ddata OS digidol. Yna trowyd y plotiau a gafwyd yn dablau Mapinfo i'w cynnwys yn yr SMR. Mewn achosion lle roedd modd cywiro mwy nag un ffotograff o safle penodol, cafwyd y plot terfynol trwy ddefnyddio'r ffit gorau rhwng y gwahanol ffynonellau. <P>Ailymwelwyd phob safle i gyfannu'r cywiriad ffotograffiaeth awyr ac i gofnodi'r cyflwr a'r defnydd o'r tir. Lle bu'n bosibl, casglwyd gwybodaeth hefyd ynghylch perchnogaeth y tir er mwyn cynorthwyo gyda'r cofrestru. Defnyddiwyd y wybodaeth a gafwyd o'r ymweliadau 'r safleoedd i wella'r SMR ymhellach. <P>Roedd angen cynnal arolwg llawr manwl yn achos pedwar safle lle nad oedd cofnod addas o ffotograffiaeth awyr ar gael ac nad oeddent wedi eu cofnodi gan yr OS. Cynhaliwyd yr arolygon yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 1998 gan ddefnyddio technegau arolwg cyflawn o'r safle. Cysylltwyd pob arolwg phwyntiau y gellid eu canfod ar fapiau OS modern, ond nid ag Ordnance Datum oherwydd eu lleoliad diarffordd. Gwellwyd eto y data digidol a gafwyd o ganlyniad i hyn a'i gywiro i'r grid OS trwy ddefnyddio AutoCAD13 cyn ei droi'n dablau Mapinfo ar gyfer plotio a gwella'r SMR. <P>Amlygodd yr arolwg cyflym blaenorol nifer o safleoedd lle roedd angen gwaith pellach, cwblhawyd peth ohono fel rhan o'r prosiect cyfredol. Fodd bynnag, un o'r argymhellion allweddol oedd cyflawni ffotograffiaeth awyr pellach ar nifer o safleoedd lle teimlwyd bod y cofnod cyfredol yn annigonol, hyd yn hyn ni chynhaliwyd gwaith pellach. Cafodd nifer o safleoedd eu hepgor o'r argymhellion presennol i gofrestru oherwydd diffyg gwybodaeth naill ai o ran eu diffinio neu i'w lleoli'n gywir, hyderwn y bydd ffotograffiaeth awyr yn y dyfodol yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <STRONG><EM><P>Ffynonellau</P></STRONG></EM> Frost., P., 1995. <EM>Clwyd Small Enclosures Rapid Survey</EM>, Adroddiad CPAT 127. <BR>Manley, J., 1990. A Preliminary Survey of Some Undated Small Settlements in North-east Wales, <EM>Archaeologia Cambrensis </EM>139, 21-55. <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 509 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="658-98/99"><H2>Prosiect CPAT<BR>Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd: Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed </H2></A> <IMG SRC="house.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="House"> <P>Archwiliwyd detholiad o safleoedd gwledig anghyfannedd Sir Faesyfed am y tro cyntaf ym 1996/97, ym mlwyddyn gyntaf y prosiect Cymru gyfan a ariannwyd gan Cadw. Yn ystod y flwyddyn honno ymwelwyd 226 o safleoedd, tua 66% o gyfanswm y safleoedd hysbys. Yn dilyn asesiad tebyg yn Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ym 1997/8, dychwelodd yr Ymddiriedolaeth i Sir Faesyfed ym 1998/99 er mwyn cwblhau'r archwiliad o henebion maes perthnasol y sir honno. <P>Roedd cyfanswm yr ymweliadau maes a gwblhawyd ym mis Ionawr 1999 yn 161, ystyriwyd bod 105 ohonynt yn cyfarfod 'r meini prawf a fabwysiadwyd ar gyfer yr astudiaeth o Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd, ac roedd y rhain yn cynnwys nifer o safleoedd newydd a ganfuwyd ar Allt Aberedw ac ar rai o'r tiroedd comin cyfagos yn ystod gwaith archwilio ar set o ffotograffau awyr yr RAF a dynnwyd ym 1946/47. Aseswyd mai 291 oedd cyfanswm safleoedd Sir Faesyfed. <P>Roedd y dadansoddiad dilynol yn cynnwys archwilio lleoliad holl safleoedd Sir Faesyfed trwy eu huchder, gorweddiad, llethr, wynebwedd a gosodiad topograffig lleol. Archwiliwyd morffoleg y safle ac enwyd hyd at 15 math o safleoedd, rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu gwella trwy waith pellach mewn ardaloedd cyfagos. Paratowyd tair astudiaeth achos ar y canlynol: safleoedd llwyfan dyffryn Glascwm; dirywiad cofnodedig y tiroedd comin a gymerodd Aberedw a thiroedd comin cydgyffyrddol fel enghraifft a chan ddefnyddio'r mapiau cynnar sydd ar gael a rhai ffynonellau dogfennol, mapiwyd lleihad y tir anamgaeedig wrth i ffriddoedd gael eu gosod o gwmpas yr ymylon; a safle cofrestredig Beili Bedw, y grwp anheddiad mwyaf yn Sir Faesyfed a'r unig un i gael ei gloddio, er hynny'n fan lle mae'r cynlluniau presennol yn annigonol ac mae asesiad newydd o ddatblygiad yr anheddiad yn ymarferol ar sail tystiolaeth yr wyneb. Mae Sir Faesyfed yn fan hynod o ddiddorol o ran anheddiad gwledig anghyfannedd oherwydd nifer uchel y safleoedd llwyfan sydd wedi goroesi, ar ymyl tiroedd comin yn fynych, a chychwyn amaethu ar dir uchel. <P>Enwodd arolwg cyntaf Sir Faesyfed naw safle neu grwpiau o safleoedd i'w diogelu'n statudol, ac ychwanegodd yr astudiaeth bresennol ddeunaw o safleoedd unigol a phum grwp o safleoedd at y rhestr i'w hystyried gan Cadw, gan gynnwys nifer o enghreifftiau ar Allt Aberedw sy'n llunio cyfuniad sylweddol o safleoedd gwasgaredig. Bu tri o'r rhai a enwyd yn atebol i arolwg EDM manwl, ac o ran y pedwerydd safle yn Neuadd Ford ar y Begwns medrom gysylltu i'r grid cenedlaethol arolwg llaw o anheddiad cnewyllol a wnaed ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyflwynwyd adroddiad llawn ar y gwaith yn Sir Faesyfed i Cadw ym mis Chwefror 1999. <P>Rhagwelwyd hefyd y gellid archwilio llawer o ogledd Sir Frycheiniog yn ystod y flwyddyn, ond problem fawr nas rhagwelwyd yn ystod y gwaith rhagarweiniol ar y rhan hon o'r prosiect oedd y nifer uchel o safleoedd perthnasol posibl a ganfuwyd gan raglen fapio awyr RCAHMW o feysydd tanio'r fyddin ar Fynydd Eppynt yn ystod 1996/97. Pan ddaeth graddfa'r data newydd yn glir, roedd yn rhaid addasu lefel gyffredinol y gwaith maes yng ngogledd Sir Frycheiniog, ac o ganlyniad mae'r asesiad o aneddiadau gwledig anghyfannedd Sir Frycheiniog yn parhau'n ei gyfnodau cynnar ac fe'i cwblheir yn ystod blwyddyn ariannol 1999/2000. Ar amser ysgrifennu hwn roedd 57 o ymweliadau safle wedi'u cwblhau a phrofodd 35 o safleoedd Sir Frycheiniog yn berthnasol i'r arolwg. Cyflwynodd yr awdur bapur ar aneddiadau gwledig anghyfannedd canolbarth Cymru yn y <EM.Leeds International Medieval Congress</EM> ym mis Gorffennaf 1998, ac mae papurau tair o'r ymddiriedolaethau mewn cyfrol ar aneddiadau gwledig canoloesol neu'n ddiweddarach yng nghyfres y <EM>British Archaeological Reports</EM> yn ail hanner 1999. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 658 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="658-99/00"><H2>Prosiect CPAT<BR>Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd</H2></A> <IMG SRC="house.