CPAT logo
Cymraeg / English
Adref eto
Prosiectau

Gwaith Prosiect CPAT eleni


Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi adroddiadau byrion ar y prosiectau y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn gweithio arnynt eleni. Wedi darllen y dudalen hon, efallai y gellwch ymweld â'n gwefan eto yn y dyfodol i ddarllen mwy am y prosiectau hyn, i adolygu prosiectau llynedd neu i edrych ar ddetholiad o brosiectau'r gorffennol yn fwy manwl yn ein Adroddiadau Prosiect Hirach. Mae logo Cadw yn ymyl y prosiectau a gafodd gymorth gan Cadw.

Y newyddion diweddaraf am Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Fentrau pellach yn dilyn cwblhad y rhan CPAT yn yr arolwg maes Cymru-gyfan o safleoedd cynhanesyddol.
Cyhoeddiad ar Ffatri Fwyeill Cwm Mawr
Cwblhau adroddiad ar waith cloddio a gynhaliwyd yn 2007/08 a 2008/09.
Cyhoeddiad ar Glostir â Sarn Womaston
Cwblhau adroddiad ar waith cloddio yng nghlostir â sarn Neolithig Womaston.
Cyhoeddiad ar Glostiroedd Bach Sir Drefaldwyn
Paratoi adroddiad i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn priodol.
Mwyngloddiau a Chwareli: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu mwyngloddiau a chwareli cynhanesyddol a Rhufeinig ledled ardal Clwyd-Powys.
Safleoedd Mynydd Du: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig ar Fynydd Du.
Safleoedd Cwm Elan/Elenydd: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig yn ardal Cwm Elan/Elenydd.
Safleoedd Dyffryn Hafren: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig yn ardal Dyffryn Hafren.
Safleoedd Mynydd Hiraethog: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig yn ardal Hiraethog.
Odyn Sychu Grawn a Ffermdy Llanelwedd
Cwblhau gwaith cloddio odyn sychu grawn ôl-ganoloesol, ynghyd â chloddio rhannau o gymhlethfa fferm gysylltiedig yn Llanelwedd.
Twmpathau Llosg: Prosiect Gwella Rhestru Cynhanesyddol a Rhufeinig
Asesu twmpathau llosg cynhanesyddol ledled ardal.
Asesu Vici Milwrol Rhufeinig
Blwyddyn gyntaf asesiad Vici milwrol Rhufeinig (aneddiadau sifilaidd) a oedd wedi’u cysylltu â cheyrydd Rhufeinig.
Croesau Canoloesol ac Asesu Pennau Croes
Asesu croesau canoloesol a chroesau o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol.