|
Prosiect CPAT Y newyddion diweddaraf am Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys yr elfennau a ganlyn: Henebion Cwrsws yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru: parhau â gwaith arolygu a chloddio arbrofol henebion nad ydynt wedi’u rhestru; Safleoedd olion cnydau Basn Walton: gwaith asesu ar ddwy elfen arall o’r gymhlethfa hynod hon yn nwyrain Sir Faesyfed, gan gynnwys heol a chlostir palis Walton a ffos gron fawr Walton Court Farm neu’r ‘formative henge’; Teithiau cerdded hunan-dywys: cynhyrchu teithiau cerdded ar y we i fynd ar wefan yr Ymddiriedolaeth; Papur Cynhadledd a’i gyhoeddi’n ddiweddarach: cynhyrchu papur yn cyfuno nodau a chyflawniadau prosiect Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol Cymru gyfan ar gyfer cynhadledd y Royal Archaeological Institute sydd ar ddod.
|