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="House"> <P>Y nod eleni, ym mhedwaredd flwyddyn y prosiect, oedd cwblhau'r arolwg o Frycheiniog a gychwynnwyd yn ystod chwarter olaf 1998/99. Roedd gan yr hen sir lawer mwy o safleoedd perthnasol nag unrhyw ardal arall o dan ofal yr Ymddiriedolaeth, llawer ohonynt mewn ardaloedd ucheldirol cymharol anghysbell. Gwelwyd mai rhaglenni gwaith maes blaenorol oedd i gyfrif am y nifer uchel o safleoedd: gan RCAHMW yn y Bannau gorllewinol, ardal a adwaenid ar gyhoeddiad fel y Mynydd Du a Fforest Fawr, gan y Comisiwn Brenhinol hefyd yn ei baratoadau ar gyfer ei Brecknock Inventory, a thrwy ei raglen fapio awyr ar Fynydd Epynt; gan Robin Skeates a'i dm ar diroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Mannau Brycheiniog i'r dwyrain o'r A470(T) i ddechrau, a hefyd ar Gomin Abergwesyn ger cronfeydd dwr Dyffryn Elan yng ngogledd y sir; a chan yr Ymddiriedolaeth ei hun yn Nyffryn Elan ym 1994 ac ar y cyd Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y Mynydd Du ym 1997 a 1998. <P>O ystyried yr amser a'r adnoddau oedd ar gael roedd yn amlwg nad oedd ymweld 'r holl safleoedd yn bosibl ac felly penderfynwyd ar ddechrau'r prosiect na ddylid ymweld 'r safleoedd hynny a gofnodwyd yn ddigonol gan y Comisiwn Brenhinol ym Mannau Brycheiniog na'r rhai hynny a archwiliwyd eisoes gan yr Ymddiriedolaeth yn Nyffryn Elan. Ychwanegwyd gwybodaeth berthnasol at ddata-bas y safle o'r cofnodion presennol. <P>Mae'r data-bas cyfredol ar gyfer Brycheiniog yn cynnwys 432 cofnod safle pendant, nifer cyffredinol a dueddodd i godi a gostwng yn ystod y flwyddyn ond yn gyffredinol cynyddodd wrth i safleoedd DRS newydd gael eu henwi neu wrth i rai hysbys gael eu torri lawr i'w helfennau cyfansoddiadol ar ymweliad maes. Ymwelwyd 367 o safleoedd yn ychwanegol at y 72 a gyflawnwyd yn y flwyddyn gynt, ond dilwyd nifer arwyddocaol o safleoedd o'r bas-data, llawer ohonynt o gofnodion cynnar yn y SMR, oherwydd nad oeddent yn berthnasol i'r astudiaeth bresennol. <P>Roedd y cofnod a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith maes ar gyfer y safleoedd hysbys bron yn ddieithriad yn gwella ar y cofnod a oedd yn bodoli, yn ogystal hyn enwyd nifer o safleoedd llwyfan a chytiau hirion newydd. Dyna sut yr oedd yn achos rhai o ddyffrynnoedd y Bannau a hefyd ar Fynydd Epynt lle na chyflawnwyd llawer o waith maes blaenorol, yn enwedig yng nghanol y bloc o rostir lle mae tanio byw fel rheol yn rhwystro mynediad. Er enghraifft, ar ochr ogleddol y maes tanio yn nyffryn Blaen Duhonw (SN 9746) nodwyd tri safle o ffotograffiaeth awyr; canfuwyd chwech pellach yn ystod gwaith maes ac mae mwy na hanner y dyffryn eto i'w archwilio. Oherwydd bod y Fyddin yn defnyddio Mynydd Epynt ers yr Ail Ryfel Byd, yn gyffredinol mae lefel cadwraeth y safle yn arbennig o dda ac argymhellir y dylai nifer o safleoedd yr ardal hon gael eu diogelu'n statudol. Hyd yn oed yn Nyffrynnoedd Elan ac ar Gomin Abergwesyn enwyd 50 o'r 103 safle am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn. <P>Yn groes i'n dyheadau, ni chwblhawyd y gwaith ym Mrycheiniog erbyn diwedd y flwyddyn. Archwiliwyd pob un o'r safleoedd a dargedwyd ar gyfer ymweliad yn ardal Dyffryn Elan /Comin Abergwesyn ac yn hanner gorllewinol Bannau Brycheiniog, yn ogystal 'r safleoedd hysbys ar Fynydd Epynt i gyd bron. Ymwelir 'r safleoedd ar y Mynydd Du, Mynydd Llangatwg a Mynydd Llangynidr yn ystod 2000/01. <P>At hyn, ac mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd mewn amryw o gyfarfodydd prosiect rhyng-Ymddiriedolaeth, sef bod sylw'n cael ei ganolbwyntio ar safleoedd yr aneddiadau a oedd wedi eu cadw orau a'r rhai mwyaf adnabyddus yn yr ucheldir, awgrymodd Cadw efallai y gellid cynnal arolwg cyflym ar floc o iseldir amaethyddol er mwyn sefydlu a oedd nifer sylweddol o safleoedd anheddiad yn parhau heb eu nodi yn y fath amgylchedd. Cafwyd canlyniadau da i arolwg o'r fath yng Ngwynedd y flwyddyn gynt ac argymhellwyd y dylid cynnal arolwg tebyg ym Mhowys. O restr fer, am resymau amrywiol, dewiswyd y bloc o dir amaeth i'r gogledd o bentref Aberedw ym Maesyfed ar gyfer arolwg cyflym. Yn gyntaf, dangosodd gwaith maes cynharach ar y tiroedd comin agored o gwmpas y pentref bod nifer o safleoedd aneddiadau anghyfannedd yn agos i'r ffin rhwng y mynydd dir agored a'r tir amaeth caeedig oddi tano. Yn ail, roedd grwp o brydlesi diddorol o ddiwedd y 17eg ganrif yn cyfeirio at fewnlif o'r gwastraff, gobeithiwyd y gellid ei gysylltu gyda gweddillion caeau. Yn codi o'r pwyntiau hyn roedd y posibilrwydd petai'r arolwg sydyn yn dangos safleoedd aneddiadau anghyfannedd pellach, y gellid cyfuno'r holl dystiolaeth i hyrwyddo ein dealltwriaeth gyffredinol ynghylch anheddiad a ddatblygwyd ac a adawyd mewn un ardal benodol. Yn drydydd, oherwydd topograffeg naturiol y plwyf gobeithiwyd y byddai safleoedd yr aneddiadau anghyfannedd yn amlygu eu hunain fel llwyfannau. <P>Diffiniwyd ardal yr arolwg gan yr Edw i'r de a'r Gwy i'r gorllewin, sef ardal o ychydig fwy na 8 cilomedr sgwr. Yn gyffredinol roedd canlyniadau'r arolwg yn foddhaol, yn wir, efallai eu bod ychydig yn fwy addysgiadol nag a ragwelwyd. Cofnodwyd cyfanswm o 39 o safleoedd newydd sy'n berthnasol i raglen aneddiadau anghyfannedd gwledig ac mae hyn wedi cywiro'r darlun gyda'r cydbwysedd rhwng y safleoedd ar dir comin agored a'r rhai ar dir amaeth yn newid yn sylfaenol. Daethpwyd ar draws nodweddion archaeolegol eraill hefyd gan gynnwys ffrydiau, ceuffyrdd, chwareli, ffermydd anghyfannedd 18fed a 19eg ganrif, bythynnod ac ysguboriau, un darn o gefnau amaethu, argae, clawdd crwn ar esgair a allai fod o'r cyfnod cynhanesyddol neu fe allai fod yn safle coelcerth, safle cyn orsaf reilffordd a gweddillion pont. . <P>Mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i'r tirfeddianwyr niferus ac amaethwyr Brycheiniog ac ardal Aberedw o Sir Faesyfed a ganiataodd i ni fynd ar eu tir yn ystod ein harolygon.<SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 658 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw 1999/00 <BR>diweddarwyd Gorffennaf 2000 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Prosiect a ariannwyd gan Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="658/00"><H2>CPAT Project<BR>Aneddiadau Gwledig Gadawedig <IMG SRC="house.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="House"> </H2></A> <P>Yn ystod y flwyddyn hon, sef pedwaredd flwyddyn y prosiect, y nod oedd cwblhau'r arolwg o Sir Frycheiniog a gychwynnwyd yn ystod chwarter olaf 1998/99. Roedd gan yr hen sir nifer fwy o lawer o safleoedd perthnasol nag unrhyw ardal arall y mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol amdani, ac mae llawer ohonynt mewn ardaloedd o ucheldir diarffordd. Gwelwyd mai rhaglenni o waith maes blaenorol oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am y nifer uchel o safleoedd: gan RCAHMW yng ngorllewin Bannau Brycheiniog, ardal y rhoddwyd iddi'r enw Mynydd Du a Fforest Fawr, gan y Comisiwn Brenhinol hefyd wrth iddo baratoi ei Restr ar gyfer Byrcheiniog, a thrwy'r rhaglen o fapio o'r awyr ar Fynydd Epynt; gan Robin Skeates a'i dm ar diroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Mannau Brycheiniog yn y lle cyntaf i'r dwyrain o'r A470(T), a hefyd ar Gomin Abergwesyn yn ymyl cronfeydd Dyffryn Elan yng ngogledd y sir; a chan yr Ymddiriedolaeth ei hun yn Nyffryn Elan ym 1994 ac ar y cyd Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym Mynydd Du Gwent ym 1997 ac 1998. <P>Roedd yn amlwg na ellid ymweld phob un o'r safleoedd o ystyried yr amser a'r arian oedd ar gael, a phenderfynwyd yn fuan iawn beidio ag ymweld 'r safleoedd hynny ym Mannau Brycheiniog yr oedd y Comisiwn Brenhinol wedi eu cofnodi'n ddigonol na'r safleoedd hynny yn Nyffryn Elan a archwiliwyd eisoes gan yr Ymddiriedolaeth. Ychwanegwyd gwybodaeth briodol at y data-bas safleoedd o'r cofnodion presennol. <P>Ar hyn o bryd mae'r data-bas ar gyfer Brycheiniog yn cynnwys cofnodion pendant ar gyfer 432 safle, rhif sydd wedi amrywio yn ystod y flwyddyn ond sydd wedi cynyddu ar y cyfan wrth i safleoedd DRS newydd gael eu darganfod, neu wrth i rai adnabyddus gael eu rhannu i'w helfennau cyfansoddol pan ymwelwyd hwy. Ymwelwyd 367 o safleoedd yn ogystal 'r 72 ymwelaid yn ystod y flwyddyn flaenorol, ond dilewyd nifer arwyddocaol ohonynt, a ddaethai gan mwyaf o'r SMR, oherwydd nad oeddent yn berthnasol i'r astudiaeth hon. <P>Yn achos ymron pob safle hysbys, mae cofnodion y gwaith maes wedi gwella'r cofnod presennol, a chanfuwyd hefyd nifer o gytiau hir a safleoedd llwyfannol newydd. Dyna a ddigwyddodd yn rhai o ddyffrynnoedd y Bannau, a hefyd ar Fynydd Epynt lle na chynhaliwyd fawr ddim gwaith maes o'r blaen, yn enwedig yng nghanol y gweundir lle mae tanio'n rhwystro mynediad fel arfer. Er enghraifft, i'r gogledd o'r ardal danio milwrol yn nyffryn Blaen Duhonw (SN 9746) canfuwyd tri safle mewn awyrluniau; darganfuwyd chwech arall yn ystod gwaith maes, ac mae dros hanner y dyffryn heb ei archwilio. Oherwydd y defnydd milwrol o Fynydd Epynt ers yr Ail Ryfel Byd, mae cyflwr y safleoedd yn eithriadol o dda at ei gilydd ac fe argymhellir bod nifer o'r safleoedd yn yr ardal hon yn cael eu gwarchod yn statudol. Hyd yn oed yn Nyffryn Elan ac ar Gomin Abergwesyn canfuwyd agos i 50 o'r 103 safle am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn. <P>Yn groes i'n gobeithion, ni chwblhawyd y gwaith ym Mrycheiniog erbyn diwedd y flwyddyn. Archwiliwyd pob un o'r safleoedd yn ardal Dyffryn Elan / Comin Abergwesyn ac yn hanner gorllewinol Bannau Brycheiniog, ac felly hefyd bron y cyfan o'r safleoedd hysbys ar Fynydd Epynt. Ymwelir safleoedd y Mynydd Du a Mynydd Llangatwg a Mynydd Llangynidr yn ystod 2000/01. <P>Hefyd, ac mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd mewn gwahanol gyfarfodydd ar gyd-brosiectau gan yr Ymddiriedolaethau fod tuedd i roi sylw i'r safleoedd anheddog yn yr ucheldiroedd a oedd wedi eu cadw'n well ac a oedd yn fwy adnabyddus, roedd Cadw wedi awgrymu y gellir cynnal arolwg adnabod sydyn ar floc o dir is, amaethyddol er mwyn darganfod lle roedd nifer sylweddol o safleoedd anheddu'n dal heb eu darganfod mewn amgylcheddau o'r fath. Yn l pob sn, cafwyd cryn fudd o arolwg tebyg yng Ngwynedd llynedd ac argymhellwyd cynnal astudiaeth debyg ym Mhowys. O restr fer, dewiswyd y bloc o dir amaethyddol i'r gogledd o bentref Aberedw yn Sir Faesyfed ar gyfer arolwg sydyn am sawl rheswm. Yn gyntaf, roedd gwaith cynharach ar y tir comin agored o gwmpas y pentref wedi dangos bod nifer arwyddocaol o safleoedd anheddu gadawedig yn ymyl y ffin rhwng y mynydd-dir agored a'r ffermdir caeedig oddi tano. Yn ail, roedd grwp o brydlesau diddorol o'r 17eg ganrif hwyr yn cyfeirio at gau tir comin a'r gobaith oedd y gellid cysylltu hyn ag olion y caeau. Ac yn codi o'r pwyntiau hyn, roedd y posibilrwydd y gellid tynnu'r holl dystiolaeth hyn ynghyd pe bai'r arolwg sydyn yn datgelu safleoedd anheddol gadawedig eraill, gan wella ein dealltwriaeth gyffredinol o'r modd y datblygodd ac y gadawyd anheddau mewn un ardal arbennig. Yn drydydd, oherwydd topograffeg naturiol y plwyf, y gobaith oedd y byddai safleoedd anheddol gadawedig i'w gweld ar ffurf llwyfannau. <P>Diffiniwyd ardal yr arolwg gan yr Edw yn y de a'r afon Gwy yn y gorllewin, ac roedd yr ardal ei hun ychydig dros 8 cilometr sgwr. At ei gilydd, roedd canlyniadau'r arolwg yn foddhaol, gan ildio mwy o wybodaeth nag a ragwelwyd efallai. Cofnodwyd 39 safle newydd sy'n berthnasol i'r rhaglen safleoedd anheddol gadawedig ac mae hyn wedi newid y darlun yn sylfaenol o ran y cydbwysedd rhwng y safleoedd hynny ar dir comin heb ei gau a'r rhai ar dir ffermio. Gwelwyd nodweddion archaeolegol eraill hefyd, gan gynnwys dyfrffosydd, ceuffyrdd, chwareli, ffermdaigadawedig o'r 18fed a'r 19eg ganrif, bythynnod ac ysgubobau, darn o dir rhychau tyfu, argae, poncyn cylchog ar drum a allai fod yn gynhanesyddol ond a allai hefyd fod yn safle goleufa, safle hen orsaf reilffordd ac olion pont. <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>CPAT Project 658 <BR>Ariannwyd gan Cadw ym 2000/01 <BR>diweddarwyd Ebrill 2001 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="789"><H2>Prosiect CPAT <BR>Arolwg Efyrnwy </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">------------> <P>Ym 1998/9 defnyddiwyd yr adnoddau a gafwyd gan Severn-Trent Water yn y blynyddoedd blaenorol ar gyfer arolwg maes ar eu hystad fawr o gwmpas Llyn Efyrnwy er mwyn astudio archaeoleg y coedwigoedd o gwmpas y gronfa ddwr. Rhestrwyd 102 o safleoedd archaeolegol, 87 ohonynt yn newydd ac ymwelwyd 74 i asesu eu cyflwr ac unrhyw fygythiadau posibl. Ac eithrio mannau darganfod, tri safle cynhanesyddol yn unig oedd wedi'u nodi'n y goedwig ac mae'r rhan fwyaf o'r archaeoleg, pa un a oedd wedi ei nodi eisoes neu ein bod wedi ei adnabod o fapiau, yn berthnasol i weithgaredd amaethyddol l-ganoloesol. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 789 <BR>Ariannwyd gan Severn -Trent Water ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Ebrill 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!---------<P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments">---------> <A NAME="824"><H2><P>Prosiect CPAT <BR>Arolwg Maes o Amgylch Efyrnwy </H2></A> <!--------<IMG SRC="church2.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS96/21/23">---------> <P> Yn ystod y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2000 cwblhawyd gwaith maes dros ardal o 6.6 cilomedr sgwr ym mhen gorllewinol Llyn Efyrnwy lle mae Afon Eiddew ac Eunant Fawr yn ffinio crib Moel Eunant. Rhostir agored sy'n ymestyn o 250m i 560m OD yw'r rhan fwyaf o'r ardal hon. Nodwyd cyfanswm o 46 o safleoedd archaeolegol, o'r cyfnod canoloesol neu l-ganoloesol yn bennaf, dim ond pedwar ohonynt oedd wedi'u cofnodi cyn hynny. Cofnodwyd ffermydd anghyfannedd a'u caeau, caeadleoedd, amryw o gytiau hirion a llwyfannau, llochesau, toriadau mawn helaeth, chwareli a gwelyau diogyn. Canfuwyd bod gwasgariad y safleoedd yn dibynnu llawer ar leoliad, fel y gellid ei ragweld mewn ardal o ddyffrynnoedd dyfnion a wahenir gan gribau o rostir uchel, yn enwedig yn y pen mwyaf anghysbell hwn o ddyffryn Efyrnwy, yn agos i'r ffin Gwynedd. