|
Cymraeg / English
|
|
Planning ServicesYmddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Côd Ymarfer CuraduronMae Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96 _ Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol : Archaeoleg _ yn rhoi cyngor ar drin materion archaeolegol oddi mewn i'r sustem gynllunio. Mae'n ychwanegol at y cyfarwyddyd ym mharagraffau 134-140 yn y Canllawiau Cynllunio (Cymru) : Polisi Cynllunio 1996. Mae'r cylchlythyr yn cydnabod swyddogaeth bwysig Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, fel darparwyr cyngor i awdurdodau cynllunio lleol. Sefydlwyd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yng nghanol saithdegau'r ganrif hon. Cwmnïau cyfyngedig annibynnol gyda statws elusennol ydynt, sy'n cynnal gweithlu archaeolegol proffesiynol ac yn darparu gwasanaeth archaeolegol ar sail eang yn eu hardaloedd. Mae eu gwaith yn cynnwys cynnal Cofnodion rhanbarthol Safleoedd a Henebion, darparu cyngor archaeolegol a gweithredu cynlluniau i leddfu effeithiau andwyol datblygu ar weddillion archaeolegol. Felly, gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol gynnig cyngor ar faterion archaeolegol fel rhan o'r broses gynllunio (curadu) a hefyd gynnig yn gystadleuol am gontractau sy'n deillio o'r cyngor (cytundebu). Mae'r côd ymarfer hwn, a baratowyd ar gais Cadw, yn dynodi'r dulliau gweithredu a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaethau i sicrhau fod yna wahaniad clir rhwng eu swyddogaethau ymgynghorol (curadurol) a'u swyddogaethau cytundebol. Mae'n cyflenwi yn hytrach na disodli codau ymarfer ac ymddygiad a safonau proffesiynol eraill (gweler yr Atodiad). Mae staff curadurol pob un o Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn aelodau cydnabyddedig o'r Association of Local Government Archaeological Officers. Darperir cyllid ar gyfer gwaith curadurol yr Ymddiriedolaethau gan Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru a'r awdurdodau cynllunio lleol. Côd Ymarfer
AtodiadArchaeological Investigations Code of Practice for Mineral Operators (Confederation of British Industry).Archaeologists and Developers Code of Practice (Confederation of British Industry). Association of Local Government Archaeological Officers : Constitution (ALGAO, Medi 1995). Canllawiau Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio (Y Swyddfa Gymreig, Mai 1996). Code of Conduct : The Institute of Field Archaeologists (IFA, 1986). Code of Approved Practice for the Regulation of Contractual Arrangements in Field Archaeology (IFA, 1990). Cofrestri Safleoedd a Henebion Rhanbarthol : Canllawiau ar gyfer Hawl i Weld a Chodi Tâl (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, 26/5/93). Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol : Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth (Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96). Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol : Archaeoleg (Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96). Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol (1979). Drafft Historic Buildings and Conservation (ALGAO). Fframwaith Strategol ar gyfer Ariannu Gwaith Archaeolegol yng Nghymru (Cadw, 1994). Standard and Guidance for Archaeological Desk-Based Assessments (IFA, Awst 1994). Standard and Guidance for the Archaeological Investigation and Recording of Standing Buildings or Structures (IFA, 1996). Standard and Guidance for Archaeological Watching Briefs (IFA, Awst 1994). Y Ddeddf Trysor 1996: Côd Ymarfer (Cymru a Lloegr), (Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 1997). |