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 824 <BR>Ariannwyd gan Severn Trent Water ym 1999/00 <BR>diweddarwyd Gorffennaf 2000 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="787"><H2>Prosiect CPAT <BR>Arolwg o Fferm Wynt Gwaun Trannon </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-----------> <P>Arolwg o Fferm Wynt Gwaun Trannon Galluogodd nawdd pellach gan Ynni Gwynt Cenedlaethol, trwy Gyngor Sir Powys, yr Ymddiriedolaeth i barhau ei waith monitro hirdymor ar yr henebion archaeolegol ar Waun Trannon, Carno, yn ne Sir Drefaldwyn, lle adeiladwyd fferm wynt fawr, gyda'r bwriad o sicrhau na fydd unrhyw niwed yn cael ei achosi i unrhyw un o'r safleoedd. Yn ogystal hyn, llwyddwyd i gyflawni arolwg EDM o ddeunaw o'r henebion mwyaf pwysig ar y waun. Dylai'r rhain, ynghyd 'r disgrifiadau ysgrifenedig a ddiweddarir yn ystod ymweliadau maes, ddarparu sail gadarn ar gyfer cynllunio gwaith y dyfodol ar y waun. At hyn, gwahoddodd Ynni Gwynt Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth i gyfrannu gwybodaeth i'r arddangosfeydd sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ar gyfer canolfan ymwelwyr yn y fferm wynt. <P>Bwriedir cyflawni arolwg, gwaith monitro, rheoli a chyflwyno yn ystod y 25 mlynedd nesaf, sef oes ddisgwyliedig y safle. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 787 <BR>Ariannwyd gan Ynni Gwynt Cenedlaethol trwy Gyngor Sir Powys ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Ebrill 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----------> <A NAME="803"><H2>Prosiect CPAT <BR>Arolwg o Gastell Mwnt a Beili Erddig </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-----------> <P>Comisiynwyd CPAT gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal arolwg cyfuchlin manwl o gastell mwnt a beili Erddig i gynorthwyo'r rheolwyr a'r ymwelwyr i'w dehongli. Lleolir y safle mewn coetir i ogledd y ty ac ar amser yr arolwg roedd wedi ei orchuddio gan isdyfiant cymharol drwchus a choed llawn dwf. Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod mis Ionawr 1999, gan ddefnyddio Leica TC500 EDM ynghyd meddalwedd arolwg PenMap. Ychydig sy'n hysbys am hanes y safle, er mae'n bosibl mai hwn yw 'Wrislesham' y cyfeiriodd y siryf ato yn ei gofnodion blynyddol yn 1161. Tirluniwyd y parc a'r tiroedd gan Stephen Switzer ar gyfer John Mellor yn ystod y 1720au a'r 30au, roedd cynlluniau Switzer yn cynnwys twr castellog ar y mwnt, a oedd yn gweithredu fel ty haf, ynghyd chyfres o rodfeydd wedi'u hymylu choed yn dilyn ffos y beili mewn mannau. Dengys arolwg Thomas Badeslade ym 1739, y twr yn ogystal rhodfa ffurfiol o fewn y beili. Er hynny, nid oes unrhyw olion o'r twr nac o unrhyw nodweddion eraill o'r tirlun wedi goroesi. Ymddengys bod y mwnt a'r beili wedi eu hadeiladu'n rhannol trwy ddefnyddio pentir naturiol a dorrwyd gan ffosydd dyfnion i ffurfio safle amddiffynnol. Goroesa'r mwnt i uchder o tua 5.75m, mae ei ddiamedr yn 44m yn y gwaelod ac yn 17m ar y top. Gwahanir hwn o'r beili gan ffos 36m o led. Ceir dwy fynedfa i'r beili, un gyferbyn 'r mwnt a'r llall yn y gornel dde-orllewinol. Amddiffynnir y beili ar yr ochr ddeheuol gan ffos sylweddol sy'n 34m o led a hyd at 8.5m o ddyfnder. Mae'n bosibl bod yr allaniadau crynion yng nghorneli'r beili'n gysylltiedig thyrau. Defnyddiwyd Clawdd Wat, sy'n rhedeg ar hyd ochr orllewinol y safle, fel amddiffyniad ychwanegol sy'n ffurfio ffos hyd at 18m o led. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 803 <BR>Ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Ebrill 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="782"><H2>Prosiect CPAT <BR>Arolwg o Gomin Ucheldir Gogledd Sir Faesyfed </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-----------> <P>Gydag arian Menter Ucheldir a ddarparwyd gan RCAHMW, yn ystod hydref a gaeaf 1998/99 parhaodd CPAT gyda'i raglen reolaidd i arolygu caeau'r ucheldir trwy archwilio dau floc ar wahn o gomin ucheldir canol Powys. Gorwedd y comin mwyaf gogleddol gydag Allt Cilfaesty yn ei ganol ar ben mwyaf gogleddol Sir Faesyfed hanesyddol, ychydig filltiroedd yn unig o'r Drenewydd a Dyffryn Hafren; pedwar cilomedr i'r de ceir ail floc sydd wedi ei ganolbwyntio ar elltydd Moelfre a Thynybriniau. Gyda'i gilydd maent yn ymestyn dros fwy na 14km2, archwiliwyd 13.4km2. Mae'r ddau yn rhan o Ystad y Goron ac rydym yn ddiolchgar i Gomisiynwyr y Goron am roi caniatd i ni fynd ar eu tir. <P>Cofnodwyd naw ar hugain o safleoedd yn y SMR rhanbarthol, yn y ddwy ardal, cyn yr arolwg, o ganlyniad i raglen fapio AP ragarweiniol, a ddilynwyd gan waith maes systematig, cynyddodd y nifer hwn i 289. Canfuwyd nad oedd cofnodion digonol ar gael ar gyfer rhai o'r safleoedd hysbys; o 13 o grugiau a charneddau penderfynwyd mai 9 yn unig oedd yn ddilys, cofnodion wedi eu dyblygu neu nodweddion naturiol a gamgymerwyd am archaeoleg oedd i gyfrif am y gweddill. Yn ogystal hyn canfuwyd bod caeadle, a briodolwyd yn y gorffennol i'r Oes Haearn, yn cynnwys ffos fewnol ac mae'n fwy tebygol o fod yn gorlan o'r cyfnod canoloesol neu gyfnod diweddarach. <P>Mae'r rhan fwyaf o'r data archaeolegol newydd yn berthnasol i'r cyfnod hanesyddol; cyn hyn gwyddid am bedwar safle anheddiad, bellach mae'r cyfanswm yn 23. Nodwyd nifer sylweddol o lwyfannau a chytiau hirion, ynghyd ffaldau a chaeadleoedd a thystiolaeth eang o grynnau amaethu. Mae'r rhan fwyaf o weithgaredd yr anheddiad yn agos i ochrau'r tiroedd comin. Canfuwyd dyfrffosydd, chwareli, tyrchfeydd mawn a meini terfyn hefyd. <P>Mae'r arolygon hyn yng ngogledd Sir Faesyfed yn gwrthbwyso'r rhai a gynhaliwyd ar y tiroedd comin yn ne Sir Faesyfed ym 1996/97 (Adroddiad 234 CPAT). Mae'r canlyniadau'n debyg, yr ymarfer cynharaf yn cynhyrchu 262 safle gyda 26 ohonynt wedi'u cofnodi'n y gorffennol, gyda chydran gref o anheddiad canoloesol ac l-ganoloesol unwaith eto. Ar sail y ddau arolwg hyn mae'n amlwg bod y blociau o ucheldir ar wahn sy'n ffurfio Tir Comin Sir Faesyfed yn gyfoethog o ran olion, yn enwedig o'r cyfnod hanesyddol, a bod angen cyflawni llawer mwy o waith maes gyda chanlyniadau sicr er mwyn sefydlu crynswth yr adnodd archaeolegol. Cyflwynwyd adroddiad i RCAHMW (Adroddiad 316 CPAT). <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 782 <BR>Ariannwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Ebrill 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="791"><H2>Prosiect CPAT <BR>Buarth Tomen Sbwriel Erddig </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">------------> <P>Comisiynwyd CPAT gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyflawni arolwg ffotograffig a llun carreg-wrth-garreg o Fuarth Tomen Sbwriel a Buarth Calchfaen Erddig, Wrecsam. Y bwriad oedd cynhyrchu cofnod manwl a chywir o wyneb y buarth presennol, cyn ystyried yr argymhellion i ailosod y cobls er mwyn rhoi mynediad diogelach i ymwelwyr. Adeiladwyd y ty gwreiddiol ar gyfer Joshua Erdisbury o 1684, yn 1721- 4 codwyd estyniad iddo gan John Mellor. Fodd bynnag, mwy na thebyg bod y Buarth Tomen Sbwriel yn dyddio o adeg adeiladu'r bloc newydd o ystablau gan Philip Yorke ym 1774. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr 1998 gan ddefnyddio EDM i osod grid cywir yn sail i'r cofnod lluniadu ar raddfa o 1:20. Yna, cynhyrchwyd lluniau llai o'r safle ar raddfa o 1:50 yn sail i'r llun terfynol. Roedd yr arolwg ffotograffig yn cynnwys cyfres o olygon lletraws gorgyffyrddol a dynnwyd o thua 10m o uchder, gan ddefnyddio craen casglu ffrwythau. Dangosodd yr arolwg bod darnau sylweddol o'r wyneb gwreiddiol yno o hyd. Yn y mannau hyn roedd y cobls wedi'u gosod mewn cyfres o flociau hirsgwar yn cael eu gwahanu gan gerrig mwy, er nad yn ffurfio cynllun rheolaidd. Fodd bynnag, mae nifer o fannau wedi'u hailosod, ar y brif dramwyfa'n arbennig, yn ogystal nifer o ffosydd cynnal. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 791 <BR>Ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Ebrill 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="766"><H2>Prosiect CPAT <BR>Caeadleoedd Neolithig Walton/SEPAH </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">--------------> <P>Trwy gyfrwng Rhaglen Raphael y Comisiwn Ewropeaidd, derbyniodd CPAT gymhorthdal i gynnal arolwg geoffisegol a ffisegol dros 20 hectar o du mewn caeadle palisd Neolithig Hindwell, gan gynnwys ardal Caer Rufeinig Hindwell. Nod y prosiect oedd archwilio'r caeadle gan ddefnyddio magnetomedrau caesiwm synhwyrol iawn ac i ddadansoddi'r canlyniadau, yn erbyn model digidol y tir, er mwyn ceisio adnabod unrhyw dystiolaeth ar gyfer swyddogaeth y caeadle mawr ac enigmatig hwn. Gwnaeth Cadw gyfraniad ariannol sylweddol at y prosiect hefyd. Prosiect cyfunol o'r sefydliadau cyfrannog canlynol ydyw: CPAT (arolwg llawr a chydlynu); Sectie Wonen en Monumenten, Zwolle, yr Iseldiroedd (gweithlu gwirfoddol); Adran Diogelwch Archaeoleg ac Adran Archaeoleg, Bayerisches Landesamt fur Denmalflege, Munich (arolwg geoffisegol); a'r Discovery Programme, Dulyn (prosesu data ). Bellach, cwblhawyd y gwaith maes ar y prosiect ac mae adroddiad terfynol a chyhoeddiad ar y prosiect bron a'u cwblhau. Cydlynwyd y prosiect gan Alex Gibson, sydd bellach ar staff Treftadaeth Lloegr. <P>Galluogodd y nawdd Ewropeaidd i staff CPAT deithio i Munich a Dulyn. Nod yr ymweliad Munich oedd edrych ar a thrafod y canlyniadau tros dro ac er mwyn dadansoddi'r magnetometreg yn ogystal ag i weld dulliau gweithredu Gwasanaeth Amgueddfeydd Bafaria. Yn Nulyn cyfranogodd y staff mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan y Discovery Programme. Mynychodd holl bartneriaid y prosiect a nifer helaeth o wahoddedigion o sefydliadau archaeolegol Dulyn y gynhadledd. Amlinellodd y seminar hon gefndir y prosiect, edrychodd yn fanwl ar fanylion y methodolegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg a'r dadansoddiad, a thrafodwyd rheolaeth safleoedd Walton yn y dyfodol. Roedd y digwyddiad yn hynod o lwyddiannus ac yn darparu cysylltiadau defnyddiol gydag archaeolegwyr curadurol Iwerddon. <P>Yn anffodus, methodd yr arolwg geoffisegol ddarparu tystiolaeth ar gyfer nodweddion mewnol y caeadle Neolithig, ond cafwyd canlyniadau arwyddocaol am gynllun mewnol caer Rufeinig Hindwell ac anheddiad sifil neu ficws, na wyddid amdano ynghynt, sy'n rhedeg o git ddwyreiniol y gaer. Ymhlith canlyniadau eraill y geoffiseg mae trefniant diddorol o bydewau hirgrwn yn amgylchu'r mwyaf o'r crugiau crwn cynhanesyddol o fewn y caeadle, ymddengys ei fod yn cynrychioli cylch pren sydd wedi ei losgi'n rhannol o dan y crug. Cyhoeddir adroddiad am y prosiect ym 1999/00. <P>Fel rhan o'r prosiect cynhaliwyd cloddiad prawf ar gylch pydew Neolithig tybiedig Walton, nad oedd mynediad iddo'n bosibl yn y gorffennol. Nod y prosiect oedd sefydlu natur y pydewau a'u dyddiadau, er mwyn sefydlu ei gysylltiad gyda chylch pydew Neolithig Hindwell tua 0.5km i'r gogledd. Sefydlodd cloddiad a gyflawnwyd ar un o bydewau cylch Walton mai twll postyn oddeutu 4.3m wrth 2m ar draws a hyd at 1.3m o ddyfnder ar gyfer postyn o 0.4m neu'n fwy mewn diamedr oedd yma. Cafwyd golosg derw o waelod y twll, ond ar hyn o bryd, mae hwn yn cael ei ystyried yn anaddas ar gyfer dyddio radiocarbon dibynadwy i roi union ddyddiad ei adeiladu, o ystyried beth y mae'r golosg yn ei gynrychioli a'r ffaith ei fod yn ymddangos fel petai'n cynrychioli coed sy'n tyfu'n araf. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 766 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="10" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="807"><H2>Prosiect CPAT <BR>Cefnogi Tir Gofal </H2></A> <IMG SRC="cs0003.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS0003"> <P>Cynorthwyo Swyddog Rheoli Treftadaeth gyda chynllun Tir Gofal. Mae'r tasgau a ragwelir yn cynnwys y canlynol: cofnodi ac argraffu manylion pob ymgynghoriad a lwythir i system cofnodi data; mapio digidol maint pob parsel o dir arwahanol yng ngheisiadau Tir Gofal; archwilio Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR) o fewn ffiniau digidol pob cais, cynhyrchu allbrint SMR a ffeil chwilio ar gyfer pob cais; archwilio data-bas AP o fewn ffiniau digidol pob cais, adennill ffotograffau; asesiad pen-desg cyflym o ddeunydd arall o archifau SMR lle mae ar gael (degwm, Arolwg Ordnans a.y.y.b.); cynhyrchu mapiau ar gyfer pob cais yn dangos ffiniau digidol a data SMR; agor ffeiliau newydd ar gyfer pob cais a'u trosglwyddo i Swyddog Rheoli'r Ymddiriedolaeth. <P>Ar hyn o bryd nid yw'n sicr a oes lefelau digonol o adnoddau ar gael i gynnal y prosiect hwn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan ei fod yn dibynnu ar faint o brosiectau gaiff eu pasio i'r Ymddiriedolaeth gan Swyddog Prosiect Tir Gofal. Hyderwn y bydd darlun cliriach yn ymddangos yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 807 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1999/00 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="10" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="927"><H2>Prosiect CPAT <BR>Cloddiau Byrion yng Nghanolbarth a Gogledd-Ddwyrain Cymru </H2></A> <IMG SRC="shortdy.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="A short dyke"> <P> 2005/6 oedd pumed flwyddyn yr astudiaeth o gloddiau byrion canolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru ac, o bersbectif yr Ymddiriedolaeth, hon oedd y flwyddyn olaf. Pan ddechreuodd y prosiect yn 2002, dilyswyd pedwar ar bymtheg o gloddiau byrion yn y rhanbarth, yn gyntaf trwy asesiad pen desg o r dystiolaeth ar gael ac yna trwy ymweliadau maes a chofnodi. Yn 2003, bu gwaith tyllu ar ddwy o r cloddweithiau hyn i geisio dod o hyd i ddyddodion organig wedi u selio a allai fod â photensial palaeoamgylcheddol, ac hefyd i benderfynu a fyddai r fethodoleg benodol o ddefnyddio gwaith tyllu ac yna ymyrraeth gyfyngedig i adennill samplau addas ar gyfer dyddio radio carbon, yn fodd boddhaol o ddatblygu r astudiaeth. Yn dilyn hyn, agorwyd un clawdd  clawdd Giant s Grave, ger Llandinam yn Sir Drefaldwyn  er mwyn cadarnhau strwythur y clawdd a chaniatáu i Astrid Caseldine o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan samplo dyddodiad mawn wedi i selio. Cafwyd y dyddiad 340-530 OC o r haen fawn, sy n rhoi r dyddiad cynharaf y gallai r clawdd fod wedi i godi. Arweiniodd llwyddiant y gwaith cloddio hwn at asesu safleoedd eraill lle roedd posibilrwydd bod perthynas stratigraffig rhwng clawdd a dyddodion palaeoamgylcheddol gwaelodol.</P> <P> Astudiwyd chwech o gloddiau byrion yn 2004/05, gan ddefnyddio r un fethodoleg sylfaenol. Cymerwyd samplau o waith tyllu ym mhob clawdd ac yna gwnaed gwaith cloddio ar dri safle lle nodwyd peth potensial: yng Nghlawdd Mawr ger Pen-y-bont-fawr, yng ngogledd Sir Drefaldwyn, Clawdd Crugyn (PRN 1882), ger Dolfor yn ne Sir Drefaldwyn, a Short Ditch (PRN 1114), ger Llangunllo yn nwyrain Sir Faesyfed.</P> <P> Canolbwyntiodd gwaith 2005/06 ar chwech o gloddweithiau eraill a chadarnhawyd bod pump ohonynt yn gloddiau byrion. Nododd dehongliad y chweched, yn Nolhelfa yng ngogledd-orllewin Sir Faesyfed, mai ffin maenor ganoloesol ydyw er ei bod yn debyg o ran morffoleg. Y cloddiau hysbys yw Upper a Lower Short Ditches ger Ceri yn nwyrain Sir Drefaldwyn, Clawdd Llesg, ger Meifod yng ngogledd Sir Drefaldwyn, Clawdd Red Hill Cross ger Rhiwlen yn ne Sir Faesyfed, a Chlawdd Cowlod (PRN 6871) ar ucheldir Fforest Clud yn nwyrain Sir Faesyfed. </P> <P> Daethpwyd o hyd i ddyddodion organig wedi u selio gan y clawdd ar un o r cloddiau yn unig, sef Upper Short Ditch ar Lôn Las Ceri, a thorrwyd ffos er mwyn samplu r deunydd hwn. Saif ychydig yn llai na hanner y clawdd yng Nghymru, a r gweddill yn Swydd Amwythig. Mae r rhan sydd yng Nghymru i gyd mewn planhigfa goed. Roedd mawn siltiog o liw llwyd tywyll tua 1 metr islaw crib y clawdd a chymerwyd sampl ohono. Daethpwyd o hyd i ddwy haen yn llawn o fawn, tua 0.3 a 0.8 metr o ddyfnder yn y ffos, oedd wedi i thorri hyd at ddyfnder o tua 1.5 metr a lled o 3.5 metr.</P> <P> Saif Lower Short Ditch tua thair cilometr yn unig oddi wrth Upper Short Ditch, ond rhan fach ohono, tua 50 metr, sydd yng Nghymru â r 700 metr sy n weddill yn Swydd Amwythig. Ni ddatgelwyd unrhyw ddyddodion organig yn y samplau o r gwaith tyllu ar ochr Cymru r ffin ond credir bod Dr David Hill o Brifysgol Manceinion wedi dod o hyd i ddyddodion palaeoamgylcheddol, sef mawn a/neu olosg dan y clawdd wrth iddo gloddio ar y rhan yn Swydd Amwythig yn yr 1980au.</P> <P> I grynhoi, erbyn hyn bu gwaith cloddio ar bump o r pedwar ar bymtheg o gloddiau byrion dilys. Edrychwyd ar samplau o waith tyllu yn wyth o r pedwar safle ar ddeg sy n weddill, heb unrhyw gadarnhad o ddyddodion palaeoamgylcheddol. Ni archwiliwyd chwech, gan y credir, oherwydd amrywiaeth o ffactorau, nad oes llawer o debygolrwydd bod y cloddweithiau hyn yn selio deunydd organig. Cynhyrchwyd dyddiadau radio carbon o bedwar o r cloddiau. Mae n ymddangos eu bod oll yn awgrymu tarddiad canoloesol cynnar i r cloddweithiau. Dyma y tybiwyd yn y gorffennol, er nad oedd unrhyw dystiolaeth gadarn i ategu r gred. Rhoddodd samplau o gloddiau Clawdd Mawr a Chlawdd Crugyn, a gloddiwyd yn 2004/05, ddyddiadau 630 710 OC i r cyntaf, a 650 780 OC i r ail. Rhoddodd y mawn wedi i selio yn Upper Short Ditch ddyddiad 540-660 OC. Mae dyddiad hefyd a gafwyd ynghynt ar gyfer clawdd Giant s Grave (340-530 OC) ychydig yn gynharach na r canlyniadau a dderbyniwyd yn fwy diweddar. Gallai hynny fod oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, gan gynnwys y strategaeth samplu. O edrych ar y canlyniadau diweddar, cafwyd yr un ar gyfer Clawdd Mawr o weddillion planhigion golosgedig. Tybir mai hwn yw r mwyaf manwl-gywir oherwydd natur byrhoedlog y deunydd hwn. Mewn cyferbyniad â hyn, daeth canlyniadau Clawdd Crugyn ac Upper Short Ditch o olosg microsgopig a allai fod wedi bod yn y pridd ers cryn amser. Mae n debygol iddo ddod o rug, er y gallai fod o goed na wyddys eu hoed pan losgwyd hwy. Nid yw deunydd o Short Ditch yn Sir Faesyfed, a gloddiwyd yn 2004/5, wedi i ddyddio hyd yma. Mae hyn i raddau helaeth o ganlyniad i gymhlethdod cynhenid yr haenau mawn wedi i selio ar y safle hwn, a all gynrychioli mwy nag un cyfnod o weithgaredd cyn codi r clawdd. Gobeithir y bydd yn bosibl darganfod dyddiad unwaith y bydd micromorffoleg y pridd y mae Dr Richard Macphail o r Sefydliad Archeoleg, Coleg Prifysgol Llundain yn ei gynnal yn eglurhau r dilyniant. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 927 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 2005/06 <BR>Diweddarwyd Hydref 2006 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="831"><H2>Prosiect CPAT <BR>Court Fold, Pencraig </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-----------> <P> O ganlyniad i ddatblygu arfaethedig ar gae pori ar ochr de-orllewinol Pencraig cyflawnwyd gwerthusiad archaeolegol ym mis Medi 1999. Roedd yr gwerthusiad yn cynnwys chwe ffos, dim ond dwy ohonynt oedd yn cynnwys unrhyw nodweddion archaeolegol o bwys. Dangosodd un ffos gwter 0.4m o ddyfnder a thua 1.95m o led, a'i lleoliad yn fras gymharu gyda nodwedd linellol bosibl a nodwyd o ffotograffiaeth awyr ac a dybiwyd i fod yn cynrychioli rhan o system gaeau. Roedd y ffos arall yn cynnwys dilyniant stratigraffig a oedd yn cynnwys dau wyneb caregog annyddiedig y tybiwyd eu bod yn gysylltiedig gyda adeiladweithiau posibl a leolwyd y tu allan i derfynau'r gloddfa. Roedd ffynnon yn mesur 2.25m ar draws wedi ei leinio phren, o gyfnod l-ganoloesol mae'n debyg, yn torri'r wyneb. Roedd y casgliad o arteffactau o'r cloddfeydd braidd yn brin, er hynny'n cynrychioli tystiolaeth o anheddiad blaenorol o fewn ardal gyffredinol y datblygiad, roedd yn cynnwys gweddillion dau fflint cynhanesyddol a naw talch o grochenwaith canoloesol o'r 13eg neu 14eg ganrif o bosibl. (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 831 <BR>Ariannwyd gan: Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru ym 1998/99 <BR>diweddarwyd Gorffennaf 2000 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="873"><H2>Prosiect CPAT <BR>Croes Criccin </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">------------> <P> Cynhaliwyd asesiad o'r ardal o gwmpas y groes cyn cychwyn ar raglen adnewyddu a oedd yn cynnwys codi ac ailosod y groes. Lleolir gweddillion y groes ar dwmpath amlwg ac mae'n cynnwys sylfaen o lechfaen hirsgwar gydag ymylon uchaf siamffrog a stopnobiau difrodedig yn y corneli, mae'r darn coes hirsgwar toredig gydag ymylon siamffrog yn sefyll i uchder o 0.8m. Mae'r sylfaen o lechfaen wedi torri ac wedi ei drwsio gyda choncrid a dau hoelbren haearn. Tybir mai croes o'r 13eg neu ddechrau'r 14eg ganrif yw hi. Agorwyd dwy ffos ar gyfer yr asesiad, un o amgylch y groes a'r llall wrth fn y twmpath ar yr ochr ogleddol. Profodd canlyniadau'r asesiad bod y twmpath lle saif y groes o darddiad naturiol. Fodd bynnag, ymddengys bod ychydig o deras hyd at 9m mewn diamedr a 0.3m o uchder ar gopa'r twmpath, a allai fod yn ganlyniad i lefelu'r copa'n fwriadol cyn codi'r groes. Mae arolwg o'r ardal ynghyd ag asesiad gweledol o'r dopograffeg gerllaw'n awgrymu y gallai cloddio am dywod ar yr ochr ogleddol, ni wyddys pryd, fod yn rhannol gyfrifol am ymddangosiad presennol y twmpath. Mae'r twmpath yn ffurfio pen cefnen isel naturiol sy'n rhedeg o'r gogledd-gogledd-orllewin i'r de-de-ddwyrain. Mae ochr orllewinol y twmpath yn ffurfio parhad diasiad o'r gefnen hon ac nid yw'n nodwedd ar wahn, tra ymddengys yr ochr ogleddol fel petai'n rhandoredig. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 873 <BR>Ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ym 1999/00 <BR>diweddarwyd Gorffennaf 2000 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TR> </TD> <TR> <TD> <!-------<P><IMG SRC="../blank30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="funding logo">----> <A NAME="1320"><H2>Prosiect CPAT <BR>Crug Cornatyn VII, Sir Drefaldwyn </H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">------------> <P> Ymgymerwyd â rhaglen gofnodi a gwaith adfer ar y crug hwn, sy n dyddio o r Oes Efydd, yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod gweithredoedd cwympo coed. Miss Chitty gofnododd yr henebyn yn gyntaf ar ddechrau r 1950au. Roedd wedi i argymell ar gyfer ei restru n rhan o r Fenter Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol sydd ar waith ar hyn o bryd, cyn y difrod. Saif y crug tua 395 metr ar linell sarn islaw Bryn Cornatyn ac mae n rhan o glwstwr o henebion angladdol a defodol gwasgaredig ar draws y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Swydd Amwythig ar Lan Fawr, Bryn Cornatyn a Stapeley Hill, sy n cynnwys cylchoedd cerrig The Hoarstones a Mitchell s Fold a grup o garneddau ucheldirol amlwg. Mae nifer o r safleoedd hyn wedi u difrodi neu wedi u dinistrio ers diwedd y 19eg ganrif. Pan darfodd YACP â charnedd ucheldirol fach tua 400 metr i r de o r crug presennol ym 1986, arweiniodd hyn at ddarganfod claddiad corfflosgi o r Oes Efydd mewn Wrn Colerog. Cafwyd dau ddyddiad radio carbon sy n calibro i 2040 1680 cal CC a 1770 1430 cal CC. Gwnaed gwaith cofnodi rhwng 5 a 6 metr ar draws ym mis Mawrth 2006, yn yr ardal ar ochr ogleddol y crug y tarfwyd arni yn ddiweddar. Dangosodd hwn fod y crug tua 15 metr o ddiamedr a hyd at tua 1.8 metr o uchder yn y canol, sy n sylweddol fwy nag oedd arsylwi maes diweddar wedi i awgrymu, yn rhannol oherwydd bod ochr ddwyreiniol y twmpath wedi i chuddio gan bridd a cherrig sydd wedi casglu yno erbyn hyn. Er gwaethaf y difrod diweddar, mae r crug crwn yn hynod o gyfan ac mae hyd yn oed yn debygol bod y wal gae ar yr ochr orllewinol sydd bellach wedi dadfeilio ac i raddau o r golwg wedi cael effaith arwynebol yn unig ar ei strwythur. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 1320 <BR> <BR>diweddarwyd Hydref 2006 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TR> </TD> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="763"><H2>Prosiect CPAT <BR>Cyhoeddiad Arfordirol </H2></A> <IMG SRC="coastal.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/60/12"> <P>Cymorth i baratoi adroddiad dadansoddol gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Ysgogwyd yr arolwg archaeolegol o arfordir Cymru, a gynhaliwyd gan y pedair Ymddiriedolaeth Gymreig rhwng 1993-97, oherwydd y bygythiadau i'r adnodd archaeolegol gan lefelau mr uwch ac erydiad arfordirol, ynghyd ag effeithiau datblygu a thwristiaeth. Roedd amcanion triphlyg i'r prosiect: asesu antur a maint yr archaeoleg ar hyd ymyl yr arfordir, asesu natur y bygythiadau a graddfa erydiad yr arfordir a safleoedd archaeolegol; ac i argymell strategaethau rheoli priodol. Ar derfyn yr arolwg cydnabuwyd bod angen cyhoeddi'r canlyniadau mewn adroddiad dadansoddol a fyddai'n defnyddio'r doreth o wybodaeth a gynhyrchwyd, ynghyd gwybodaeth arbenigol yr unigolion hynny a fu'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect. Noddwyd y prosiect hwn eto gan Cadw gyda'r bwriad o gyhoeddi'r adroddiad fel Council for British Archaeology Research Report yn ystod 1999/00, i'w goladu gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Bydd y gyfrol yn cynnwys y canlynol: cyflwyniad; disgrifiad o archaeoleg yr amgylchedd; y defnydd o ffotograffiaeth awyr; yr adnoddau archaeolegol - gorolwg cronolegol; adolygiadau thematig - adennill, amddiffyniadau, llongddrylliadau, odynau calch, coredau a thrapiau pysgod, Lefelau Gwent; rheolaeth arfordirol, a rhannau cloi'n ymwneud photensial, argymhellion a blaenoriaethau. Mae'r rhan ar adennill yn cynnwys astudiaeth achos o Aber yr Afon Ddyfrdwy a seiliwyd yn helaeth ar ganlyniadau'r Dee Estuary Historic Landscape Study a gynhaliwyd gan CPAT ac yn amlygu'r potensial am waddodion archaeolegol a phalaeoamgylcheddol claddedig yn yr ardaloedd a adenillwyd o'r morfeydd heli. Yn gyffredinol, cofnododd yr arolwg 1,502km o arfordir gan gynnwys y cyfan o'r tir mawr yn ogystal ag Ynys Mn, er yn eithrio ynysoedd eraill llai. Nododd dosbarthiad yr arfordir, yn l methodoleg yr arolwg, 1,406 o unedau arfordirol gwahanol, pob un 'i nodweddion unigryw. Y math o ymyl arfordirol a luniodd yr arfordir yn ei ffurf bresennol oherwydd naill ai amhariad dynol neu ddaearegol yw'r brif nodwedd ddiffiniol yn y rhan fwyaf o achosion. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 763 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <P><EM>Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar yr Arolwg Arfordirol ar ein tudalennau <A HREF = "../longer/coastal/coastal.htm">Adroddiad Prosiect Hirach</A> </EM> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="762"><H2>Prosiect CPAT <BR>Cytiau crynion: Clwyd a Powys</H2></A> <!-------------<IMG SRC="woodsm.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CS95/35/13">-------------> <P>Prosiect mewn dwy ran, roedd y rhan gyntaf yn cynnwys asesiad pen-desg o'r adnodd trwy Bowys a hen sir Clwyd gynt, ac roedd yr ail ran yn archwilio cytiau crynion Sir Faesyfed a rhan ddeheuol Sir Drefaldwyn. <P>O'r Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR), a'r Cofnod Henebion Cenedlaethol National Monuments Record (NMR), a'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel y <EM>Brecknock Inventory</EM>, neilltuwyd 252 o'r cytiau crwn neu grwpiau ohonynt, ystyriwyd bod 139 ohonynt yn esiamplau pendant neu debygol, ond dim ond un ar ddeg ohonynt oedd wedi'u cofrestru. Roeddent wedi'u gwasgaru'n anwastad ar draws yr ardal gyda 50% o'r safleoedd yn ne Sir Frycheiniog. Gellir rhoi prinder y cwt crwn fel math o safle mewn cyd-destun trwy nodi bod Arolwg Anheddiad Cytiau Crynion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnwys 1,850 o esiamplau. <P>Canolbwyntiodd y dadansoddiad o'r data ar natur y safleoedd, pa un ai'n gytiau cerrig, crafbantiau a llwyfannau, neu'n l cnydau, eu cysylltiadau, ansawdd y cofnodion presennol a'r dystiolaeth ddyddio. Cyflwynwyd yr adroddiad am y rhan gyntaf i Cadw'n Mai 1998. <P>Gweithredodd yr arolwg pen-desg fel cyflwyniad i archwiliad pellach a manylach o safleoedd canol Powys. Ymwelwyd phob safle hygyrch yn Sir Faesyfed a rhai'n Sir Drefaldwyn; o 22 o safleoedd, cadarnhawyd bod 14 ohonynt naill ai'n gytiau crynion pendant neu'n rhai tebygol, gwnaethpwyd cofnod llawn ohonynt a pharatowyd cynlluniau mesuredig. Ychydig o'r grwp bychan hwn, hyd yn oed, y gellir honni eu bod yn gytiau crynion clasurol, dim mwy na dau efallai. O ran y gweddill, mae peth ansicrwydd yn parhau ynghylch a allent fod yn garneddau neu hyn yn oed yn safleoedd anheddiad o gyfnod diweddarach. Mae'r adroddiad gyda'i gatalogau manwl a'i ystyriaeth i faterion rheolaeth, yn rhoi sylw i'r agweddau hyn ac yn datblygu'r pwynt mai ychydig iawn o'r henebion hyn sydd yng nghanolbarth Powys a bod llawer o'r rhai hynny y gwyddys amdanynt wedi'u canfod o ganlyniad i waith maes yr Ymddiriedolaeth yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 762 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <HR> </TD> </TR> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../cadw30.gif" ALIGN="right" HSPACE="5" VSPACE="5" ALT="Project funded by Cadw:Welsh Historic Monuments"> <A NAME="761"><H2>Prosiect CPAT <BR>Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol: Dyffryn Tanat a Dyffryn Clwyd</H2></A> <IMG SRC="hl-cpat.jpg" ALIGN="left" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT HL areas"> <P>Cynhaliwyd prosiectau disgrifio nodweddion y tirwedd hanesyddol ar ddwy ardal cymeriad tirwedd hanesyddol yn y <EM>Register of Landscapes of Outstanding Historic Interest in Wales</EM> (Cadw 1998) - - yn Nyffryn Tanat yng ngogledd Sir Drefaldwyn a Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych. Roedd y gwaith prosiect yn cynnwys yr elfennau canlynol; adolygiad o'r wybodaeth bresennol yn y Cofnod o Safleoedd a Henebion (SMR); adolygiad o'r dystiolaeth gartograffig gynnar, gan gynnwys mapiau degwm, mapiau caeadleoedd, a rhifynnau cynnar o fapiau Arolwg Ordnans; adolygiad o ffynonellau cyhoeddedig gan gynnwys cylchgronau lleol a nifer o ysgrifau i roi gwybodaeth newydd am y tirwedd i'r SMR; adolygiad o dystiolaeth am enwau lleoedd lle mae gwybodaeth ar gael; gwaith maes cyflym i helpu i ddiffinio ardaloedd cymeriad hanesyddol arbennig ym mhob ardal cymeriad hanesyddol, ac i gofnodi gwybodaeth mewn perthynas defnydd presennol y tir, mathau o derfynau caeau, mathau o adeiladau a defnydd deunydd; creu cofnodion SMR newydd o astudiaeth pen-desg a gwaith maes; cynhyrchu adroddiadau. <P>Ceisiodd yr astudiaethau yn Nyffryn Tanat a Dyffryn Clwyd nodi prif gydrannau'r tirwedd hanesyddol a'r prosesau a fu'n gyfrifol am eu bodolaeth, yn hytrach na darparu hanes tirwedd cyfan. Diffiniwyd ardaloedd cymeriad y tirwedd hanesyddol ar sail hanes y defnydd o'r tir yn y gorffennol ac ar hyn o bryd. Mae ardaloedd, felly, wedi'u diffinio, er enghraifft, ar sail patrymau pendant y caeau canoloesol a chyfnodau diweddarach, presenoldeb cloddio neu weddillion diwydiannol eang ac ar y sail mai bryngaerau Oes Haearn neu henebion angladdol neu ddefodol cynhanesyddol yw nodweddion pwysicaf y tirwedd hanesyddol. Mae'r adroddiadau ar bob un o'r ardaloedd a astudiwyd yn cynnwys rhannau ar y canlynol: nodweddion allweddol y tirwedd hanesyddol; y tirwedd naturiol, y tirwedd hanesyddol a gweinyddol; tirweddau'r aneddiadau, tirweddau amaethyddol; cyfathrebiadau; diwydiant a busnes; cysylltiadau chwedlonol ac ysbrydol; tirweddau addurnol a lliwgar; ynghyd disgrifiadau o ardaloedd cymeriad unigol a llyfryddiaeth. Yn achos yr astudiaeth o Ddyffryn Tanat, gyda defnydd helaeth o fapio GIS bu cynhyrchu model digidol o'r tirwedd hanesyddol y gellir ei archwilio ar lefelau gwahanol yn bosibl. <P>Amcan cyntaf yr astudiaethau yw cyfrannu at reolaeth y tirwedd hanesyddol. Rhagwelir y bydd yr astudiaethau o werth arbennig ar gyfer ymateb i geisiadau am gyngor ynghylch rheoli o ganlyniad i ffurfio Tir Gofal, sef cynllun newydd amaethyddol amgylcheddol Cymru gyfan, sydd i ddechrau ym mis Ebrill 1999. <P>Mae'r tair Ymddiriedolaeth Archaeolegol eraill yng Nghymru yn cynnal astudiaethau cyfochrog, ac er mwyn sicrhau unffurfiaeth wrth gofnodi a chyflwyno cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cydlynu gyda staff Cadw a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ystod y flwyddyn. Cynhaliwyd y gwaith ar astudiaeth Dyffryn Clwyd yn gyfochrog 'r prosiect LANDMAP a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth CCW. Mynychodd y staff nifer o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi sylw i fethodoleg, gyda'r bwriad o gydlynu canlyniadau prosiect CPAT i ddisgrifio nodweddion y tirwedd yn Nyffryn Clwyd ac elfennau amgylchedd hanesyddol prosiect LANDMAP Sir Ddinbych. <P>Cwblheir adroddiadau terfynol y ddwy astudiaeth yn gynnar ar ddechrau 1999/00, wedi i nifer o broblemau technegol yn ymwneud graddfa a llungopo'r mapiau gael eu datrys a phan fyddwn wedi llwyddo i gael cyfaddasrwydd gyda phrosiect LANDMAP Sir Ddinbych. <SMALL> (<A HREF = "w_recent.htm">Mynegai prosiectau eto</A>) </SMALL> <P> <TABLE> <TR> <TD> <P><IMG SRC="../logo40.gif" ALIGN="left" HSPACE="10" ALT="CPAT logo"> <STRONG> <P>Prosiect CPAT 761 <BR>Prosiect a ariannwyd gan Cadw ym 1998/99 <BR>Diweddarwyd Hydref 1999 </STRONG> </TD> </TR> </TABLE> <P><EM>Gellir cael rhagor o wybodaeth am Dirweddau Hanesyddol yn ein tudalennau <A HREF = "../longer/histland/w_histla.htm"